{"id":4113,"date":"2022-08-12T07:39:39","date_gmt":"2022-08-12T07:39:39","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4113"},"modified":"2022-08-12T07:39:39","modified_gmt":"2022-08-12T07:39:39","slug":"fy-mhrofiad-o-wneud-cwrs-meicrogredydau-gydar-brifysgol-agored-drwyr-llwyfan-futurelearn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/fy-mhrofiad-o-wneud-cwrs-meicrogredydau-gydar-brifysgol-agored-drwyr-llwyfan-futurelearn\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad o wneud cwrs meicrogredydau gyda\u2019r Brifysgol Agored drwy\u2019r Llwyfan FutureLearn"},"content":{"rendered":"<h3>David John Crowther<br \/>\nSwyddog Cefnogi Technoleg Dysgu<\/h3>\n<p>Yn ddiweddar, fe wnes i gwrs meicrogredydau o&#8217;r enw <a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/microcredentials\/online-teaching\">Addysgu Ar-lein: Creu Cyrsiau i Ddysgwyr sy\u2019n Oedolion<\/a> gyda&#8217;r Brifysgol Agored. Roedd yn gwrs 12 wythnos a gyflwynwyd yn gyfan gwbl ar-lein trwy eu platfform <a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/\">FutureLearn<\/a>, gyda thua 12-13 awr yr wythnos o amser astudio.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n Dechnolegydd Dysgu ac yn gymharol newydd i&#8217;r proffesiwn. Cymorth TG mewn addysg uwch yw fy nghefndir yn bennaf, ac ar wah\u00e2n i dreulio ychydig o flynyddoedd yn addysgu Saesneg dramor, nid oedd gennyf lawer o brofiad o addysgu, na dealltwriaeth o addysgeg a dylunio dysgu cyn dechrau ar y cwrs. Roeddwn yn awyddus i wella fy nealltwriaeth o\u2019r meysydd hynny a dechrau llenwi\u2019r bylchau gwybodaeth yn fy r\u00f4l yn weithiwr technoleg dysgu proffesiynol. Felly bachais ar y cyfle i gael Datblygiad Proffesiynol Parhaus achrededig wedi\u2019i ariannu gan fy nghyflogwr.<\/p>\n<p>Yn fy swydd, rwy&#8217;n canolbwyntio ar fyd technoleg dysgu bob dydd, ac yn cynnig cefnogaeth i addysgwyr, gan gynghori ar arferion gorau a chymhwyso ystod o dechnolegau addysgol. Gadewais addysg fy hun flynyddoedd lawer yn \u00f4l. Cwblheais fy ngradd baglor yn 2007. Nid wyf wedi astudio&#8217;n ffurfiol ers hynny ac nid oedd gennyf unrhyw brofiad o astudio ar-lein. Roedd yn mynd i fod yn brofiad diddorol i fod yn fyfyriwr eto ar \u00f4l yr holl flynyddoedd hyn, gan ddysgu mewn ffordd nad oeddwn erioed wedi ei brofi. A minnau\u2019n weithiwr technoleg dysgu proffesiynol sy&#8217;n gweithio gydag academyddion, mae fy mhrofiad yn bennaf o ochr athro&#8217;r hafaliad addysgu a dysgu. Roedd yn mynd i fod yn ddiddorol gweld pethau o safbwynt myfyriwr yn astudio ar-lein.