Skip to main content

Adeiladau'r campws

Campws yn recriwtio Llysgenhadon newydd

10 Mehefin 2019

Mae grŵp o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli o gefndiroedd academaidd amrywiol wedi cofrestru i fod yn Lysgenhadon ar gyfer Campws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd.

Mae Nuzha Nadeem, Luke Morgan a Jack Collard wedi ymuno â Bouygues UK a Phrifysgol Caerdydd i rannu eu profiadau ar y safle wrth i’r prosiect ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf.

Maent ymysg pum myfyriwr sy’n gwirfoddoli a fydd yn cael cipolwg ar arbenigedd adeiladu Bouygues UK, yn ogystal â chyfle i wella eu proffiliau eu hunain drwy ysgrifennu, blogio a rhannu negeseuon cyfryngau cymdeithasol am eu profiadau.

Mae tri o’r recriwtiaid newydd wedi bod ar daith gyflwyniadol o’r safle yn Heol Maendy, Caerdydd, i weld sut mae Bouygues UK a Phrifysgol Caerdydd yn trawsffurfio hen iard reilffordd segur yn gartref i greu swyddi uwch-dechnoleg, sgîl-gynhyrchion a busnesau newydd ar draws disgyblaethau gan gynnwys y gwyddorau cymdeithasol, catalysis a lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Dywedodd Nuzha Nadeem, myfyriwr Peirianneg Sifil a Phensaernïol yn y flwyddyn gyntaf, ac sydd o Abu Dhabi yn wreiddiol: “Mae wedi bod yn brofiad gwych. Fel arfer yn y Brifysgol, rydym yn clywed am y theori, ond yma rydym yn cael gweld peirianneg ar waith. Mae profiad ymarferol o weithio ar safle yn bwysig iawn gan mai ein gwaith yw bod yma yn gorfforol. Mae’n ddiddorol eu bod nhw’n dod ag adeiladau mawr at ei gilydd a chael pobl i gydweithio ar brosiect cymhleth fel hyn.”

Dywedodd Luke Morgan, myfyriwr Meddygaeth yn ei 3edd flwyddyn: “Mae adeiladu yn ddisgyblaeth wahanol iawn i feddygaeth ac mae o ddiddordeb i mi o ran ei ryng-berthnasedd: mae’r ffordd y mae ysbytai wedi’u dylunio a’u hadeiladu yn unol â manylebau amrywiol yn bwysig. Mae prosiectau ar raddfa fawr a’r cymhlethdodau sy’n rhan ohonynt yn gofyn am gynllunio a meddwl haniaethol i oresgyn yr heriau. Mae’n safle prysur iawn ac mae’n galluogi Bouygues i ddod ag ystod amrywiol o bobl â’u rolau gwahanol ynghyd. Gwneud y gwaith i’r safon ofynnol yw gwir gamp y cwmni.”

Dywedodd Jack Collard, sy’n ei flwyddyn gyntaf yn astudio Cynllunio a Datblygu Trefol, “Hoffwn ehangu fy ngorwelion, deall y broses a dod i adnabod y sector adeiladu yn well, gan fod yr holl broses – o’r cam cynllunio, adeiladu, hyd at ei gwblhau – yn gysylltiedig. Mae’n beth da cael gwybodaeth eang o’r sector. Mae’r ffordd y mae’r safle’n cael ei redeg yn cyfateb i ethos y Campws Arloesedd: mae’r drefn a’r manylder sydd ei angen mewn uned ymchwil o’r radd flaenaf yn cael ei adlewyrchu yn y safle a’r ffyrdd y mae’r adeiladau’n cael eu creu.”

Bydd rhaglen y Llysgenhadon yn galluogi’r myfyrwyr i weld arbenigedd Bouygues UK, gan gynnwys ym meysydd dylunio, rheoli adeiladwaith, iechyd a diogelwch, ac ansawdd.

Yn y llun mae Nuzha, Luke a Jack gydag Ed Dobbs, Rheolwr Safle Bouygues UK a Nick Toulson, Cynghorydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) Bouygues UK ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr