{"id":4170,"date":"2022-10-18T14:55:17","date_gmt":"2022-10-18T14:55:17","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4170"},"modified":"2022-10-18T14:56:57","modified_gmt":"2022-10-18T14:56:57","slug":"prosiect-lleoliad-dros-yr-haf-adnoddau-digidol-blackboard-ultra-amgylchedd-dysgu-digidol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/prosiect-lleoliad-dros-yr-haf-adnoddau-digidol-blackboard-ultra-amgylchedd-dysgu-digidol\/","title":{"rendered":"Prosiect lleoliad dros yr haf \u2013 Adnoddau digidol Blackboard Ultra Amgylchedd Dysgu Digidol"},"content":{"rendered":"<h2>Sut wnaethon ni ddechrau&#8217;r prosiect a&#8217;r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr wythnosau cyntaf.<\/h2>\n<p>Cafodd prosiect lleoliadau myfyrwyr eleni ei alinio&#8217;n ofalus \u00e2 threigl wedi&#8217;i dargedu o amgylchedd dysgu rhithwir Blackboard Ultra. Gyda hyn mewn golwg, fe wnaethom agor y ceisiadau i fyfyrwyr a fyddai \u00e2 diddordeb mewn gwella eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth wrth gefnogi creu a dylunio canllawiau digidol ac adnoddau hunangymorth ar gyfer cyrsiau Ultra newydd yn amgylchedd dysgu digidol Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Ymunodd yr ymgeiswyr llwyddiannus, Luke Powell o Ysgol Busnes Caerdydd (Blwyddyn 3 \u2014 BSc Cyfrifeg a Chyllid) a Morgan Bedford hefyd o Ysgol Busnes Caerdydd (Blwyddyn 2 \u2014 BSc Rheoli Busnes, Rhyngwladol) \u00e2&#8217;r T\u00eem Addysg Ddigidol ar ddechrau&#8217;r haf.<\/p>\n<p>Fe wnaethon nhw gwblhau ein sesiwn ymsefydlu cyn cynhyrchu fideos. Cawsant adnoddau hunangymorth er mwyn iddynt allu dysgu am amgylchedd Ultra a&#8217;u rhoi ar ben ffordd gyda gwahanol agweddau ar y system. Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, gwnaethom sefydlu&#8217;r patrymau gwaith, gofynion y prosiect, disgwyliadau&#8217;r t\u00eem a&#8217;r amserlen waith gyda thasgau a chanlyniadau penodol. Roedd pawb yn ffafrio cynnal cyfarfodydd Teams a chwblhau tasgau yn wythnosol.<\/p>\n<p>Agwedd bwysig ar y prosiect oedd ymarfer myfyriol. Fe wnaeth ein helpu ni i feddwl am ein profiadau a&#8217;n gweithredoedd ein hunain.<\/p>\n<p>O ystyried mai dim ond am 6 wythnos yn ystod cyfnod yr haf y cynhaliwyd y prosiect, cafodd y myfyrwyr ganlyniadau rhagorol. Roeddent yn gallu cydlynu agweddau penodol ar y prosiect ar eu pen eu hunain, roeddent yn cyfrannu\u2019n weithredol at drafodaethau\u2019r t\u00eem ac yn gweithio ar dasgau penodol.<\/p>\n<p>Cynlluniwyd a chr\u00ebwyd casgliad o fideos cyflwyno a llywio byr, canllawiau hunangymorth, a chyfarwyddiadau ysgrifenedig cam wrth gam. Roedd yr adnoddau&#8217;n canolbwyntio ar roi&#8217;r trosolwg gorau posibl i&#8217;r myfyrwyr a dechrau eu cael i ddeall yr amgylchedd dysgu digidol newydd.<\/p>\n<h2>Y camau nesaf a&#8217;r myfyrdodau<\/h2>\n<p>Daeth myfyrwyr \u00e2&#8217;u profiadau personol a phroffesiynol i&#8217;r prosiect. Cawsant gyfle i ddysgu llawer o sgiliau gwerthfawr a daethant yn aelodau hyderus o\u2019r t\u00eem, yn unigol ac ar y cyd. Cyflawnwyd nodau\u2019r prosiect hwn yn bennaf; cyflawnwyd y gwelliant i gefnogi&#8217;r myfyrwyr sy&#8217;n defnyddio&#8217;r amgylchedd dysgu digidol newydd a gwneud strwythur a deunyddiau&#8217;r cwrs yn symlach i fyfyrwyr eu hystyried a&#8217;u deall.<\/p>\n<p>Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gallu dod o hyd i&#8217;r adnoddau newydd hyn ac ymgyfarwyddo \u00e2 nhw ar eu mewnrwyd ac o fewn yr amgylchedd Ultra newydd.<\/p>\n<p>Cyfrannodd aelodau&#8217;r t\u00eem eu myfyrdod, eu meddyliau a&#8217;u syniadau ar y prosiect:<\/p>\n<h3><strong>Adlewyrchiad Marianna:<\/strong><\/h3>\n<p>Yn bersonol, roeddwn i&#8217;n meddwl bod y prosiect wedi cyflawni set wych o ganlyniadau a bod y myfyrwyr yn gallu cyfrannu&#8217;n weithredol gyda&#8217;u syniadau a&#8217;u hawgrymiadau.<\/p>\n<p>I mi, elfen bwysicaf y prosiect oedd y cyfathrebu. Ar \u00f4l sefydlu sianel Teams yn brif le i gwrdd, rhoddodd hyder a thawelwch meddwl i mi. Roedd y myfyrwyr yn gallu gofyn cwestiynau, cadarnhau elfennau penodol o&#8217;r tasgau a hefyd cysylltu ag aelodau unigol o&#8217;r t\u00eem. Roeddem yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac nid problemau.<\/p>\n<p>Roeddwn hefyd yn gwerthfawrogi bod y t\u00eem addysg ddigidol ehangach yn gallu camu i&#8217;r adwy pan oedd aelodau craidd y prosiect hwn ar wyliau blynyddol. Roedd hyn o ganlyniad i sgyrsiau a chytundebau niferus, a pharodrwydd i helpu ein gilydd yn ystod gwyliau\u2019r haf.