Skip to main content

PartneriaethauPobl

Ymateb cadarnhaol i fodiwlau DPP newydd

14 Ionawr 2021

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi canmol manteision y modiwlau DPP o’r MSc newydd mewn Dadansoddeg Data i’r Llywodraeth (MDataGov).

Darperir yr MSc drwy’r bartneriaeth strategol rhwng y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Phrifysgol Caerdydd.  

Cafodd y radd ei llunio er mwyn meithrin gallu gwyddor data ym mhob rhan o’r llywodraeth, ac mae’n sicrhau bod gan weision sifil gyfres allweddol o sgiliau sydd ei hangen ar ddadansoddwyr data modern y llywodraeth.

Prifysgol Caerdydd yw darparwr diweddaraf yr MDataGov yn Hydref 2020, gyda mwy na 100 o weithwyr y sector cyhoeddus bob blwyddyn a phedair prifysgol arall ledled y DU yn cymryd rhan.

Yn y flwyddyn gyntaf hon, mae pedwar modiwl craidd wedi bod ar gael i’w hastudio ar eu pen eu hunain, gan roi hyblygrwydd i’r dysgwr astudio ar lefel ôl-raddedig wrth reoli ymrwymiadau gwaith a bywyd presennol hefyd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedwar modiwl craidd mewn Sylfeini Gwyddor Data, Ystadegau yn y Llywodraeth, Hanfodion Arolygu a Rhaglennu Ystadegol. Yn ogystal, mae’r MSc yn cynnwys ystod o fodiwlau dewisol gan gynnwys Cyfres Amser a Rhagolygon, Dysgu Peiriannol Cymhwysol, Cyfrifiadura Gwasgaredig a ‘Chwmwl’ a Delweddu Data, ymhlith eraill.

Clare Sinclair

 

Dywedodd Clare Sinclair, Pennaeth yr Uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ym Mhrifysgol Caerdydd, ‘Rwy’n falch iawn bod gennym garfan o 10 myfyriwr DPP yn y flwyddyn gyntaf hon o gynnig modiwlau unigol o’r MSc.  Mae angen galluogi’r mynediad hyblyg hwn at brofiadau addysgol o ansawdd uchel nawr yn fwy nag erioed yn ystod y cyfnod hwn o newid cyflym a heriau newydd.  Gobeithio y bydd llawer yn dewis parhau â’u taith ddysgu yng Nghaerdydd ac efallai mynd ymlaen i ennill cymhwyster ôl-raddedig yn y dyfodol.’

 

Angela Watkins

 

Dywedodd Angela Watkins, Uwch Swyddog Ystadegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru mewn 4 modiwl “Rwy’n gobeithio symud draw i faes gwyddorau data ac mae’r modiwlau hyn wedi fy nghaniatáu i ennill y sgiliau angenrheidiol wrth barhau i weithio. Wrth i mi ddatblygu ymhellach, byddaf yn gallu defnyddio’r sgiliau newydd hyn yn fy rôl bresennol, gan roi cyfle ar unwaith i integreiddio dysgu ffurfiol â datblygiad yn y swydd.”

 

Giovanni Sgaravatti

 

Dywedodd Giovanni Sgaravatti, Economegydd Cynorthwyol ar gyfer y Swyddfa Ystadegau Gwladol sydd wedi cofrestru ar gyfer 2 fodiwl “Mae rhan fawr o’m set o sgiliau dadansoddi data drwy ddysgu fy hun, neu cawson nhw eu datblygu wrth weithio. Rwy’n elwa’n fawr o addysgu strwythuredig gan arbenigwyr academaidd, sy’n darparu sylfeini cadarn i mi mewn gwybodaeth am wyddorau data. Mae’r cyrsiau’n cyflwyno cysyniadau gwyddorau data craidd, yn ogystal ag iaith raglennu Python ac arferion codio gorau. Bydd y sgiliau hyn yn gwella cadernid ac effeithlonrwydd fy ngwaith yn SYG ac yn gwella ansawdd fy allbynnau yn fawr. Maent hefyd yn hynod hyblyg a byddent yn darparu manteision ym mhob rhan o’r swyddfa. ”

 

Mae’r MSc yn rhan o Academi Gwyddor Data (DSA) Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd ym mis Hydref 2019, i gefnogi addysg y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr ym meysydd Gwyddorau Data, Deallusrwydd Artiffisial a Seiber-ddiogelwch.

Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd sy’n rhedeg DSA, ar y cyd â’r Ysgol Mathemateg, ac mae’n seiliedig ar fodel Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol, lle mae myfyrwyr yn cael profiad go iawn o weithio ar brosiectau tîm sy’n canolbwyntio ar gleientiaid.

Dywedodd yr Athro Syr Ian Diamond, Ystadegydd Cenedlaethol y DU, wrth siarad yn ddiweddar am y bartneriaeth hirsefydlog rhwng SYG a Phrifysgol Caerdydd ‘Mae Academi Gwyddor Data Prifysgol Caerdydd wedi’i sefydlu i addysgu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr yn y maes. Bydd gwyddonwyr data, mathemategwyr ac arbenigwyr cyfrifiadura yn cydweithio ar brosiectau a data go iawn, gan gynyddu eu cyflogadwyedd a rhoi profiad ‘byd go iawn’ gwerthfawr iddynt gyda sefydliadau allanol.

‘Mae’r radd Meistr mewn Dadansoddeg Data ar gyfer y Llywodraeth yn rhoi sgiliau blaengar sydd â galw mawr amdanynt i fyfyrwyr ar gyfer echdynnu a thrin ‘data mawr’, a all yn ei dro helpu busnesau a sefydliadau’r llywodraeth i wneud penderfyniadau gwell.’