Skip to main content
Coronafeirws (COVID-19): Y newyddion diweddaraf.

Tîm Academi DA

Cyfarfod y tîm – Dr Huw Williams

29 Tachwedd 2021

Beth yw eich rôl?

Mae hynny’n dibynnu ar ba ddiwrnod y gofynnwch! Yn y bôn, mae’n ymwneud â hyrwyddo ffyrdd o weithio’n ddwyieithog ar draws y Brifysgol ac felly gall hyn gynnwys unrhyw beth, o edrych ar sut mae SIMS yn gweithio a materion llety myfyrwyr, hyd at waith strategol ynghylch addysg a darpariaeth Gymraeg neu brosiectau Cyfathrebu a Recriwtio. Fel y Deon ‘agoriadol’ ar gyfer y Gymraeg roedd llawer o’r gwaith cychwynnol yn ymwneud â chysylltu â phobl a thynnu ynghyd drosolwg o’r hyn a wnawn fel sefydliad, ac yna ei fynegi fel sail i’n strategaeth Iaith Gymraeg, a basiodd y Senedd a’r Cyngor fis Rhagfyr diwethaf. Mae llawer o’n huchelgais yn ymwneud ag adeiladu ar y sylfeini sydd wedi’u rhoi ar waith dros y 10 mlynedd diwethaf gan staff ar draws y Brifysgol, cryfhau ein rhwydwaith ar draws y Brifysgol drwy’r Academi Iaith Gymraeg newydd, a galluogi pobl i wneud y gwaith y maent yn gyfrifol amdano, mewn perthynas â’r Gymraeg.

Beth oeddech yn ei wneud cyn gweithio yn y rôl hon?

Wel, rwy’n dal i gymryd rhan yn fy rôl flaenorol gan fod 0.6 o’m hamser yn aros gydag ENCAP fel Uwch Ddarlithydd mewn Athroniaeth.  Des i i’r ysgol drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sef ein partneriaid strategol mewn llawer o’r gwaith addysgol a wnawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y rôl yn wreiddiol fel darlithydd ‘cenedlaethol’ mewn athroniaeth, gyda modiwlau’n cael eu darparu ar draws Prifysgolion eraill, a llawer o hynny drwy fideogynadledda, a oedd yn teimlo’n eithaf ‘arloesol’ cyn i’r pandemig newid ein harferion gwaith! Yn fwy cyffredinol, mae’r rôl yn teimlo fel un bwysig – yn enwedig yn ei hagweddau sy’n wynebu’r cyhoedd – oherwydd mai athroniaeth yng Nghaerdydd yw’r unig ‘uned’ sy’n ymroi i Athroniaeth ar draws holl Brifysgolion Cymru, gan adlewyrchu’r ffaith bod llawer o waith i’w wneud i hyrwyddo’r pwnc yng Nghymru. Rwy’n credu’n gryf ym mhwysigrwydd athroniaeth fel pwnc o ran ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus, y mewnwelediad beirniadol y mae’n ei roi i ni, a’r eglurder y mae’n eu hyrwyddo. Mae’r rhain mor bwysig i ddemocratiaeth iach a hyfyw.

Disgrifiwch brosiect yr ydych chi wedi mwynhau gweithio arno gyda’r Academi Dysgu ac Addysgu

Mae’r cysylltiadau agos sy’n cael eu meithrin rhwng yr Academi Gymraeg a’r Academi DA eisoes wedi bod yn fuddiol iawn o ran y gefnogaeth a’r gallu y mae’n eu rhoi i’n gwaith ar y strategaeth. Yn yr un modd mae’n fuddiol i mi obeithio am yr Academi DA o ran y gwaith y maent yn ei ddatblygu. Rwyf wedi mwynhau gallu gweld Catrin fel Rheolwr Academi ac Elliw fel Swyddog Cangen y Coleg yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Academi DA ar ddarnau amrywiol o waith, yn bennaf am ei fod yn teimlo bod y gwaith ar y Gymraeg bellach yn fwy integredig a chysylltiedig â rhannau eraill o’r Brifysgol. O ran prosiect penodol, mae’r holiadur staff diweddar yn un enghraifft lle rydym wedi gallu elwa’n fawr o’r arbenigedd hwn, a hefyd gyda’r strwythur cymorth ehangach hwnnw rydym wedi gallu cymryd rhan mewn trafodaethau diddorol a ffrwythlon iawn ynghylch y cwestiynau. Rwy’n credu bod y canlyniad yn holiadur da iawn, a defnyddiol heb os.

