{"id":3768,"date":"2022-01-18T11:18:59","date_gmt":"2022-01-18T11:18:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/?p=3768"},"modified":"2022-06-20T13:22:13","modified_gmt":"2022-06-20T13:22:13","slug":"fy-mhrofiad-yng-nghynhadledd-panopto-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/fy-mhrofiad-yng-nghynhadledd-panopto-2021\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad yng Nghynhadledd Panopto 2021"},"content":{"rendered":"<h3>Ysgrifennwyd gan Michael Hackman, Dylunydd Dysgu<\/h3>\n<h3>Es i gynhadledd Panopto eleni wyneb yn wyneb ar 9 Tachwedd. Fe wnes i fanteisio ar y cyfleoedd i rwydweithio a\u2019r holl sesiynau Holi ac Ateb yn ystod y dydd. Mae\u2019r erthygl yn rannu fy marn o safbwynt addysgu a dysgu.<\/h3>\n<hr \/>\n<h3>Rhywbeth i&#8217;w ystyried<\/h3>\n<p>Os nad oes gennych amser i ddarllen yr erthygl gyfan, ystyriwch y pwyntiau hyn:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhoddodd Clair Lomas MBE y cyngor gorau wrth i ni symud ymlaen o\u2019r pandemig: &#8220;Manteisiwch ar bob cyfle bach. Byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau newydd.&#8221;<\/li>\n<li>Syniadau gan Brifysgol Caerl\u0177r: Dylid dylunio cyrsiau mewn partneriaeth. Mae&#8217;r darlithwyr yn gwybod beth maen nhw eisiau ei gyflawni a gall yr Academi Dysgu ac Addysgu gynnig yr adnoddau a&#8217;r hyfforddiant i wireddu syniadau. | Mae&#8217;r staff yn elwa o system haenog o weithdai i\u2019w helpu i symud ymlaen o lefelau dechreuwyr i arbenigwyr.<\/li>\n<li>Gall darlithoedd wedi&#8217;u recordio gynnig opsiynau adolygu ychwanegol gan gymheiriaid. Gellir symleiddio&#8217;r broses. Mae darlithoedd wedi&#8217;u recordio yn caniat\u00e1u arsylwadau anghydamserol, gyda darlithwyr yn nodi digwyddiadau penodol yr hoffent gael cymorth gyda nhw.<\/li>\n<li>Mae addysgu hybrid yn creu gorlwytho gwybyddol. Cymharodd Prif Swyddog Gweithredol Panopto addysgu hybrid ag ymchwil a gynhaliwyd fel \u2018defnyddio ff\u00f4n wrth yrru\u2019.<\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<h3>Cyflwyniad gan Claire Lomas MBE<\/h3>\n<p>Roedd Claire Lomas MBE yn feiciwr llwyddiannus nes i ddamwain yn ystod ras ei pharlysu o&#8217;i brest i lawr. Yn ystod ei hanerchiad agoriadol ar gyfer y gynhadledd, aeth Claire i fanylder wrth ddisgrifio ei bywyd ers y ddamwain, gan nodi sut mae wedi llwyddo i godi dros \u00a3600k i elusen. Mae Claire wedi cerdded sawl marathon&#8230; er ei bod wedi&#8217;i pharlysu. Anhygoel!<\/p>\n<p>Drwy gydol ei hanerchiad, cynigiodd Claire gyngor ac awgrymiadau ar sut y gall addysg fanteisio i\u2019r eithaf ar y pandemig. Dyma&#8217;r penawdau:<\/p>\n<ul>\n<li>Manteisiwch ar bob cyfle bach.<\/li>\n<li>Byddwch yn barod i roi cynnig ar bethau newydd.<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 mynd yn \u00f4l i\u2019r hyn sy\u2019n gyfarwydd i chi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae&#8217;r cyngor hwn yn sylfaenol gan fod cyfyngiadau&#8217;n llacio ac mae\u2019r campws yn brysur eto. Ni ddylem ddychwelyd at ein hen ddulliau a&#8217;n cysuron. Manteisiwch ar yr holl gyfleoedd a gawsom o\u2019r pandemig i groesawu\u2019r Fframwaith Dysgu Cyfunol newydd a chynnig profiad dysgu mwy hyblyg a gwerth chweil i\u2019n myfyrwyr.<\/p>\n<p>Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, esboniodd Claire sut y gallwn helpu myfyrwyr ag anableddau:<\/p>\n<ul>\n<li>Darparu modelau r\u00f4l.<\/li>\n<li>Byddwch yn onest gyda nhw am yr anawsterau y gallant eu disgwyl.<\/li>\n<li>Codwch ymwybyddiaeth ymhlith eraill, yn enwedig o\u2019r niwed y gall gweithredoedd bach ei gael h.y. gallai defnyddiwr cadair olwyn fod yn rhy bryderus i adael ei d\u0177 rhag ofn na fydd yn medru dod o hyd i le parcio addas.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gan fyfyrio ar y syniadau hyn, mae modd eu cysylltu\u2019n rhwydd ag arfer addysgu da. Dylem eisoes fod yn tynnu sylw at fodelau r\u00f4l perthnasol i fyfyrwyr a bod yn onest gyda nhw am yr heriau y byddant yn eu wynebu ar y cwrs. Dylai ein hystafelloedd dosbarth fod yn fannau diogel lle rydym yn gosod safonau ymddygiad. Felly, nid yw&#8217;r syniadau hyn yn torri tir newydd, maen nhw&#8217;n gofyn i ni ystyried gwahaniaethau er mwyn ymateb i\u2019r myfyrwyr o&#8217;n blaenau.<\/p>\n<hr \/>\n<h3>Panel Arbenigol sesiwn holi ac ateb<\/h3>\n<p>Yr hyn sy&#8217;n dilyn yw fy myfyrdodau ar rai pwyntiau allweddol:<\/p>\n<h4>Addysgu Hybrid<\/h4>\n<p>Wrth amlinellu&#8217;r prif ddefnydd o Panopto dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd addysgu hybrid yn y trydydd safle. Mae \u2018addysgu hybrid\u2019 yn cyfeirio at gyflwyno sesiwn dysgu gweithredol ar yr un pryd i gr\u0175p o fyfyrwyr wyneb yn wyneb a gr\u0175p o fyfyrwyr o bell. Mae hyn yn arwydd o&#8217;r newid o ran defnyddio fideo-gynadledda i ennyn diddordeb dysgwyr nad ydynt yn bresennol wyneb yn wyneb.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni fod yn fwy gofalus gyda&#8217;n hymagwedd at addysgu hybrid. Mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerl\u0177r wedi canfod bod eu myfyrwyr yn teimlo&#8217;n fwy diogel yn mynd i weminar yn hytrach na gwers hybrid os nad ydynt yn gallu bod yno\u2019n gorfforol. Y gwahaniaeth yw nad oes disgwyl i fyfyrwyr ryngweithio \u00e2 myfyrwyr eraill yn ystod gweminar.<\/p>\n<p>Yn ystod sesiwn rwydweithio ddiweddarach, cytunodd Nichola Gretton (Pennaeth Addysg Ddigidol ym Mhrifysgol Caerl\u0177r) a minnau na ddylai myfyrwyr allu gwneud yr hyn sy\u2019n gyfarwydd iddynt o hyd, ac y dylem eu helpu i feithrin gwydnwch yn lle hynny. Felly, os ydym am feithrin profiad addysgu hybrid, lle da i ddechrau yw trwy gynnig gweminarau cydamserol. Wedyn, gallwn helpu myfyrwyr yn raddol trwy eu helpu i gymryd rhan mewn modd mwy gweithredol megis cyfrannu at drafodaethau dosbarth a mynd i ystafelloedd gr\u0175p gyda myfyrwyr eraill ar-lein.<\/p>\n<figure id=\"post-3758 media-3758\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/01\/Picture100.png\" alt=\"\" width=\"728\" height=\"397\" \/><\/figure>\n<h4>Profiad y Myfyrwyr<\/h4>\n<p>Mae Dale Crosby yn fyfyriwr PHD ym Mhrifysgol Birkbeck yn Llundain a rhoddodd gipolwg ar sut mae myfyrwyr yn elwa wrth ddefnyddio Panopto. Mae Dale yn fyfyriwr llwyddiannus sy\u2019n meddu ar sgiliau technolegol, felly efallai na allwn ddisgwyl dulliau o&#8217;r fath gan bob myfyriwr. Fodd bynnag, gallwn hyfforddi ein myfyrwyr i ddefnyddio Panopto fel adnodd sy&#8217;n gwneud mwy na chwarae fideo.