{"id":4377,"date":"2023-05-03T09:27:22","date_gmt":"2023-05-03T09:27:22","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4377"},"modified":"2023-05-03T09:27:22","modified_gmt":"2023-05-03T09:27:22","slug":"dyma-sarah-lethbridge-ein-partner-academaidd-newydd-ym-maes-dysgu-hyblyg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/dyma-sarah-lethbridge-ein-partner-academaidd-newydd-ym-maes-dysgu-hyblyg\/","title":{"rendered":"Dyma Sarah Lethbridge, ein Partner Academaidd newydd ym maes Dysgu Hyblyg"},"content":{"rendered":"<h2>Dywedwch wrthym am eich hanes yn y Brifysgol a beth oedd wedi eich arwain at y swydd newydd hon<\/h2>\n<p>Rwy wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ers bron i 18 mlynedd. Yn gyntaf, yn Uwch-ymchwilydd ar sut i ddefnyddio \u2018meddwl main\u2019, sef methodoleg wella a ddechreuodd ym myd gweithgynhyrchu ceir yn Siapan ac sydd wedi ymestyn i fyd gwasanaethau. Yn rhan o&#8217;r gwaith hwn, datblygais i lawer o raglenni addysgu main ar gyfer byd diwydiant, a hyn oedd wedi fy arwain i fod yn Rheolwr Gwasanaethau Main yr Ysgol Busnes ac wedi hynny, Cyfarwyddwr Addysg i Weithredwyr yr Ysgol.<\/p>\n<p>Er mwyn meithrin Addysg Weithredol, roedd yn rhaid imi greu cymuned busnes o amgylch yr ysgol, felly datblygodd y swydd wedyn i gynnwys Cysylltiadau Allanol. Ochr yn ochr \u00e2 hyn i gyd, roeddwn i hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer yr MBA i Weithredwyr a bellach fi yw Rhag-Ddeon Ymgysylltu Allanol yr Ysgol.<\/p>\n<p>Ymddiheuriadau am hynny oll ond y cwbl ro\u2019n i eisiau ei gyfleu yw fy mod i wedi treulio llawer o amser yn meddwl am ddylunio a chyflwyno mathau gwahanol o raglenni academaidd sy&#8217;n denu credydau academaidd a&#8217;r rheini nad ydyn nhw\u2019n gwneud hyn, a dwi&#8217;n ymwybodol iawn o&#8217;r hyn mae ein cymunedau allanol yn gofyn gennym ni o ran gallu defnyddio ein hymchwil a&#8217;n haddysgu. Mae gen i rwydwaith da o bobl byd busnes a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a llawer iawn o brofiad o ran helpu pobl sy&#8217;n gweithio i ddysgu. Mae&#8217;r bobl hyn yn gwybod beth maen nhw ei eisiau, mae angen prosesau sy&#8217;n ymatebol a sensitif arnyn nhw, ac maen nhw eisiau dysgu&#8217;n hyblyg.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar, trosglwyddais i r\u00f4l y Cyfarwyddwr Addysg i Weithredwyr i&#8217;r Athro Sarah Hurlow ac mae fy nghyfnod o 5 mlynedd yn Gyfarwyddwr yr MBA i Weithredwyr yn dod i ben ym mis Medi hefyd, felly roedd yn amser gwych imi ganolbwyntio ar sut y galla i ddefnyddio fy mhrofiadau amrywiol i helpu i symud ymlaen at ffordd o gychwyn dysgu hyblyg ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<h2>Beth fydd eich blaenoriaethau yn eich swydd newydd sef y Partner Academaidd ym maes Dysgu Hyblyg?<\/h2>\n<p>Mae dybryd angen datblygu ffordd ymarferol o godi t\u00e2l ar fyfyrwyr fesul modiwl astudio. Cyflawnodd y gr\u0175p Dysgu Hyblyg ac Ar Led, dan arweiniad yr Athro Ann Taylor, gryn dipyn, drwy weithio gyda&#8217;r Athro Barbara Ryan i helpu&#8217;r MSc Optometreg Glinigol fod yn fwy hyblyg fyth, ond ar hyn o bryd, mae&#8217;n rhaid i Optometreg wneud cryn o waith o hyd i gasglu taliadau ar gyfer unedau bach o weithgarwch. Os ydyn ni eisiau ehangu Dysgu Hyblyg, mae angen ffordd fwy awtomataidd arnon ni i sicrhau taliadau bach ond sy\u2019n digwydd yn aml.<\/p>\n<p>Mae gan Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd frys gwirioneddol i sicrhau mathau mwy hyblyg o astudio hefyd. Fel yr esboniodd eu Cofrestrydd Rob Davies imi, mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwerthfawrogi&#8217;n llwyr yr angen i astudio&#8217;n barhaus. Yn wir, mae&#8217;n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn dysgu o hyd er mwyn cadw eu trwydded ymarfer &#8211; mae\u2019n rhaid i Feddygon, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optometryddion ddysgu, ac eisiau gwneud hynny, mewn ffordd hyblyg ac mae\u2019n rhaid i Brifysgol Caerdydd barhau i fod yn rhywle lle mae\u2019r gweithwyr proffesiynol hyn eisiau astudio.