{"id":4207,"date":"2022-11-07T15:26:56","date_gmt":"2022-11-07T15:26:56","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4207"},"modified":"2022-11-08T09:07:21","modified_gmt":"2022-11-08T09:07:21","slug":"meddyliau-cychwynnol-ar-blackboard-ultra","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/meddyliau-cychwynnol-ar-blackboard-ultra\/","title":{"rendered":"Meddyliau cychwynnol ar Blackboard Ultra"},"content":{"rendered":"<p>Gan Tammy Laugharne, Pennaeth Busnes a&#8217;r Dyniaethau yn CUISC.<\/p>\n<p>Mae Lightbody (2022) yn ei lyfr &#8216;Advancing Learning with and Beyond the Classroom&#8217; yn nodi \u201cmae&#8217;r ystafell ddosbarth annibynnol gyda dechrau, canol a diwedd yn adeiladwaith \u00e2 gwreiddiau dwfn sydd wedi diffinio dysgu ers dros 200 mlynedd, ond dros y pum mlynedd diwethaf mae deallusrwydd artiffisial wedi trawsnewid sut y gellir cyrchu, cyflwyno ac asesu dysgu. Nid yw dysgu bellach yn rhwym wrth amser na lleoliad nac yn dibynnu ar wybodaeth athro unigol am y cwricwlwm\u201d.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l defnyddio Blackboard Ultra (fersiwn newydd Blackboard) am y tro cyntaf eleni, gallaf weld yn sicr sut mae&#8217;r datblygwyr meddalwedd wedi cymryd y mathau hyn o safbwyntiau yn llythrennol ac wedi meddwl am sut i helpu addysgwyr i symud yn haws i faes addysgeg dysgu digidol.<\/p>\n<p>Wrth i mi syllu gyntaf ar y dudalen modiwl \u201cCyflwyniad i Reoli a Sefydliadau\u201d newydd y bu&#8217;n rhaid i mi ei hadeiladu, rwy&#8217;n cofio meddwl pa mor wahanol oedd y cynllun newydd hwn a rhaid cyfaddef fy mod wedi cael eiliad fach o banig. Fodd bynnag, po fwyaf dw i wedi defnyddio Blackboard Ultra, mwyaf dw i\u2019n ei ffafrio dros yr hen Blackboard a mwyaf y byddaf yn newid rhwng yr hen fersiwn ar y modiwlau eraill rwy&#8217;n eu dysgu a&#8217;r newydd, mwyaf rhwystredig rwy&#8217;n teimlo gyda&#8217;r hen dudalennau Blackboard yn fy nghylch gwaith.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r blog hwn yn byt bach o fy nhaith i mewn i&#8217;r &#8216;Ultraverse&#8217; a pham rwy&#8217;n credu mai hwn yw&#8217;r Blackboard uwchraddol mewn sawl ffordd.<\/p>\n<figure id=\"post-4208 media-4208\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Picture6-1.png\" alt=\"\" width=\"667\" height=\"257\" \/><\/figure>\n<p>Un o fy swyddi cyntaf oedd symud cynnwys o&#8217;r hen fodiwl i&#8217;r model Ultra sgleiniog newydd.<\/p>\n<figure id=\"post-4209 media-4209\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Picture5-1.png\" alt=\"\" width=\"844\" height=\"109\" \/><\/figure>\n<p>Mae hyn yn llawer haws yn Ultra gan fod gan y nod &#8216;ychwanegu cynnwys&#8217; opsiwn i gop\u00efo cynnwys sy&#8217;n agor yr holl fodiwlau y mae gennych fynediad atynt, sy&#8217;n golygu y gallwch gop\u00efo cynnwys o&#8217;r dudalen gyfan i ran ohoni o unrhyw le. Anfeidrol o haws na\u2019r hen Blackboard ac yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un sydd angen gosod cynnwys cyffredinol ar yr holl dudalennau maent yn eu goruchwylio, fel dw i\u2019n ei wneud.<\/p>\n<p>Un o&#8217;r amheuon cychwynnol a gefais oedd sut y byddai dysgwyr yn ymgysylltu \u00e2&#8217;r edrychiad newydd hwn, gyda thudalen sgrolio. Mae Biggs a Tang (2007) yn argymell \u201cymchwilio gweithredol\u201d neu \u201cddysgu gweithredol\u201d, lle mae\u2019r athro yn annog ac yn cyfarwyddo astudiaeth fyfyriol a hunangyfeiriedig.<\/p>\n<p>Yn ddefnyddiol, gall Ultra helpu yma gan fod ganddo nodwedd dilyniannu gorfodol o fewn ffolderi&#8217;r modiwl dysgu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr ymgysylltu (neu o leiaf agor!) y deunyddiau yn y drefn y byddwch yn eu rhoi yn y modiwl dysgu cyn gallu agor yr adnodd nesaf. Mae hyn yn ddefnyddiol gan ein bod bob amser wedi gallu rhyddhau gwybodaeth i fyfyrwyr ar Blackboard i sicrhau nad ydynt yn rhedeg yn rhy bell ymlaen. Fodd bynnag, mae hyn yn teimlo fel ffordd arall y gallwn annog myfyrwyr i edrych o leiaf ar yr holl ddeunyddiau sydd ar gael iddynt.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd weld sut mae myfyrwyr yn symud ymlaen drwy&#8217;r cynnwys. Ar y pwynt hwn gallwn weld un o fanteision Ultra: mae gennych y math hwn o ddata ar gael yn hawdd ac nid oes rhaid i chi chwilio trwy ddewislenni i ddarganfod a yw&#8217;r myfyrwyr yn ymgysylltu \u00e2&#8217;ch holl waith caled!<\/p>\n<figure id=\"post-4210 media-4210\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Picture4-1.png\" alt=\"\" width=\"299\" height=\"293\" \/><\/figure>\n<p>\u201cMae&#8217;r gallu i ddal sylw ac arfer rheolaeth effeithiol yn yr ystafell ddosbarth yn sgil ymgysylltu sylfaenol hanfodol i bob athro, ond yr ymyl a welir yn ymddygiad athrawon gwych yw eu gallu i dynnu&#8217;r holl fyfyrwyr i ymgysylltiad cynhyrchiol trwy eu hangerdd a&#8217;u brwdfrydedd amlwg dros eu pwnc.\u201d (Lightbody, 2022). Rwy&#8217;n teimlo y gellir gwneud hyn y tu allan i&#8217;r sesiynau hefyd trwy ddefnyddio&#8217;r bwrdd cyhoeddi.<\/p>\n<figure id=\"post-4211 media-4211\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Picture3-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>Ar Ultra, mae cyhoeddiadau yn dal i eistedd ar ochr chwith y sgr\u00een VLE ond maent bellach yn agor fel tab ar y dudalen.<\/p>\n<p>Mae cyhoeddiadau newydd yn cael eu hamlygu&#8217;n glir iawn i&#8217;r myfyriwr yng nghanol eu sgr\u00een pan fyddant yn agor y dudalen (mae&#8217;r naidlen hon yn dweud wrth fyfyrwyr bod \u2018na gyhoeddiad ac mae angen x i gau er mwyn cyrchu&#8217;r brif dudalen, gan eu gwneud yn anodd eu colli!).<\/p>\n<p>Yn ddiddorol, mae hefyd bellach yn hawdd iawn gweld faint o fyfyrwyr sydd wedi darllen eich neges oherwydd gallwch weld faint o wylwyr rydych chi wedi&#8217;u cael pan fyddwch chi&#8217;n agor y nodwedd (dadansoddeg ddysgu sydd ar gael yn haws).<\/p>\n<p>Yr unig broblem a gefais gyda&#8217;r nodwedd hon oedd ei bod hefyd yn cyfrif staff cwrs yn y rhestr o wylwyr a all arwain at niferoedd camarweiniol yma, sy&#8217;n rhywbeth i&#8217;w gofio.<\/p>\n<p>Mae dysgu cyfunol yn elfen allweddol o ddysgu ar-lein ac rydym yn sicr wedi gweld nodau Vision 2020 (Yr Adran Addysg a Sgiliau, 2006) yn cael eu gwireddu o ran hwyluso cydweithredu trwy amrywiol offer meddalwedd a chyfathrebu.<\/p>\n<p>Un offeryn cyfathrebu electronig sydd wir wedi ychwanegu gwerth i mi o ran ymgysylltu \u00e2 dysgwyr yw&#8217;r Bwrdd Trafod. Roedd hyn yn rhan annatod o un o fy asesiadau crynodol ar gyfer y modiwl felly roedd angen iddo weithio i mi.<\/p>\n<p>Gallaf ddweud yn onest i\u2019r sgwrs hon rhwng y gr\u0175p cyfan ac fy hun feithrin ymdeimlad o gymuned yn ein plith ac mae ei hwylustod i bawb wedi golygu bod holl ddysgwyr y gr\u0175p wedi cwblhau&#8217;r darn trafod erthygl cyntaf (gwirioneddol anghyffredin).<\/p>\n<figure id=\"post-4212 media-4212\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Picture2-1.png\" alt=\"\" width=\"466\" height=\"183\" \/><\/figure>\n<p>Mae defnyddioldeb Ultra ac arwyddion amlwg os yw gwaith wedi&#8217;i ychwanegu neu ei ddiwygio yn ei gwneud hi&#8217;n hawdd i chi a&#8217;r dysgwyr weld a oes unrhyw beth sydd angen ei farcio neu\u2019i adolygu.<\/p>\n<p>Nod arall Vision 2020 (Yr Adran Addysg a Sgiliau, 2006) oedd \u201chelpu ysgolion i ddefnyddio amrywiaeth eang o adnoddau a meddalwedd sydd ar gael yn rhwydd i wella dysgu\u201d. Mae Ultra yn dod \u00e2&#8217;r farchnad gynnwys adfywiol i ni gyda&#8217;i blatfform hawdd ei ddefnyddio.<\/p>\n<p>Mae offer fel Padlet, Panapto a Turnitin bellach i gyd yn hawdd eu cyrraedd ac mae creu deunyddiau digidol wedi&#8217;u hymgorffori&#8217;n dda yn Ultra. Dim mwy o agor cymwysiadau lluosog, uwchlwytho cynnwys ac ymgorffori codau yma; Rwy&#8217;n teimlo bod hwn yn chwyldro go iawn o ran arbed amser wrth wneud y deunyddiau hyn!<\/p>\n<p>O ran Turnitin (sydd bellach wedi&#8217;i leoli yn y farchnad gynnwys), mae&#8217;n hawdd iawn i chi weld cyflwyniadau myfyrwyr wrth iddo lansio i fewnflwch yr aseiniad yn union lle rydych chi&#8217;n ei roi, felly dim mwy o orfod llywio i&#8217;r ganolfan raddau.<\/p>\n<p>Pan ofynnir iddynt yn y dosbarth, y dyfarniad gan y myfyrwyr yw eu bod yn hoffi Ultra ac nid ydw i wedi cael sylw negyddol amdano eto. Dyma adborth cadarnhaol o&#8217;r arolwg myfyrwyr!<\/p>\n<p>Ni allaf broffesu gwybod popeth am Ultra hyd yn hyn, ond po fwyaf y byddaf yn ei ddefnyddio, y mwyaf dw i\u2019n ei ffafrio dros ymgnawdoliad blaenorol Blackboard. Felly&#8217;r cyfan gallaf ei ddweud yw neidio i mewn, mae&#8217;r d\u0175r yn hyfryd!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gan Tammy Laugharne, Pennaeth Busnes a'r Dyniaethau yn CUISC","protected":false},"author":6921,"featured_media":4198,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4207","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":4207,"en":4197},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-15R","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/11\/Desk.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4207","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4207"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4207\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4217,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4207\/revisions\/4217"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4198"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4207"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4207"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4207"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4207"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}