{"id":3889,"date":"2022-03-17T14:44:04","date_gmt":"2022-03-17T14:44:04","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=3889"},"modified":"2022-06-20T13:22:12","modified_gmt":"2022-06-20T13:22:12","slug":"ein-symposiwm-ymchwil-cymraeg-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/ein-symposiwm-ymchwil-cymraeg-2022\/","title":{"rendered":"Ein symposiwm ymchwil Cymraeg 2022"},"content":{"rendered":"<h3>Ysgrifennwyd gan Elliw Iwan, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/h3>\n<p>Y Deml Heddwch oedd safle dathliad cymuned ymchwil ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg y De Ddwyrain ar 1 Mawrth eleni.\u00a0 Braf oedd cael dod a thri sefydliad addysg uwch y De Ddwyrain at ei gilydd, Prifysgol Caerdydd (PC), Prifysgol Metropolitan Caerdydd (PMC) a Phrifysgol De Cymru (PDC) i ddathlu G\u0175yl Ddewi ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yr un pryd. Anodd credu fod deng mlynedd wedi bod ers sefydlu\u2019r <a href=\"https:\/\/www.colegcymraeg.ac.uk\/cy\/\">Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/a>, a phrawf o lwyddiant y Coleg a\u2019r Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil oedd yr amrywiaeth o bynciau oedd dan sylw ar lwyfan hyfryd y Deml Heddwch y bore hwnnw.<\/p>\n<p>Roedd y digwyddiad yn nwylo pwyllog a medrus yr Athro Lisa Lewis, Prifysgol De Cymru, a hi fu\u2019n cyflwyno\u2019r siaradwyr a sicrhau fod y bore\u2019n rhedeg yn llyfn ac fe lwyddwyd i orffen mewn da bryd i gynnal munud o heddwch er cof am yr Wcrain.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/03\/MicrosoftTeams-image-8.jpg\" alt=\"\" width=\"360\" height=\"406\" \/><\/p>\n<p>Un o flaenoriaethau ein strategaeth iaith newydd ym mhrifysgol Caerdydd yw meithrin\u00a0 a chefnogi cymuned ymchwil cyfrwng Cymraeg a dangos fod y Gymraeg yn berthnasol ym mhob agwedd o fywyd academaidd gyfoes, a dyna gafwyd yn y symposiwm.\u00a0 \u00a0Cawsom gyflwyniadau hynod ddifyr yn amrwyio o Treftadaeth, amlddiwyllianedd a&#8217;r Gymraeg yn y dirwedd gan Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, PC;\u00a0 Defnyddio Cyfrifiaduron i Archwilio Defnyddiau ar Gyfer Heriau&#8217;r 21ain Ganrif ym maes Cemeg gan Owain Beynon, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, PC; R\u00f4l Iaith Frodorol mewn Newid Ymddygiad gan Derith Rhisiart, PMC; \u00a0a Pherfformio a Theatr: Er Lles y Gymuned gan Elis Pari, myfyriwr \u00d4l-radd, PDC.<\/p>\n<figure id=\"post-3891 media-3891\" class=\"image align-none\">\n<p><figure style=\"width: 918px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" style=\"width: 668px;height: 408px\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/03\/MicrosoftTeams-image-9.jpg\" alt=\"\" width=\"918\" height=\"560\" \/><figcaption class=\"wp-caption-text\">Y sgwrs banel<\/figcaption><\/figure><\/figure>\n<p>Roedd y cwestiynau o\u2019r gynulleidfa yn dangos y diddordeb oedd yn yr ystafell gan Academyddion o\u2019r Dyniaethau a\u2019r Gwyddorau fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Rhwng y cyflwyniadau, cafwyd trafodaeth banel ar Gymuned Ymchwil cyfrwng Cymraeg.\u00a0 Cadeiriwyd y drafodaeth yn wych gan y Dr Sion Jones, sy\u2019n ddarlithydd yn y Gwyddorau Cymdeithasol yma yn PC, ac yn un sydd wedi elwa o\u2019r Cynllun Ysgoloriaeth Ymchwil ei hun.\u00a0 Ar y panel cawsom Gwion Jones o PMC,\u00a0 Bedwyr Thomas o PC a Heddwen Daniel o PDC.\u00a0\u00a0 Gan ein bod mewn oes \u00d4l-covid, roedd rhaid i Heddwen a Bedwyr hunan-ynysu, a chymryd rhan yn y drafodaeth dros sgrin fawr- ac fe weithiodd hyn yn rhyfeddol.\u00a0 Syniadau ar gyfer gwahodd ymchwilwyr o bedwar ban byd i\u2019r symposiwm nesaf felly! Unwaith eto \u2013 gwelwyd amrywiaeth meysydd ymchwil ar y panel, Cemeg Feddyginaethol, Seicoleg ac addysg, ond i gyd yn gyt\u00fbn bod y gymuned ymchwil wedi bod yn hanfodol i\u2019w cynnal yn ystod y pandemig, ac yn hanfodol i greu ymdeimlad o berthyn, a dod a&#8217;r ymchwilwyr cyfrwng Cymraeg at ei gilydd. \u00a0Mae Bedwyr yn un o Lysgenhadon \u00d4l-radd y Coleg Cymraeg hefyd, ac yn dyst i sut mae\u2019r Coleg yn cefnogi\u2019r ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Diwrnod hwyliog a hynod ddiddorol \u2013 welwn i chi yn yr un nesaf.\u00a0\u00a0 Y bwriad yw cynnal Symposiwm Ymchwil ar y cyd eto rhwng Canghennau\u2019r tri sefydliad, a hynny ar 1 Mawrth a lleoliad i\u2019w gadarnhau.<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth am ein cangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cysylltwch \u00e2 Elliw Iwan (<a href=\"mailto:iwaneh@cardiff.ac.uk\">iwaneh@cardiff.ac.uk<\/a>)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd gan Elliw Iwan, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Y Deml Heddwch oedd safle dathliad cymuned ymchwil ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg y De Ddwyrain ar 1 Mawrth eleni.\u00a0 Braf oedd [&hellip;]","protected":false},"author":1774,"featured_media":3911,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[813],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-3889","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":3889,"en":3888},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-10J","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/03\/MicrosoftTeams-image-11-5.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3889","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1774"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3889"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3889\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3913,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3889\/revisions\/3913"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3911"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3889"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3889"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3889"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=3889"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}