Skip to main content

PartneriaethauPobl

Clwstwr Caergrawnt – gwersi am anuniongyrchedd, serendipedd ac agosrwydd ar y daith at arloesedd

2 Mai 2019

Treuliodd yr Athro Rick Delbridge y Tymor Michaelmas diwethaf fel Cymrawd Gwadd yng Ngholeg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Yn ei rôl fel Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd, roedd gan yr Athro Delbridge y cyfle i weld ecosystem arloesedd rhanbarthol Caergrawnt, neu ‘glwstwr’, a siarad yn agored gyda chroestoriad eang o gyfranogwyr clwstwr. Yma, mae’n ysgrifennu am y cyfleoedd a’r heriau sy’n ymwneud â ‘Ffenomenon Caergrawnt.’      

“Yn ystod fy amser yng Nghaergrawnt, fy nod oedd ateb dau gwestiwn sylfaenol: sut y mae clwstwr Caergrawnt yn gweithio, a pha agweddau a fydd o ddiddordeb i fy sefydliad a fy rhanbarth fy hun yma yng Nghaerdydd wrth i ni ddyfnhau ein gweithgarwch arloesi?

Cefais y cyfle i gwrdd â thua 30 o bobl sy’n ymwneud yn agos ag ecosystem arloesedd rhanbarthol Caergrawnt: academyddion, gweithwyr proffesiynol arloesedd a menter y brifysgol, entrepreneuriaid a buddsoddwyr, rheolwyr canolfannau arloesedd, ac uwch-reolwr corfforaethol. Roedd eu barn yn cynnig cipolwg gwerthfawr. Yma rwy’n ceisio cynnig crynodeb byr o rywbeth sy’n ffenomenon cymhleth, wedi’i fewnosod yn ddwfn.

Yn gyntaf, ceir syniad clir o glwstwr Caergrawnt yn ei gyfanrwydd, gyda’i gymeriad, hanes a’i rinweddau penodol ei hun.

Soniwyd am agosrwydd y clwstwr (yn ffisegol ac o ran perthnasoedd cymdeithasol) yn rheolaidd (‘Caergrawnt fel pentref’). Roedd agosrwydd yn gwneud perthnasau a chyfathrebu yn haws, ac yn cynnig cydlynoldeb a chysondeb i’r gweithgarwch. Fodd bynnag, soniodd nifer o bobl fod ‘gwleidyddiaeth’ pentref yn gallu ei gwneud hi’n anodd cael mynediad at sefyllfa gymdeithasol mor dynn (‘Mae’n anodd iawn cymryd rhan, mae’n rhaid i chi brofi eich hun’).

Cyfeiriwyd at serendipedd mewn trafodaethau ynghylch datblygiad gwreiddiol y clwstwr ac o ran sut y mae’n gweithio (cyfarfodydd ar hap, y clwstwr fel ‘crochan’ ac ati) ond mae’n rhaid iddo gyfateb â gallu i fod yn ymatebol a chydweithio mewn ffyrdd sy’n eithaf agored.

Ceir sawl rhwydwaith a ‘chymunedau’ sy’n hyrwyddo a chynnal y weithgaredd hon, y rhan fwyaf ohonynt ‘o’r gwaelod i fyny’ ac wedi’u trefnu eu hunain.

Roedd y teimlad o hunaniaeth yn sail i farn y mwyafrif helaeth o bobl y gwnes i gyfarfod â nhw. Roedd sawl un yn cyfeirio at ddatblygiad hanesyddol y clwstwr, pwysigrwydd canolog darganfyddiadau gwyddonol, a rhinweddau unigryw y clwstwr.

Roedd nifer hefyd yn uniaethu â ‘naratif clwstwr’, wedi’i adeiladu’n rhagweithiol a’i hyrwyddo’n eang.

‘Ffenomenon Caergrawnt’, ailadeiladu naratifau hanesyddol ynghylch dechrau’r clwstwr, a chyfraniad amlwg parhaus unigolion allweddol sydd wedi helpu i adeiladu a chynnal hunaniaeth y clwstwr hwn. Mae’r ‘stori’ wedi dylanwadu ar sut y mae pobl yn deall ac yn llywio datblygiad y clwstwr.

Roedd safle daearyddol Caergrawnt (a’r ffaith nad yw wedi’i lleoli yn Llundain, Silicon Valley na Rhydychen) hefyd yn allweddol i’r hunaniaeth hon, ynghyd â nodweddion sy’n cynnwys agwedd agored, rhannu, cysylltedd, anffurfioldeb, dathlu llwyddiant, ymdrech ar y cyd, a natur organig ac amlwg nifer o’r gweithgareddau hyn.

Mae dwy elfen drawiadol – amwysedd a anuniongyrchedd – yn diffinio ymarferoldeb y clwstwr. Maent yn helpu i wahaniaethu rhwng clwstwr Caergrawnt a sawl ffenomena lled debyg eraill.

Roedd unigolion yn aml yn disgrifio sefyllfaoedd lle nad oedd ‘rheolau’ wedi’u sefydlu, a lle bo mwy nag un set o gonfensiynau: sy’n nodweddiadol o Brifysgol Caergrawnt ei hun dros nifer o ganrifoedd.

Mae diffyg rheolau a chonfensiynau eglur, anhyblyg yn cynnig lle am ffyrdd arloesol o feddwl a gwneud, ond gall amwysedd fod yn aneffeithiol, a chael ei weld yn ‘anghefnogol’ gan ‘newydd ddyfodiaid’.

Er bod amwysedd yn annog dull gweithredu goddefol a chyfranogol, roedd rhai o gyfranogwyr y clwstwr yn teimlo bod ‘pobl yn cael eu gadael i foddi neu nofio’ a bod problemau yn codi wrth geisio ‘dylanwadu’ ar gryfderau a chyflwyno safle wedi’i gydlynu pan fo llawer yn cael ei gadw’n dawel.

Mae anuniongyrchedd yn awgrymu ei fod yn fwy tebygol llwyddo wrth fynd i’r afael â phethau’n anuniongyrchol. Roedd unigolion yn aml yn disgrifio sut y gwnaeth y clwstwr dyfu drwy ‘esgeulustod diniwed’, ‘achos o drio a methu ac arbrofi’, ac ati.

Mae dull gweithredu anuniongyrchedd yn adeiladu ar addasu cyson ac yn canolbwyntio ar y nod ei hun, yn hytrach na’r ffordd o’i gyflawni. Mae llwyddiannau a methiannau yn arwain at ailasesu yr amcanion a’r gweithgareddau.

Mae barn am anuniongyrchedd yn amrywio’n eang. Roedd rhai unigolion yn gadarnhaol, tra bod eraill yn cwyno am ddiffyg cydlynu, cynnydd mewn gweithgareddau, a methiant i ddylanwadu’n uniongyrchol ar adnoddau. Roedd nifer fechan hyd yn oed wedi dweud bod ymdrechion i fod yn fwy cyson wedi’u hatal, gan fynd yn erbyn y cymeriad ‘agored’ y mae’r clwstwr yn ei harddel.

Sut y bydd y clwstwr yn addasu i’w gyd-destun sy’n newid? Gwnaeth y syniad o newid ysgogi ymatebion amrywiol. Dylai fod yn gynyddol neu’n radical, yn esblygol neu wedi’i gyfeirio’n strategol? Roedd rhai yn teimlo y byddai dull mwy ymyraethol a gydlynir yn ganolog wedi amharu ar yr ecoleg; roedd eraill yn ei ystyried yn ‘gam naturiol ymlaen’ ac yn credu y byddai’r system yn addasu.

Mae anuniongyrchedd wrth wraidd y cwestiwn hwn. A oes modd i newid gael ei gydlynu’n strategol tra’n aros yn driw i’r nodweddion sy’n sicrhau gweithrediad diffwdan presennol y clwstwr? Ac os oes angen newid mwy radical, sy’n amharu, a fyddai gonestrwydd y clwstwr o ran pa mor gyflawn ydyw a’i gydlyniant yn goroesi?

Roedd y cwestiwn am gyfeiriad y clwstwr yn y dyfodol wedi arwain at amrywiaeth eang o farn. Roedd un yn ymdeimlad o heneiddio ‘cenedliadol’ fel ffigurau allweddol ymddeol. Roedd barn gyffredin am faint o gydlynu canolog a oedd yn bosibl i fynd i’r afael â’r newid hwnnw yn y cenedlaethau, a synhwyro bod newid ar droed p’un a bod y clwstwr yn bwriadu cydgysylltu ar lefel strategol neu beidio.

Dangosodd ymchwil mewn datblygiad economaidd rhanbarthol mai clystyrau gwydn yw’r rhai sy’n gallu datgysylltu eu cylch datblygu cyntaf o gylch eu technolegau sydd wrth eu gwraidd.

Bydd clystyrau yn wydn pan fydd eu rhwydweithiau gwybodaeth yn llwyddo i atgyfnerthu’r craidd tra’n cynnal llif gwybodaeth rhwng craidd o gyfranogwyr wedi’u sefydlu a dechreuwyr newydd ar yr ymylon.

Drwy gysylltedd ysgogol rhwng y craidd a’r ymylon, gall y clwstwr esblygu tuag at gyfnod archwiliadol a pheirianneg, gan dderbyn a datblygu technolegau ac osgoi gor-ddibyniaeth ar seiliau technolegol llwyddiannau yn y gorffennol.

Gall clystyrau wanhau os ydynt yn ceisio cyfyngu ar newyddwch llifau gwybodaeth a symbyliad creadigol gan ddechreuwyr newydd. Yn yr un modd, mae rhwydweithiau cryf yn hwyluso cyfathrebu ond gallant atal arloesedd gan fod perthnasau’n aml yn ffurfio ymysg cyfranogwyr tebyg.

Mae gwaith blaenorol ar rwydweithiau arloesedd (gan gynnwys peth o fy ymchwil fy hun) wedi gwella gwerth chwilio rhagweithiol ar gyfer partneriaid newydd, meithrin cysylltiadau newydd posibl a chynnal cysylltiadau cudd fel ffynhonnell wybodaeth ac adnoddau y dyfodol.

Mae gweithredoedd megis maethu amrywiaeth system ac annog modwlaredd yn gallu helpu clystyrau i ymdopi â ‘sioc i’r system’ economaidd. Mae’n rhaid i ddatblygiad polisïau symud oddi wrth ffordd o feddwl sefydlog, a chynllunio ar gyfer dyfodol neu sefyllfa amgen.

Yn ystod fy amser yng Nghaergrawnt, nid oedd yn glir i mi bod ‘datblygiad polisi’ ar lefel clwstwr yn weithgaredd amlwg na dylanwadol, er gwaethaf rhywfaint o weithgarwch ar y lefel hon.

Mae corff ymchwil, gan gynnwys gwaith gan yr Athro Gillian Bristow a’r Athro Adrian Healy o Gaerdydd, wedi dangos trefniadau lluosganolog a hyblyg a allai helpu clystyrau i blygu, lle byddai sefydliadau sengl, canolog yn cael trafferth i ymdopi â chymhlethdod.

Mae dull polisi sy’n cydnabod arwyddocâd canolog diffyg llinoledd, natur anrhagweladwy a phwysigrwydd adborth a dysgu yn golygu y bydd clystyrau angen system rheoli data effeithiol, trosglwyddiadau cyflym o wybodaeth a dysgu rhwng actorion allweddol, a sefydliadau hyblyg os ydynt am lwyddo.

Yn gyffredinol, ymddengys fod Clwstwr Caergrawnt mewn lle da i dyfu yn y dyfodol: mae rhwydweithio effeithiol, ymatebolrwydd a hyblygrwydd yn nodweddion o sut y mae’r clwstwr yn trefnu’i hun ar hyn o bryd.

Er bod Caerdydd a Chaergrawnt yn llefydd a phrifysgolion gwahanol iawn, mae gwersi gennym ni i’w dysgu: bydd fframiau concrid ein hadeiladau Campws Arloesedd diweddaraf yn eu lle yn fuan iawn, yn ailddiffinio nenlinell y ddinas a’n hymagwedd ein hunain tuag at arloesedd yma yng Nghaerdydd. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein polisïau a’n hymarferion yn esblygu mewn ffyrdd sy’n annog ac yn cefnogi arloesedd, ein bod ni’n barod i fod yn agored a chyfathrebu a chydweithio, a’n bod ni’n datblygu naratifau a rennir ac yn ymddiried yn ein gilydd er mwyn arwain a chynnal ein menter ar y cyd fel prifysgol a rhanbarth.

Yr Athro Rick Delbridge yw Deon Ymchwil, Arloesedd a Menter y Brifysgol ac Arweinydd Academaidd y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol arfaethedig.