<\/p>\n<p>Hoffwn pe bai gennym ragor o amser i ymroi i&#8217;r prosiect. Fodd bynnag, credaf fod y myfyrwyr wedi ennill sgiliau gwaith gwerthfawr wrth iddynt fuddsoddi yn eu hymgysylltiad proffesiynol ac emosiynol. Maent hefyd, heb amheuaeth, wedi cael effaith gadarnhaol ar gymuned ehangach o fyfyrwyr a fydd o fudd i&#8217;r Brifysgol, myfyrwyr a staff.<\/p>\n<h3><strong>Myfyrdod Jacob:<\/strong><\/h3>\n<p>Roeddwn i&#8217;n meddwl bod y prosiect lleoli myfyrwyr yn syniad gwych ac y dylid ei barhau. Fodd bynnag, oherwydd yr adeg o&#8217;r flwyddyn yn ogystal \u00e2&#8217;r broses o gyflwyno Ultra ar yr un adeg, credaf nad oeddem yn gallu elwa\u2019n llawn ar y cyfle.<\/p>\n<p>Os caiff y math hwn o brosiect ei wneud eto byddai&#8217;n werth ei ganolbwyntio ar adran fwy sefydledig o brofiad y myfyriwr.<\/p>\n<p>Gan fod Ultra yn newid ac yn dal i newid, roedd yn anodd ar adegau i gael lle ar gyfer y cydweithwyr lleoliad myfyrwyr.<\/p>\n<p>O ran fy nhwf personol, roedd gweithio gyda myfyrwyr yn hwb mawr i&#8217;m dealltwriaeth o&#8217;r hyn sydd ei angen i fod yn fyfyriwr yn y byd sydd ohoni. Roedd yn ddiddorol clywed y gwahanol safbwyntiau a&#8217;r dadleuon. Byddai gennyf ddiddordeb mewn cydweithio ar brosiect arall tebyg i hwn yn y dyfodol pe bai\u2019r cyfle\u2019n codi.<\/p>\n<h3><strong>Myfyrdod Kamila:<\/strong><\/h3>\n<p>Pan glywais am y prosiect hwn am y tro cyntaf, roeddwn i&#8217;n meddwl ei fod yn syniad gwych am wahanol resymau. Un ohonynt oedd ei fod yn gyfle gwych i ni (staff) weithio ar y cyd gyda&#8217;r gr\u0175p hyn o fyfyrwyr talentog ar dasgau gwahanol, rhywbeth nad ydym yn ei wneud yn aml yn ein r\u00f4l. Rydw i hefyd yn meddwl ei fod yn gyfle gwych i\u2019r myfyrwyr ddysgu pethau newydd, datblygu eu sgiliau, er enghraifft, wrth gynhyrchu fideos o ansawdd uchel, dysgu am elfennau o ymarferoldeb Ultra, ac ati, a gweithio gyda&#8217;r staff o&#8217;r T\u00eem Cefnogi Addysg Ddigidol.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l-weithredol, hoffwn pe gallwn barhau i fod yn rhan o oruchwylio&#8217;r gwaith prosiect, ond oherwydd ymrwymiadau eraill ar yr adeg hon o&#8217;r flwyddyn yn fy amserlen waith, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Fodd bynnag, os bydd prosiect neu gyfle tebyg yn codi yn y dyfodol, byddwn yn sicr yn awyddus i gymryd rhan ynddo eto.<\/p>\n<h3><strong>Myfyrdod Geraint:<\/strong><\/h3>\n<p>Rwy&#8217;n credu, a ninnai\u2019n dechnolegwyr dysgu, y gallwn weithiau ddatgysylltu o brofiad myfyrwyr o ddydd i ddydd, a gall y prosiectau hyn fod yn amhrisiadwy mewn sawl ffordd.<\/p>\n<p>Rydw i bob amser yn dysgu llawer y tu hwnt i gyfyngiadau llym y gwaith lleoliad ei hun, ac nid oedd y prosiect hwn yn eithriad.<\/p>\n<p>Byddwn wedi bod wrth fy modd yn gweithio&#8217;n agosach gyda Luke a Morgan, a threulio rhagor o amser gyda nhw, ond roedd cyfyngiadau amser y lleoliad haf yn golygu bod hyn yn anodd. Fodd bynnag, bydd y ddealltwriaeth y maent wedi&#8217;i gynnig a&#8217;r adnoddau y maent wedi&#8217;u creu yn amhrisiadwy, o ran cefnogi myfyrwyr yn uniongyrchol a thystiolaeth o sut rydym ni, t\u00eem prosiect Ultra, wedi ymgysylltu \u00e2 llais y myfyrwyr yn uniongyrchol.<\/p>\n<h3><strong><a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=744d73de-3fb9-4a2e-982c-aefc00fe4c23\">Myfyrdod Luke mewn fideo<\/a> (6 munud i\u2019w wylio) <\/strong><\/h3>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Sut wnaethon ni ddechrau'r prosiect a'r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr wythnosau cyntaf.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4168,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4170","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":4170,"en":4166},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-15g","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/10\/Picture1.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4170","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4170"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4170\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4172,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4170\/revisions\/4172"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4168"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4170"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4170"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4170"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4170"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}