Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Buddsoddi mewn adferiad ôl-bandemig

3 Mawrth 2021

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn fagnet ar gyfer adferiad ôl-bandemig.

Yn y pen draw, bydd ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, entrepreneuriaid, arweinwyr busnes, cynghorwyr proffesiynol, academyddion a myfyrwyr yn creu, profi a magu mentrau newydd ac yn meithrin partneriaethau yn adeilad sbarc|spark.

Bydd yn gartref i SPARK – Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithas cyntaf y byd – lle bydd arbenigwyr o ddeg grŵp yn datblygu atebion arloesol i broblemau cymdeithasol trwy weithgareddau ymchwil ar y cyd.

Byddant yn rhannu’r adeilad gyda Arloesedd Caerdydd @sbarc – canolfan lle bydd myfyrwyr entrepreneuraidd, cwmnïau deillio a busnesau newydd yn ffynnu.

Y drws nesaf, bydd dau dîm ymchwil gwyddonol blaenllaw – y Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd – yn troi ymchwil yn gynhyrchion a phrosesau sy’n arwain y byd mewn Cyfleuster Ymchwil Drosiadol pwrpasol.

Mae’r buddsoddiad ei hun yn creu manteision cymdeithasol ac economaidd i dde Cymru, a amlygir yn y graffig isod.

Ar hyn o bryd mae mwy na 400 o bobl yn gweithio ar y safle. Mae wedi cynhyrchu dros 1,200 wythnos o waith prentisiaeth a chadwyn gyflenwi leol yr amcangyfrifir ei fod yn werth dros £43m. Ar ben hynny, mae dwy ran o dair o’r swyddi sydd wedi’u creu wedi mynd i weithwyr lleol.

Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da am greu busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaethau sy’n cynhyrchu gwerth cymdeithasol ac economaidd rhagorol.

Mae disgwyl i sbarc | spark agor ym mis Medi.

Credyd: Hawkins \ Brown, Delweddu Pensaernïol o sbarc | spark
TRH

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd yn yr adeilad newydd, cysylltwch â ni…

homeofinnovation@caerdydd.ac.uk

Gallwch ddarllen mwy yma: https://campaigns.cardiff.ac.uk/cartref-arloesedd