Skip to main content

PartneriaethauPobl

Sut y gwnaeth PTG newid fy mywyd

27 Chwefror 2019

Mae Dr Maria Rubiano-Saavedra wedi bod yn gweithio ar brosiect Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth llwyddiannus rhwng Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd a GAMA Healthcare, arweinydd y farchnad.

Mae GAMA Healthcare yn arbenigo mewn datblygu a gweithgynhyrchu cynhyrchion gwrthficrobaidd. Datblygodd yr arweinydd byd-eang y sychwr dieheintiol cyffredinol cyntaf a oedd ar gael yn y DU o dan y brand Clinell.

Daeth Maria i Gaerdydd o Bogotá yng Ngholombia chwe blynedd yn ôl. Mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at ei phenodi’n Bennaeth Microbioleg ar gyfer Canolfan Ymchwil a Datblygu newydd y cwmni gwerth £2m yn Halifax, Swydd Efrog.

Yma, mae Maria yn sôn am ei thaith bersonol a phroffesiynol

“Fe wnes i fy ngradd mewn Microbioleg Ddiwydiannol yng Ngholombia a chwblhau fy nhraethawd PhD ym Mhrifysgol Barcelona o dan arweiniad Dr Francisco Lucena yn yr Ysgol Bioleg. Fe wnes i interniaeth hefyd yn America ym Mhrifysgol Riverside California o dan arweiniad yr Athro Marylyn Yates a chwblhau fy PhD gyda cum laude.

“Yna fe wnes i gais am brosiect diddorol wedi’i gynnal gan yr Athro Jean-Yves Maillard yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd. Roedd yn cyfuno fy arbenigedd (firysau) gyda’r posibilrwydd o weithio yn y DU – un o’r gwledydd mwyaf dylanwadol o ran ymchwil gwyddonol.

Caerdydd yn ail gartref

“Mae’n ddinas fach fywiog, sy’n datblygu drwy’r amser. Mae maint y ddinas yn eich galluogi i gyfuno eich bywyd personol a phroffesiynol. Mae ganddi gastell hudolus, amrywiaeth o lefydd i fwyta ac yfed, ardaloedd gwyrdd gwahanol, digwyddiadau cerddorol a chwaraeon a rhai o’r arcedau siopa harddaf. Rydw i wedi cwrdd â fy mhartner oes yma, dechrau rhedeg, a dwi hyd yn oed yn hoff o rygbi erbyn hyn!”

“Mae’r chwe blynedd wedi bod yn hyfryd. Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad o fri mewn lleoliad gwych sydd ag adnoddau dymunol. Rydw i wedi gweithio gyda chydweithwyr eithriadol, yn enwedig y grŵp Microbioleg o dan arweiniad yr Athro Maillard. Mae ymchwil y grŵp yn canolbwyntio ar effaith bioladdwyr gwrthficrobaidd ar heintiau a gafwyd o ysbytai. Mae’r effaith a gafodd yr Athro Maillard ar ddatblygiad fy ngyrfa wedi bod yn anhygoel.

PTG wrth wraidd arloesedd

“Mae rôl Cyswllt PTG wedi cynnig y cyfle perffaith i gyfuno ymchwil academaidd gyda byd diwydiant. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gwneud gwaith anhygoel, gan ddod â chydnabyddiaeth o Brifysgol Caerdydd, GAMA Healthcare ac Innovate UK – prif noddwr PTG. Mae’r gwaith wedi bod yn gryn her ond yn hynod foddhaol, gan agor drysau newydd y tu allan i’r byd academaidd.

“Mae’r PTG wedi fy ngalluogi i weithio’n agos gydag adrannau Gama Healthcare gwahanol, rheoli cysylltiadau gyda dosbarthwyr rhyngwladol, datblygu sgiliau rheoli prosiectau ac arweinyddiaeth, a gwella fy ngwybodaeth wyddonol a fy natblygiad personol.

“Yn anad dim, fe wnaeth fy helpu i sylweddoli y byddai’r cam nesaf yn fy ngyrfa yn canolbwyntio ar ddiwydiant, gan ddarganfod atebion newydd sy’n arwain at fanteision go iawn o fewn y sector arloesi gofal iechyd.

Pwysigrwydd cydweithio

“Mae trosglwyddo gwybodaeth wedi bod yn allweddol. Mae GAMA wedi ymgorffori arbenigedd academaidd ychwanegol, dulliau a phrotocolau mewnol, hyfforddi ymchwilwyr, a chaffael cronfa ddata gweithredol a helaeth sy’n berthnasol i ymchwil y dyfodol.  Y prif gyflawniad yw creu dau gynnyrch gwell ar gyfer dwylo ac arwynebau, a fydd yn dod â mwy o atebion ar gyfer y sector gofal iechyd ac yn cynyddu gwerthiant cwmnïau o fewn marchnadoedd y DU ac yn Rhyngwladol.

“Yr hyn dwi’n ei garu am GAMA yw’r bobl a’r ffaith eu bod yn rhannu’r un angerdd; mae’n deulu o staff cymwys gydag amcan cyffredin. Ers y diwrnod cyntaf, rydw i wedi teimlo’n rhan o’r teulu hwn.

Beth wnaeth Maria nesaf

“Rwy’n symud i ogledd Lloegr yn fuan i ddechrau fy rôl newydd fel Pennaeth Microbioleg ar gyfer GAMA Healthcare.

“Mae gen i deimladau cymysg am hyn. Rwy’n ddiolchgar iawn am bopeth mae Cymru wedi’i roi i fi yn ystod y chwe blynedd diwethaf ac am bopeth y mae PTG wedi’i gynnig o ran sgiliau a datblygiad proffesiynol, ac agor pennod nesaf fy ngyrfa.

Gweithio i GAMA yw’r cam nesaf perffaith i fi a galla i ddim aros i fod yn rhan swyddogol o’r tîm. Mae’r cyfleuster ymchwil a datblygu newydd eisoes ar agor, yn barod i ddechrau ar brosiectau cyffrous, ac yn llawn gweithwyr proffesiynol gwych.

Rwy’n teimlo’n gadarnhaol iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth a ddaw i mi yn y dyfodol yng ngogledd Lloegr…”