Diagnosis, triniaethau a lles, Iechyd ac Iechyd Meddwl, Iechyd meddwl oedolion, Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Iechyd meddwl, anableddau dysgu a gofal cymdeithasol: gwarchod hawliau dynol yn y cyfnod argyfyngus o doriadau llym sydd ohoni

Trefnwyd y gynhadledd hon, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 24 Mehefin, ar y cyd rhwng y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl â salwch meddwl difrifol a’u gofalwyr.

Y nod oedd dod â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, llunwyr polisïau, ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cyfreithwyr ac academyddion oll ynghyd i drafod yr amgylchedd presennol ar gyfer pobl sy’n ceisio cael cymorth gyda gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl.

Mae’r gyfraith yng Nghymru’n gwyro’n raddol oddi wrth y gyfraith yn Lloegr, ac mae galw cynyddol am gyfleoedd i rannu gwybodaeth a safbwyntiau ynghylch yr hawl i dderbyn cymorth a sut gellir arddel yr hawl honno. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi trawsnewid cyfraith a pholisi.

Sonnir yma am rai o’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y digwyddiad. Drannoeth i ganlyniad refferendwm yr UE oedd hi, felly roedd yr awyrgylch wrth i ni ddechrau braidd yn dawedog. Serch hynny, waeth beth a ddaw yn y dyfodol, bydd egwyddorion sylfaenol rhyngwladol confensiynau ar hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig ac Ewrop wrth wraidd y gyfraith yng Nghymru o hyd.

Cadeiriwyd y gynhadledd gan Richard Jones, Athro er Anrhydedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac awdur gweithiau ymarferol uchel eu hawdurdod, Llawlyfr y Ddeddf Iechyd Meddwl a Llawlyfr y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Dechreuodd y digwyddiad drwy bwysleisio’r anawsterau sy’n wynebu gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd o ran cael gafael ar y gyfraith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan nad ydyw wedi’i chyhoeddi yn ei fformat cyfredol, dim ond ar gronfeydd data cyfreithiol drud. Croesawodd y cyfleoedd y byddai’r gynhadledd hon yn eu cynnig i ystyried yr hawl i gael gwasanaethau.

Roedd y sesiwn gyntaf am y gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Mae’r pwnc hwn wedi cael cryn sylw cyhoeddus yn yr wythnosau diwethaf. Er enghraifft, daeth i’r amlwg yn yr adolygiad ymchwil ‘Cyfleoedd Wedi Eu Colli’ gan y Ganolfan Iechyd Meddwl fod plant yn aros deng mlynedd ar gyfartaledd rhwng dechrau cael anawsterau a chael triniaeth, ac na roddwyd cymorth o gwbl i dri chwarter y rhieni â’i geisiodd.

Yn gynharach eleni, dywedodd Pwyllgor Seneddol yn Lloegr fod plant o dan ofal yn cael eu trin yn arbennig o wael gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), er gwaethaf y cyfraddau uchel o anhwylder meddyliol yn y grŵp hwnnw.

Yng Nghymru, mae’r problemau hyn yn hysbys ac maent wedi arwain at sefydlu rhaglen ‘Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’ (T4CYP), rhaglen gwella gwasanaeth aml-asiantaeth sy’n gweithio ar ffyrdd o ail-lunio, ailfodelu ac ailffocysu gwasanaethau iechyd meddwl ac emosiynol a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc.

Roedd y siaradwyr a gymerodd ran yn y sesiwn yn cynnwys yr ymgyrchydd iechyd meddwl, Mair Elliott; Jane Williams o Brifysgol Abertawe; a Camilla Parker a Julie Doughty o Brifysgol Caerdydd. Mae Mair yn ymddiriedolwr ar gyfer Hafal ac yn gyd-awdur yr adroddiad Gwneud Synnwyr, sef ymateb gan bobl ifanc i Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc. Mae wedi bod yn rhoi tystiolaeth ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers 2012 yn nodi beth sydd angen ei wella yn y gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc.

Tynnodd sylw at y gwariant cyfrannol isel ar y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, er mai yn ystod eu plentyndod mae problemau llawer o bobl yn dechrau, a’r diffyg data ar p’un ai yw byrddau iechyd lleol yn gwneud beth sy’n ofynnol ohonynt. Mae’r adroddiad Gwneud Synnwyr yn nodi mai gwraidd y broblem yw bod unigolion wedi cael eu cyfeirio fwy nag unwaith at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc rhwng 2010 a 2014, er nad y gwasanaethau arbenigol hynny sy’n addas i’r plant bob tro. Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • ehangu/creu cymorth o ansawdd uchel a ddarperir gan weithwyr iechyd meddwl amhroffesiynol
  • peidio â rhoi gormod o feddyginiaeth wrth i blant dyfu
  • ymgorffori deallusrwydd emosiynol a dulliau ymdopi iach yng nghwricwlwm yr ysgolion
  • cyflwyno amserlen bendant ar gyfer cyfeirio ac adolygu arferion o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
  • aildrefnu’r cyfnod pontio i wasanaethau oedolion, er mwyn osgoi newid eithriadol mewn gwasanaeth i blant 18 oed
  • cefnogi gofalwyr
  • gwrando ar safbwyntiau pobl ifanc

Eglurodd Jane Williams wedyn sut yr oedd Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol wedi cyfrannu at adroddiad Gwneud Synnwyr drwy gysoni ei ganfyddiadau a’i gasgliadau â chyfraith hawliau dynol. Cyflwynodd Julie Doughty nodyn hysbysu am gymorth i blant yng Nghymru sydd o dan ofal, neu sydd wedi bod o dan ofal. Cafwyd cipolwg gan Camilla Parker ar y sefyllfa yn Lloegr, lle mae arian newydd yn cael ei fuddsoddi mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gan y Llywodraeth, er bod prinder difrifol o adnoddau o hyd.

Roedd y sgwrs gyda’r gynulleidfa’n cynnwys trafodaeth am y cyfyng-gyngor a’r tensiynau rhwng ceisio cadw plentyn yn agos at y cartref, ond heb fod mewn ward oedolion. Rhoddodd Sian Richards, cynrychiolydd sy’n arwain Gyda’n Gilydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ddiweddariad defnyddiol ar gynnydd y mudiad.

Bu Alison Tarrant, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth sydd â diddordeb arbennig mewn byw’n annibynnol, yn cyflwyno modd o orfodi hawliau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Disgrifiodd y Ddeddf fel un ‘hynod o uchelgeisiol’ wrth iddi osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hyrwyddo lles pobl sydd angen cymorth (yn oedolion neu’n blant) a’u gofalwyr. Tynnodd sylw arbennig at y prawf cymhwysedd pedwar-cam sydd wedi’i gyflwyno gan y Ddeddf. Nid yw’n glir o hyd sut y bydd hyn yn gweithio wrth asesu anghenion unigol.

Bu Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal ac Andrea Gray, Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl gyda Llywodraeth Cymru, yn trafod goblygiadau Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cyflwynodd y Mesur yr hawl i bob defnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl gael cynllun gofal a thriniaeth unigryw ac ychwanegodd at eu hawliau i eiriolaeth. Yn ôl ymchwil gan Hafal ac adolygiad gan y Llywodraeth, mae’r Mesur wedi dangos gwelliant, ond mae’n anodd cael cysondeb. Yn ystod trafodaeth gyda’r gynulleidfa, amlygwyd y problemau ymarferol sy’n codi o ganlyniad i oedi a’r ffaith fod gofal sylfaenol ac eilaidd mewn adrannau ar wahân.

Roedd y cyfraniad olaf gan yr Athro Phil Fennell am y fframwaith cyfreithiol cymhleth o amddifadu diogelu rhyddid (DoLS). Mae gweithdrefnau ffurfiol helaeth bellach yn ofynnol i unrhyw un sy’n byw mewn llety â chymorth, lle maent o dan oruchwyliaeth barhaus ac nad ydynt yn rhydd i adael. Yn dilyn dyfarniad y llynedd gan y Goruchaf Lys, rhaid i drefniant o’r fath i amddifadu rhyddid unigolyn, gael ei gymeradwyo gan y Llys Gwarchod er mwyn iddo fod yn gyfreithlon. Mae diwygiadau’r gyfraith ar waith mewn adolygiad gan Gomisiwn y gyfraith.

Yn y cyfamser, cyrhaeddodd y baich anghynaliadwy ar gyrff cyhoeddus yn ddiweddar ei benllanw wrth i’r barnwr sy’n gyfrifol am y Llys Gwarchod alw’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i egluro pwy sy’n gyfrifol.

Er nad oedd neb a oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn meddwl bod yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnig gwasanaethau amserol ac effeithiol ar gyfer oedolion a phlant yn yr hinsawdd economaidd bresennol am gilio, roedd digonedd o frwdfrydedd ac ymrwymiad yn y sgyrsiau am wella hygyrchedd y gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn.

(Ôl-sgript: Ychydig ddiwrnodau ar ôl y gynhadledd, cyhoeddwyd Côd Ymarfer newydd Deddf Iechyd Meddwl, a chyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru adroddiad ar les plant mewn gofal preswyl.)

Dilynwch ni ar Twitter: @CHSCLaw

Julie Doughty, Darlithydd yn y Gyfraith, a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Cyfraith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae’n cael nawdd gan NISCHR (Llywodraeth Cymru) a Sefydliad Nuffield.

 

 

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *