Skip to main content

PartneriaethauPobl

Pontio bwlch y lled-ddargludyddion cyfansawdd

26 Mehefin 2019

ICS yn cefnogi deunyddiau a dyfeisiau’r dyfodol

Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) yn pontio’r bwlch rhwng academia a diwydiant wrth hyrwyddo ymchwil i ddyfeisiau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) a’u datblygu yn ne Cymru. Yma, mae Rheolwr Gyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Peter Smowton, yn esbonio sut mae’r Sefydliad yn trawsnewid tirwedd y diwydiant.

“Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn rhan hanfodol o’r byd ‘cydgysylltiedig’ sydd ohoni, ac yn dechnoleg sy’n sail i bopeth o ffonau clyfar, teledu a lloerenni i ddeuodau allyrru golau (LEDs), laserau a phaneli solar. Fel mae eu henw’n ei awgrymu, maent yn dargludo trydan o dan amodau penodol ac maent wedi’u cyfansoddi gan ddwy neu fwy o elfennau, yn aml o gyfnodau III a V ar y tabl cyfnodol ond nid bob tro.

Mae’r DU, a de Cymru’n bennaf, wedi dwyn sylw am gryfder ei hymchwil a gweithgynhyrchu deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd. Fodd bynnag, o ystyried y buddsoddiad enfawr sydd ei angen i brynu cyfarpar er mwyn profi a datblygu deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludyddion cyfansawdd, mae llawer o gwmnïau’n methu dod â’u syniadau i’r farchnad.

Yn syml, ni all diwydiant fanteisio ar ymchwil awyr las (heb ddibenion amlwg) heb fuddsoddiad afresymol o fawr. Felly, nid yw cynhyrchu a phrofi dyfeisiau lled-ddargludyddion yn economaidd hyfyw i’r rhan helaeth o gwmnïau. Cafodd hyn ei gydnabod yn adroddiad 2012 y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Amlygodd hwn fwlch canfyddedig o ran cymorth seilwaith ar gyfer sbarduno ymchwil academaidd a chefnogi prosiectau ymchwilio a datblygu ar y cyd.

O ganlyniad i gyllid a buddsoddiadau gan Brifysgol Caerdydd, Cronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop (ERDF), cafodd y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ei sefydlu yn 2016 ac mae’n cynnig cyfleusterau â mynediad agored talu-i’w-defnyddio er mwyn galluogi cwmnïau i ddatblygu eu cynhyrchion heb orfod prynu cyfarpar drud.
Mae cysyniad arloesol wrth galon y Sefydliad, sy’n cynnig cyfleusterau cynhyrchu a phrofi i academyddion a defnyddwyr diwydiannol ddatblygu a phrofi eu hymchwil, a’i pharatoi at ddibenion diwydiannol.

Ar ben ei buddsoddiad yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, mae’r Brifysgol hefyd wedi dechrau menter gydag IQE, cwmni technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd byd-eang sydd â’i bencadlys yng Nghymru, i greu’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC). Mae’r buddsoddiad hanfodol hwn yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a datblygiadau sy’n gysylltiedig â maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn rhoi cyfle unigryw i roi Cymru a’r DU ar y map o ran ymchwil i led-ddargludyddion cyfansawdd, ac i greu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru.

Rydym yn credu bod cyfle mawr i Gymru a’r DU ennill eu plwyf fel y prif le i gynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop, gyda chwmnïau ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dod ynghyd i greu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd, fel y rheini yn Eindhoven, Grenoble, Dresden a Leuven.’

Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Yn unigryw, mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cynnig ffordd o gynnal ymchwil, yn ogystal â chynhyrchu a phrofi cynhyrchion i ymchwilwyr masnachol ac academaidd, heb y buddsoddiad ariannol enfawr sydd ei angen ymlaen llaw i brynu’r cyfarpar arbenigol angenrheidiol at y fath ddibenion. Mae gan y Sefydliad staff sy’n cynnwys peirianwyr proses profiadol ac mae’n cynnig mynediad at ystod eang o gyfarpar a gwasanaethau.

Mae fy nghydweithiwr, y Rheolwr Gyfarwyddwr Clive Meaton, wedi ymrwymo i ddod ag academia a diwydiant ynghyd i newid meddylfryd academyddion y DU yn y maes, a’u hysgogi i ystyried a oes modd defnyddio eu hymchwil at ddibenion gweithgynhyrchu o’r dechrau cyntaf.

Ers dechrau 2017 mae’r Sefydliad yn tyfu’n sylweddol ac yn cynnal arweinyddiaeth academaidd, gref, drylwyr o ran safonau ei ymchwil.

Mae gan Brifysgol Caerdydd record o fri ym maes ymchwil technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Mae ymchwil a gynhyrchir gan rai o ymchwilwyr mwyaf blaengar y Brifysgol a’u timoedd yn cael ei chydnabod a’i pharchu ar draws y byd am ei hansawdd a’i pherthnasolrwydd i ddiwydiant. Drwy fuddsoddi symiau sylweddol yn y Sefydliad ei hun, mae’r Brifysgol yn amlwg yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo a datblygu technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth.

Mae nifer o gwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd yn ne Cymru, a gyda’r Brifysgol a’r Sefydliad, yn ffurfio sail i glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth. Tra bod sawl cwmni wedi ymsefydlu yn yr ardal ers llawer o flynyddoedd, yn ddiweddarach mae cwmnïau newydd wedi symud i mewn, wedi’u denu gan fuddsoddiadau a datblygiadau diweddar, ynghyd â’r hwb sydd ar gynnydd.

Drwy gefnogi diwydiant a gweithio gyda CS Connected a phartneriaid diwydiannol eraill, gallwn greu swyddi hynod fedrus â chyflog da fydd yn helpu de Cymru i ffynnu.”

Cyhoeddwyd darnau o’r erthygl hon am y tro gyntaf gan IngentaConnect yn Impact, Cyfrol 2019, Rhif 5, Mehefin 2019.

https://www.ingentaconnect.com/content/sil/impact/2019/00002019/00000005