<\/p>\n<p>Rhaid i mi gyfaddef, roedd y syniad o geisio dod o hyd i 12-13 awr yr wythnos i astudio yn ogystal \u00e2 fy ymrwymiadau eraill yn fy mhoeni. Mae gen i swydd amser llawn a dau o blant cyn oed ysgol. Nid yw diwrnod arferol i mi yn gorffen tan tua 8:30pm, ar \u00f4l i ddyletswyddau gwaith a gofal plant gael eu gwneud, felly roedd yn rhaid i mi geisio dod o hyd i amser i astudio pryd y gallwn yn ystod fy niwrnod gwaith, gyda&#8217;r nos, ac ar benwythnosau. Yn ogystal, roeddwn yn ymwybodol iawn o&#8217;r ffaith fy mod yn ymgymryd ag astudio ar lefel \u00f4l-raddedig, ochr yn ochr ag addysgwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol technoleg dysgu a oedd yn fy marn i\u2019n llawer mwy clyfar, gwybodus, a phrofiadol na mi. Roeddwn i&#8217;n nerfus am drio ymddangos yn ddeallus, yn poeni y byddai cynnwys y cwrs yn rhy anodd i mi ac y byddwn i&#8217;n cael trafferth ymdopi \u00e2\u2019r gwaith.<\/p>\n<p>Cefais fy mhrofiad cyntaf o ddefnyddio FutureLearn gyda\u2019r cwrs hwn. Roeddwn yn ymwybodol ohono, yn gwybod beth ydoedd, ac yn gwybod bod platfformau tebyg ar gael megis Coursera, ond nid oeddwn erioed wedi defnyddio&#8217;r platfform i astudio o&#8217;r blaen. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i&#8217;w ddisgwyl ac felly es ati gyda meddwl agored.<\/p>\n<p>Fy argraffiadau cyntaf o&#8217;r platfform oedd bod y rhyngwyneb yn l\u00e2n a\u2019i fod yn hawdd llywio o gwmpas y cwrs. Roedd wedi&#8217;i osod yn dda mewn strwythur llinol gyda chynnwys pob wythnos mewn trefn gan ei gwneud yn hawdd ei ddilyn. Roeddwn i\u2019n hoffi\u2019r ffordd y cafodd ei strwythuro er mwyn i ddysgwyr allu camu drwy&#8217;r cynnwys mewn trefn, gan adeiladu cynnwys pob wythnos ar y blaenorol ac yn arwain i mewn i&#8217;r nesaf. Wrth i mi symud ymlaen drwy\u2019r cwrs a chwblhau tasgau, roedd bar cynnydd yn rhoi arwydd gweledol i mi o ble roeddwn i bob wythnos, pa dasgau roeddwn i wedi\u2019u cwblhau a beth oedd ar \u00f4l i mi ei wneud o hyd, felly roeddwn i bob amser yn gwybod ble roeddwn i yn fy astudiaethau. Fe wnaeth hyn fy helpu i gadw pethau dan reolaeth a gallwn neidio i mewn ac allan o&#8217;r cwrs, gan ail-ddechrau lle gadewais pan oedd yn gyfleus i mi.<\/p>\n<p>Roedd Wythnos 1 yn ymwneud yn bennaf ag ymgyfarwyddo, dod i adnabod y platfform, cyflwyniadau i&#8217;r tiwtoriaid a dysgwyr eraill, cael gwybod lle gallwn i fynd am gymorth pe bai angen, a chyflwyniad ysgafn i ddeunydd y cwrs cyn dechrau arni\u2019n iawn. Roedd yr wythnos gyntaf hon yn hollbwysig i mi gan i mi adael addysg flynyddoedd lawer yn \u00f4l ac roedd dysgu ar-lein yn brofiad newydd i mi. Fe wnaeth fy mharatoi ar gyfer yr hyn oedd i ddilyn a rhoi syniad clir i mi o&#8217;r hyn i&#8217;w ddisgwyl o&#8217;r cwrs. Mae hyn yn werthfawr mewn cwrs ar-lein, yn enwedig i&#8217;r rhai sy&#8217;n newydd i ddysgu ar-lein. Rwy\u2019n dod o gefndir TG a gallaf ymgyfarwyddo\u2019n gyflym \u00e2 phlatfform newydd, ond efallai nad oes gan eraill y sgiliau digidol hynny i ddechrau ac efallai eu bod yn nerfus am astudio ar-lein. Mae rhoi&#8217;r hyder a&#8217;r gefnogaeth i ddysgwyr ymgysylltu&#8217;n llawn yn eu paratoi\u2019n dda ac yn cynyddu&#8217;r tebygolrwydd y byddant yn llwyddo yn eu hastudiaethau. Rwy&#8217;n meddwl bod hwn yn gam hanfodol y dylid ei gynnwys ym mhob cwrs ar-lein ac mae&#8217;n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei gadw mewn cof yn fy ymarfer fy hun.