Skip to main content

PartneriaethauPobl

Llwyddiant i Brosiect Mentora Iaith

4 Awst 2020

Dechreuodd y Prosiect Mentora Myfyrwyr MFL sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Cafodd ei lunio mewn ymateb i’r gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc oedd yn dewis astudio Iaith Dramor Fodern ar lefel TGAU. Daeth â staff a myfyrwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe ynghyd er mwyn ceisio atal a gwyrdroi’r gostyngiad cenedlaethol.

Dyma’r chweched flwyddyn yn olynol i’r rhaglen gael ei chynnal, ac mae wedi gweithio gyda 100 o’r 203 o ysgolion yng Nghymru. Mae’r prosiect yn cyflwyno mentora wyneb yn wyneb mewn ysgolion uwchradd er mwyn cefnogi strategaeth ‘Dyfodol Byd-eang’ (2015-2020)  Llywodraeth Cymru ar gyfer ieithoedd modern. Mae wedi ei anelu at ddisgyblion ym Mlynyddoedd 8 a 9 sydd wedi nodi mewn arolwg cyn-fentora nad ydynt yn bwriadu neu’n debygol o astudio iaith ar gyfer TGAU. Maent yn gweithio gyda myfyrwyr prifysgol wedi’u hyfforddi, sydd â chariad at iaith, sy’n eu mentora ynghylch ieithoedd cyn iddynt benderfynu ar eu dewisiadau TGAU. Ar ôl cyfnod o chwe wythnos, mae’r disgyblion sy’n cael eu mentora yn dod i seremoni Gwobrwyo a Chydnabod ym Mhrifysgol gartref y mentor.

Mae’r prosiect cyfan yn seiliedig ar archwilio lle disgyblion mewn byd sy’n globaleiddio ac yn eu cyflwyno i’r manteision proffesiynol a rhyngbersonol sy’n deillio o ddysgu ieithoedd. Dros y 6 mlynedd ddiwethaf, mae’r prosiect wedi gweithio gyda thros 4000 o ddisgyblion ledled Cymru, mewn dinasoedd mawr a lleoliadau gwledig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Datblygwyd fersiwn ddigidol o’r Prosiect Mentora Myfyrwyr ITM yn 2017-18, i greu profiad iaith sy’n cyfuno sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Roedd hyn yn galluogi’r prosiect i weithio gydag ysgolion a oedd yn bell o’r pedair prifysgol sy’n ganolbwynt i’r prosiect. Bu Digi-Languages yn arbennig o lwyddiannus wrth ennyn diddordeb disgyblion o ardaloedd ynysig neu ddifreintiedig yn economaidd mewn ieithoedd. Gwnaeth mwy na naw disgybl allan o ddeg ddisgrifio eu profiad gyda’r prosiect Digi-Languages fel ‘Rhagorol’ (49%) neu ‘Da’ (43%). Dywedodd dros hanner (58%) fod y prosiect wedi newid y ffordd y maent yn ystyried ieithoedd o ran eu dyfodol ac roedd traean pellach o’r farn ei fod o bosibl wedi newid eu hagwedd.

Sbardunodd y prosiect ‘Gwnaed yng Nghymru’ ddiddordeb gan yr Adran Addysg yn Lloegr a ariannodd Gorwelion Iaith, dull cwbl cyfunol i annog cymhelliant o ran dysgu ieithoedd yn Nwyrain Swydd Efrog a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Roedd y newid tuag at ddysgu digidol wedi galluogi’r prosiect i ddatblygu graddfa ac ehangder, i gydweithio gyda Llywodraeth Ranbarthol Castilla y Leon.

Mae ein hagwedd arloesol at ieithoedd yn dyrchafu profiad y myfyriwr a datblygiad y gymuned ac wedi arwain at Brosiect Parhau i Ddysgu Blwyddyn 13ar gyfer myfyrwyr lefel A yng Nghymru yn ystod cyfnod clo Covid-19. Hyd yn hyn, mae’r rhaglen 12 wythnos o hyd wedi cyrraedd dros 350 o ddisgyblion.

Mae mentora MFL yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru ac rydym yn datblygu profiad digidol llawn ar gyfer ein disgyblion Blwyddyn 8 a 9 ar gyfer 2020-2021. Wrth i ni ymgorffori arferion digidol a symud tuag at gyflwyniad y Cwricwlwm Newydd ar gyfer Cymru, bydd y prosiect yn cymryd ysgolion cefnogi, athrawon a myfyrwyr prifysgol er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer newid mawr, disgwyliedig ac annisgwyl.

Fel prosiect, mae ymchwil a gwerthuso wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud. Rydym wedi gweithio i ymchwilio sut y gall dulliau mentora gefnogi cyflwyno methodolegau amlieithog; paratoi adroddiadau byr ar ddysgu digidol ar gyfer ieithoedd ac yn bwriadu creu ystorfa ddigidol ar gyfer ein deunyddiau hyfforddi. Edrychwch ar ein gwaith mewn erthygl diweddar gan ein tîm a gyhoeddwyd mewn rhifyn arbennig o The Curriculum Journal: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1002/curj.11

Mae’n gyfnod cyffrous ac arloesol – mwy yn y man!

Claire Gorrara, Athro Ffrangeg yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd