Skip to main content

PartneriaethauPobl

Llywio Lleoedd: AGWEDD newydd ar CAUKIN

2 Rhagfyr 2020

Mae cwmni graddedig o Brifysgol Caerdydd CAUKIN Studio wedi bod yn creu effaith drwy bensaernïaeth ers pum mlynedd. Gan weithio gyda chymunedau, cyrff anllywodraethol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol, mae CAUKIN Studio yn creu mynediad at ofodau sydd wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n well. Yma, mae’r cyd-sylfaenydd ac un o raddedigion Caerdydd, Harry Thorpe (M.Arch) yn dathlu llwyddiant diweddaraf CAUKIN Studio – cael ei dderbyn ar Raglen Cyflymydd ASPECT i Fyfyrwyr.

“Sefydlwyd CAUKIN Studio ar yr egwyddor y dylai pawb gael mynediad gwell at ofodau sydd wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n well. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i gyfnewid sgiliau drwy ddylunio ac adeiladu, drwy alluogi cymunedau i gael y cyfle a’r adnoddau i lywio’r lleoedd y maent yn byw ynddynt.

Drwy weithio gyda chymunedau, cyrff anllywodraethol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol, rydym yn cyflawni prosiectau adeiledig o’r cychwyn cyntaf at y pwynt trosglwyddo, gyda phob rhanddeiliad yn cyfrannu ac yn elwa mewn modd cyfartal. Mae byw, gweithio ac adeiladu gyda’r cymunedau yr ydym yn bartneriaid gyda nhw yn helpu i sefydlu ymddiriedaeth chreu cyfle i gyfnewid gwybodaeth – mae hyn yn creu dyluniad arloesol a datrysiadau adeiladu.

Rydym yn gobeithio dangos y gall sefydliad gydbwyso elw gyda phwrpas, gan ystyried ein heffaith a’n nodau ariannol ar yr un pryd. Fel cwmni, rydym yn defnyddio busnes at ddibenion da, mewn diwydiant lle mae gwerthoedd o’r fath yn aml yn mynd yn angof, gan ymgorffori ein hethos i waith preifat, comisiynau cyhoeddus a’n prosiectau datblygu rhyngwladol.

Ers 2015, rydym wedi cwblhau 27 o brosiectau dylunio ac adeiladu’n fyd-eang, gan gynnig dros 120,000 awr o addysg ar safle i 470 o aelodau’r gymuned a chyfranogwyr rhyngwladol. Mae ein rhaglenni cyfnewid sgiliau wedi dod â phobl ynghyd o dros 52 o wledydd gwahanol ac o 40 o brifysgolion byd-eang. Oherwydd ein prosiectau datblygu rhyngwladol, bydd gan dros 6,000 o bobl o 12 o wledydd fynediad at ofodau wedi’u dylunio a’u hadeiladu’n well erbyn diwedd 2021.

Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws, roedd rhaid i’n prosiectau ddod i ben yn gyflym. Roedd rhaid gohirio’r holl brosiectau adeiladu oedd wedi’u trefnu ar gyfer 2020 ledled De’r Môr Tawel, Asia, Affrica a De America. Golygodd hyn nad oedd cymunedau lleol a chyfranogwyr rhyngwladol yn gallu ennill y profiad a manteisio ar werth y broses adeiladu. Fel cwmni newydd ifanc, roeddem yn poeni i ddechrau am effaith digwyddiad mor fawr arnom ni a’n model busnes, ond gan ein bod yn fychan ac yn hyblyg, roeddem yn gallu adlewyrchu, gwerthuso ac addasu.

Ers mis Mawrth, rydym wedi gallu dod i arfer â lledaenu neges CAUKIN mor eang â phosibl. Hygyrchedd yw ein prif flaenoriaeth. Drwy redeg gweithdy peilot rhithwir o fis Gorffennaf i fis Medi, roeddem yn gallu profi damcaniaethau ac efelychu ffordd newydd o gyrraedd mwy o bobl o bob rhan o’r byd. Drwy brosiect ymchwil byw a siaradwyr gwadd allanol arbenigol, llwyddom i gynnig sesiynau gwerthfawr am bynciau a meysydd diwydiannol sydd fel arall y tu hwnt i’r brif ffrwd.

Yn ogystal, yn ystod y cyfnod hwn o fyfyrio mewnol, wrth geisio cyngor a chanllawiau, daethom o hyd i’r cwrs Aspect. Roedd i weld yn gyfle gwych i ddysgu am feysydd o’n busnes a’n strwythurau sydd eisoes ar waith, drwy gwrs eithaf dwys a heriol. Roeddem yn credu drwy ymgysylltu â’r siaradwyr arbenigol a chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’r tîm Aspect, bod modd i ni symud y cwmni ymlaen, wrth fod yn atebol, a gweld ychydig o ddeilliannau ystyrlon ar ddiwedd y broses.

Rydym wedi mynd ymhell tu hwnt i’n disgwyliadau gwreiddiol! Mae trafod syniadau pob wythnos gyda phobl sy’n deall y prosesau a’r heriau sydd ynghlwm wrth fod yn fusnes newydd wedi rhoi llawer o hyder i ni. Yn ogystal, mae llawer o gysylltiadau ystyrlon wedi deillio o’r cwrs ASPECT: mae gan lawer o sefydlwyr eraill ddiddordeb mewn cydweithio ar brosiectau yn y dyfodol!

Bydd y cwrs yn ychwanegu ychydig o werthuso critigol, nad oedd yn digwydd llawer gynt. Er i ni ddysgu llawer iawn am redeg a chynnal agweddau gwahanol ar fusnes, gall hynny ond mynd â chi ran o’r ffordd. Drwy gael ein gwerthuso, a chael anogaeth gan arbenigwyr y diwydiant a chael mewnbwn gan bobl gyda degawdau o brofiad, nid yn unig ydyn ni’n meddwl y bydd ochr honno’r busnes yn tyfu’n sylweddol, ond bydd hefyd o bosibl yn llywio 90% arall o’n gweithrediadau.”

 

Harry Thorpe, Cyd-sylfaenydd, CAUKIN Studio