{"id":4237,"date":"2022-11-25T15:48:35","date_gmt":"2022-11-25T15:48:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4237"},"modified":"2022-11-25T15:48:54","modified_gmt":"2022-11-25T15:48:54","slug":"cymryd-rhan-yn-ein-gweithdai-dpp-tiwtora-personol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cymryd-rhan-yn-ein-gweithdai-dpp-tiwtora-personol\/","title":{"rendered":"Cymryd rhan yn ein gweithdai DPP Tiwtora Personol"},"content":{"rendered":"<p>Dyma <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/people\/view\/2627528-Ann-McManus\">Ann McManus<\/a>, Swyddog Dylunio&#8217;r Cwricwlwm yn yr <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/about-the-cardiff-learning-and-teaching-academy\">Academi Dysgu ac Addysgu<\/a> yn dweud wrthym am y gweithdai tiwtora personol y mae&#8217;n eu hwyluso: Tiwtora Personol 1 \u2013 hanfodion a Thiwtora Personol 2 \u2013 yr heriau.<\/p>\n<h1>Am beth mae&#8217;r gweithdai?<\/h1>\n<p>Mae dau weithdy yn cael eu cynnig, un yn cwmpasu hanfodion Tiwtora Personol &#8211; felly gosod ffiniau, sgiliau cyfathrebu, y r\u00f4l, atgyfeirio, a rhai achosion myfyrwyr syml.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ail weithdy, Tiwtora Personol 2 \u2013 yr Heriau, yn cwmpasu achosion myfyrwyr mwy cymhleth, sut i ymateb os yw myfyriwr mewn gofid, a sut i atgyfeirio a chyfeirio, a beth i&#8217;w wneud mewn argyfwng.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cyrsiau wedi bod yn boblogaidd ymysg rhai sy&#8217;n newydd i&#8217;r r\u00f4l, a Thiwtoriaid Personol mwy profiadol sydd am gael sesiwn loywi, yn enwedig yng nghyd-destun y pandemig a sut mae hyn wedi effeithio ar y mathau o achosion y gall myfyrwyr eu cyflwyno.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gweithdai hyn ar agor i aelodau o staff Prifysgol Caerdydd yn unig.<\/p>\n<h1>Sut oedd y gweithdai diweddaraf?<\/h1>\n<p>Dwi wedi cynnig y sesiynau yma ym mis Medi cyn i&#8217;r semester ddechrau ac yna eto yng nghanol mis Tachwedd pan oedd pobl yn meithrin y berthynas rhwng y tiwtor a&#8217;r tiwtorai.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gweithdai y semester hwn wedi bod yn graff, yn atyniadol ac yn bwrpasol, ac mae&#8217;n wych gweld academyddion o bob rhan o&#8217;r brifysgol yn cydweithio i rannu eu syniadau a&#8217;u profiadau.<\/p>\n<p>Fel hwylusydd, dwi wir yn mwynhau bod yn rhan o&#8217;r rhain wrth iddyn nhw sbarduno cymaint o drafod a datrys problemau ymysg mynychwyr, does dim dwy sesiwn yr un fath erioed &#8211; ychydig fel Tiwtora Personol!<\/p>\n<p>Er bod gennym astudiaethau achos i weithio drwyddynt, mae&#8217;r staff hefyd yn awyddus i rannu eu profiadau bywyd go iawn ac mae hwn yn bwynt dysgu allweddol i mi yn ogystal \u00e2 mynychwyr eraill. Yn y modd hwn, mae&#8217;r gweithdai&#8217;n ymgymryd \u00e2 r\u00f4l ddeuol o ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd, ond hefyd yn trafod profiadau ac ymatebion ymarferol.<\/p>\n<p>Ar ddiwedd pob sesiwn, dwi&#8217;n teimlo mod i wedi dysgu rhywbeth newydd hefyd. Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i gydweithwyr ym Maes Bywyd Myfyrwyr a&#8217;n Uwch Rwydwaith Tiwtoriaid Personol, sy&#8217;n plymio i helpu i egluro neu ddatrys rhai o&#8217;r ymholiadau a godwyd yn y trafodaethau.<\/p>\n<h1>Dywedwch rywbeth cyffrous am eich gweithdai<\/h1>\n<p>Gall y rhai sy&#8217;n mynychu ddisgwyl llawer o drafod, cyfleoedd i rannu syniadau a datrys problemau ar y cyd a strategaethau.<\/p>\n<p>Datblygwyd yr astudiaethau achos gyda chydweithwyr o bob rhan o&#8217;r brifysgol gan gynnwys Bywyd Myfyrwyr, Cwnsela a Lles, a gyda Chyngor Sir Caerdydd. I fod yn onest, mae rhai o&#8217;r achosion yn eithaf cymhleth a rhai&#8217;n eithaf heriol i&#8217;w trafod, ond dyma sy&#8217;n helpu&#8217;r rhai sy&#8217;n mynychu i deimlo&#8217;n fwy parod.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r pethau brawychus am r\u00f4l Tiwtor Personol yw nad ydych chi wir yn gwybod beth fydd yn cerdded drwy&#8217;ch drws o ran ymholiad neu broblem, ac mae&#8217;r gweithdai hyn yn helpu staff i baratoi ar gyfer hynny drwy roi strategaethau ymarferol i chi, a dolenni i gefnogi ar draws y brifysgol.<\/p>\n<h1>Adborth gan y mynychwyr<\/h1>\n<p>Meddai Neil Turnball, o&#8217;r Ysgol Pensaern\u00efaeth:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r p\u00e2r hwn o sesiynau hyfforddi cyfeillgar a chefnogol (Hyfforddiant Tiwtor Personol 1 \u2013 Yr Hanfodion a Hyfforddiant Tiwtor Personol 2 \u2013 Yr Heriau) yn nodi normau\u2019r Brifysgol yn glir ac wedi fy natblygu \u00e2 gwybodaeth ymarferol a helpodd i leddfu rhywfaint o waith emosiynol y r\u00f4l hon. Argymhellir yn gryf\u201d.<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Alice Lethbridge, o&#8217;r Ysgol Meddygaeth:<\/p>\n<p>&#8220;Fel aelod staff newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ro&#8217;n i&#8217;n gweld yr hyfforddiant Tiwtor Personol yn ddefnyddiol iawn i fynd ati i gyflymu&#8217;r rhaglen. Roedd y cyfle i rwydweithio a thrafod syniadau gyda Thiwtorion Personol eraill yn amhrisiadwy. Roedd y siaradwr yn gynhwysol ac yn wybodus iawn. Diolch yn fawr iawn!\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dr Guto Rhys o&#8217;r Ysgol Cemeg:<\/p>\n<p>&#8220;Os ydych chi fel fi wedi cael ychydig iawn o brofiad o fod yn diwtor personol, byddwn yn ystyried y cwrs yma&#8217;n hanfodol. Heb yr hyfforddiant, rwy&#8217;n amau y gallwn fod wedi cyfeirio&#8217;n hyderus ac yn gyflym neu gyfeirio&#8217;r myfyrwyr at yr help sydd ei angen arnynt. Diolch i&#8217;r cwrs strwythuredig, gallaf nawr gynnal tiwtorialau&#8217;n effeithiol, yn broffesiynol gyda ffiniau wedi&#8217;u diffinio&#8217;n dda. Rwy&#8217;n falch iawn fy mod wedi dilyn y cwrs hwn.&#8221;<\/p>\n<h1>Ymunwch \u00e2&#8217;r gweithdai nesaf ym mis Ionawr<\/h1>\n<p>Bydd y gweithdai hyn yn cael eu cynnig eto ar \u00f4l y Nadolig ac maen nhw&#8217;n agored i&#8217;r holl staff sydd \u00e2 thiwtoreion neu a fydd \u00e2 thiwtoreion cyn bo hir:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training#:~:text=Personal%20Tutoring%201%20%E2%80%93%20The%20Fundamentals\">Tiwtora Personol 1 &#8211; Yr Hanfodion<\/a> &#8211; Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023 ar Gampws y Mynydd Bychan rhwng 14:00-16:00<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training#:~:text=Personal%20Tutoring%202%20%E2%80%93%20The%20Challenges\">Tiwtora Personol 2 &#8211; Yr Heriau<\/a> &#8211; Dydd Mercher, 11 Ionawr 2023 ar Gampws y Mynydd Bychan rhwng 14:00-16:00<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae presenoldeb yn y ddau yn fuddiol, ond mae croeso i chi ddod draw i un neu&#8217;r ddau, byddem wrth ein boddau&#8217;n cael eich mewnbwn.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training\">Cofrestrwch eich lle<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dyma Ann McManus, Swyddog Dylunio'r Cwricwlwm yn yr Academi Dysgu ac Addysgu yn dweud wrthym am y gweithdai tiwtora personol y mae'n  eu hwyluso: Tiwtora Personol 1 \u2013 hanfodion a Thiwtora Personol 2 \u2013 yr heriau. ","protected":false},"author":6921,"featured_media":4235,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[790],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4237","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-datblygu-cwricwlwm"],"lang":"cy","translations":{"cy":4237,"en":4234},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-16l","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Mentoring-rawpixel-760063-unsplash.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4237","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4237"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4237\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4238,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4237\/revisions\/4238"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4235"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4237"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4237"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4237"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4237"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}