{"id":3032,"date":"2020-10-21T15:40:14","date_gmt":"2020-10-21T15:40:14","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/?p=3032"},"modified":"2022-04-13T15:46:25","modified_gmt":"2022-04-13T15:46:25","slug":"sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra\/","title":{"rendered":"Sarah Lethbridge: Fy mhrofiad gyda Blackboard Collaborate Ultra"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"600\" data-attachment-id=\"3033\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra\/blue-desk-cropped-1\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1.jpg\" data-orig-size=\"1200,600\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"Blue-desk-cropped-1\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1-1024x512.jpg\" src=\"https:\/\/i0.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1.jpg?fit=1024%2C512&amp;ssl=1\" alt=\"\" class=\"wp-image-3033\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1.jpg 1200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1-768x384.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1-1024x512.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ah, Blackboard\nCollaborate Ultra&#8230; gwyddwn ei fod yn aml yn cael ei feirniadu.&nbsp; Dechreuodd rhywun ei feirniadu hyd yn oed pan\noeddwn i yng nghanol cyflwyno gweminar yn dweud wrth bawb faint roeddwn i&#8217;n\nhoff ohono. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuais ei dreialu am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, diolch i fy ffrind Karl Luke (sydd yn rhywfaint o gwrw dysgu ar-lein) oherwydd gofynnais iddo beth oedd y pecyn gorau i&#8217;w ddefnyddio er mwyn dechrau gwneud gweminarau. Roeddwn i newydd gael fy mhenodi fel Cyfarwyddwr MBA Gweithredwr yr Ysgol Busnes ac roeddwn am gael y cyfle i hysbysebu sesiynau ar-lein yn rheolaidd er mwyn helpu i hyrwyddo&#8217;r rhaglen.\u00a0 Roeddwn i&#8217;n meddwl y byddai&#8217;n rhaid i mi dalu am ryw fath o feddalwedd gweminar drwy Addysg Weithredol ond dychmygwch fy syndod pan ddywedodd wrthyf fod pecyn integredig eisoes mewn Dysgu Canolog y gallwn i ei ddefnyddio!? Pecyn y gallwn i rannu ei ddolen ag unrhyw un allanol a chynnal sesiwn gweminar yn rhithwir?! Anhygoel! <br><br>Rwy&#8217;n hoffi chwarae gyda phecynnau meddalwedd newydd ac felly es i ati i fynd i&#8217;r afael \u00e2 sut roedd yn gweithio. Yn ffodus, gellir dod o hyd i&#8217;r t\u00eem Addysg Weithredol (wel, yn y gorffennol) mewn un ystafell yng Nghanolfan Addysgu \u00d4l-raddedigion ac felly roeddwn i&#8217;n gallu cynnal nifer o sesiynau treialu gyda Hannah, &#8216;Beth wyt ti&#8217;n gallu ei weld?&#8217;, &#8216;Wyt ti&#8217;n gallu gweld hwna?&#8217; gan weiddi dros raniad y ddesg (heb wybod y byddai hynny&#8217;n torri rheolau COVID yn y dyfodol).\u00a0 Cyrhaeddodd y diwrnod mawr pan oeddwn am gynnal fy ngweminar cyntaf er mwyn hyrwyddo ein rhaglen ardderchog. Roedd ar gael i&#8217;r we fyd-eang, ac i&#8217;r gynulleidfa enfawr o &#8230; Hannah. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Serch hynny,\ngwnes i barhau, gan gynnig gweminarau&#8217;n achlysurol i hyrwyddo&#8217;r rhaglen yn y\ngobaith y byddai rhywun yn ymuno un diwrnod. Gellir dweud yr un peth am\nffrydiau byw Addysg Weithredol o&#8217;n sesiynau Hysbysu Dros Frecwast. Hefyd,\ndangosodd Karl sut i ddefnyddio Panopto i ffrydio sesiynau&#8217;n fyw, ac roeddwn i\nmor falch o allu gwneud hynny, yn enwedig gan ein bod wedi cael rhywfaint o\nfeirniadaeth yn nodi nad oedd amseru&#8217;r sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn\ngynhwysol, ac na allai unrhyw un a oedd \u00e2 chyfrifoldebau mynd \u00e2 phlant i&#8217;r\nysgol fod yn bresennol.&nbsp; Byddai ffrydio\nbyw a&#8217;i recordio&#8217;n ddilynol yn golygu y gallai unrhyw un gymryd rhan yn y\nsesiynau, beth bynnag yw eu cyfrifoldebau, heblaw am y crwst danaidd (sydd\nychydig yn rhy oer). <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, pan ddaeth y pandemig byd-eang, gwnaeth y cyfarfyddiadau hyn fy mharatoi&#8217;n dda i ddelio \u00e2&#8217;r her sylweddol roeddem yn ei wynebu, sef symud ein holl waith Addysg Weithredol ar-lein. Diolch i gydweithwyr a&#8217;r Rhaglen Addysg Ddigidol rwyf wedi dysgu cymaint am y newid mewn addysgeg sydd ei angen i gyflawni gwaith dysgu ardderchog ar-lein &#8211; llwybrau dysgu anghydamserol, byr, clir ac ati. ond mae ein myfyrwyr gweithredol yn awyddus iawn o hyd i gael y cyfle i drafod eu gwaith dysgu gyda&#8217;u darlithydd &#8216;yn fyw ar-lein&#8217;, maen nhw am glywed o&#8217;i gilydd, maen nhw am ryngweithio. Felly, roeddwn i&#8217;n gallu dangos i rai o arweinwyr ein modiwlau MBA Gweithredol beth roeddwn i&#8217;n ei wybod am Blackboard Collaborate. Y prif beth i mi y mae angen i chi ddod i arfer \u00e2&#8217;i wneud yw clicio i mewn ac allan o&#8217;r &#8216;botwm byrgyr&#8217; (tair llinell, un ar ben ei gilydd) a&#8217;r &#8216;botwm saethau&#8217;, ar ochr chwith a dde y sgr\u00een, yn hytrach na dewislen rydym yn ei defnyddio fel arfer.\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"592\" height=\"353\" data-attachment-id=\"3042\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra\/image-2-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-2.png\" data-orig-size=\"592,353\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"image-2\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-2.png\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3042\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-2.png 592w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-2-300x179.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 592px) 100vw, 592px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, y\nbroblem oedd nad oedd fy mhrofiad o&#8217;r pecyn hyd yn hyn erioed wedi cael ei\nbrofi gan gynulleidfa fawr o&#8217;r blaen. Yn gyflym iawn gwnaethom ddysgu am un o&#8217;i\nbrif anfanteision, mae&#8217;n anwadal yn dibynnu ar y porwr gwe a ddefnyddir gan yr\nathro a&#8217;r cyfranogwyr.&nbsp; Os ydych yn\nbwriadu defnyddio Blackboard Collaborate ac heb weithio hyn allan eto, mae\nangen i chi, ac yn gyflym! Y porwr gorau i&#8217;w ddefnyddio yw Chrome, neu Edge.\nMae&#8217;n CAS\u00c1U Safari ac er fy mod i wedi ei ddefnyddio&#8217;n iawn gyda Firefox gall\nhynny hefyd gyfyngu ar faint y gallwch ei weld.&nbsp;\n<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhywbeth allweddol arall i mi gyda Blackboard, ac yn sicr gyda Zoom, yw bod angen i chi ddechrau meddwl fel golygydd Teledu mewn ystafell newyddion, neu hyd yn oed DJ Radio mewn bwth recordio sydd ag arwydd coch &#8216;YN FYW&#8217; mawr uwchben y drws. Tra eich bod jyglo meddwl am yr hyn yr hoffech ei ddweud, sut mae eich myfyrwyr yn teimlo, mae hefyd yn rhaid i chi ddechrau meddwl &#8216;Beth ydw i&#8217;n ei ddarlledu ar hyn o bryd? Beth y maen nhw&#8217;n gallu ei weld?&#8217;. Felly mae angen i chi gael i mewn i&#8217;r rhythm o feddwl &#8216;Rwyf am ddangos y wefan hon iddyn nhw nawr&#8217; ac yna gwasgu botymau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu eu gweld hefyd.\u00a0 Mae&#8217;r broblem yn dod pan rydych yn edrych ar eich sgr\u00een (neu sgriniau gobeithio \u2013 mae nifer o fonitorau yn gwneud y gwaith o gyflwyno sesiynau ar-lein byw gymaint haws) efallai eich bod yn <strong><em>meddwl<\/em><\/strong> eu bod yn gallu gweld yr hyn rydych chi&#8217;n ei weld ond mae angen i chi ofyn i chi eich hun, a ydw i wedi gwasgu&#8217;r botwm &#8216;go live&#8217;\/&#8217;share&#8217;? Mae&#8217;n anodd iawn cofio i gyfeirio eich hun, yn enwedig yng nghanol perfformiad.\u00a0 Felly ydy, mae&#8217;r tweet hwn yn berthnasol&#8230; <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"587\" height=\"152\" data-attachment-id=\"3043\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra\/image-3-2\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-3.png\" data-orig-size=\"587,152\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"image-3\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-3.png\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-3.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3043\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-3.png 587w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/image-3-300x78.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 587px) 100vw, 587px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar y cyfan,\nrwy&#8217;n mwynhau cyflwyno gwaith ar-lein. Y tric i mi yw ceisio ymlacio cymaint \u00e2\nphosibl, i beidio \u00e2 gadael i&#8217;r problemau technegol ANOCHEL (i fod yn onest, pan\nmae rhywbeth yn mynd o&#8217;i le mae&#8217;n llwyddo i gael sylw pawb! &#8220;a ni n\u00f4l yn\nyr ystafell!&#8221;) ac i ddefnyddio&#8217;r cyfle i ddod i adnabod eich myfyrwyr, i\nddangos iddynt pwy ydych chi, beth rydych wedi&#8217;i ddysgu a beth sy&#8217;n bwysig i\nchi. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Oes, mae penderfyniadau sydd angen eu gwneud ynghylch pa becynnau i&#8217;w dewis (rwyf wedi llunio tabl bach i rannu fy safbwyntiau \u00e2 chi) &#8211; rwyf yn hoff iawn o Blackboard Collaborate, ond rwyf hefyd yn hoff iawn o Zoom. Rwy&#8217;n gallu gweld potensial Teams ond nid ydw i wedi cymryd ato eto ar gyfer addysgu. Rwy&#8217;n siwr y byddaf i, ryw&#8217;n gwybod bod llawer ohonoch chi wedi cymryd ato. Rwyf wir yn credu po fwyaf y pecynnau rydych yn eu defnyddio, mwyaf hyderus byddwch chi&#8217;n defnyddio <strong>pob un ohonynt<\/strong> a&#8217;r hyn sy&#8217;n wych yw bod pob un ohonynt yn parhau i ddiweddaru&#8217;r hyn maent yn eu cynnig bob amser, i gystadlu mewn i ras i&#8217;r pecyn rydych chi&#8217;n ei ddewis, felly bydd anfantais pecyn un wythnos yn diflannu \u00e2 diweddariad yr wythnos nesaf.\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" data-attachment-id=\"3045\" data-permalink=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/sarah-lethbridge-fy-mhrofiad-gyda-blackboard-collaborate-ultra\/bbcu1-jpeg\/\" data-orig-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg.jpg\" data-orig-size=\"1800,800\" data-comments-opened=\"1\" data-image-meta=\"{&quot;aperture&quot;:&quot;0&quot;,&quot;credit&quot;:&quot;&quot;,&quot;camera&quot;:&quot;&quot;,&quot;caption&quot;:&quot;&quot;,&quot;created_timestamp&quot;:&quot;0&quot;,&quot;copyright&quot;:&quot;&quot;,&quot;focal_length&quot;:&quot;0&quot;,&quot;iso&quot;:&quot;0&quot;,&quot;shutter_speed&quot;:&quot;0&quot;,&quot;title&quot;:&quot;&quot;,&quot;orientation&quot;:&quot;0&quot;}\" data-image-title=\"BBCU1-jpeg\" data-image-description=\"\" data-image-caption=\"\" data-large-file=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg-1024x455.jpg\" src=\"https:\/\/i1.wp.com\/blogs.cardiff.ac.uk\/CESI\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg.jpg?fit=1024%2C455&amp;ssl=1\" alt=\"\" class=\"wp-image-3045\" width=\"681\" height=\"302\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg.jpg 1800w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg-300x133.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg-768x341.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/BBCU1-jpeg-1024x455.jpg 1024w\" sizes=\"auto, (max-width: 681px) 100vw, 681px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, cofion\ngorau&#8230; os oeddech chi fel fi yn yr Ysgol, bob amser yn cael y rolau\n&#8220;menyw nwdls rhif 2&#8221;, &#8220;person yn y dorf&#8221;, &#8220;gwerthwr\ncnau castan poeth&#8221; yn sioe\u2019r Ysgol, nawr yw eich cyfle i serennu&#8217;n &#8216;fyw\nar-lein&#8217;! Pob lwc i chi! <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ysgrifennwyd gan Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Addysg Weithredol a Chysylltiadau Allanol (Ysgol Fusnes Caerdydd)<br><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ah, Blackboard Collaborate Ultra... gwyddwn ei fod yn aml yn cael ei feirniadu.&nbsp; Dechreuodd rhywun ei feirniadu hyd yn oed pan oeddwn i yng nghanol cyflwyno gweminar yn dweud wrth [&hellip;]","protected":false},"author":1799,"featured_media":3033,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_jetpack_newsletter_access":"","_jetpack_dont_email_post_to_subs":false,"_jetpack_newsletter_tier_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paywalled_content":false,"_jetpack_feature_clip_id":0,"_jetpack_memberships_contains_paid_content":false,"footnotes":"","jetpack_publicize_message":"","jetpack_publicize_feature_enabled":true,"jetpack_social_post_already_shared":true,"jetpack_social_options":{"image_generator_settings":{"template":"highway","default_image_id":0,"font":"","enabled":false},"version":2},"jetpack_post_was_ever_published":false},"categories":[371],"tags":[137,203,184,273],"custom_author":[],"class_list":["post-3032","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-digital-education","tag-blackboard-collaborate","tag-blended-learning","tag-digital","tag-digital-practice"],"lang":"en","translations":{"en":3032},"jetpack_publicize_connections":[],"jetpack_sharing_enabled":true,"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/p4KqgK-MU","meta_box":[],"jetpack_featured_media_url":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-content\/uploads\/sites\/286\/2020\/10\/Blue-desk-cropped-1.jpg","pll_sync_post":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3032","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1799"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3032"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3032\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3046,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3032\/revisions\/3046"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3033"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3032"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3032"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3032"},{"taxonomy":"custom_author","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/LTAcademy\/wp-json\/wp\/v2\/custom_author?post=3032"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}