Skip to main content

Adeiladau'r campws

Diweddariad Campws Arloesedd Caerdydd

10 Medi 2019

Dydd Mercher 24 Gorffennaf fu’r tymheredd uchaf a gofnodwyd erioed yn y DU ar gyfer mis Gorffennaf: 38.1°C yn ne-ddwyrain Lloegr.

Bu’n rhaid i dimau o Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) a’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) weithio drwy’r gwres ar y dydd hwn wrth i rai fentro allan ar slab concrit newydd ar y trydydd llawr, lle bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiannol wedi’i leoli yn y dyfodol. Y tymheredd? Dros 35°C.

Cymerodd Lee Lovering, rheolwr prosiectau’r safle gyda Bouygues UK a Nick Toulson, cynghorydd CSR Bouygues UK, y ddau grŵp o wyddonwyr ar daith dywys o gwmpas y safle.

Rheolwr prosiect Lee Lovering arwain yr daith

Dywedodd Dr Andrew Logsdail, Cymrawd Ymchwil y Brifysgol, o’r Ysgol Cemeg: “Roedd y daith yn dda ac yn cynnwys digon o wybodaeth. Mae adeilad a safle’r Cyfleuster Ymchwil Drosiannol yn fwy helaeth o lawer nag yr oedd y cynlluniau’n ei awgrymu i mi. Heb os, bydd y Cyfleuster yn gallu cynnig gweithle i amrywiaeth eang o gemegwyr catalytig a ffisegwyr deunyddiau sy’n gweithio ar heriau’r dyfodol.”

Mae arweinwyr SPARK y dyfodol (Arloesedd Canolog) wedi ymweld â’r safle dros y ddau fis diwethaf hefyd.

Meddai Clive Meaton, Cyfarwyddwr Gweithgarwch y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: “Bu’n braf gweld adeilad newydd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn mynd i fyny. Hyd yn oed ar ôl i mi ymgyfarwyddo’n drylwyr â chynlluniau’r adeilad newydd, roedd gweld maint y cyfleuster yn anhygoel o hyd. Mae’r broses adeiladu’n hynod gyflym, ac rydym bellach ar bigau’r drain am symud i mewn yn y pendraw a dechrau arni.”

Ychwanegodd Stephen Sutton, Rheolwr Datblygu Busnes y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd: “Gwych gweld y cynlluniau’n cael eu gwireddu. Diddorol clywed am y technegau adeiladu a ddefnyddir i fodloni’r gofynion amgylcheddol llym sydd eu hangen ar gyfer rhyw gyfarpar hynod sensitif. Diddorol hefyd fu clywed sut mae iechyd a diogelwch yn rhan o ddyluniad y prosiect mewn effaith. Er enghraifft, mae sianeli cebl yn rhan o’r strwythur, sy’n diwallu’r angen am gasin…roedd y diwylliant iechyd a diogelwch ar y safle’n ymddangos heb ei ail.”

“Bu ymweld â’r safle’n brofiad ardderchog,” meddai Stuart Thomas, Peiriannydd Proses y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. “Braf iawn fu gweld graddfa’r prosiect ar y safle, yn hytrach na gwibio heibio iddo ymhen 5 eiliad ar y trên! Gwnaeth y pwyslais cryf ar ddiogelwch argraff sylweddol arnaf. Roedd y bois yn dda iawn yn esbonio pethau wrthym mewn iaith lawr gwlad, am broses gyfan y prosiect o’r dechrau i’r diwedd. Rwy’n credu mai syniad gwych fyddai eu croesawu’n ôl i weld cyfleuster yr ystafell lân pan fydd wedi’i gorffen, a gwneud iddynt wisgo’r gynau ar gyfer yr ystafell lân a dangos yr hyn yr ydym yn ei wneud iddynt, fel y gallant weld ffrwyth eu gwaith.”

Cytunodd ei gyd-Beiriannydd Proses, Saleem Shabbir. “Gwych fu ymweld â’r safle a gweld graddfa’r prosiect. Mae cael cipolwg ar faint yr ystafell lân wedi fy nghyffroi at y dyfodol.”

Bydd seremonïau copa’n dilyn maes o law, ac mae grisiau Oculus yn cael eu gosod yn Arloesedd Canolog. Yn y cyfamser, dyma rai lluniau o’r ymweliad â’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i chi gael cipolwg ar faint a graddfa’r Cyfleuster Ymchwil Drosiannol a’r safle. A darllediadau FT gwych o CS Connected heddiw!