{"id":3477,"date":"2021-06-29T18:48:54","date_gmt":"2021-06-29T18:48:54","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/?p=3477"},"modified":"2022-06-20T13:22:13","modified_gmt":"2022-06-20T13:22:13","slug":"beth-syn-digwydd-pan-na-ellir-cynnal-digwyddiad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/beth-syn-digwydd-pan-na-ellir-cynnal-digwyddiad\/","title":{"rendered":"Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021- Beth Sy&#8217;n Digwydd pan Na Ellir Cynnal Digwyddiad?"},"content":{"rendered":"\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Y Tarfu<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd lleoliadau gwaith yn elfen hanfodol ar ddarpariaeth yn y proffesiwn a amharwyd yn sylweddol gan bandemig covid yn ystod haf 2020.\u00a0 Gwnaeth canslo profiad yn y gweithle greu pryder i lawer o fyfyrwyr a staff ynghylch gallu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd. Roedd hyn yn wir am fyfyrwyr a oedd yn astudio ar gyfer graddau cadwraeth Caerdydd (Archeoleg a Chrefydd yr Ysgol Hanes). Mae hyfforddiant ar gyfer gyrfa yn y sector treftadaeth fel arfer yn cynnwys treulio&#8217;r hafau yn cael profiad mewn treftadaeth ddiwylliannol hanesyddol gan ddatblygu gallu technegol, sgiliau a rhwydweithiau trawsbynciol. Gyda&#8217;r wlad mewn cyfnod clo a&#8217;n sector ar ffyrlo, roedd yn amlwg ar unwaith na allai lleoliadau traddodiadol fynd yn eu blaenau.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dychwelyd i\u2019r Pethau Sylfaenol<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd yn amlwg y byddai angen dull amgen gyda gwaith ymarferol yn amhosibl a gyda mwyafrif y sector ar ffyrlo yn cyfyngu&#8217;r potensial ar gyfer cyfleoedd ymchwil, cofnodion ac adolygu polis\u00efau y byddai&#8217;n rhaid i ni feddwl yn wahanol. Dychwelodd Jane (Athro) a Charlotte (cyn-fyfyriwr) i&#8217;r pethau sylfaenol. Beth oedd nodau&#8217;r cynllun lleoliadau presennol, sut roeddent yn cyd-fynd \u00e2&#8217;r llenyddiaeth a pha fodelau eraill sydd ar gael mewn byd a oedd yn gweithio o bell allai fodloni rhai, os nad pob un, o&#8217;r uchelgeisiau hynny. Nid yw&#8217;r aliniad (isod) rhwng y rhaglen lleoliadau cyn covid a&#8217;r llenyddiaeth yn syndod ond nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu disgwyliadau myfyrwyr. Yn aml, profiad ymarferol yw&#8217;r elfen sydd fwyaf gwerthfawr a&#8217;r unig elfen na allai darpariaeth ddigidol gystadlu \u00e2 hi.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-table\">\r\n<table>\r\n<tbody>\r\n<tr>\r\n<td><strong>Cyngor Prifysgol Caerdydd<\/strong><\/td>\r\n<td><strong>Cyngor o&#8217;r llenyddiaeth<\/strong><\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Gweithio ar y pwnc i ffwrdd o straen bywyd myfyrwyr gan adeiladu sgiliau technegol. \u00a0<\/td>\r\n<td>Gwella eu sgiliau a&#8217;u gwybodaeth gan gynnwys sgiliau a chymwyseddau technegol penodol.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Profi cyd-destunau gwahanol \u00a0<\/td>\r\n<td>Cynyddu eu <strong>dealltwriaeth a&#8217;u hymwybyddiaeth o fyd gwaith.<\/strong><\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Profi syniadau o&#8217;u graddau mewn bywyd go iawn. \u00a0<\/td>\r\n<td>Ymarfer eu gwaith dysgu a gwerthuso eu gallu i gyflawni gwaith. \u00a0<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Cael gwell dealltwriaeth o&#8217;r sector a&#8217;r cyd-destun proffesiynol lle byddant efallai&#8217;n gweithio un dydd.<\/td>\r\n<td>Treialu&#8217;r yrfa bosibl.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Dechrau adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol ar gyfer eu gyrfa.<\/td>\r\n<td>Gwella eu cyflogadwyedd.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Magu eu hyder wrth gyflawni llawer o&#8217;r canlyniadau dysgu allweddol ar gyfer y modiwl megis deall sail foesegol eu hymarfer.<\/td>\r\n<td>Cyflawni twf deallusol o amgylch gwybodaeth am y pwnc.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Datblygu sgiliau rhyngbersonol o ran cyfathrebu a rhwydweithio.<\/td>\r\n<td>Datblygu sgiliau rhyngbersonol o ran cyfathrebu a rhwydweithio.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Cymryd cyfrifoldeb am eu gwaith.<\/td>\r\n<td><strong>Datblygu aeddfedrwydd, hunanymwybyddiaeth a&#8217;r gallu i fynegi sgiliau a chyflawniadau&#8217;n gynt.<\/strong><\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>Rheoli prosiectau cymhleth a threfnu eu hamserlen waith i fodloni terfynau amser y cytunwyd arnynt.<\/td>\r\n<td>Datblygu eu hunaniaeth eu hunain fel gweithiwr proffesiynol. \u00a0<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<tr>\r\n<td>\u00a0 \u00a0<\/td>\r\n<td>Datblygu priodoleddau personol fel hyder, rheoli amser ac addasrwydd.<\/td>\r\n<\/tr>\r\n<\/tbody>\r\n<\/table>\r\n<\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>tabl un, cyfleoedd a gynigiwyd gan leoliadau gwaith.<\/em><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Dewch o hyd i&#8217;r posibiliadau<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd Charlotte yn hyderus y byddai cyn-fyfyrwyr yn y sector treftadaeth, sydd bellach ar ffyrlo, yn awyddus i gefnogi myfyrwyr presennol gyda llawer yn cael mwy o amser i wneud hyn nag mewn blwyddyn arferol. Wrth adolygu&#8217;r hyn yr oedd ei angen a derbyn na ellid ailgreu cyfleoedd technegol ymarferol, daeth yn amlwg y gallai mathau eraill o ddatblygiad proffesiynol ddiwallu&#8217;r anghenion y mae lleoliadau wedi&#8217;u cynllunio i&#8217;w llenwi, neu eu diwallu&#8217;n rhannol.\u00a0 Dyfeisiodd Charlotte gynllun mentora gan fanteisio ar gronfa o raddedigion llwyddiannus ac ymroddedig, sydd bellach mewn swyddi technegol neu swyddi rheoli, ac roedd llawer ohonynt a oedd wedi goroesi&#8217;r wasgfa gredyd yn 2007 gan ffurfio sylfaen Mentora Cadwraeth Cyfnod Clo Prifysgol Caerdydd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Cynhaliwyd y cynllun mentora drwy gydol yr haf ac roedd yn cefnogi&#8217;r myfyrwyr a gymerodd ran i ddatblygu eu sgiliau, rhwydweithio, dealltwriaeth, ymwybyddiaeth broffesiynol a&#8217;r camau nesaf. Cafodd ei gynllunio hefyd i roi yn \u00f4l i fentoriaid gan gynnig cyfleoedd i ymarfer a datblygu eu sgiliau eu hunain ac ehangu eu rhwydweithiau i&#8217;r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, gan ddarparu cysylltiad proffesiynol yn ystod cyfnod sydd wedi&#8217;i ddatgysylltu.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Sut oedd yn gweithio?<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd y cynllun yn anffurfiol, yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfranogwyr fel gweithwyr proffesiynol ac unigolion.\u00a0 Roedd ffiniau a disgwyliadau wedi&#8217;u nodi&#8217;n glir, gyda mentoriaid a mentoreion wedi&#8217;u grymuso o&#8217;r dechrau i roi&#8217;r gorau i fentora ar unrhyw adeg.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd paru mentoriaid a mentoreion yn dda yn gam cyntaf pwysig felly casglodd Charlotte wybodaeth am sgiliau pwysig, arbenigedd a&#8217;r uchelgeisiau ar gyfer mentora gan fentoriaid a mentoreion.\u00a0 Gofynnwyd i fentoreion lunio amlinelliad a thrafod eu nodau ar gyfer mentora gyda&#8217;u mentor mewn galwad ragarweiniol. Yna, yn annibynnol lluniodd y ddwy ochr sut y byddent yn defnyddio&#8217;r tair sesiwn fentora olaf er mwyn iddynt allu elwa orau arnynt.\u00a0 Ni wnaeth pawb a fynegodd ddiddordeb mewn cymryd rhan barhau \u00e2&#8217;r sesiwn fentora, gan benderfynu cyn neu ar \u00f4l yr alwad ragarweiniol nad oedd hynny ar eu cyfer nhw. Er mwyn i&#8217;r sesiwn fentora fod yn llwyddiannus mae&#8217;n rhaid iddo gael ei arwain gan y mentorai, rhaid iddo fod yn wirfoddol, a rhaid i&#8217;r mentoreion fod yn ymrwymedig i&#8217;w ddilyn.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Beth oedd y manteision?