{"id":4007,"date":"2022-06-01T09:09:59","date_gmt":"2022-06-01T09:09:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=4007"},"modified":"2022-06-20T13:22:12","modified_gmt":"2022-06-20T13:22:12","slug":"gwella-ymgysylltiad-myfyrwyr-gan-ddefnyddio-mentimeter-ym-mhrifysgol-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/gwella-ymgysylltiad-myfyrwyr-gan-ddefnyddio-mentimeter-ym-mhrifysgol-caerdydd\/","title":{"rendered":"Gwella ymgysylltiad myfyrwyr gan ddefnyddio Mentimeter ym Mhrifysgol Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p>Rydym wedi bod yn llunio\u2019r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am y tair blynedd diwethaf. Pan ddaeth fy nghydweithwyr o\u2019r T\u00eem Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr ataf fis Medi diwethaf a gofyn i mi weithio gyda\u2019r Hyrwyddwyr eto, roeddwn yn gyffrous i rannu fy syniadau prosiect gyda nhw a chlywed am eu hawgrymiadau a\u2019u hargymhellion ar gyfer eu profiadau dysgu.<\/p>\n<p>Mae r\u00f4l Technolegydd Dysgu yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych i weithio&#8217;n uniongyrchol gyda myfyrwyr a gwella eu profiadau dysgu digidol, felly dyma oedd fy mhrif flaenoriaeth ar gyfer prosiect eleni.<\/p>\n<p>Er i mi gymryd rhan yn y broses o gyflwyno Mentimeter yn 2018, dylunio a chynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer ein cydweithwyr a bod yn gyswllt &#8216;Menti&#8217; yn y brifysgol, roeddwn i eisiau cael rhagor o wybodaeth am sut mae&#8217;n cael ei ddefnyddio wrth addysgu. Roeddwn i eisiau clywed gan ein myfyrwyr a chael gwybod beth oedd eu barn am y system ymateb cynulleidfa hon a sut mae&#8217;n cael ei defnyddio yn eu dosbarthiadau. Roeddwn i eisiau ystyried sut y gallem wella ei ddefnydd a&#8217;i ddyluniad a chael mwy o gydweithwyr a myfyrwyr i ymuno \u00e2 Mentimeter.<\/p>\n<p>Cefais ddwy fyfyrwraig brwdfrydig iawn i helpu gyda&#8217;r prosiect hwn a&#8217;i lunio \u2014 Ioana Bold (myfyriwr meistr integredig yn ei blwyddyn olaf, o\u2019r Ysgol Peirianneg) a Fatima Bibi (myfyriwr Meistr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth). Ar ddechrau mis Tachwedd, cawsom gyfarfod rhagarweiniol, lle sefydlwyd nodau ac amcanion y prosiect, yr amserlen, y canlyniadau a gynlluniwyd a\u2019r camau nesaf. Rhan arloesol o&#8217;r prosiect oedd hyfforddi\u2019r myfyrwyr yn llawn mewn Mentimeter drwy <a href=\"https:\/\/academy.mentimeter.com\/\">Academi Mentimter<\/a>, cwrs wedi&#8217;i ardystio&#8217;n llawn lle mae\u2019r rhai sy\u2019n cymryd rhan yn ennill ardystiad hyfforddwr unwaith y bydd y cwrs wedi&#8217;i gwblhau. Elfen greadigol arall oedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi sy&#8217;n wynebu&#8217;r staff a chyflwyno canfyddiadau eu prosiect i hysbysu ac ysbrydoli cydweithwyr academaidd, ac awgrymu ffyrdd o ddefnyddio Mentimeter ac ymgysylltu \u00e2 myfyrwyr.<\/p>\n<p>Bu\u2019r myfyrwyr yn dylunio, dosbarthu a dadansoddi canlyniadau&#8217;r arolwg ddiwedd Ionawr. Mae cymuned y myfyrwyr wedi dangos diddordeb mawr ynddo, gan ystyried mai prosiect ar raddfa fach oedd hwn gydag amserlen dynn. Gellir dod o hyd i gwestiynau a chanlyniadau&#8217;r arolwg yma: <a href=\"https:\/\/www.mentimeter.com\/s\/28cc2ac7a09c07fb0b2b3dcc32ed7013\/12d2e0ef671f\">https:\/\/www.mentimeter.com\/s\/28cc2ac7a09c07fb0b2b3dcc32ed7013\/12d2e0ef671f<\/a><\/p>\n<p>Yng ngham olaf y prosiect creodd y myfyrwyr\u00a0. Fe wnaethon nhw roi persbectif personol a mewnwelediad i&#8217;w profiad. Isod gweler myfyrdod Ioana ar sut roedd hi\u2019n teimlo am gymryd rhan a\u2019r gwerth a roddodd i\u2019w bywyd prifysgol a\u2019i hymarfer.<\/p>\n<h3><strong>Beth wnaeth eich cymell i gymryd rhan yn y prosiect hwn?<\/strong><\/h3>\n<p><em>Er bod cynnwys ansawdd fy narlithoedd wedi bod yn wych, nid oedd llawer ohonynt yn ennyn diddordeb. Mae\u2019r myfyrwyr wedi cael digon o wylio PowerPoints syml ar gyfer pob darlith ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i newid hynny. Yn aml nid ydym yn sylweddoli pa mor hawdd yw gwella ein cyflwyniadau a\u2019u gwneud yn fwy atyniadol er mwyn arbed i\u2019n cyfoedion fynd i gyfarfodydd\/cyflwyniadau diflas o hyd. Gan fy mod yn astudio gradd STEM, ni ddysgais i sgiliau dylunio graffeg, felly roeddwn yn falch o weld pa mor hygyrch oedd Mentimeter i bobl debyg i mi <\/em><em>&#x1f60a;<\/em><\/p>\n<h3><strong>Pa ddulliau wnaethoch chi eu defnyddio i fodloni nodau ac amcanion y prosiect? <\/strong><\/h3>\n<p><em>Ar \u00f4l dwy awr o hyfforddiant yn yr academi Mentimeter i gyrraedd lefel ganolradd roedd gen i\u2019r sgiliau i gynhyrchu cyflwyniad proffesiynol. <\/em>Roedd yn ddiddorol dylunio&#8217;r arolwg. Roedd angen i ni wneud yn si\u0175r ein bod yn gofyn ystod eang o gwestiynau ar ddefnyddio Mentimeter mewn lleoliad academaidd, gan gynnwys yr holl fyfyrwyr a mathau o leoliadau academaidd (h.y. darlithoedd, tiwtorialau, seminarau) heb i&#8217;r cwestiynau fod yn ailadroddus.