{"id":4241,"date":"2022-11-28T11:05:38","date_gmt":"2022-11-28T11:05:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4241"},"modified":"2022-11-28T11:05:52","modified_gmt":"2022-11-28T11:05:52","slug":"datblygu-sesiynau-addysgu-a-dysgu-deall-addysgeg-andragogeg-a-hewtagogeg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/datblygu-sesiynau-addysgu-a-dysgu-deall-addysgeg-andragogeg-a-hewtagogeg\/","title":{"rendered":"Datblygu sesiynau addysgu a dysgu: deall addysgeg, andragogeg a hewtagogeg"},"content":{"rendered":"<p>Mae addysg yn llawn ystod o dermau haniaethol sydd yn aml yn cael eu defnyddio mewn trafodaethau, polisi&#8217;r llywodraeth a nodau sefydliadol. Ond, beth mewn gwirionedd mae&#8217;r termau hyn yn ei olygu a sut y gallai deall y rhain ychydig yn fwy gefnogi eich addysgu?<\/p>\n<p>Gadewch inni ddechrau gydag addysgeg. Mae addysgeg yn ymwneud yn fras \u00e2 byd theori, dulliau ac athroniaeth addysgu. Gellir deall golwg gyfoes ar addysgeg fel term sy&#8217;n egluro&#8217;r perthnasoedd a&#8217;r \u201crhyngweithio rhwng athrawon, myfyrwyr a&#8217;r amgylchedd dysgu a&#8217;r tasgau dysgu.\u201d (Murphy, 2008. t35, a ddyfynnwyd yn <a href=\"https:\/\/www.iosrjournals.org\/iosr-jrme\/papers\/Vol-11%20Issue-1\/Ser-2\/B1101020629.pdf\">Shah, 2021 t7<\/a>).\u00a0Mae addysgeg yn derm sy&#8217;n deillio o&#8217;r gair Groeg &#8216;paidag\u014dge\u014d&#8217; sy&#8217;n golygu &#8216;arwain y plentyn&#8217; (<a href=\"https:\/\/www.iosrjournals.org\/iosr-jrme\/papers\/Vol-11%20Issue-1\/Ser-2\/B1101020629.pdf\">Shah, 2021<\/a>). Fodd bynnag, defnyddiwyd y term hwn yn ehangach yng ngwledydd Ewrop a daeth yn boblogaidd iawn yn ystod yr 20fed ganrif pan oedd mwy o bwyslais ar wyddoniaeth dysgu a beth mae hyn yn ei olygu i athrawon.\u00a0 Mae addysgeg yn cefnogi prosesau dysgu sy\u2019n deillio o ddau gategori eang sydd naill ai&#8217;n canolbwyntio ar y myfyriwr neu&#8217;n athro.<\/p>\n<p>Mewn addysg uwch, defnyddir addysgeg sy&#8217;n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn aml i helpu myfyrwyr i reoleiddio eu hunain a myfyrio. Mae hyn yn digwydd wrth iddynt ddysgu sut i bontio o rywun yn dweud wrthynt beth i&#8217;w ddysgu, i ddatblygu dealltwriaeth o&#8217;r hyn i&#8217;w ddysgu fel dysgwr hunangyfeiriedig. Deellir hyn fel proses o symud o ddysgu addysgeg i ddysgu andragogeg. Daeth Andragogeg (a ddiffinnir gan Knowles) yn boblogaidd yn y 1970au ac mae&#8217;n cyfeirio at hwyluso dysgu i oedolion pan mae disgwyl iddynt fod yn fwy hunangyfeiriedig a dysgu mewn modd mwy annibynnol (<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1007\/978-981-13-7740-2_9\">Blaschke, 2019<\/a>).\u00a0Datblygwyd y syniad hwn ymhellach ers hynny wrth i&#8217;r dirwedd ddysgu gael ei gweddnewid gan dechnoleg sy&#8217;n datblygu ac ehangu i gynnwys &#8216;hewtagogeg&#8217;. Mae hewtagogeg yn cyfeirio at yr arfer o ddysgu o dan eich arweiniad eich hun ac sy&#8217;n canolbwyntio ar wybod sut i ddysgu (<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1007\/978-981-13-7740-2_9\">Blaschke, 2019<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/heutagogy\">AdvanceHE, 2017<\/a>). Mae hyn wedi&#8217;i gydnabod yn sgil allweddol ar gyfer dysgu yn yr <sup>21ain<\/sup> ganrif.\u00a0Mae&#8217;r broses hon yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau dysgu a rheoleiddio eu ffyrdd o ddysgu dros eu hunain. Mae&#8217;n mynd y tu hwnt i hunangyfeirio gan ei fod yn canolbwyntio mwy ar benderfynu dros eich hun. Mae hyn yn golygu bod yr athro&#8217;n hwyluso dysgu ond bod y dysgwr yn cymryd cyfrifoldeb am ei ddysgu ei hun. Gallai hyn ddigwydd trwy osod eu nodau dysgu eu hunain, dewis yr hyn y maent am ei ddysgu, a chael mwy o ddylanwad dros ddewis y dull dysgu mwyaf addas ar eu cyfer (<a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1007\/978-981-13-7740-2_9\">Blaschke 2019<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/heutagogy\">AdvanceHE, 2017<\/a>).