Skip to main content

PartneriaethauPobl

Caerdydd a Hokkaido – cyfeillgarwch arbennig

20 Chwefror 2019

Mae Catalysis yn cyflymu adweithiau cemegol. Hebddo, byddai’r byd modern yn wahanol iawn – mae popeth o danwyddau i ddeunyddiau i gynnyrch fferyllol yn dibynnu ar gatalysis yn y broses gweithgynhyrchu.

Fel cregyn caeedig electronau, rydym ni wyddonwyr weithiau yn aros o fewn ein meysydd, gan gadw at yr hyn a wyddwn, yn hytrach na rhyngweithio ag eraill.

Mae ein ‘adegau catalytig’ yn ymgysylltiadau dynol: y cynadleddau, sgyrsiau a chyfarfodydd drwy hap sy’n ein hysbrydoli i wneud rhagor.

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn dda am greu rhyngweithiadau personol. Mae gennym ddiwylliant agored, ar y cyd, ymagwedd fyd-eang a chred yn yr hyn sydd o fudd yn ehangach yn ein maes gwyddoniaeth penodol.

Fel Cyfarwyddwr newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), mae’n ymagwedd fydd yn parhau i ddiffinio ein gwaith yma ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hwn yw’r ethos hefyd a rennir gan Sefydliad Catalysis Prifysgol Hokkaido yn Japan.

Mae gwreiddiau Sefydliad Catalysis Hokkaido (ICAT) yn estyn yn ôl i 1943, a chrëwyd y sefydliad yn 2015. Fel CCI, a sefydlwyd saith mlynedd gynharach, mae ICAT yn datblygu cymwysiadau ymarferol er mwyn defnyddio gwaith ymchwil i greu prosesau diwydiannol glanach a gwyrddach – neu, yn ôl disgrifiad cryno ICAT, yn ‘creu hadau technolegol a ysbrydolwyd gan anghenion diwydiannol.’

Crëwyd ein sefydliadau fel ei gilydd mewn dinasoedd morwrol gwladwriaethau sy’n ynysoedd, felly mae gennym ymagweddau tebyg. Mae ICAT yn awyddus i weithio â gwyddonwyr dramor: Mae ei Chanolfan Ymchwil Catalysis ar y Cyd yn adlewyrchu gwaith CCI yn ei hymrwymiad i fynd i’r afael â gofynion cymdeithasol.

Dros y degawd diwethaf, mae CCI wedi meithrin cysylltiadau cryfach fyth â Hokkaido. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, daeth 15 o ymchwilwyr allanol i ymweld â ni a chymryd rhan mewn symposiwm oedd yn cyd-ddigwydd â’n Cynhadledd Flynyddol ni ein hunain.

Mae ein canolfannau wedi cydweithio ar brosiectau a ariennir gan yr UE fel NOVACAM – datblygu catalyddion gan ddefnyddio elfennau nad ydynt yn hanfodol, a ddyluniwyd er mwyn datgloi potensial biomas – deunydd gwastraff o blanhigion neu anifeiliaid sydd ddim yn cael ei ddefnyddio at ddibenion bwyd, neu fwyd anifeiliaid.

Yn rhan o brosiect NOVACAM, rydym yn datblygu’r adweithiau catalytig sylfaenol sydd eu hangen i brosesu biomas yn gemegau ac yn danwyddau defnyddiol.

Mae prosesu biomas, fel seliwlos, yn ymwneud â chemeg gwahanol iawn i’r un a ddefnyddir gyda ffynonellau carbon traddodiadol sy’n seiliedig ar ffosil; yn benodol, rhaid lleihau’r cynnwys ocsigen a chadw gafael ar y carbon a’r hydrogen sydd ynddo er mwyn uwchraddio’r adnoddau hyn.

Mae prosiect cydgysylltiedig rhwng yr UE a Japan, gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd ac Asiantaeth Gwyddoniaeth a Thechnoleg Japan, NOVACAM, wedi cymell CCI i gyfnewid myfyrwyr PhD a staff Cydymaith Ymchwil Ôl-Ddoethurol rhwng y naill ganolfan a’r llall am hyd at flwyddyn. At hynny, mae wedi cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau ym maes ‘cemeg werdd.’

Parhaodd ein symposiwm dau ddiwrnod mewn hyd i adeiladu ar y llwyddiant hwn. Cafwyd ystod o gyflwyniadau oedd yn rhychwantu tir cyfoethog ac amrywiol.

Siaradodd Nicholas Dummer o Gaerdydd, er enghraifft, am ‘Drosi Glycerol i Fethanol a Chynnyrch Ychwanegu-gwerth Arall’ a bu Atsushi Fukuoka o Hokkaido’n amlinellu ‘Trosi seliwlos a citin yn gatalytig i mewn i gemegion â gwerth ychwanegol.’

Cwmpaswyd dros 10 o bynciau mewn deuddydd. At hynny, adeg egwyl cawsom gyfle i siarad am ein gwaith arall, fel sut i ddod o hyd i ddulliau effeithlon o gynhyrchu biodanwyddau sy’n niwtral o ran nwyon tŷ gwydr.

Mae’n deg dweud bod y symposiwm wedi gweithredu fel ein catalydd ni ein hunain. At hynny, wrth i’n maes cemeg penodol ninnau ymledu i fynd i’r afal â rhai o heriau pennaf cymdeithas, bydd rhyngweithiadau dynol a chemegol yn hanfodol

Yr Athro Duncan Wass

Cyfarwyddwr, Sefydliad Catalysis Caerdydd