Beth ydych yn edrych ymlaen ato a pham?

Prosiect arall sydd wedi bod ar y gweill ers talwm yw Dinesydd Caerdydd.  I bob pwrpas, modiwl ‘ymsefydlu’ byr yw hwn i’n myfyrwyr, sy’n ceisio sicrhau cyfranogiad ehangach yn ein darpariaeth a’n gweithgareddau Cymraeg drwy ddod â’n myfyrwyr Cymraeg eu hiaith at ei gilydd ar ddechrau eu hamser yn y Brifysgol.  Nid yw canran fawr o’n myfyrwyr Cymraeg eu hiaith – tua 65% mae’n debyg – yn cael y cyfle i ddilyn unrhyw astudiaeth cyfrwng Cymraeg gan fod ein darpariaeth wedi’i chyfyngu i rai meysydd pwnc penodol. O’r herwydd, rydym yn edrych ar ffyrdd o roi cyfle i’n holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith gynnal a gobeithio gwella eu sgiliau dwyieithog tra byddant yma, oherwydd fel sefydliad addysgol rydym am i’n myfyrwyr adael gyda mwy o allu yn hytrach na llai – rydym yn hyderus am gamu i’r gwahanol weithleoedd dwyieithog sy’n bodoli yng Nghaerdydd ac ar draws Cymru. Unwaith eto, mae wedi bod yn bleserus iawn bod yn yr ystafell gyda chydweithwyr sy’n ein helpu i ddyfeisio’r cynnwys, a chael y llygad arbenigol hwnnw i ddatblygu’r prosiect mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn ystyrlon ac yn ychwanegu gwerth at brofiad y myfyriwr.

Allwch chi ddweud ffaith ddiddorol amdanoch chi’ch hun?

Ha! Yn fy nyddiau iau wrth ateb y math hwn o gwestiwn, byddwn fel arfer yn cyfeirio at y ffaith, a finnau’n blentyn, i mi chwarae pêl-droed yn erbyn cyn-streiciwr Lloegr, Michael Owen, a oedd yn dipyn o ffenomenon tua adeg Cwpan y Byd 1998, ac a aeth ymlaen i chwarae dros Real Madrid.  Fodd bynnag, rwy’n dechrau teimlo bod y cyfeiriad hwnnw wedi heneiddio ychydig. Siŵr o fod, ni fydd gan yr un o’m myfyrwyr – ac eithrio cefnogwyr mwyaf brwd Lerpwl – unrhyw syniad am bwy rwy’n sôn (er bod hyn yn mynd am y rhan fwyaf o’m cyfeiriadau diwylliannol y dyddiau hyn; Rwy’n falch iawn bod ail-ddarllediadau o ‘Friends’ yn dal i chwarae a bod gen i gasgliad Disney fy merched erbyn hyn. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i mi weithio ag ef!). Ffaith ychydig yn fwy diweddar ac ‘aeddfed’ amdanaf i a fy ngwaith yw fy mod wedi ysbrydoli darnau o gelf yn ddiweddar, yn benodol fy llyfr newydd iaith Gymraeg, Ysbryd Morgan. Mae’n troi allan i’r llyfr gael cryn effaith ar Mary Lloyd Jones, artist enwog sydd hefo gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Oriel Michael Tinney (ac mae hi’n wreiddiol o’m cynefin – Ceredigion). Mae hi wedi bod yn ymateb i themâu o fy ymchwil, sy’n fath o hanes deallusol yn edrych ar draddodiad radical Cymru. Dw i’n rhyfeddu o hyd, a bod yn onest. Fel awdur, yr un peth yr ydych yn gobeithio amdano yw bod eich gwaith yn cyseinio â phobl eraill, ond mae cael ymateb o’r fath gan artist o’r fath y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn ei ddychmygu yn hyn o beth.

Cymerwch ran yn holiadur staff Yr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ar agor tan 10 Rhagfyr