<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig nodi\u2019r newid er gwell o ran rhoi mwy o rym i fyfyrwyr yng nghyd-destun dysgu cyfoes, a\u2019r ddealltwriaeth ohono, wrth i addysg uwch ddatblygu a chefnogi myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr gydol oes, gan wneud dewisiadau gwybodus a mynd ati\u2019n bwrpasol i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad academaidd eu hunain.<\/p>\n<p>Sut allwch chi sicrhau eich bod yn cefnogi&#8217;r newid hwn mewn dysgu i fyfyrwyr? Ystyriwch gynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu trwy archwilio, creu, myfyrio, cysylltu, asesu a rhannu. Ewch ati i greu tasgau sy&#8217;n defnyddio&#8217;r syniadau hyn yn eich sesiynau a chynorthwyo myfyrwyr i hunanreoleiddio trwy annog cwestiynu ac asesiadau metawybyddol.<\/p>\n<p><strong>Cyfeiriadau:\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>AdvanceHE (2017) \u2018National Teaching Fellow 2017: heutagogy\u2019<em>. AdvanceHe<\/em> [ar-lein]. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.advance-he.ac.uk\/knowledge-hub\/heutagogy\">heutagogy | Advance HE (advance-he.ac.uk)<\/a> [Cyrchwyd 17\/10\/22]<\/p>\n<p>Blaschke, L.M. (2019). \u2018The Pedagogy\u2013Andragogy\u2013Heutagogy Continuum and Technology-Supported Personal Learning Environments\u2019. Yn: Jung, I. (golygyddion) <em>Open and Distance Education Theory Revisited<\/em>. Springer Briefs in Education(). Springer, Singapore. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1007\/978-981-13-7740-2_9\">https:\/\/doi.org\/10.1007\/978-981-13-7740-2_9<\/a>\u00a0 [Cyrchwyd ar 16\/10\/22]<\/p>\n<p>Shah, K., R., (2021) \u2019Conceptualizing and Defining Pedagogy\u2019. <em>IOSR Journal of Research &amp; Method in Educati<\/em>on (IOSR-JRME) e-ISSN: 2320\u20137388, t- ISSN: 2320-737x Cyfrol 11, Rhifyn 1. Ar gael yn: <a href=\"https:\/\/www.iosrjournals.org\/iosr-jrme\/papers\/Vol-11%20Issue-1\/Ser-2\/B1101020629.pdf\">https:\/\/www.iosrjournals.org\/iosr-jrme\/papers\/Vol-11%20Issue-1\/Ser-2\/B1101020629.pdf<\/a> [Cyrchwyd 11\/10\/22]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan Laura Barritt, Darlithydd Datblygu Addysg","protected":false},"author":6921,"featured_media":4245,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[921],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4241","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymrodoriaethau-addysg"],"lang":"cy","translations":{"cy":4241,"en":4239},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-16p","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Untitled-design-4.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4241","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4241"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4241\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4242,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4241\/revisions\/4242"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4245"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4241"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4241"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4241"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4241"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}