Iechyd ac Iechyd Meddwl, Iechyd meddwl oedolion, Iechyd meddwl plant a'r glasoed

Iechyd meddwl: Mewn undeb y mae nerth

Dyw iechyd meddwl byth ymhell o’r penawdau y dyddiau hyn, a dyna sut dylai fod. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef rhyw fath o salwch meddwl mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Mae salwch meddwl yn effeithio ar bobl ar draws yr ystod oedran, o blant i’r henoed, ac mae baich hynny ar unigolion a’r gymdeithas yn aruthrol. Cydnabyddir yn eang bod arnom angen mwy o fuddsoddi yn y ddarpariaeth gofal, a gwaith ymchwil i achosion ac atal salwch meddwl ac i ddatblygu dulliau triniaeth newydd. Mae’n amlwg hefyd bod y buddsoddiad presennol yn bitw o ystyried maint y broblem a’r beichiau a ddaw yn sgîl salwch meddwl. Mae maint yr her yn amlwg o adroddiadau’r Comisiwn Sgitsoffrenia yn 2012 a’r Tasglu Iechyd Meddwl i’r GIG yn Lloegr yn gynharach eleni.

O ystyried hyn oll, roeddwn wrth fy modd pan benderfynodd Prifysgol Caerdydd gychwyn blog yn benodol ar gyfer trafodaeth adeiladol ynghylch materion cysylltiedig â iechyd a salwch meddwl. Mae angen inni feddwl o’r newydd am ofal a thriniaeth, achosion ac ataliaeth. Mae angen hefyd i ni glywed gan ystod eang o bobl, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol uniongyrchol neu anuniongyrchol o salwch meddwl (bron pob un ohonom), gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac academyddion.

Seiciatrydd academaidd wyf fi, ac rwyf wedi treulio fy mywyd proffesiynol yn gofalu am gleifion sydd â salwch meddwl difrifol fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, ac yn ymchwilio i achosion anhwylderau seiciatrig a dementia. Hefyd, fel y mwyafrif ohonoch, rwyf wedi dod ar draws salwch meddwl a dementia yn fy mywyd personol. Felly, pan ofynnwyd imi ysgrifennu’r postiad cyntaf ar gyfer y blog newydd hwn a gosod y cyd-destun, yr oeddwn yn falch iawn o wneud hynny.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod y gall salwch meddwl fod yn faes dadleuol. Mae’r hanesion yn y cyfryngau yn aml yn rhoi’r argraff bod anghytuno sylfaenol ar led ynghylch a yw salwch meddwl yn anhwylder yn yr ymennydd neu’r cof, yn cael ei achosi gan natur neu fagwraeth, ac a ddylid ei drin â chyffuriau neu ddulliau seicolegol. Mae pegynnu fel hyn yn creu erthyglau trawiadol, ond rwy’n mawr obeithio y gallwn symud i ffwrdd oddi wrthynt yn y blog newydd hwn. Mae dau reswm am hyn:

Yn gyntaf, maent yn hollol gamarweiniol. Maent yn rhagdybio, mewn modd annhebygol, bod y cof a’r ymennydd yn endidau annibynnol ar wahân yn hytrach nag agweddau gwahanol ar yr un peth. Maent hefyd yn tynnu’n groes i gorff mawr o dystiolaeth sy’n dangos pwysigrwydd genynnau a newid yn yr ymennydd wrth gyfrannu at anhwylderau iechyd meddwl a thystiolaeth yr un mor gymhellol bod adfyd seicolegol a chymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl. Hefyd ceir tystiolaeth gref bod cyffuriau, therapïau seicolegol ac ymyriadau cymdeithasol yn gallu bod yn effeithiol ac yn aml eu bod yn gweithio’n well gyda’i gilydd nag ar wahân. Er nad yw hynny o reidrwydd yn dod i’r amlwg o’r farn eithafol a fynegir yn aml yn y cyfryngau torfol, mae’r mwyafrif o weithwyr iechyd meddwl, ymchwilwyr a’r rhai sydd â phrofiad personol o salwch meddwl yn cydnabod bod anhwylderau iechyd meddwl yn adlewyrchu rhyngweithio cymhleth o ran ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol, a bod cydbwysedd cymharol y rhain yn amrywio yn achos gwahanol bobl. Mae darparu triniaeth yn golygu darganfod y cyfuniad delfrydol o ofal cymdeithasol, therapi seicolegol a chyffuriau ar gyfer pob unigolyn, yn ogystal â rheoli unrhyw salwch corfforol sy’n cyd-ddigwydd, ac fe’i cyflwynir gan dîm amlddisgyblaeth o nyrsys, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a meddygon (yn seiciatryddion a meddygon teulu).

Yr ail reswm yr wyf yn gobeithio y gallwn symud i ffwrdd oddi wrth y pegynnu hwn yw ei fod nid yn unig yn camliwio’r dystiolaeth a barn y mwyafrif, ond hefyd yn awgrymu’n gamarweiniol bod anghytundeb cyffredinol ymhlith gweithwyr iechyd meddwl ynghylch sut y dylid trin ac ymchwilio i salwch meddwl. Sut gallwn ni ddisgwyl i’r Llywodraeth gefnogi a thalu am wasanaethau gwell, neu i arianwyr gefnogi ymchwil y mae mawr angen amdani, neu i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl gymryd rhan mewn ymchwil, os ymddengys y proffesiynau iechyd meddwl mor rhanedig? Sut gallwn ni ddisgwyl recriwtio’r disgleiriaf a’r gorau i weithio yn y maes hwn pan ymddengys weithiau ein bod ni’n rhyfela yn erbyn ein hunain? Yn sicr, os ydym am sicrhau adnoddau ac arloesedd y mae mawr angen amdanynt i faes iechyd meddwl, mae angen inni gyflwyno achos cydlynol ac unedig dros fuddsoddi mwy a delwedd gadarnhaol o’r llu o bosibiliadau cyffrous ar gyfer cynnydd, boed hynny ym maes genomeg, niwrowyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol, triniaethau seicolegol, ymyrraeth gynnar, mesurau iechyd cyhoeddus ac yn y blaen. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn ceisio gwneud hyn ond mae perygl i’n neges gael ei boddi gan seiniau ar y cyrion.

Er mai deall iechyd meddwl a datblygu gwell ddulliau o ddarparu triniaeth ac ataliaeth yw un o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, mae sail i fod yn optimistig. Mae llawer o leisiau’n galw am newid; cydnabyddir yn gyffredinol fod angen integreiddio’r agweddau biolegol, seicolegol a chymdeithasol o ran triniaeth ac ymchwil; ac mae dulliau ymchwil newydd yn golygu bod hynny’n fwyfwy hydrin. Ein gwaith ni nawr yw rhannu syniadau a gweithio gyda’n gilydd i gyflawni hynny.

Mae’r Athro Mike Owen yn cael arian gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymddiriedolaeth Wellcome, a’r UE.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *