Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Ymateb i her 2020

16 Rhagfyr 2020

Er gwaethaf treialon llwm 2020, parhaodd arloesedd yng NghaerdyddFfynnodd partneriaethaullwyddodd pobl dalentog i sicrhau cyllid ac roedd lleoedd arloesi yn y dyfodol yn anelu’n syth at gael eu cwblhau 

Darparodd Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru HEFCW adnoddau ychwanegol i’w croesawu i gefnogi ein hecosystem piblinell a menter deilliowedi’i halinio â strategaeth wedi’i hadnewyddu, Y Ffordd Ymlaen – canllaw i helpu’r Brifysgol i chwarae rhan weithredol yn adnewyddiad Cymru ar ôl COVID-19. 

Gwnaeth mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen ymholiadau am fentora busnes un-i-un yn 2020. Casglodd SPARK – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithas – fomentwm drwy enillion cyllid a rennir a phrosiectau ymchwil cymdeithasol COVID ar y cyd ar draws grwpiau o aelodau 

Nododd Sefydliad Catalysis Caerdydd a’r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – a fydd yn gwneud eu cartref ar ein campws arloesi yn y dyfodol – lwyddiannau nodedig hefyd 

Ymarydym yn amlinellu rhai o lwyddiannau arloesedd Caerdydd yn 2020: 

Ionawr

Y ‘grisiau oculus’ o ddylunio i realiti

Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd cyfran o £18.5 miliwn mewn cyllid ar gyfer hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn biowyddorau gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).  

Mae’r set olaf o ‘risiau ocwlws‘ wedi’i gosod yn adeilad sbarc I spark – Cartref Arloesedd Caerdydd yn y dyfodollle mae ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasolmyfyrwyr mentrussefydliadau allanol ac entrepreneuriaid yn cysylltucydweithredu a chreu 

Mae ymchwilwyr Caerdydd yn nodi cysylltiad genynnol newydd â sgitsoffrenia – mae’r astudiaeth fwyaf o’i math yn taflu rhagor o oleuni ar achosion sylfaenolMae’r darganfyddiad o gell T newydd yn cynyddu’r gobeithion o therapi canser ‘cyffredinol’.  

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cynnal ei chynhadledd flynyddolgan gyflwyno gweledigaeth ar gyfer twf glân. Ac mae DECIPHer yn datgelu graddfa camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl 

Chwefror 

Caerdydd yn cael ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth

Mae Canolfan MRC ar gyfer Geneteg Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn cyhoeddi ei bod yn ymuno ag 13 sefydliad arall ledled y byd i ymchwilio i gysylltiadau rhwng anhwylderau genomig prin a chyflyrau seiciatrig.  

Mae Dr Phillip Morgan, Ysgol Seicolegyn arwain Cyflymydd Airbus newydd mewn ymgais i ddeall cryfderau a gwendidau seiber dynol yn well o fewn sefydliadau 

Mae’r Brifysgol wedi ei chydnabod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer meddygaeth fanwl gan Innovate UK, rhan o’r asiantaeth cyllido ymchwil genedlaetholYmchwil ac Arloesedd y DU.  

Mae Aildyfu Borneo – dan arweiniad Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy SPARK a Chanolfan Maes Danau Girang ym Malaysia – yn cyrraedd ei darged codi arian blynyddol o £15,000 bedwar mis ar ôl ei lansio. 

Mawrth 

WISERD Digwyddiad lansio yn y Senedd

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) wedi lansio ei gynllun pum mlynedd ar gyfer ymchwil cymdeithas sifil. 

Mae partneriaid Cynghrair Caerdydd a GW4, ynghyd â’r Swyddfa DywyddMenter Hewlett Packard Enterprise (HPE), a phartneriaidyn cael £4.1 miliwn gan yr EPSRC i greu Isambard 2, yr uwchgyfrifiadur mwyaf yn Ewrop sy’n seiliedig ar ‘Arm’. 

Mae gwyddonwyr Caerdydd yn ymuno â Chonsortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK)sy’n werth £20 miliwn ac sy’n dod ag arbenigwyr ynghyd o’r GIG, y byd academaidd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus er mwyn dilyniannu a dadansoddi’r clefyd yn gyflym ac ar raddfa eang. 

Cydweithio i fasgiau argraffu 3D

Ebrill  

Fledge, busnes sy’n taclo unigedd drwy helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r cydletywr perffaith wedi ennill Gwobrau i Fusnesau Newydd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. 

Mae ystod o argraffwyr 3D a ddyluniwyd ar gyfer Sefydliad PARC Caerdydd yn cael eu hail-bwrpasu a’u hail-leoli i weithgynhyrchu misyrnau er mwyn helpu GIG Cymru i fynd i’r afael â COVID-19. 

Mai

Mae Caerdydd yn cyd-arwain Prif Ganolfan Cymru, sy’n werth £4.85 miliwn – sef Canolfan Cymru gyfan gyda phrifysgolion Bangor ac Abertawe a Phrifysgol De Cymru i ymchwilio i ofal sylfaenol a brys yng Nghymru. 

Mae timau Canolfan Ymchwil Treialon y Brifysgol gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn treial brechlyn a noddir gan Brifysgol Rhydychen ac a ariennir gan CEPI

(Clymblaid ar gyfer Arloesedd Parodrwydd Epidemigdrwy Ymchwil ac Arloesedd y DU.   

Treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19

 

 

Mehefin

Treial cenedlaethol ar gyfer brechlyn COVID-19 

Mae cwmni graddedig newyddAlpacr – rhwydwaith cymdeithasol arloesol ar gyfer pobl sy’n hoff o deithio ac antur a sefydlwyd gan Daniel Swygart- yn cau cylch buddsoddi gwerth £160k ($200k). 

Mae consortiwm dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi ennill cais gwerth £43.7 miliwn i ddatblygu pwerdy Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) yn Ne Cymru. Bydd cyllid gan y Llywodraeth a ddarperir drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd blaenllaw Ymchwil ac Arloesi y DU yn adeiladu clwstwr rhagoriaeth byd-eang ym maes technolegau CS – CSconnected – gan ddod â buddsoddiad economaidd a swyddi o safon uchel i’r rhanbarth. 

‘Cartref arloesi’ yn cyrraedd pwynt uchel

Gorffennaf  

Mae strwythur sbarc | spark- #CartrefArloesedd Caerdydd – wedi’i gwblhauMae’r ganolfan flaenllaw yn dod ag ymchwilwyrentrepreneuriaidbusnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deilliannol academaidd at ei gilydd mewn adeilad o’r radd flaenaf yng nghanol Campws Arloesedd Caerdydd. 

Caiff chwe phartneriaeth sy’n ymdrin â materion yn amrywio o dlodi bwyd i HIV eu harddangos yng NghaerdyddMae’r prosiectau’n amlygu gwaith y Brifysgol i gysylltucydweithio a chreu wrth iddi adeiladu campws #CartrefArloesedd i’r dyfodol i hybu llesiant yng Nghymru. 

Caiff prawf smotyn gwaed sych cyfleus a chost isel ar gyfer COVID-19 ei ddatblygu gan wyddonwyr ar gyfer Ysbyty Athrofaol CymruPrifysgol Caerdydd a Gwasanaeth Gwaed Cymru  

Caerdydd i ddatgloi grym amonia

Awst  

Prifysgol Caerdydd yn cael bron i £3 miliwn i gynyddu technoleg o’r radd flaenaf sy’n harneisio pŵer o amonia. 

Mae ymchwil gan yr Athro Alan Felstead o WISERD yn dangos yr hoffai naw o bob deg gweithiwr sydd wedi gweithio gartref yn ystod y cyfnod clo i barhau i wneud hynny mewn rhyw fodd. 

Cais cragen crancod i fynd i’r afael â COVID-19

Medi 

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb gyda Cytox er mwyn helpu’r cwmni i ddatblygu adnodd asesu risg genynnol ar gyfer clefyd Alzheimer. 

Mae Clwstwr, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdyddyn cyhoeddi 33 o brosiectau i feithrin y gwaith o gynhyrchu cyfryngau o amgylch prifddinas Cymru. 

Mae arbenigwyr feiroleg o Ysgol Meddygaeth Caerdydd yn gweithio gyda chwmni Pennotec o Bwllheli, i werthuso nodweddion gwrthfeirysol Chitosan – y cemegyn sy’n deillio o gregyn crancod. 

Mae cwmnïau deilliannol gwyddorau bywyd Caerdydd Alesi Surgical yn dod i gytundeb ag Olympus er mwyn dosbarthu system reoli mwg llawfeddygol Ultravision y cwmni yn yr Unol Daleithiau. 

Mae synwyryddion sy’n canfod micro-ddiffygion yn cael eu datblygu gan y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – menter Prifysgol Caerdydd ar y cyd ag IQE. 

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chaerdydd yn ymuno

Hydref

Mae ymchwilwyr o Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd yn defnyddio dysgu peiriannol i fapio troseddau treisgar yn erbyn mannau sy’n gwerthu alcohol ac, yn hollbwysiglleoliadau lle nad yw alcohol yn cael ei werthu. 

Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Phrifysgol Caerdydd wedi dod ynghyd yn ffurfiol i weithio ar nodau strategol a rennir. 

Mae’r Athro Anthony Bennett yn ennill £1 miliwn gan yr EPSRC i greu tîm sy’n ymroddedig i ddatblygu ffynonellau golau cwantwm tymheredd ystafell – cydran allweddol ar gyfer technolegau’r dyfodol. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Rhwydwaith Datblygu Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol (FLF) gan gynnig hyfforddiant a datblygiad i 210 o Gymrodyr newydd, a 40 o ymchwilwyr ac arloeswyr ar ddechrau eu gyrfa. 

Mae Cronfa Her (CCR) Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n werth £10 miliwn ddod o hyd i atebion arloesol i broblemau cymdeithasol yn cael ei lansio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. 

Tachwedd  

Cais cragen crancod i fynd i’r afael â COVID-19

Dyfernir Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol i Dr Dayne Beccano-Kelly, Ysgol Feddygaeth, a Dr Jose Camacho Collados, Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodegfel rhan o gynllun UKRI gwerth £900 miliwn. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â’r Ganolfan Amlddisgyblaethol Genedlaethol ar gyfer Economi Cemegol Cylchol (NIC3E) gwerth £4.3 miliwn yn dwyn ynghyd saith o brifysgolion a thros 20 o bartneriaid diwydiannol a rhyngwladol i ddyfeisio ffyrdd o leihau ein dibynadwyedd ar fewnforio deunyddiau crai. 

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dechrau gweithio ar raglen UKRI-EPSRC werth £6.1 miliwn i drawsnewid y ffordd caiff data ei synhwyroei drosglwyddo a’i brosesu ar sglodion silicon. 

Bydd Cyfleuster Microsgopeg Electron newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar draws disgyblaethau academaidd i yrru ymchwil diolch i £185 mil gan Gronfa Effaith Ymchwil EPSRC. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r trydydd safle yn nhabl cynghrair y DU o lwyddiant cwmnïau deilliannol prifysgolionLlwyddiant Cwmnïau Deilliannol Octures Ventures: Mesurodd Rhestr Effaith Entrepreneuraidd 2020  gynhyrchiant IP prifysgolion, faint o gwmnïau deilliannol roeddent yn eu creu, a mannau gwerthu llwyddiannus o gwmnïau deilliannol mewn perthynas â chyfanswm y cyllid. 

Rhagfyr 

Mae Parc Ymchwil y Gwyddor Gymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd yn ymuno ag Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol (IPPO) gwerth £2 miliwn i fynd i’r afael ag effeithiau cymdeithasoleconomaidd a chyhoeddus COVID-19. Mae’r prosiect, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn dod ag ymchwil a pholisi ynghyd i liniaru effeithiau’r pandemig a chyflymu adferiad y DU.

flwyddyn o’n blaenau 

Byddwn yn gweithio tuag at gwblhau ein prosiectau adeiladu sy’n gysylltiedig ag ymchwil a’n Campws #CartrefArloesedd yn 2021, gan roi Prifysgol Caerdydd mewn safle yn unol â chyfleoedd adfywio ac adnewyddu ar ôl COVID. Byddwn yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleolPrifddinas-Ranbarth Caerdydd, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru i ddatblygu mentrau strategol mawr sy’n gallu sicrhau manteision economaidd mawr i’r rhanbarthgan gynnwys cydweithrediadau newydd yn y sector preifat a chyhoeddus ar gyfer byd ar ôl COVID, yn unol â blaenoriaethau ymchwil a datblygu’r DU. Hefydbyddwn yn datblygu ein partneriaethau strategol allweddolgyda’r nod o wella ein cyfraniadau o ran addysguymchwil a’n cenhadaeth ddinesig at Gymru a’r DU. 

Angen rhagor o wybodaethCysylltwch â homeofinnovation@caerdydd.ac.uk