Skip to main content

Uncategorized @cyUncategorized @cy

Dewch i weld ni @ Eisteddfod yr Urdd, Bae Caerdydd ar 28 Mai 2019

1 Mai 2019
Welsh is the language of this room!
Welsh is the language of this room!

Mi fydd ein tîm yno o 10 y bore hyd at 11 o’r gloch ac o 2 i 4.30 yn y pnawn, dydd Mawrth 28 Mai.

Ydych chi ar y ffordd i Eisteddfod yr Urdd wythnos nesa? Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn Bae Caerdydd rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2019.

Disgwylir dros 15,000 o blant a phobl ifanc ddod ynghyd i gystadlu mewn nifer o gystadlaethau amrywiol. Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu dros 90,000 o ymwelwyr a channoedd o stondinau bob blwyddyn. Ar Faes yr Eisteddfod byddwch yn dod o hyd i amryw o stondinau ac arddangosfeydd lliwgar, yn ogystal â gweithgareddau amrywiol, ffair, ardal chwaraeon, bandiau byw ar lwyfan berfformio a llawer iawn mwy!

Os ydych awydd bwyd neu ddishgled, gallwch ddewis rhwng Caffi Mistar Urdd, Bwyty Neuadd Henllan a’r Lolfa Goffi yn ogystal â llu o arlwywyr arbenigol sy’n cynnig bwyd a byrbrydau o Bysgod a Sglodion a Pizza, i Doesennau ac Ysgytlaeth.

Mi fyddwn ni ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o 10 y bore hyd at 11 o’r gloch ac o 2 i 4.30 yn y pnawn, dydd Mawrth 28 Mai. Byddwn yn falch iawn i weld chi, dewch i gael bach o hwyl a chlonc am yrfaoedd mewn Gofal Iechyd, yn cynnwys Ffisiotherapi! Bydd croeso i chi gwrdd â Ffiz y Ffisiotherapydd, ein masgot newydd. Bydd dwy ffisiotherapydd, Natalie a Gwyneth yn cadw cwmni iddo. Fe fydd gan Ffiz sialens i chi!

Mae tocyn mynediad i’r Maes hefyd yn caniatau mynediad i’r Pafiliwn i weld y cystadlu ar nos Fercher (dawnsio disgo/hip-hop/stryd) nos Wener (cystadlu uwchradd) a nos Sadwrn (cystadlaethau Aelwydydd) – os oes seddi gwag ar gael yn y Pafiliwn wrth reswm.

Mae mynediad am ddim i blant hyd at 4 oed, ac mae gostyngiadau ar gael ar y dydd i fyfyrwyr ac i bobl sy’n ddi-waith.

Mae’r Maes yn agored o 07:00 bob bore o ddydd Llun 27 Mai – ddydd Sadwrn 01 Mehefin, ac mae tocyn mynediad i’r Maes hefyd yn caniatáu i chi fynd mewn i’r Pafiliwn i weld y cystadlu yn ystod y dydd.

Gobeithio welwn ni chi ‘na!