<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Yn yr ysbryd o roi yn \u00f4l i&#8217;r proffesiwn, cadernid academaidd a deall yr hyn sy&#8217;n gweithio, roedd y broses o werthuso wedi&#8217;i hymgorffori yn y rhaglen gyda&#8217;r nod o ystyried yr effaith ar sgiliau, rhwydweithio, dealltwriaeth, ymwybyddiaeth broffesiynol a chamau nesaf y mentoreion.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Dangosodd yr adborth yn y meysydd hyn: &#8211;<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li>Cefnogwyd <strong>datblygu sgiliau<\/strong> yn effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">\u2018<em>Fe wnes i fwynhau cael cyfle i deimlo&#8217;n fwy cysylltiedig \u00e2&#8217;r myfyrwyr, a gweld lle y gallaf fod yn ddefnyddiol iddynt yn y dyfodol. Hwn oedd uchafbwynt fy nghyfnod clo!&#8217; <\/em>Mentor<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li><strong>Rhwydweithio<\/strong> a datblygu cysylltiad yw&#8217;r maes lle cafodd y rhaglen yr effaith leiaf o safbwynt y mentoreion. Mae hyn yn cyd-fynd \u00e2 thystiolaeth ehangach o&#8217;r newid i ddarpariaeth &#8216;ar-lein&#8217; ac mae&#8217;n fwlch y mae angen ei bontio mewn ffordd wahanol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">&#8216;I ddechrau, doeddwn i ddim yn si\u0175r a oeddwn am ymuno, roedd yn teimlo fel peth arall i&#8217;w gynnal drwy alwad fideo ac roeddwn i&#8217;n colli gwaith ymarferol ac roeddwn i wedi pwdu ychydig, ac yna newidiais fy ffordd o feddwl, ac roeddwn i&#8217;n ddiolchgar iawn bod pobl eraill wedi dewis rhoi eu hamser, eu hymdrech a&#8217;u gwybodaeth a&#8217;u profiad er mwyn ein helpu ac felly canolbwyntiais ar y pethau cadarnhaol o siarad \u00e2 mentor, fel gosod nodau nad oeddent yn academaidd a gwnaeth hyn fy helpu i edrych y tu hwnt i&#8217;r newidiadau i&#8217;r asesiadau a&#8217;r traethawd hir.&#8217; Mentoreion<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li>Cefnogwyd datblygu<strong> dealltwriaeth<\/strong> bellach yn effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">&#8216;<em>Rwy&#8217;n credu bod hon yn rhaglen lwyddiannus iawn i mi a fy mentorai a byddwn wrth fy modd yn ei gweld yn parhau&#8217;<\/em>. Mentor<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li>Cefnogwyd <strong>ymwybyddiaeth broffesiynol<\/strong> yn effeithiol gyda chyfranogwyr yn adrodd effeithiau cadarnhaol sylweddol yn gyson gan gynnwys mewn meysydd gallu uwch fel hunanymwybyddiaeth.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">&#8216;<em>Mae&#8217;n gynllun gwych, mae cael cynllun mentor un i un rhithwir wedi fy helpu i fagu hyder i ymgeisio am rolau swydd, ac efallai na fyddaf wedi gwneud cais am rai ohonynt hebddo<\/em>.&#8217; Mentoreion<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<ul class=\"wp-block-list\">\r\n<li>Nodwyd bod y <strong>camau nesaf<\/strong> yn cael eu cefnogi&#8217;n effeithiol gan y rhaglen gyda mentoreion a mentoriaid yn gyson yn adrodd am effeithiau cadarnhaol sylweddol. Amlygodd ymatebion testun rhydd hyn fel maes i&#8217;w ddatblygu ymhellach a chredwn y gellir mynd i&#8217;r afael ag ef drwy sesiynau briffio mwy strwythuredig ar r\u00f4l arweiniol y mentorai.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">&#8216;<em>Hoffwn gael cynllun &#8220;camau nesaf&#8221; mwy strwythuredig neu ryw gyswllt at ymgysylltiad pellach drwy&#8217;r berthynas mentora, ond rwy&#8217;n credu yn fy achos i roedd hynny&#8217;n teimlo&#8217;n amherthnasol o gymharu \u00e2&#8217;r angen mwy brys o ganolbwyntio ar lunio traethawd hir ar gyfer yr MSc&#8217;\u00a0 <\/em>Mentorai<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Gwelwyd manteision y tu hwnt i&#8217;r mesurau craidd gyda mentoreion yn gwerthfawrogi cefnogaeth academaidd a bugeiliol, gan gynnwys yr olwg o&#8217;r tu mewn ar y newid i gyflogaeth. Roedd y manteision i fentoriaid hefyd yn sylweddol, gan gynnwys cysylltu \u00e2&#8217;r gymuned, dod i gysylltiad ag egni a brwdfrydedd gweithiwr proffesiynol sy&#8217;n dod i&#8217;r amlwg a&#8217;r boddhad sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 chefnogi eraill i ddatblygu a magu hyder.