Hyrwyddwr Myfyrwyr y Mis: Geena
4 Ebrill 2022
Llongyfarchiadau i Geena, sydd wedi ennill y wobr Hyrwyddwr y Mis ar gyfer mis Mawrth
Ers ymgymryd â’r rôl ar ôl cyfnod y Nadolig, mae Geena wedi bod yn wych. Yn wir, mae wedi ymgolli yn y rôl. Mae Geena’n ymwneud â sawl prosiect, ac mae bob amser yn cyfrannu at dasgau lle mae ganddi’r gallu i wneud hynny. Mae ei gwaith wedi bod yn hollbwysig i helpu i lywio profiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd mewn ffordd gadarnhaol. Hoffem ddiolch i Geena am ei gwaith caled, ei hymagwedd broffesiynol a’i hymatebion cyflym. Mae wedi bod yn ychwanegiad gwych i’r cynllun! Da iawn, Geena.
Ymunwch â’n tîm o hyrwyddwyr myfyrwyr cyflogedig
Cael eich talu i helpu i lunio profiad y myfyrwyr drwy dod yn hyrwyddwr myfyrwyr. Dyma ragor o wybodaeth am y cynllun a sut gallwch gymryd rhan.