<\/p>\n<p>Y pwynt mwyaf diddorol i mi oedd ei ddefnydd o&#8217;r nodwedd chwilio. Wrth i Dale geisio cofio cynnwys o ddarlith oedd wedi&#8217;i recordio, mae&#8217;n defnyddio&#8217;r nodwedd chwilio i ddod o hyd i derm allweddol yn y fideo. Yna mae Panopto yn dychwelyd rhestr o bwyntiau yn y fideo pan ddefnyddir y term hwnnw. Mewn darlith\/gwers sydd wedi&#8217;i threfnu&#8217;n dda, bydd y term allweddol yn cael ei ddiffinio gyntaf, ac yn nes ymlaen yn y sesiwn bydd trafodaethau yn dadansoddi ac yn gwerthuso. Felly, gall myfyriwr sy&#8217;n ailymweld \u00e2&#8217;r cynnwys ddefnyddio&#8217;r chwiliad i adolygu&#8217;r diffiniad yn gyflym ac yna pwyntiau allweddol eraill i weld enghreifftiau o ymgysylltiad gwybyddol lefel uwch \u00e2&#8217;r pwnc. Heb rwystrau i&#8217;r dysgu megis y cyfyngiad amser o wylio&#8217;r ddarlith gyfan eto. \u201cGwych!\u201d<\/p>\n<h4>Blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol<\/h4>\n<p>Er bod holl aelodau&#8217;r panel wedi gwneud sylwadau gwerth chweil yma wrth s\u00f4n am flaenoriaethu&#8217;r hyn yr ydym wedi&#8217;i ddysgu o&#8217;r pandemig, fe wnaeth sylw gan Dr Katie Piatte, Pennaeth TEL ym Mhrifysgol Sussex greu argraff arna i:<\/p>\n<p>\u201cSut mae gwneud yn si\u0175r nad oes neb dan anfantais, nad oes unrhyw rwystrau i ddysgu? Sut mae\u2019r myfyrwyr yn cael profiad gwirioneddol deg a hygyrch.\u201d<\/p>\n<p>Rwy\u2019n hoffi dau bwynt yn fawr gyda&#8217;r cwestiwn hwn:<\/p>\n<ol>\n<li>Y pwyslais bod rhanddeiliaid wedi gorfod defnyddio technoleg yn ystod y pandemig a bod rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn er budd pawb.<\/li>\n<li>Mae angen ateb y cwestiynau hyn. Mae&#8217;r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hynod ansefydlog ac rydym bellach yn \u00f4l ar ddechrau cyfnod heriol yn gallu meddwl, ystyried a synfyfyrio. Gallwn fynd ar y daith hon eto yn \u00f4l ein pwysau ein hunain. Does neb yn disgwyl i ni fod yn berffaith heddiw, ond fe ddylen ni fod yn well nag oedden ni ddwy flynedd yn \u00f4l a dylen ni fod yn gofyn y cwestiwn yma gyda phob gwers rydyn ni\u2019n ei chynllunio i wneud yn si\u0175r ein bod ni hyd yn oed yn well ymhen dwy flynedd!<\/li>\n<\/ol>\n<hr \/>\n<h3>Eric Burns Cyd-Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Panopto<\/h3>\n<p>Rhoddodd Eric Burns gyflwyniad a oedd yn ceisio esbonio sut ddeliodd y cwmni \u00e2 gofynion y pandemig, ac fe wnaeth hefyd ddangos eu gweledigaethau ar gyfer dyfodol Panopto.<\/p>\n<h4>Empathi<\/h4>\n<p>Gall bod yn agored ac yn onest gyda&#8217;n myfyrwyr deimlo&#8217;n frawychus. Yn enwedig pan fyddwn yn cyfeirio at y pryder a deimlwn wrth roi cynnig ar rywbeth newydd, neu wrth egluro\u2019r heriau sy\u2019n ein hwynebu wrth addasu i\u2019r Fframwaith Dysgu Cyfunol newydd. Fodd bynnag, roedd sylwadau agoriadol Eric yn dangos yr empathi y gallwn ei gynhyrchu drwy gydnabod rhwystredigaethau rhanddeiliaid a bod yn agored ac yn onest amdanynt.<\/p>\n<p>Dechreuodd Eric ei gyflwyniad drwy esbonio bod nifer y gwylwyr unigryw sy&#8217;n defnyddio Panopto wedi cynyddu dros 6 miliwn rhwng Ionawr 2020 a Medi 2021. Cynnydd o dros 300%! Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i amcanion y cwmni droi at seilwaith a chymorth technegol, yn hytrach nag uwchraddio&#8217;r feddalwedd. Fel gyda\u2019n gwasanaeth, fe wnaethant y gorau y gallent, yn wyneb galw a phwysau enfawr na allent byth fod wedi&#8217;u disgwyl.<\/p>\n<p>Wrth siarad ar ddiwedd y dydd \u00e2 phobl eraill oedd yno, roedd teimlad aruthrol o empathi tuag at gwmni Panopto. Nid oedd pobl bellach yn cwestiynu pam roedd Panopto yn ymddangos yn araf i weithredu ar addewidion uwchraddio yr oeddent wedi&#8217;u gwneud cyn y pandemig. Yn lle hynny, agorodd sgyrsiau am y cymhlethdodau a\u2019r rhwystrau tebyg yr oedd ein sefydliadau wedi\u2019u goresgyn a sut rydym yn awr yn ceisio mynd yn \u00f4l ar y trywydd iawn gyda hen ddyheadau wrth esblygu ein gwasanaeth ar gyfer byd \u00f4l-bandemig.<\/p>\n<p>Gan ein bod yn agored ac yn onest yn ystod y pandemig, dylem barhau i fod yn agored ac yn onest gyda&#8217;n myfyrwyr a&#8217;n rhanddeiliaid ehangach. Bydd yn helpu ein myfyrwyr i gydymdeimlo \u00e2 ni, gan greu teimladau o undod a chymuned fydd yn cyfrannu at brofiad cadarnhaol i fyfyrwyr.<\/p>\n<figure id=\"post-3759 media-3759\" class=\"image align-none\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/01\/Picture1001.png\" alt=\"\" width=\"423\" height=\"234\" \/><\/figure>\n<h4>Addysgu Hybrid<\/h4>\n<p>Rhoddodd Eric y gorau i s\u00f4n am y maes sydd fwyaf cyfarwydd iddo i gynnig cipolwg ar y problemau gydag addysgu hybrid, ac roedd yn rhyfeddol o graff! Ar \u00f4l cael anawsterau wrth gyflwyno cyfarfodydd hybrid, cymharodd Eric yr anawsterau \u00e2&#8217;r rhai a brofwyd pan fydd gyrwyr yn defnyddio eu ff\u00f4n wrth yrru cerbyd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn wir am bryderon addysgu hybrid. Pryd bynnag y bydd y darlithydd yn ymgysylltu ag un gynulleidfa, maent yn colli golwg ar anghenion y gynulleidfa arall ac ni fydd yn trosglwyddo o un i&#8217;r llall yn ddiffwdan (ac ni fydd yn gallu gwneud hynny).<\/p>\n<p>Yn ystod trafodaeth gr\u0175p yn ystod y sesiwn rwydweithio, cytunwyd mai\u2019r ateb i\u2019r cyfyng-gyngor hwn yw addysgu timau. Fodd bynnag, nid yw hynny&#8217;n golygu bod angen dau arbenigwr pwnc o reidrwydd. Gall y darlithydd fod yn arbenigwr pwnc, ond dylai ddefnyddio hwylusydd ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar-lein. Gall ddelio \u00e2 chwestiynau sy&#8217;n benodol i dasgau neu dechnegol a sianelu cwestiynau am bynciau penodol i&#8217;r darlithydd ar yr adeg briodol. Wrth gwrs, mae hyn yn heriol wrth i ddarlithwyr a staff cymorth gael trafferth cydbwyso llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm.<\/p>\n<figure id=\"post-3760 media-3760\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/01\/Picture3002.