<\/p>\n<p><em>Roedd y dadansoddi hefyd yn bwysig iawn gan fod gennym lawer iawn o ddata (bron i 300 o ymatebwyr) i\u2019w grynhoi heb golli syniadau a barn unrhyw un.<\/em><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Dynameg grwp y prosiect &#8211; sut oeddech chi&#8217;n teimlo am y bartneriaeth hon <\/strong><\/h3>\n<p><em>Dyma un o&#8217;r prosiectau gorau i mi weithio arno. Rwyf wedi datblygu fy sgiliau ac wedi dysgu sut i wneud pethau eraill ar wah\u00e2n i arolygon ar Mentimeter, sydd wedi bod yn ddiddorol iawn.<\/em><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Sut wnaethoch chi gydbwyso amser\/llwyth gwaith a&#8217;ch astudiaethau? <\/strong><\/h3>\n<p><em>Gan fod y prosiect hwn yn ddiddorol iawn ac yn ddefnyddiol ar gyfer fy astudiaethau hefyd, roedd yn hawdd ei integreiddio gyda fy astudiaethau prifysgol. Fel arfer byddwn yn neilltuo dwy awr yr wythnos i gwblhau\u2019r tasgau.<\/em><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Ydych chi&#8217;n meddwl bod y prosiect hwn yn dod ag unrhyw werth i fyfyrwyr a staff Brifysgol Caerdydd? Beth yw hyn?<\/strong><\/h3>\n<p><em>Ydw, yn bendant. Rwy&#8217;n credu y gellir gwella profiad prifysgol i bawb trwy ddefnyddio Mentimeter. Gall myfyrwyr gymryd rhan heb ofni gwneud camgymeriadau a chael eu barnu a gall y darlithwyr weld mewn amser real pa bynciau sy\u2019n anodd iddynt a pha bynciau maent wedi&#8217;u deall yn dda iawn. Yn y modd hwn, nid oes angen aros tan ddiwedd y semester ar gyfer gwerthuso modiwlau.<\/em><\/p>\n<p>O ystyried bod y prosiect wedi\u2019i gynnal dros 3 mis yn unig, cafodd y myfyrwyr ganlyniadau rhagorol. Fe wnaethant gydlynu agweddau penodol o&#8217;r prosiect ar eu pen eu hunain, dylunio&#8217;r arolwg, ymgysylltu \u00e2&#8217;r cymunedau staff a myfyrwyr, a dadansoddi a dehongli&#8217;r canlyniadau mewn ffordd syml ond pwerus. Yn fy marn i, cawsant lawer o sgiliau gwerthfawr (megis hyfforddiant ardystiedig Menti). Rwy\u2019n teimlo eu bod wedi dod yn aelodau hyderus o&#8217;r t\u00eem ac yn barod i fentro ymhellach. Roedd eu cymhelliant, eu hymgysylltiad a&#8217;u parodrwydd i wella profiad Mentimeter ar draws y brifysgol yn amlwg iawn.<\/p>\n<p>Rhagor o wybodaeth:Gallwch gael rhagor o wybodaeth am <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/staff\/supporting-your-work\/teach-and-support-students\/teach-and-assess-students\/learning-and-teaching-development\/tools-and-platforms-for-teaching\/mentimeter-help\">Mentimeter<\/a> ar dudalennau mewnrwyd Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.<\/p>\n<figure id=\"post-4008 media-4008\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/06\/Mentimeter-poster-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Rydym wedi bod yn llunio\u2019r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am y tair blynedd diwethaf. Pan ddaeth fy nghydweithwyr o\u2019r T\u00eem Ymgysylltu \u00e2 Myfyrwyr ataf fis Medi diwethaf a [&hellip;]","protected":false},"author":6915,"featured_media":4008,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792,800],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-4007","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol","category-ymgysylltu-a-myfyrwyr"],"lang":"cy","translations":{"cy":4007,"en":4004},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-12D","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/06\/Mentimeter-poster-1.png","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4007","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6915"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4007"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4007\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4009,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/4007\/revisions\/4009"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/4008"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4007"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=4007"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=4007"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=4007"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}