<\/p>\n<p>Roedd hefyd yn werthfawr cael y cyfle i ddod i adnabod y dysgwyr eraill ar y cwrs. Hwyluswyd hyn drwy&#8217;r adrannau trafod ar waelod pob tudalen o&#8217;r cwrs. Gallem ryngweithio \u00e2 dysgwyr eraill trwy bostio sylwadau i gyflwyno ein hunain, gofyn cwestiynau, a rhannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Roedd hyn yn bwysig ar gyfer meithrin ymdeimlad o gymuned o&#8217;r cychwyn cyntaf. Cefais fy synnu ar yr ochr orau. Roeddwn i\u2019n falch nad oedd angen i mi deimlo\u2019n nerfus am lefel fy arbenigedd o gymharu \u00e2\u2019r dysgwyr eraill. Roedd llawer ohonyn nhw yn yr un cwch ac roedd ganddyn nhw deimladau a phryderon tebyg am y cwrs. Fe wnaeth hyn fy helpu i ymlacio a gwneud i mi deimlo&#8217;n rhan o gymuned o ddysgwyr yn cefnogi ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau oherwydd gwnaed yn glir nad oedd unrhyw gwestiwn yn rhy wirion a doedd dim pwysau i geisio ymddangos yn ddeallus. Gallwn i ymgysylltu \u00e2\u2019r cwrs yn \u00f4l fy nhelerau fy hun, yn fy mhwysau fy hun a theimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gan y tiwtoriaid a dysgwyr eraill.<\/p>\n<p>Yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs, roeddwn yn llawn cymhelliant ac wedi cadw trefn ar fy astudiaethau, gan lwyddo i gwblhau&#8217;r holl dasgau, gwneud sylwadau mewn trafodaethau a gwneud y 12-13 awr astudio wythnosol ddisgwyliedig. Yn ffodus pan ddechreuais ar y cwrs, roedd hi\u2019n gyfnod tawelach yn y gwaith, a chefais amser yn ystod fy niwrnod gwaith i astudio ychydig. Rwy&#8217;n meddwl y byddwn wedi cael trafferth cwblhau\u2019r gwaith pe bawn i&#8217;n dibynnu ar ychydig oriau yn unig gyda&#8217;r nos ac ar benwythnosau i astudio.<\/p>\n<p>Efallai ei fod yn ymddangos yn ddiog, ond ar \u00f4l diwrnod llawn yn gweithio ar gyfrifiadur ac yna dyletswyddau gofal plant tan 8.30pm, y peth olaf roeddwn i eisiau ei wneud gyda\u2019r nos oedd eistedd i lawr wrth fy nghyfrifiadur eto i dreulio mwy o oriau yn astudio. Roeddwn wedi blino cymaint erbyn hynny nad wyf yn credu y byddwn ni wedi cofio\u2019r hyn roeddwn yn ei astudio. Fel arfer roeddwn wedi blino&#8217;n l\u00e2n ac eisiau gorwedd ar y soffa, ymlacio a gwylio Netflix. Roedd gen i gyfle i weithio ar benwythnosau, ond eto, gyda dau o blant ifanc, roeddwn yn bennaf yn treulio amser gyda\u2019r teulu y dyddiau hynny. Cefais ychydig o amser i astudio, ond nid llawer. Yn ogystal \u00e2 swydd amser llawn a chyfrifoldebau teuluol, roedd hefyd angen cysgu, bwyta a chael amser i ymlacio. Mae&#8217;n anodd canolbwyntio ar waith, teulu ac astudio drwy&#8217;r dydd, bob dydd. Rwy\u2019n edmygu\u2019r rhai sydd \u00e2\u2019r stamina a\u2019r ymrwymiad i wneud hyn. Yn anffodus, dydw i ddim yn un ohonyn nhw.