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwersi a ddysgwyd a&#8217;r camau nesaf<\/strong><\/h2>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Roedd mentora yn gallu darparu cefnogaeth mewn cyfnod roeddem i gyd yn teimlo&#8217;n ynysig ac yn ansicr. Gall lenwi rhai o&#8217;r bylchau i&#8217;r rheini mewn hyfforddiant y mae&#8217;r cyfnodau clo a dysgu o bell yn eu creu a gall roi&#8217;r un faint yn \u00f4l i fentoriaid.\u00a0 Serch hynny, nododd myfyrwyr nad oedd yn disodli profiad ymarferol er ei fod yn ychwanegu at eu profiadau fel myfyrwyr.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Oherwydd bod gwerth ychwanegol clir y cynlluniau, buom yn gweithio gydag ICON, ein corff proffesiynol, i gefnogi a datblygu cynllun ledled y DU ar gyfer mentora myfyrwyr a ariennir gan y corff proffesiynol drwy gyllid torfol (<a href=\"https:\/\/www.icon.org.uk\/resource\/student-mentorship-membership-grant.html\">https:\/\/www.icon.org.uk\/resource\/student-mentorship-membership-grant.html<\/a> ) . Mae bellach yn cael ei gyflwyno&#8217;n genedlaethol.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-medium-font-size wp-block-paragraph\">Fel ysgol a fydd yn parhau i ddarparu lleoliadau mewn cadwraeth byddwn yn gweithio&#8217;n wahanol gyda&#8217;n myfyrwyr. Mae&#8217;n amlwg o ddiffyg ymwybyddiaeth gychwynnol y myfyriwr o ddibenion ehangach lleoliadau a&#8217;r budd amlwg a ddeilliodd o fentora bod angen i&#8217;n mesurau llwyddiant a chyfathrebu ar gyfer y math hwn o ddarpariaeth nodi&#8217;r manteision hyn yn fwy penodol. Mae angen i&#8217;n haddysgeg ysgogi gallu technegol wrth sicrhau ymgysylltiad \u00e2 datblygiad personol ehangach.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyfeiriadau<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Inceoglu Ilke, Eva Selenko, Almuth McDowall, Svenja Schlachter, &#8216;(How) Do work placements work? Scrutinizing the quantitative evidence for a theory-driven future research agenda&#8217;, Journal of Vocational Behavior, Cyfrol 110, Rhan B, 2019, Tudalennau 317-337,<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB), &#8216;What are the benefits of a quality placement?&#8217; <a href=\"https:\/\/www.ncub.co.uk\/placements-report\/the-benefits-of-a-high-quality-placement.html\">https:\/\/www.ncub.co.uk\/placements-report\/the-benefits-of-a-high-quality-placement.html<\/a><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Little, Brenda a Lee Harvey &#8216;LEARNING THROUGH WORK PLACEMENTS AND BEYOND&#8217; Awst, 2006 &#8216;A report for HECSU and the Higher Education Academy\u2019s Work Placements Organisation Forum&#8217; <a href=\"https:\/\/hecsu.ac.uk\/assets\/assets\/documents\/Learning_through_work_placements_and_beyond.pdf\">https:\/\/hecsu.ac.uk\/assets\/assets\/documents\/Learning_through_work_placements_and_beyond.pdf<\/a><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ffigur 1<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"381\" height=\"285\" data-attachment-id=\"3484\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/beth-syn-digwydd-pan-na-ellir-cynnal-digwyddiad\/image-1-7\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1.png\" data-orig-size=\"381,285\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"image-1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1.png\" class=\"wp-image-3484\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1.png\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1.png 381w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1-300x224.png 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/image-1-150x112.