<\/p>\n<p>Yn y tymor hirach, rwy eisiau inni gynnig rhagor o ficrogredydau, sicrhau rhaglenni astudio sy&#8217;n caniat\u00e1u i bobl gronni eu credydau dysgu i feithrin eu cymwysterau academaidd ac ie, bod yn fwy creadigol o ran sut mae eu graddau\u2019n cael eu strwythuro. Byddwn i wrth fy modd iddi fod yn haws i Feddyg sy\u2019n fyfyriwr, sydd eisiau bod yn feddyg teulu un diwrnod, allu astudio modiwl entrepreneuraidd yn yr Ysgol Busnes. Wrth gwrs, mae&#8217;n rhaid inni sicrhau y byddan nhw eisiau dysgu digon o hyd i allu bod yn Feddyg sydd wedi\u2019i gymhwyso\u2019n llawn erbyn diwedd ei astudiaethau, ond mae\u2019n rhaid inni fod yn fwy hyblyg o hyd i gynnig cyfleoedd i&#8217;r myfyrwyr ddysgu mewn ystod o ddisgyblaethau gwahanol, a hynny er mwyn cynorthwyo eu cyflogadwyedd.<\/p>\n<p>Rwy wedi treulio&#8217;r 18 mlynedd diwethaf yn siarad am awydd Toyota a Tesco ac Aldi ac Amazon i ganolbwyntio ar y cwsmer fel mecanwaith i oroesi a thyfu a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm, a dweud y gwir, pam y dylai addysg uwch fod yn rhydd o oruchafiaeth ddi-baid cael profiadau rhagorol mewn gwasanaethau. A pheidiwch \u00e2 chynhyrfu bawb, dw i ddim yn ceisio troi&#8217;r Brifysgol yn Tesco, rwy&#8217;n credu mai\u2019r hyn y dylen ni fod yn bryderus yn ei gylch mewn gwirionedd yw ffordd sydd wedi&#8217;i theilwra\u2019n fwy tuag at deithiau dysgu\u2019r myfyriwr unigol, sef <strong><em>mwy o <\/em><\/strong>sensitifrwydd o ran ei ofynion. Mae\u2019n OBSESIWN gan Amazon a Tesco cadw eu cwsmeriaid yn hapus. Mae\u2019n rhaid bod gan Brifysgol Caerdydd obsesiwn o ran lles ein myfyrwyr a&#8217;u canlyniadau academaidd.<\/p>\n<h2>Beth sy&#8217;n eich cyffroi am fod yn Bartner Academaidd?<\/h2>\n<p>Rwy&#8217;n treulio llawer o amser yn helpu sefydliadau eraill i gofleidio cynlluniau gwella o\u2019u pen a\u2019u pastwn eu hunain, felly peth gwirioneddol wych yw gallu gweithio ar gynllun gwella ar draws y Brifysgol yn y sefydliad rwy&#8217;n gweithio iddo.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n edrych ymlaen at ddod i adnabod mwy o bobl ar draws y Brifysgol ac rwy&#8217;n edrych ymlaen at gael rhai canlyniadau cadarnhaol o ran arferion sydd wedi fy rhwystro wrth arwain Addysg i Weithredwyr a thra&#8217;n gofalu am fy myfyrwyr MBA i Weithredwyr.<\/p>\n<h2>Mwy gan Sarah<\/h2>\n<p>Rwy&#8217;n anelu at baratoi negeseuon wythnosol am y cynnydd rheolaidd felly anfonwch ebost ata i <a href=\"mailto:Lethbridgesl@cardiff.ac.uk\">Lethbridgesl@caerdydd.ac.uk<\/a> os ydych chi eisiau cael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu neu os hoffech chi siarad \u00e2 mi am y gofyniad i greu Dysgu Hyblyg yn eich ysgol neu eich profiad o hyn.<\/p>\n<p>Bydda i hefyd yn ysgrifennu blog misol (sydd ychydig yn amharchus, rhaid dweud), y gallwch chi ei ddarllen yma<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/sarahlethbridgelean\/\">https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/sarahlethbridgelean\/<\/a> os ydych chi eisiau gwybod rhagor am feddwl main ac arwain. Mae&#8217;n lle da i gael gwybod mwy am yr hyn sy&#8217;n fy ysgogi a\u2019m cymell!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Darllenwch am hanes gyrfa Sarah Lethbridge, ei blaenoriaethau r\u00f4l newydd a'r hyn sy'n ei chyffroi wrth ddod yn Bartner Academaidd Dysgu Hyblyg newydd i ni.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4379,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[817],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4377","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-tim-academi-da"],"lang":"cy","translations":{"cy":4377},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-18B","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2023\/04\/Sarah-Lethbridge-1.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4377","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4377"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4377\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4380,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4377\/revisions\/4380"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4379"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4377"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4377"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4377"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4377"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}