Pobl

Ymateb cadarnhaol i fodiwlau DPP newydd

Posted on 14 Ionawr 2021 by Peter Rawlinson

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi canmol manteision y modiwlau DPP o’r MSc newydd mewn Dadansoddeg Data i’r Llywodraeth (MDataGov). Darperir yr MSc drwy’r bartneriaeth strategol rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Phrifysgol Caerdydd.   Cafodd y radd ei llunio er mwyn meithrin gallu gwyddor data ym mhob rhan o’r llywodraeth, ac mae’n sicrhau bod
Read more


Y dyfodol ar gyfer bwyd cynaliadwy

Posted on 6 Ionawr 2021 by Peter Rawlinson

Mae arbenigwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE), Prifysgol Caerdydd yn dweud bod systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19. Ymunodd academyddion o’r Sefydliad â Digwyddiad Blynyddol ASPECT 2020 i nodi eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Gyda chefnogaeth Cronfa Gallu Cyswllt Research England, mae Aspect yn brosiect gwerth
Read more


Ymateb i her 2020

Posted on 16 Rhagfyr 2020 by Peter Rawlinson

Er gwaethaf treialon llwm 2020, parhaodd arloesedd yng Nghaerdydd. Ffynnodd partneriaethau, llwyddodd pobl dalentog i sicrhau cyllid ac roedd lleoedd arloesi yn y dyfodol yn anelu’n syth at gael eu cwblhau.   Darparodd Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru HEFCW adnoddau ychwanegol i’w croesawu i gefnogi ein hecosystem piblinell a menter deillio, wedi’i halinio â strategaeth wedi’i hadnewyddu, Y Ffordd Ymlaen – canllaw i helpu’r Brifysgol i chwarae rhan weithredol yn adnewyddiad Cymru ar ôl COVID-19.  Gwnaeth mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen ymholiadau am fentora busnes un-i-un yn 2020. Casglodd SPARK – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithas – fomentwm drwy enillion cyllid a rennir a phrosiectau ymchwil cymdeithasol COVID ar y cyd ar draws grwpiau o aelodau.   Nododd Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – a fydd yn gwneud eu cartref ar ein campws arloesi yn y dyfodol – lwyddiannau nodedig hefyd.   Yma, rydym yn amlinellu rhai o lwyddiannau arloesedd Caerdydd yn 2020:  Ionawr Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd cyfran o £18.5 miliwn mewn cyllid ar gyfer hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn biowyddorau gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).   Mae’r set olaf o ‘risiau ocwlws‘ wedi’i gosod yn adeilad sbarc I spark – Cartref Arloesedd Caerdydd yn y dyfodol, lle mae ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, myfyrwyr mentrus, sefydliadau allanol ac entrepreneuriaid yn cysylltu, cydweithredu a chreu.   Mae ymchwilwyr Caerdydd yn nodi cysylltiad genynnol newydd â sgitsoffrenia – mae’r astudiaeth fwyaf o’i math yn taflu rhagor o oleuni ar achosion sylfaenol. Mae’r darganfyddiad o gell T newydd yn cynyddu’r gobeithion o therapi canser ‘cyffredinol’.   Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol, gan gyflwyno gweledigaeth ar gyfer twf glân. Ac mae DECIPHer yn datgelu graddfa camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl.   Chwefror  Mae Canolfan MRC ar gyfer Geneteg Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyhoeddi ei bod yn ymuno ag 13 sefydliad arall ledled y byd i ymchwilio i gysylltiadau rhwng anhwylderau genomig prin a chyflyrau seiciatrig.   Mae Dr Phillip Morgan, Ysgol Seicoleg, yn arwain Cyflymydd Airbus newydd mewn ymgais i ddeall cryfderau a gwendidau seiber dynol yn well o fewn sefydliadau.   Mae’r Brifysgol wedi ei chydnabod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer meddygaeth fanwl gan Innovate UK, rhan o’r asiantaeth cyllido ymchwil genedlaethol, Ymchwil ac Arloesedd y DU.   Mae Aildyfu Borneo – dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy SPARK a Chanolfan Maes Danau Girang ym Malaysia – yn cyrraedd ei darged codi arian blynyddol o £15,000 bedwar mis ar ôl ei lansio.  Mawrth  Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) wedi lansio ei gynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil cymdeithas sifil.  Mae partneriaid Cynghrair Caerdydd a GW4, ynghyd â’r Swyddfa Dywydd, Menter Hewlett Packard Enterprise (HPE), a phartneriaid, yn cael £4.1 miliwn gan yr EPSRC i greu Isambard 2, yr uwchgyfrifiadur mwyaf yn Ewrop sy’n seiliedig ar ‘Arm’.  Mae gwyddonwyr Caerdydd yn ymuno â Chonsortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK), sy’n werth £20 miliwn ac sy’n dod ag arbenigwyr ynghyd o’r GIG, y byd academaidd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus er mwyn dilyniannu a dadansoddi’r clefyd yn gyflym ac ar raddfa eang.  Ebrill  
Read more


Gyrru gyrfaoedd graddedig llwyddiannus

Posted on 10 Rhagfyr 2020 by Peter Rawlinson

Hyd yn oed cyn 2020, roedd ansicrwydd cynyddol ynghylch rhagolygon gyrfa pobl ifanc. Cyflymodd y pandemig COVID-19 y pryder hwnnw – a sbardunodd yr ymchwil am atebion. Yn y blog Cartref Arloesedd diweddaraf, mae Sefydliad Edge (Edge) yn crynhoi symposiwm diweddar ar gyflogadwyedd mewn addysg uwch dan gadeiryddiaeth yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolwr Edge.  Archwiliodd tri
Read more


Llywio Lleoedd: AGWEDD newydd ar CAUKIN

Posted on 2 Rhagfyr 2020 by Peter Rawlinson

Mae cwmni graddedig o Brifysgol Caerdydd CAUKIN Studio wedi bod yn creu effaith drwy bensaernïaeth ers pum mlynedd. Gan weithio gyda chymunedau, cyrff anllywodraethol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol, mae CAUKIN Studio yn creu mynediad at ofodau sydd wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n well. Yma, mae’r cyd-sylfaenydd ac un o raddedigion Caerdydd, Harry Thorpe (M.Arch) yn dathlu
Read more


Hyrwyddo Arloesedd Myfyrwyr

Posted on 25 Tachwedd 2020 by Peter Rawlinson

Ydych chi’n fyfyriwr ac oes syniad mawr gyda chi? Mae tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn arwain dau brosiect i hyrwyddo arloesedd myfyrwyr a phrosiectau entrepreneuriaeth ar draws Cymru. Dyma Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter Prifysgol Caerdydd yn esbonio mwy…. Mae’n gyfnod anodd, ond nid yw’n ymddangos bod ansicrwydd yn lleihau diddordeb pobl mewn
Read more


Partneriaeth ar gyfer polisi cyhoeddus gwell

Posted on 20 Tachwedd 2020 by Peter Rawlinson

Caiff arloesi mewn polisi cyhoeddus ei seilio ar ymddiriedaeth dros amser. Ar ôl blynyddoedd o weithio ar y cyd, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Phrifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth strategol er mwyn mynd ar ôl targedau a rennir ym mis Gorffennaf y llynedd. Yma, mae Ystadegydd Cenedlaethol y DU, yr Athro Syr Ian Diamond,
Read more




Anelu am Wobr Earthshot

Posted on 21 Hydref 2020 by Heath Jeffries

Wrth feddwl am achub ein planed, mae Adam Dixon yn credu ei fod yn gallu helpu. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd (BEng 2015, MPhil, 2016) fe sefydlodd Phytoponics. Mae’r cwmni’n cynllunio ac yn cynhyrchu systemau tyfu hydroponig Meithrin Dŵr Dwfn (DWC) sy’n cynhyrchu cnydau uchel eu cynnyrch a hefyd yn lleihau’r defnydd o dir,
Read more