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 381px) 100vw, 381px\" \/><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Katherine List ar leoliad gwaith blaenorol ym Mharc Treftadaeth Rhondda, Mai &#8211; Mehefin 2019, mae Katherine yn gweithio yn yr oriel yn adfer paent sy&#8217;n naddu ar faddon meddygol. \u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ffig 2 Charlotte Lester\u00a0 Cynfyfyriwr a chydlynydd prosiect<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"412\" height=\"605\" data-attachment-id=\"3478\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/beth-syn-digwydd-pan-na-ellir-cynnal-digwyddiad\/picture2-1\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1.jpg\" data-orig-size=\"412,605\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"Picture2-1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1.jpg\" class=\"wp-image-3478\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1.jpg 412w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1-204x300.jpg 204w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture2-1-102x150.jpg 102w\" sizes=\"auto, (max-width: 412px) 100vw, 412px\" \/><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ffig 3<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Jane Henderson yn addysgu cadwraeth<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"654\" data-attachment-id=\"3479\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/cy\/beth-syn-digwydd-pan-na-ellir-cynnal-digwyddiad\/picture3-1\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1.jpg\" data-orig-size=\"1379,881\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"Picture3-1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-1024x654.jpg\" class=\"wp-image-3479\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-1024x654.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-1024x654.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-300x192.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-150x96.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1-768x491.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1.jpg 1379w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflwyno am 12:15pm ddydd Gwener 2 Gorffennaf yn ystod Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2021. <a href=\"https:\/\/www.eventbrite.com\/e\/146969260013\">Cofrestrwch ar gyfer y gynhadledd<\/a><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"has-normal-font-size wp-block-paragraph\">Gan Charlotte Lester Jane Henderson a Katherine List<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Y Tarfu Roedd lleoliadau gwaith yn elfen hanfodol ar ddarpariaeth yn y proffesiwn a amharwyd yn sylweddol gan bandemig covid yn ystod haf 2020.\u00a0 Gwnaeth canslo profiad yn y gweithle [&hellip;]","protected":false},"author":1799,"featured_media":3479,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[813],"tags":[],"custom_author":[],"class_list":["post-3477","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"lang":"cy","translations":{"cy":3477,"en":3473},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-U5","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2021\/06\/Picture3-1.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3477","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3477"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3477\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3923,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3477\/revisions\/3923"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3479"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3477"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3477"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3477"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=3477"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}