Skip to main content

PartneriaethauPobl

Deall yr Economi Greadigol

8 Mai 2019

O ble mae creadigrwydd yn deillio a pham mae’n bwysig i economi, diwylliant a hunaniaeth dinasoedd? Sut gallem ddeall hyn er mwyn llywio dyfodol y ddinas? Ers 2014, mae tîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, er mwyn deall economi creadigol y rhanbarth hwn, ymgysylltu â hi a’i galluogi’n well. Yma, mae Sara Pepper, Cyfarwyddwr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd yn ystyried sut mae creadigrwydd yn gwella ansawdd byw a’r economi.

“Ar ôl bod yn rhan o’r sector creadigol am y rhan fwyaf o fy ngyrfa 20 mlynedd, gofynnodd cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd i mi ddod i mewn ac arwain y tîm newydd, gyda’r nod o hybu cysylltedd ac arloesedd yn economi greadigol de Cymru.

Ers hynny, mae de Cymru’n rhan o’r twf ar draws y DU (a’r byd) yn y sector creadigol. Y diwydiannau creadigol yw’r rhan gyflymaf ei thwf o economi’r DU, ac mae’n werth mwy na £100bn mewn gwerth ychwanegol gros, gydag un ym mhob 11 swydd yn rôl greadigol. Yng Nghymru, mae data Llywodraeth Cymru’n dangos i gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol dyfu bron 95%  rhwng 2006 a 2016. Mae llawer o’r twf hwn wedi datblygu yng Nghaerdydd sy’n hyb greadigol genedlaethol gyda dylanwad rhyngwladol. Rhagamcanir mai’r Ddinas Greiddiol gyflymaf ei thwf fydd hi, ac y bydd yn un o ddeg dinas gorau’r DU o ran y twf yn y nifer o fusnesau. Ond yn wahanol i lawer o ddinasoedd creadigol llwyddiannus, roedd diffyg rhwydwaith creadigol ar Gaerdydd.  Ar ôl ymchwilio i’r ymarfer gorau ar draws y DU, sefydlon ni rwydwaith Caerdydd Creadigol yn 2015.

Mae Caerdydd Creadigol wedi tyfu’n gyflym, a bellach mae 2,500 o aelodau sy’n cwmpasu llawer o sectorau creadigol ar draws y ddinas – o bensaernïaeth i animeiddio, o grochenwaith i ôl-gynhyrchu ar gyfer ffilmiau a’r teledu. Nod y rhwydwaith yw amlygu cyfleoedd am swyddi, helpu i greu cysylltiadau rhwng gweithwyr creadigol drwy gyfres o ddigwyddiadau ac annog arloesedd – ar draws gwahanol sectorau creadigol yn arbennig.

Pan wnaethon ni fapio’r economi creadigol a chanfod 2,788 o gwmnïau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, canfyddon ni mai Cerddoriaeth, Perfformio a’r Celfyddydau Gweledol oedd y sector mwyaf, ac iddo gyfran o weithwyr llawrydd sy’n bedair gwaith yn uwch na chyfartaledd cyflogaeth y wlad. Hefyd, roedd y ddinas yn dechrau arwain ym maes cynhyrchu ffilmiau a chynnwys ar gyfer y teledu.

Cadarnhaodd yr ymchwil hon fy nheimlad mai gweithwyr llawrydd yw asgwrn cefn yr economi greadigol. Ond nid oedd cefnogaeth benodol ar gyfer y gymuned hanfodol ond, yn aml, cyfnewidiol hon.

Daeth un ateb i hyn ar ffurf nifer o fannau cydweithredu creadigol yn haf 2016, a gwnaeth pob un o’r rhain hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio. Tyfodd Rabble Studio, Tramshed Tech a’r Sustainable Studio yn gyflym o lawr gwlad i hybiau mawr o weithgarwch creadigol sy’n cynnal cannoedd o weithwyr llawrydd, microfusnesau a BBaChau; dyma leoedd lle roedd gwybodaeth a syniadau’n cael eu cyfnewid a lle digwyddai cydweithrediadau creadigol yn naturiol.

Gyda’r mannau hyn a nifer o fannau eraill drwy gydol Dinas-Ranbarth Caerdydd, rydym wedi ffurfio’r Grŵp Cydweithio Creadigol, sy’n fenter dros gefnogi’r rheini sy’n rheoli’r hybiau hyn ac yn eirioli dros fodelau cynhyrchiol o gydweithio.

Mae cychwyn gyrfa fel gweithwyr llawrydd creadigol neu gynnal busnes sydd newydd ddechrau yn gallu bod yn heriol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Rabble Studio a’r Tîm Menter ym Mhrifysgol Caerdydd ar raglen beilot Ymlaen!, a roddodd graddedigion â syniad creadigol ar gyfer busnes ar leoliad yn y man am chwe mis i ddatblygu eu syniad. Mae hyn wedi arwain at nifer o raddedigion creadigol sydd bellach ar eu hynt yn y sector, a bydd y brifysgol yn eu rhoi mewn hybiau a sectorau eraill.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae arloesedd yn llyw creiddiol i weithgarwch a meddylfryd y sefydliad. Yn 2018, arweiniodd ein huned gais am gyllid Strategaeth Ddiwydiannol a’i ennill, drwy Raglen Clwstwr Diwydiannau Creadigol, sy’n gystadleuol iawn.

Mae’r fenter newydd – Clwstwr – yn bartneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae’n cynnwys dros 50 o bartneriaethau. Dyma raglen uchelgeisiol i’r diwydiant wneud cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau arloesol, newydd ynghylch sgriniau.

Mae Clwstwr bellach yn gweithio ochr yn ochr â Chaerdydd Creadigol, gan weithio gyda’r economi greadigol ac ar ei chyfer yn ne Cymru. Dyna pam mae aelodau sefydlol Caerdydd Creadigol yn amrywio o Gyngor Caerdydd i Ganolfan Mileniwm Cymru a BBC Cymru Wales. Dyma pam mae Clwstwr yn cynnwys cwmnïau creadigol a thechnolegol, o’r newyddion i realiti estynedig.

Gyda’n gilydd, rydym yn credu y gallwn adrodd stori newydd am Gaerdydd, a hithau’n brifddinas creadigrwydd, wrth y byd. Beth am ymuno â ni?”