Skip to main content

7 July 2020

Pennaeth Britishvolt yn cefnogi dyfodol glanach

Pennaeth Britishvolt yn cefnogi dyfodol glanach

Posted on 7 July 2020 by Peter Rawlinson

Mae cynfyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, Orral Nadjari (MBA, 2008),  eisiau adeiladu ffatri werdd enfawr sy’n cynhyrchu batris cyntaf a mwyaf y DU ym Mro Morgannwg Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol a sefydlydd Britishvolt yn dweud wrth blog y Cartref Arloesedd pam ei fod o’r farn bod her COVID-19 ar hyn o bryd yn cynnig mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i gerbydau a bwerir gan fatris.  Dechreuodd taith Mr. Nadjari tuag at lwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd.  Cwblhaodd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd ar ôl astudio BSc mewn Astudiaethau Busnes a Japaneeg.  “Mae fy ngyrfa’n seiliedig ar fy amser ym Mhrifysgol,” meddai Mr. Nadjari.  “Cafodd ei ysgogi gan weledigaeth a dyheadau entrepreneuraidd, ac mae'n bleser gennyf eu gwireddu o'r diwedd gyda Britishvolt. Rwyf wrth fy modd â’r gobaith o ddychwelyd i adeiladu ffatri enfawr bwysig yn agos iawn at y lle y treuliais saith mlynedd orau fy mywyd."  Mae Britishvolt yn gobeithio creu hyd at 4,000 […]

Dathlu sbarc | spark – buddsoddi mewn arloesedd

Dathlu sbarc | spark – buddsoddi mewn arloesedd

Posted on 7 July 2020 by Peter Rawlinson

Mae canolfan ar gyfer cwmnïau newydd, cwmnïau deilliannol, busnesau myfyrwyr a mentrau cymdeithasol wedi cyrraedd ei phwynt adeiladu uchaf. Bydd sbarc | spark yn helpu pobl fentrus i gysylltu, cydweithio a chreu.  Yma, mae […]