{"id":4098,"date":"2022-08-17T12:09:53","date_gmt":"2022-08-17T12:09:53","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4098"},"modified":"2022-08-17T16:03:09","modified_gmt":"2022-08-17T16:03:09","slug":"cynhadledd-dysgu-ac-addysgu-2022-fy-mhrofiad-or-gynhadledd-gan-helen-spittle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/cynhadledd-dysgu-ac-addysgu-2022-fy-mhrofiad-or-gynhadledd-gan-helen-spittle\/","title":{"rendered":"Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2022 &#8211; Fy mhrofiad o\u2019r gynhadledd gan Helen Spittle"},"content":{"rendered":"<p>A minnai\u2019n Gyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu, roeddwn wrth fy modd yn gweld cydweithwyr a myfyrwyr yn rhannu eu profiadau a&#8217;u hastudiaethau achos gyda ni yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni. Roedd yr awyrgylch yn wych ac roedd yn ymddangos bod y rhai oedd yn bresennol wedi mwynhau eu hunain yn fawr.<\/p>\n<p>Roedd cynhadledd 2022 yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ar &#8216;Llwyddiant myfyrwyr: beth yw dyfodol Addysg Uwch i&#8217;n myfyrwyr?&#8217;. Roedd hi\u2019n hyfryd gweld dros 200 ohonoch yno ar draws y ddau ddiwrnod, wyneb yn wyneb ac ar-lein.<\/p>\n<h2><strong>Diolch yn fawr<\/strong><\/h2>\n<p>Hoffem ni ddiolch i bob un ohonoch chi am eich cyfraniadau egn\u00efol, eich trafodaethau a&#8217;ch sylwadau yn ystod y digwyddiad. Hoffem ni hefyd ddiolch i bob un o\u2019n cyflwynwyr a\u2019n harweinwyr yn y gweithdai am gynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu rhagorol. Roedd yn wych myfyrio ar ehangder yr enghreifftiau o arferion rhagorol yn y brifysgol.<\/p>\n<h2><strong>Prif anerchiad: \u2018Llais y Myfyrwyr: Ymgysylltu \u00e2&#8217;r metrigau a thu hwnt&#8217;<\/strong><\/h2>\n<p>Roedd y straeon, Pecha Kuchas, gweithdai, a\u2019r sesiynau Holi ac Ateb yn esmwyth, ac roeddem ni wrth ein boddau\u2019n croesawu Camille Kandiko Howson o Goleg Imperial Llundain i draddodi araith ar<a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=fb795512-6c28-4116-8fd9-aec4010c69b4\"> &#8216;Llais y Myfyrwyr: &#8216;Ymgysylltu \u00e2&#8217;r metrigau a thu hwnt&#8217;.<\/a><\/p>\n<p>Bu\u2019r Prif anerchiad yn trin a thrafod data adborth myfyrwyr y tu hwnt i&#8217;r metrigau, gan edrych ar adborth myfyrwyr mewn gwahanol ffyrdd a defnyddio data sydd gennym eisoes, i ofyn cwestiynau mwy deallus i fyfyrwyr, gofyn cwestiynau yn seiliedig ar yr hyn yr ydym eisoes yn ei wybod yn hytrach na&#8217;r arfer &#8216;dywedwch wrthym beth y gallwn ei wneud yn well&#8217;.<\/p>\n<p>Mae ein Prosiect Llais y Myfyrwyr yn cynnwys adborth gan fyfyrwyr ar ganol modiwl, ac rydym wedi bod yn ystyried defnyddio offer megis Mentimeter ar ddiwedd darlith, gyda staff naill ai&#8217;n ymateb ar unwaith i sylwadau myfyrwyr, neu&#8217;n ymateb yn yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir wedyn, fel y mae Camille yn s\u00f4n yn ystod ei sgwrs. Gallwch weld fideo <a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=2f155c13-3088-47ad-b49e-aec4010c90eb\">o\u2019r hyn sy&#8217;n digwydd gyda Llais Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a ble rydym yn mynd<\/a>.<\/p>\n<p>Tynnodd Camille sylw at yr ymadrodd &#8216;gweithio ar draws ffiniau&#8217;, sy&#8217;n golygu peidio ag eistedd yn ein seilos proffesiynol. Fe wnaeth y sgwrs fy helpu i fyfyrio ar rai o&#8217;r cyfleoedd sydd o&#8217;n blaenau ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym ni\u2019r academi a&#8217;r <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/news\/view\/2634990-education-and-student-experience-portfolio-update\">Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr<\/a> yn herio ffiniau traddodiadol \u2014gan ddod \u00e2\u2019r Gwasanaethau Proffesiynol, staff academaidd a staff prosiect ynghyd yn gyfartal i ddylunio cymorth ac atebion ac i fynd i\u2019r afael \u00e2 rhai o\u2019r heriau sy\u2019n ymwneud ag ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr . Byddwn yn cynnal cyfres o brosiectau i wella llais myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, a fydd yn cynnwys cyflwyno Fframwaith Llais y Myfyrwyr cyffredinol, ffocws ar gau&#8217;r cylch adborth o&#8217;r modiwl i them\u00e2u ledled y Brifysgol, ac adolygiad Cynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr.<\/p>\n<p>Rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn deillio o&#8217;n Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr dros y misoedd nesaf.<\/p>\n<figure id=\"post-4075 media-4075\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/08\/Blas-article-Learning-and-Teaching-Conference-recordings-image-9-Cropped-1.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<h2><strong>Uchafbwyntiau<\/strong><\/h2>\n<p>Canolbwyntiodd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu ar nifer o them\u00e2u cyfredol:<\/p>\n<ul>\n<li>gwrando ar farn y myfyrwyr<\/li>\n<li>asesiadau effeithiol<\/li>\n<li>ymagweddau cynhwysol a hygyrch at ddysgu ac addysgu<\/li>\n<li>cymuned sy\u2019n dysgu a hunaniaeth carfanau<\/li>\n<li>ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr ar-lein<\/li>\n<\/ul>\n<p>Rhannodd Dr Annabel Cartwright a Dr Richard James Lewis stori wych ar &#8216;<a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=48b913e7-0cb3-4e6f-9079-aec4010c6951\">Aseiniadau fideo &#8211; cyfle am hwyl a chreadigrwydd fel rhan o&#8217;ch cwrs<\/a>&#8216;, gan ganiat\u00e1u i fyfyrwyr fod yn greadigol a chynyddu eu sgiliau cyfathrebu trwy arddangos fideos yn rhan o\u2019u haseiniadau.<\/p>\n<p>Roedd y gweithdy ar-lein gan Dr Jo Smedley ar &#8216;<a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=9895de67-ac22-4533-91da-aec4010c91ba\">Datblygu&#8217;r Uwch Gymrodoriaeth<\/a>&#8216; yn fuddiol ar gyfer deall rhagor am safbwyntiau arweinyddiaeth a rheolaeth. Dywedodd un o staff ein Gwasanaethau Proffesiynol: \u201cRoedd y sesiwn hon yn ardderchog ac mae wedi gwneud i mi deimlo&#8217;n fwy hyderus\u201d.<\/p>\n<p>Llongyfarchiadau eto i&#8217;r rhai sydd wedi derbyn eu cymrodoriaethau:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1707753-\">Barbora Adlerova<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1480902-alghafis-mohammed\">Mohammed Fahad Alghafis<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1441644-alqarni-abdullah\">Abdullah Alqarni<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li>Sophie Buchaillard, Uwch-gymrawd (SFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1131156-Richards-Gwyneth\">Gwyneth Hayward<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/uk.linkedin.com\/in\/clairehudson01?challengeId=AQE4VfSAX6rYjQAAAYJKc6ugmo0F1NNbaLe0C3Nw2nxeI-kKwkrVh0Pn3X4QGSaNUolzIo-3Snawz1q-cBIYq9zLswYH5pDjfg&amp;submissionId=f4fb2062-8b54-0617-8422-85618baba87c&amp;challengeSource=AgH_OMVOiuVlQgAAAYJKdER_Jj_kbdwo48S-NhV4j9sAdT9U1Y2KRGqE_3LyOjw&amp;challegeType=AgGsPJ_aayEKpAAAAYJKdESCA11yYrn55HEzLsBvktEJpFKIN8m_WyA&amp;memberId=AgGdPFmOpsI1RQAAAYJKdESF1ZBim2Ylm6Iiq_8ukanXRA4&amp;recognizeDevice=AgH49DucRE_jOAAAAYJKdESIkrgY2ruFUL-rph07zf7pYhNjrXht\">Claire Hudson<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li>Daniel Jin, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1772900-\">Mariana Sousa Leite<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/2619388-Sonia-Maurer\">Sonia Maurer<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1718858-medjahed-soumia\">Soumia Ikram Medjahed<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1747395-mogale-dnyaneshwar\">Dnyaneshwar Mogale<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1719084-pageau-hanna\">Hanna Marie Pageau<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/158042-pagett-joanne\">Joanne Pagett<\/a>, Uwch-gymrawd (SFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/2231796-\">Abhishek Prakash Panchwagh<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1319676-\">Ruth Payne<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/38082-reed-hayley\">Hayley Reed<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/2620979-Nathan-Roberts\">Nathan Roberts<\/a>, Uwch-gymrawd (SFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/2523016-\">Rachel Selick<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li>Jin Tan , Uwch-gymrawd (SFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1719265-trull-michael\">Michael James Trull<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/1738495-williams-adam\">Adam Williams<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/research-students\/view\/2463937-\">Georgina Wren<\/a>, Cymrawd Cyswllt (AFHEA)<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/people\/view\/1418035-wu-yi-lin\">Yi-Lin Wu<\/a>, Cymrawd (FHEA)<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>Digwyddiadau cyn bo hir<\/strong><\/h2>\n<p>Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus dros yr haf. Os hoffech gymryd rhan, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cadw eich lle.\u00a0<a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/training-and-development\/staff-courses-and-programmes\/events-and-training\">Gallwch weld y rhestr o\u2019r digwyddiadau a gwybodaeth am sut i gadw lle ar dudalen ein digwyddiadau dysgu ac addysgu<\/a>.<\/p>\n<p>Ddiwedd yr haf, byddwn yn lansio ein rhaglen DPP ar gyfer semester yr hydref. Bydd hwn yn gyfle i gydweithwyr barhau i rannu arfer da. <a href=\"https:\/\/padlet.com\/robertsn11\/cpdideas\">Rhowch wybod i ni beth hoffech i ni ei gynnwys.<\/a><\/p>\n<p>Os hoffech gyfrannu at ein cyfres o seminarau drwy gydol y flwyddyn academaidd a rhannu eich arfer da, cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn ddiweddarach yn yr haf.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Diolch i chi eto am ddod a chyfrannu at gynhadledd lwyddiannus arall. Rwy\u2019n edrych ymlaen at them\u00e2u cynhadledd 2023!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"As the Director of the Learning and Teaching Academy, I was thrilled to see colleagues and students share their experiences and case studies with us at this years\u2019 Learning and Teaching Conference. The atmosphere was great and it felt like attendees thoroughly enjoyed themselves.","protected":false},"author":6921,"featured_media":4105,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[825],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4098","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cynhadledd-da"],"lang":"cy","translations":{"cy":4098,"en":4090},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-146","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/08\/LT-Conference-image-2-3.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4098","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6921"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4098"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4098\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4109,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4098\/revisions\/4109"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4105"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4098"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4098"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4098"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4098"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}