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<hr \/>\n<h3>Dyfodol Panopto<\/h3>\n<p>Drwy gydol y gynhadledd, cawsom ein sicrhau y bydd ein holl bryderon a rhwystredigaethau yn cael sylw mewn diweddariadau yn y dyfodol. Cafwyd arddangosiadau trawiadol y gallwch eu gwylio trwy\u2019r ddolen uchod ac ni ddarparwyd dyddiadau ar gyfer unrhyw un ohonynt (ewch yn \u00f4l i\u2019r pennawd \u2018empathi\u2019 os yw hyn yn eich gwylltio).<\/p>\n<p>Fodd bynnag, i ateb y prif bryderon a anfonwyd ataf:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae rhyngwyneb defnyddiwr golygu newydd ar y gorwel a fydd yn symleiddio&#8217;r broses, gan ei gwneud yn haws i&#8217;w ddefnyddio.<\/li>\n<li>Dylai buddsoddiad mewn caledwedd (ganddynt) weld gostyngiad mewn amser prosesu gyda&#8217;r nod o&#8217;i wneud mor fach \u00e2 phosibl.<\/li>\n<li>Maent yn parhau i ddatblygu&#8217;r adnoddau asesu. Fodd bynnag, awgrymwyd ein bod yn gweithio gyda&#8217;n Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i ddatblygu&#8217;r adnoddau hyn mewn modd pwrpasol os oes gennym syniadau penodol.<\/li>\n<li>Capsiynau Cymraeg\u2026 Dim byd i wneud gyda nhw. Trydydd parti sy\u2019n cynnig y gwasanaethau capsiynau awtomatig. Byddwn ni (Prifysgol Caerdydd) yn parhau i roi pwysau ar Panopto i bwyso ar eu trydydd parti i ystyried y Gymraeg.<\/li>\n<\/ul>\n<hr \/>\n<h3>Cyffredinol<\/h3>\n<p>Digwyddiad trawiadol sy&#8217;n ysgogi&#8217;r meddwl. Bu&#8217;r cyflwyniadau&#8217;n ddefnyddiol ond cafwyd y trafodaethau addysgeg gorau yn y sesiynau rhwydweithio rhwng y sesiynau. Roedd pob sefydliad yn chwilio am safbwyntiau a syniadau i wella eu dulliau eu hunain.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen mae angen i ni weithio gyda&#8217;n gilydd i gasglu ein syniadau a beth ydym yn ei ddisgwyl gan Panopto, er mwyn i ni allu helpu ein Rheolwr Llwyddiant Cwsmeriaid i deilwra&#8217;r cynnyrch i\u2019n hanghenion ni ac anghenion ein myfyrwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ysgrifennwyd gan Michael Hackman, Dylunydd Dysgu Es i gynhadledd Panopto eleni wyneb yn wyneb ar 9 Tachwedd. Fe wnes i fanteisio ar y cyfleoedd i rwydweithio a\u2019r holl sesiynau Holi [&hellip;]","protected":false},"author":1774,"featured_media":3762,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[792],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-3768","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg-ddigidol"],"lang":"cy","translations":{"cy":3768,"en":3757},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-YM","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2022\/01\/LEAD-ARTICLE.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3768","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1774"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3768"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3768\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3770,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3768\/revisions\/3770"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3762"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3768"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3768"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3768"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=3768"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}