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anodd iawn bod yn fyfyriwr rhan-amser sy\u2019n ceisio cydbwyso astudio ochr yn ochr \u00e2 gwaith a gofal plant. Mae&#8217;n her wirioneddol i gynnal cymhelliant. Roeddwn yn frwdfrydig iawn yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf. Roedd popeth dan reolaeth. Yna dechreuodd gwyliau\u2019r ysgol, ac fe es i \u00e2 fy nheulu i ffwrdd am wythnos o wyliau. Es \u00e2 fy ngliniadur gyda mi, yn bwriadu astudio ychydig tra i ffwrdd, ond nid oedd gan y garaf\u00e1n lle&#8217;r oeddem yn aros mynediad i&#8217;r rhyngrwyd a heb unrhyw opsiynau eraill, roedd astudio yn amhosibl. Erbyn i ni ddychwelyd adref, roeddwn i wythnos ar ei h\u00f4l hi ar y cwrs. Roedd hyn yn cyd-daro \u00e2 chyfnod prysurach yn y gwaith, gan olygu bod gennyf lai o amser i astudio yn ystod y dydd, a dechreuais ddisgyn ymhellach ar ei h\u00f4l hi. Daeth wythnos ar ei h\u00f4l hi yn bythefnos, ac yna tair. Erbyn hyn roeddwn yn cael trafferth i gadw i fyny ac yn colli cymhelliant. Mewn ymdrech i wneud iawn am yr amser a gollwyd, dechreuais fabwysiadu agwedd fwy arwynebol at y cwrs, gan ymgysylltu llai \u00e2&#8217;r cynnwys nag y byddwn wedi dymuno. Roeddwn i&#8217;n ceisio gwneud y darllen a&#8217;r gweithgareddau mor gyflym ag y gallwn i ddal i fyny. Wnes i ddim darllen y tu hwnt i ddeunydd y cwrs, a chymerais lai a llai o ran yn y trafodaethau, gan wneud llai o sylwadau a hoffi negeseuon y dysgwyr eraill, a thalu llai o sylw i atebion i\u2019m sylwadau fy hun. Dydw i ddim yn meddwl mai fi oedd yr unig un oedd yn teimlo fel hyn. Wrth i&#8217;r wythnosau fynd heibio, roedd nifer y negeseuon yn y meysydd trafod yn amlwg yn mynd yn llai. Mae&#8217;n ymddangos bod dysgwyr eraill wedi mabwysiadu agwedd debyg i mi ac yn ceisio brysio trwy&#8217;r cwrs i gyrraedd y diwedd a chyflwyno eu haseiniad.<\/p>\n<p>Doeddwn i ddim yn hoff iawn o feysydd &#8216;trafod&#8217; y cwrs. Oherwydd ei natur anghydamserol, a dysgwyr yn cyrraedd ar wahanol gyfnodau ac adegau o\u2019r cwrs, roeddwn yn aml yn hwyr yn ymuno mewn \u2018trafodaethau\u2019. Roedd dysgwyr eraill eisoes wedi cwblhau&#8217;r adran honno o&#8217;r cwrs, wedi gwneud sylwadau yn yr adran drafod, ac wedi symud ymlaen. Roeddwn yn teimlo fy mod mewn ystafell sgwrsio wag yn darllen sylwadau blaenorol cyn-gyfranogwyr yn hytrach na sgwrs\/trafodaeth amser real. Fe wnes i wneud sylwadau weithiau, ond nid oeddwn yn disgwyl cael llawer o atebion, os o gwbl. Byddai wedi bod yn well gen i rywbeth mwy cydamserol ar gyfer gweithgareddau trafod lle gallwn ryngweithio \u00e2\u2019r tiwtoriaid a dysgwyr eraill mewn amser real. Yn y diwedd, y profiad a gefais oedd llawer mwy o ddysgu annibynnol yn hytrach na dysgu gydag eraill. Roedd yn anodd ymgysylltu a bod yn rhan o gymuned ddysgu pan oeddwn yn ceisio dal i fyny. Fe wnes i astudio ar fy mhen fy hun yn bennaf.<\/p>\n<p>Agwedd arall ar y cwrs na wnes i ei fwynhau oedd y cwisiau wythnosol. Roeddent braidd yn fympwyol. Yn hytrach na phrofi ac atgyfnerthu fy nealltwriaeth o gynnwys yr wythnos, roedd yn teimlo\u2019n debycach i ymarfer i weld a allwn ddysgu ac ailadrodd ffeithiau, ystadegau neu ddarnau o ddeunydd y cwrs ar y cof. Yng nghamau diweddarach y cwrs, roeddwn yn rhuthro drwy&#8217;r cynnwys i gadw i fyny, gan ymgysylltu&#8217;n achlysurol ac yn llai dwfn. Weithiau roedd bwlch o ychydig ddyddiau cyn dychwelyd at y gwaith, gan olygu ei bod hi&#8217;n anodd cofio beth roeddwn i wedi&#8217;i wneud yn gynharach yr wythnos honno. Yn ystod y cwis wythnosol, roeddwn yn aml yn cael trafferth cofio&#8217;r cynnwys ac yn methu ateb rhai o&#8217;r cwestiynau ar unwaith. Roeddwn yn gorfod mynd yn \u00f4l trwy gynnwys yr wythnos honno i chwilio am yr ateb. Doeddwn i ddim yn teimlo bod y cwisiau yn weithgareddau dysgu effeithiol. Roeddent yn dasgau eraill yr oedd yn rhaid i mi eu cwblhau mor gyflym \u00e2 phosibl cyn symud ymlaen.<\/p>\n<p>Un agwedd o\u2019r cwrs roeddwn i\u2019n ei hoffi oedd bod yna weithgareddau i ddechrau meddwl amdanyn nhw a pharatoi\u2019r cynnwys ar wahanol adegau, a byddai\u2019r rhain yn cael eu cynnwys yn yr aseiniad terfynol. Hoffais y dull clytwaith hwn, gan adeiladu, diwygio, a gwella fy aseiniad wrth i mi fynd ymlaen. Roedd hyn yn lleihau\u2019r pwysau oherwydd pan ddaeth yr amser i gwblhau a chyflwyno fy aseiniad, roeddwn eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o&#8217;r gwaith. Rwy\u2019n dychmygu pe na bawn wedi dechrau gweithio ar yr aseiniad tan ddiwedd y cwrs, byddwn wedi cael trafferth gwybod beth i\u2019w wneud a chyflwyno cyn y dyddiad cau.<\/p>\n<p>Roeddwn yn pryderu na fyddwn yn gallu cwblhau a chyflwyno fy aseiniad mewn pryd a chwblhau&#8217;r cwrs. Wrth i\u2019r wythnosau olaf agos\u00e1u, a\u2019r cynnwys droi at baratoi ein haseiniadau i\u2019w cyflwyno, roeddwn i dal ychydig wythnosau ar ei h\u00f4l hi. Fe wnes i ystyried rhoi&#8217;r gorau iddi yn gyfan gwbl ond fe wnes i ddyfalbarhau. Gwnes i ruthro trwy gynnwys yr wythnosau olaf er mwyn i mi allu canolbwyntio ar gwblhau a chyflwyno fy aseiniad, ond llwyddais i grynhoi a chyflwyno rhywbeth. Nid oedd cystal ag y byddwn wedi hoffi iddo fod serch hynny. Cefais drafferth fawr wrth ysgrifennu\u2019r rhesymeg a oedd, yn fy marn i, yn rhannol oherwydd nad oeddwn wedi ymgysylltu\u2019n ddwfn iawn \u00e2 chynnwys y cwrs. Nid oedd gennyf ddealltwriaeth ddigon da o\u2019r deunydd i ysgrifennu rhesymeg argyhoeddiadol \u00e2 thystiolaeth dda i gefnogi fy mhenderfyniadau dylunio dysgu. Roeddwn yn falch fy mod wedi gallu cyflwyno rhywbeth erbyn y dyddiad cau serch hynny, hyd yn oed os nad oedd yn dda iawn. Rwy&#8217;n gobeithio fy mod wedi gwneud digon i basio o leiaf.<\/p>\n<p>Roedd yn rhyddhad mawr pan gyflwynais fy aseiniad o&#8217;r diwedd. Roedd yn waith caled, ac roedd y cwrs meicrogredydau wedi rheoli fy mywyd am y 12 wythnos flaenorol. Nawr fy mod wedi ei orffen. Gallaf anghofio amdano a symud ymlaen at bethau eraill.<\/p>\n<p>Gan adlewyrchu ar y 12 wythnos a dreuliais yn astudio ar y cwrs, er ei fod yn heriol ac yn straen ar adegau, rwy&#8217;n falch fy mod wedi&#8217;i wneud ac rwy&#8217;n meddwl fy mod wedi elwa ohono. Er nad yw wedi fy nhrawsnewid yn feistr technoleg dysgu gyda dealltwriaeth ddofn o addysgeg, rwy\u2019n teimlo fy mod wedi dysgu llawer. Roedd y cynnwys yn ddigon o gyflwyniad i&#8217;r gwahanol gysyniadau i fod yn fan cychwyn ar gyfer astudiaeth bellach. Un o fanteision cwblhau&#8217;r cwrs yw eich bod yn gallu cael mynediad at ddeunyddiau&#8217;r cwrs wedyn. Bydd hwn yn adnodd defnyddiol i mi gyfeirio ato wrth i mi barhau i ddatblygu\u2019n broffesiynol. Roedd hefyd yn ddefnyddiol iawn cael profiad o bersbectif o safbwynt y myfyriwr, gan geisio cwblhau cwrs lefel \u00f4l-raddedig eithaf dwys ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a theulu. Gwelais i wir pa mor heriol ydyw.<\/p>\n<p>A fyddwn i&#8217;n rhoi cynnig ar gwrs meicrogredydau 12 wythnos arall tebyg i hwn? Na, nid yn y dyfodol agos o leiaf. Nid yw\u2019n realistig i mi ar hyn o bryd gyda\u2019r pwysau eraill yn fy mywyd, ac ar \u00f4l bod allan o addysg ffurfiol cyhyd, nid wyf yn hollol barod ar gyfer astudiaeth lefel \u00f4l-raddedig eto. Cefais drafferth gyda&#8217;r ysgrifennu academaidd a dysgu sut i gyfeirnodi&#8217;n iawn. Rwy&#8217;n meddwl pe bawn i&#8217;n ceisio eto, byddai angen i mi gwblhau cwrs sgiliau astudio yn gyntaf neu efallai gwrs byr ar baratoi ar gyfer astudiaeth \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<p>A hoffwn i gwblhau cyrsiau byr eraill ar FutureLearn? Hoffwn, yn bendant. Roeddwn i wir yn hoffi&#8217;r platfform, sut roedd y cwrs wedi&#8217;i strwythuro a sut rydych chi&#8217;n cael eich tywys trwy&#8217;r deunyddiau yn eu trefn. Mwynheais y darllen, y tasgau, a&#8217;r gweithgareddau myfyrio bob wythnos. Roedd yn gwrs diddorol iawn ac i rywun tebyg i fi, nad oes ganddo\u2019r opsiwn o ddychwelyd i addysg amser llawn ar gwrs ar y campws, mae\u2019r hyblygrwydd i allu astudio gartref yn fy mhwysau fy hun yn fantais enfawr. Mae&#8217;n fy ngalluogi i barhau i ddysgu a datblygu ar fy nhelerau fy hun, ar gyflymder sy&#8217;n gweithio i mi. I mi, roedd FutureLearn yn cynnig dewis amgen gwych i gwrs wyneb yn wyneb. Mewn sawl ffordd roedd yn well gen i hwn na ffurfiau mwy traddodiadol o addysg. Roeddwn i wir yn teimlo fy mod yn astudio ar gwrs iawn, ochr yn ochr \u00e2 dysgwyr eraill, yn hytrach na dim ond gwylio fideo tiwtorial ar LinkedIn Learning neu rywbeth tebyg.<\/p>\n<p>Rydw i eisoes wedi gwneud rhestr fer o gyrsiau eraill yr hoffwn eu cwblhau ar FutureLearn. Maent yn llawer haws eu rheoli o ran ymrwymiad amser gyda dim ond 2-3 awr o astudio\u2019r wythnos. Mae hynny&#8217;n syniad llawer mwy realistig i mi. Rwy&#8217;n ystyried talu am danysgrifiad <a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/unlimited\">FutureLearn diderfyn<\/a> er mwyn cael mynediad i ragor o gyrsiau. Gan ei fod yn \u00a319.99 y mis (gostyngiad o \u00a39.99 am y misoedd cyntaf), credaf ei fod yn werth da am arian o ystyried ansawdd y cyrsiau a&#8217;r platfform. Nid oes gan y cyrsiau byr derfynau amser penodol sy&#8217;n golygu y gallaf eu cwblhau pan fydd yn gyfleus i mi, heb bwysau i gwrdd \u00e2 therfynau amser.<\/p>\n<p>Pe bawn i\u2019n gallu newid unrhyw beth am y cwrs meicrogredydau a wnes i, byddai\u2019n rhaid cael dyddiadau cau llai llym ar gyfer cyflwyno, efallai gyda sawl pwynt cyflwyno wedi\u2019u gwasgaru drwy gydol y flwyddyn i roi rhywfaint o hyblygrwydd a dewis i ddysgwyr o ran pryd y gallant gyflwyno eu gwaith. Byddai hynny\u2019n llai o bwysau ac yn caniat\u00e1u i ddysgwyr fel fi gael rhagor o ryddid i astudio ar eu cyflymder eu hunain. Gall y pwysau i gadw i fyny \u00e2 chwrs 12 wythnos a chyflwyno erbyn y dyddiad cau fod yn ormod i rai pobl, gallai arwain at golli diddordeb ac yn y pen draw rhoi&#8217;r gorau iddi yn gyfan gwbl. Rwy\u2019n credu y byddai cael rhagor o hyblygrwydd yn cynyddu annibyniaeth dysgwyr ac y byddai\u2019n unol ag egwyddorion UDL a gwmpesir yn y cwrs.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n falch o&#8217;r profiad o wneud y cwrs meicrogredydau. Ni fyddwn am ei wneud eto, ond fe wnes i elwa llawer ohono. Roedd cynnwys y cwrs yn uniongyrchol berthnasol i\u2019m gwaith yn dechnolegydd dysgu mewn addysg uwch a byddaf yn cymhwyso llawer o\u2019r cysyniadau a\u2019r syniadau yn fy ymarfer fy hun.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"David John Crowther Swyddog Cefnogi Technoleg Dysgu Yn ddiweddar, fe wnes i gwrs meicrogredydau o'r enw Addysgu Ar-lein: Creu Cyrsiau i Ddysgwyr sy\u2019n Oedolion gyda'r Brifysgol Agored. Roedd yn gwrs [&hellip;]","protected":false},"author":6915,"featured_media":4121,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4113","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":4113,"en":4110},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-14l","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/08\/Untitled-design-4.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4113","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6915"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4113"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4113\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4115,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4113\/revisions\/4115"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4121"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4113"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4113"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4113"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4113"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}