Skip to main content
Shôn

Shôn

Fy enw i ydi Shôn ac rwyf fel arfer yn astudio Meddygaeth ond y flwyddyn hon rydw i’n gwneud gradd ymsang mewn Ffarmacoleg rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 4 o’r rhaglen MBBCh. Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, roeddwn i wedi bod eisiau dod i Brifysgol Caerdydd ers tro a tydw i heb gael fy siomi. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych yng Nghaerdydd ac mae’n le gwych i astudio. O fewn Meddygaeth, mae gen i ddiddordeb penodol mewn Iechyd Plant a Chardioleg ac rwyf yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Baediatreg (CUPS) a’r gymdeithas gofal iechyd Gymraeg Clwb y Mynydd Bychan. Ym mlwyddyn 3, roeddwn i ar y Llwybr Addysg Wledig ble dreuliais i flwyddyn mewn meddygfa yng Ngogledd Cymru: Cefais i amser gwych ond rydw i’n falch o fod yn ôl yng Nghaerdydd. Rwyf hefyd wedi cymryd mantais o’r gwersi iaith gwych mae Caerdydd yn eu cynnig am ddim trwy Ieithoedd i Bawb ac yn adeiladu ar fy nghymhwster TGAU mewn Almaeneg. Rwyf yn edrych ymlaen i rannu gyda chi rhai o fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Caerdydd. My name’s Shôn and I normally study Medicine, but this year I am intercalating in Pharmacology between year 3 and year 4 of the MBBCh programme. Originally from North Wales, I had wanted to come to Cardiff University for a long time and have not been disappointed. I have made some fantastic friends in Cardiff and it’s a brilliant place to study. Within Medicine, I have particular interests in Child Health and Cardiology and am a committee member in the Paediatric Society (CUPS) and the Welsh-language healthcare society Clwb y Mynydd Bychan. In year 3, I was on the Community and Rural Education Route and spent the year on a GP surgery in North Wales: I have a great time but I’m glad to be back in Cardiff. I have also taken advantage of the excellent free language lessons that Cardiff offer through Languages for All and have build on my GCSE in German during my first few years in Cardiff. I look forward to sharing some of my experiences in Cardiff Uni.

Latest posts

Lleoliad Dewisol yn Ysbyty Great Ormond Street, Llundain

Lleoliad Dewisol yn Ysbyty Great Ormond Street, Llundain

Posted on 28 March 2023 by Shôn

Yn ystod y mis diwethaf rwyf wedi bod ar fy lleoliad dewisol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Mae'r lleoliad dewisol yn leoliad rydyn ni'n gwblhau ym mlwyddyn 5 […]

Blwyddyn 5 o’r Cwrs Meddygaeth: Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (Junior Student Assistantship) 

Blwyddyn 5 o’r Cwrs Meddygaeth: Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (Junior Student Assistantship) 

Posted on 10 February 2023 by Shôn

Rwyf eisioes wedi ysgrifennu am fy mhrofiadau o astudio rhan o’r cwrs Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar o’r cwrs a’r profiadau Cymraeg ges i yn ystod […]

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 2

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 2

Posted on 1 February 2023 by Shôn

Croeso i’r ail ran o’r blog hwn am flwyddyn 4 o’r cwrs Meddygaeth. Bydd y rhan yma’n canolbwyntio ar yr ail floc wnes i ei gwblhau yn ystod blwyddyn 4, […]

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 1

Myfyrio ar Flwyddyn 4 o’r Cwrs Meddygaeth: Rhan 1

Posted on 1 February 2023 by Shôn

Helo! Croeso i flog cyntaf y flwyddyn academaidd hon (22/23)! Os ydych chi’n newydd i’r blog, Shôn ydw i, myfyriwr meddygol yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn. Byddaf ym mlwyddyn […]

Fy Nhaith i’r Ysgol Feddygaeth

Fy Nhaith i’r Ysgol Feddygaeth

Posted on 12 July 2021 by Shôn

Yn ddiweddar, mi fues i'n aelod o banel cwestiwn ac ateb ar gyfer wythnos profiad gwaith rhaglen Gwyddoniaeth mewn Iechyd yr Ysgol Feddygaeth i ddysgwyr ysgol blwyddyn 12 yn ateb […]

Myfyrio ar ôl Blwyddyn yn Cwblhau Gradd Ymsang

Myfyrio ar ôl Blwyddyn yn Cwblhau Gradd Ymsang

Posted on 17 June 2021 by Shôn

Bydd y rhai ohonoch sydd wedi darllen fy mlogiau eraill yn gwybod fy mod wedi treulio'r flwyddyn academaidd 2020/21 yn cwblhau gradd ymsang mewn Ffarmacoleg. Gradd ychwanegol yw gradd ymsang, […]

Prosiectau Ymchwil

Prosiectau Ymchwil

Posted on 28 April 2021 by Shôn

Fel rhan o radd ymsang, mae disgwyl i ni fel myfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil ac mae'r prosiectau hyn yn cyfri am ran mawr o'r radd. Oherwydd y cyfyngiadau yn gysylltiedig […]

Profiad o Addysg Cymysg

Profiad o Addysg Cymysg

Posted on 13 April 2021 by Shôn

Mae COVID-19 wedi gorfodi nifer o newidiadau o fewn cymdeithas a tydi addysg ddim yn eithriad. Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod y tymor cyntaf […]

Asesiadau yn Ystod COVID-19

Asesiadau yn Ystod COVID-19

Posted on 10 March 2021 by Shôn

Rwyf eisioes wedi trafod fy mhrofiadau o addysg wyneb-yn-wyneb yn ystod fy ngradd ymsang y flwyddyn hon, ond beth am asesiadau ac arholiadau? Yn y blog yma, rwyf yn bwriadu […]

Gweithgareddau Allgyrsiol yn yr Ysgol Feddygol

Gweithgareddau Allgyrsiol yn yr Ysgol Feddygol

Posted on 16 February 2021 by Shôn

Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr sy'n ymgeisio am le yn yr ysgol feddygol yn gwybod am bwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol: o brofiad gwaith i waith gwirfoddol i chwaraeon a'r celfyddydau. Ond […]