Skip to main content

All Librariese-resources

Adolygwch ac ymlaciwch @cardiffunilib

20 April 2020

Nid oes angen i ni eich atgoffa bod yr adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto pan mae arholiadau yn prysur agosáu. Ond rhag ofn nad ydych wedi gweld yr holl ebyst hynny, rydym yma i’ch atgoffa. Mae eich llyfrgell yma i’ch cefnogi o hyd yn ystod yr amser hwn cyn eich arholiadau neu asesiadau.


Gwybodaeth allweddo 🔑

Gwybodaeth am ymweld â’n llyfrgelloedd
Dyma’r dyddiadau allweddol y mae angen i chi eu gwybod am gael mynediad at wasanaethau llyfrgell hyd at ac yn ystod cyfnod y Nadolig.
Gwasanaethau Llyfrgell sydd ar gael yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) – Mewnrwyd myfyrwyr – Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)


Dolenni i’w hadolygu ✍️

Dosbarthiadau sgiliau astudio academaidd a chymorth
Dosbarthiadau sgiliau astudio academaidd ar gyfer israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir – i ddatblygu sgiliau fel ysgrifennu traethodau, arferion da ynghylch adolygu ac arholiadau, a chymryd nodiadau.
https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/study/study-skills/academic-skills-classes-and-support

Dod o hyd i’n hadnoddau ar-lein
Dyma fideo byr i roi cyngor i chi ar sut i ddefnyddio ein hadnoddau llyfrgell ar-lein.
Dod o hyd i’n hadnoddau ar-lein – YouTube

Holi llyfrgellydd
Ein gwasanaeth sgwrsio ar-lein ar gyfer bob ymholiad yn ymwneud â’r llyfrgell.
https://remotesupport.cardiff.ac.uk/api/start_session?issue_menu=1&id=1&c2cjs=1

Adolygu effeithiol
Canllaw i’ch helpu i baratoi i adolygu ar gyfer arholiadau a gwella eich technegau adolygu.
https://xerte.cardiff.ac.uk/play_12630

Adnoddau gwybodaeth ar gyfer eich pwnc
Canllawiau adnoddau pwnc sy’n cefnogi eich astudiaethau. Defnyddiwch y dolenni i gael adnoddau a gwybodaeth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch pwnc.
https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/study/libraries/subject-support/information-resources-for-your-subject

Lean Library
Ar ôl ei lawrlwytho, bydd yr estyniad yn eich hysbysu pan fyddwch ar wefan sy’n cynnwys deunydd y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddo. Bydd un clic yn agor y safle hwnnw drwy’r llyfrgell, gan wneud yn siwr bod gennych fynediad. Os nad yw’r erthygl yr hoffech ei defnyddio yn hygyrch yn yn ôl pob golwg, bydd Lean Library yn gwirio fersiynau mynediad agored o’r erthygl yn awtomatig neu’n eich galluogi i wneud cais fel benthyciad rhyng-lyfrgell.
Lean Library – Mewnrwyd myfyrwyr – Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

LibKey Nomad
Estyniad porwr sydd ar gael ar gyfer Google Chrome, Firefox, Microsoft Edge, Brave a Vivaldi yw LibKey Nomad.
LibKey Nomad – Mewnrwyd myfyrwyr – Prifysgol Caerdydd (cardiff.ac.uk)

LibrarySearch
Catalog llyfrgell Prifysgol Caerdydd, man cychwyn pob un o’ch adnoddau ar-lein. Cofiwch Fewngofnodi gyntaf ar dop y dudalen!
https://librarysearch.cardiff.ac.uk/primo-explore/search?vid=44WHELF_CAR_VU1&lang=cy_GB

LinkedIn Learning
Adnoddau fideo sy’n canolbwyntio ar astudio ar gyfer eich arholiadau.
https://www.linkedin.com/learning-login/share?account=35392996&forceAccount=true&redirect=https%3A%2F%2Fwww.linkedin.com%2Flearning%2Fcollections%2F6889252965794902017%3Ftrk%3Dshare_collection_url%26shareId%3DTtSTLgS6QYmzZMtID%252B633w%253D%253D

Cymorth dysgu o bell i fyfyrwyr
Mae’r adnodd hwn wedi’i ddylunio i roi ychydig o ganllawiau sylfaenol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch dysgu o bell a’ch helpu i wneud y defnydd gorau o’ch amser pan nad ydych yn gallu mynd i safle’r Brifysgol.
https://xerte.cardiff.ac.uk/xapi_launch.php?template_id=11744&group=student#resume=1

Cefnogaeth pwnc
Dod o hyd i’ch llyfrgellydd pwnc a chysylltu ag ef/hi, a dod o hyd i adnoddau gwybodaeth ar gyfer eich pwnc.
https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/study/libraries/subject-support

Gweithio ar y cyd drwy ddefnyddio ein tanysgrifiad Zoom
Cynnal cyfarfodydd a gweithio gyda’ch ffrindiau ar yr un cwrs drwy ddefnyddio’r sgwrs fideo sawl defnyddiwr hwn.
https://cardiff.zoom.us/


Dolenni ar gyfer lles ac ymlacio 💆

Llwybrau – Parc Bute
Mae amrywiaeth o deithiau cerdded a llwybrau ar hyd a lled y parc sy’n rhad ac am ddim, yn llawn hwyl ac yn addas i bob math o dywydd.
https://bute-park.com/cy/llwybrau/

8 bwyd gwych ar gyfer yr ymennydd i’w bwyta wrth adolygu
Hwb naturiol i’r ymennydd er mwyn eich helpu i ganolbwyntio ar y dasg dan sylw.
https://arden.ac.uk/knowledge-base/student-life/food-health-lifestyle/8-brilliant-brainfoods-eat-while-revising#

BorrowBox
Mae BorrowBox ar gael ar-lein neu fel ap y gallwch ei lawrlwytho i’ch dyfais symudol. Mae’n eich galluogi i fenthyg llyfrau llafar neu e-lyfrau o’ch llyfrgell leol unrhyw adeg o’r diwrnod o unrhyw le. Cewch fynediad gyda’ch aelodaeth llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd (gweler y ddolen Ymuno â llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd isod i gofrestru!).
https://www.borrowbox.com/

Box of Broadcasts
Teledu a radio ar-alw. Yn ddiweddar wedi dangos rhaglenni o dros 75 o sianelau am ddim i’w darlledu. Gallwch hefyd chwilio drwy’r archif sy’n cynnwys dros 2 filiwn o ddarllediadau teledu a radio. Mae gan bob aelod staff a myfyriwr Prifysgol Caerdydd fynediad llawn.
https://learningonscreen.ac.uk/ondemand

Awgrymiadau ar gyfer cwsg iach
Gall arferion cysgu iach wneud wahaniaeth mawr i ansawdd eich bywyd. Lluniwyd yr awgrymiadau hyn gan y National Sleep Foundation.
https://www.sleepfoundation.org/articles/healthy-sleep-tips

Ymunwch â llyfrgelloedd cyhoeddus Caerdydd ar-lein
Cofrestrwch i fenthyg eLyfrau, llyfrau llafar ac eGylchgronau 24 awr y dydd.
https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/?dt=list&rm=CARDIFF+SELF+R0%7C%7C%7C1%7C%7C%7C0%7C%7C%7Ctrue

Deall eich cronoteip
Mae gwyddonwyr bellach yn credu bod pedair ffordd o gategoreiddio cylchoedd cysgu/deffro. Yn y byd gwyddonol, gelwir y categoriau hyn yn gronoteipiau. Mae cronoteipiau’n disgrifio’r cyfnodau pan mae’r corff eisiau cysgu a bod yn effro. Ac i wneud pethau’n haws, mae’r categorïau cronoteipiau wedi cael eu galw ar ôl anifeiliaid.
https://mantasleep.com/blogs/sleep/how-understanding-your-chronotype-helps-you-sleep-better

Cardiau post y gallwch eu hargraffu: https://docdro.id/0RtTwXo


Dolenni am gefnogaeth 💚

Cyfeirio eich hun am gymorth cwnsela a lles
Os ydych chi’n cael anawsterau fel hwyliau isel, gorbryder a theimladau eraill o ofid emosiynol neu os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â ni. Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi a sut i gael gafael arno ar-lein.
https://intranet.cardiff.ac.uk/cy/students/news/view/2146711-referring-yourself-for-counselling-and-wellbeing-support

Y Samariaid
Pa bynnag sefyllfa yr ydych ynddi, bydd Samariad yn ei wynebu gyda chi. Maent ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

TalkCampus
Ni ddylai unrhyw fyfyriwr fyth ddioddef ar ei ben ei hun. Mae TalkCampus yn cysylltu nhw’n uniongyrchol â’r bobl iawn ar unrhyw adeg o’r dydd mewn amgylchedd diogel, effeithiol a llawn cymhelliant.
https://www.talklife.co/talkcampus