Skip to main content

PartneriaethauPobl

Mae arloesedd yn bridio arloesedd: o atal trais i Gyngor y DU ar Beth sy’n Gweithio

26 Hydref 2018

Awdur: Jonathan Shepherd

Ym mis Gorffennaf 1997 fe fentrais i. Roedd fy ymchwil wedi dweud wrthyf flynyddoedd o’r blaen fod ysbytai Achosion Brys yn ffynonellau data unigryw am drais y gellid eu defnyddio i sbarduno plismona wedi’i dargedu’n well. Yr awgrym oedd y gellid atal trais yn fwy effeithiol pe bai’r data o’r ysbytai Achosion Brys a’r heddlu’n cael eu cyfuno a pe byddai swyddogion gweithredol o faes plismona, iechyd a Llywodraeth Leol yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i’w ddefnyddio i nodi ac wedyn mynd i’r afael â mannau lle y ceir problemau trais ac argaeledd arfau.

Y cam i mewn i’r anhysbys o dan sylw, wedi’i ohirio gan y gwaith caled sy’n gysylltiedig ag adnewyddu adran brifysgol sydd wedi mynd â’i ben iddo, recriwtio llawer o staff, sefydlu fy arfer yn y GIG a dechrau dau grŵp ymchwil newydd, oedd galw’r cyfarfod a sbardunodd Bwrdd Atal Trais amlasiantaethol Caerdydd. Roedd yn galonogol iawn i mi weld parodrwydd y rhai a wahoddwyd, arolygydd gyda Heddlu De Cymru, Swyddog Cyngor Sir a chydgysylltydd Cymorth i Ddioddefwyr, i gwrdd – ac i gwrdd unwaith eto.

Profi a mireinio

Fel gyda phob math o arloesi, roedd angen profi effeithiolrwydd a manteision cost y bartneriaeth newydd hon yng Nghaerdydd mewn treialon trylwyr. Pe na bai’n lleihau trais o gymharu â dinasoedd heb bartneriaethau o’r fath yna byddai’n wastraff adnoddau, a byddai’n dargyfeirio gweithwyr proffesiynol prysur o strategaethau y gwyddys eu bod yn effeithiol. Wedi derbyn cymorth i ddechrau gyda grant sylweddol gan y Swyddfa Gartref, dechreuodd y gwerthusiad ddangos bod y dull newydd hwn yn gweithio.

Nid am y tro cyntaf y dysgais fod angen meithrin, mireinio, dogfennu a dyfalbarhau i arloesi. Nid oedd damcaniaeth yn ddigon; daeth llwyddiant gyda sylw agos at y pethau sylfaenol yn unig. Roedd angen canfod a gwerthuso ffyrdd o gasglu gwybodaeth mewn ysbytai Achosion Brys ynglŷn â lleoliadau penodol ar gyfer trais, arfau ac ymosodwyr; roedd angen i feddalwedd Achosion Brys newydd gael ei hysgrifennu a’i hymgorffori yn y system TG bresennol; Roedd angen recriwtio dadansoddwyr ac arfarnwyr data; roedd angen dod o hyd i gymorth gweinyddol.

Nid oedd rhai ymyriadau sy’n ymddangos yn effeithiol yn gweithio a rhoddwyd gorau iddynt; gan annog pobl sydd wedi’u hanafu i gael gafael ar wasanaethau cymorth i ddioddefwyr, a chynyddu’r siawns y bydd troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfiawnder, er enghraifft. Copïwyd y dull hwn ar Lannau Merswy ac yn Glasgow, sy’n enghreifftiau o fabwysiadwyr cynnar o Fodel Caerdydd, ynghyd â rhoi’r model ar waith dramor am y tro cyntaf, yn Amsterdam.

Sicrhau mai Caerdydd yw’r ddinas fwyaf diogel

Dim ond ar ôl 40 o gyfarfodydd y Bwrdd dros bum mlynedd y cyhoeddwyd tystiolaeth argyhoeddiadol o’u heffeithiolrwydd. Ond cafwyd anogaeth fawr yn fuan; yn 2007 roedd yn amlwg o ddata anafiadau bod Caerdydd wedi datblygu fel y ddinas fwyaf diogel yn nheulu dynodedig y Swyddfa Gartref, sef 14 o ddinasoedd “mwyaf tebyg”. Yn 2008, roedd y Llywodraeth ar y pryd yn cynnwys Model Caerdydd yn ei strategaeth alcohol ddiwygiedig. Yn 2010, gwnaeth gweinyddiaeth y glymblaid newydd ymrwymiad yn ei rhaglen llywodraethu.

Erbyn y 2000au cynnar, gan adlewyrchu ar Fwrdd Caerdydd, roeddwn wedi bod yn pendroni, er bod fy nghefndir mewn ysgolion clinigol mewn Prifysgolion grŵp Russell yr ariennir eu hymchwil gan y cyngor ymchwil feddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd ymchwil, nid oedd cyfleoedd cyfatebol mewn plismona nag ychwaith mewn profiannaeth. ymddangosodd fod gwasanaethau cyhoeddus eraill yn brin o dystiolaeth o gymharu â gofal iechyd. A pham mai’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) oedd yn llywio’r GIG ond nad oedd unrhyw sefydliadau tebyg yn cyhoeddi canllawiau yn seiliedig ar dystiolaeth ar atal troseddu, addysg neu lywodraeth leol?

Plymio i mewn i bwll gwahanol

Wedi cael fy nghalonogi gan lwyddiant arloesedd atal trais Caerdydd, er bod y syniad o waith 10 mlynedd arall cyn dwyn ffrwyth ychydig yn frawychus, plymiais i bwll gwahanol. Yn 2010, roedd Syr Adrian Smith FRS, cyn-Lywydd y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn AdranBusnes, Arloesi a Sgiliau (BIS). Ysgrifennais ato i dynnu sylw at yr anghysonderau hyn ac i argymell y dylid ffurfio cyrff cyfatebol i NICE i gefnogi’r holl wasanaethau cyhoeddus mawr ac y dylai cynrychiolwyr pob un o’r endidau newydd hyn gyfarfod mewn bwrdd cenedlaethol newydd lle y byddai arbenigedd ar gynhyrchu, synthesis a symud tystiolaeth yn cael eu rhannu.

Atebodd yn gadarnhaol iawn a gofynnodd am gael cyfarfod. Wedyn cyflwynodd fi i Gyfarwyddwr y Sefydliad ar gyfer Llywodraeth (IfG), sef Syr Michael, sydd bellach yr Arglwydd Bichard – cyn-ysgrifennydd parhaol yn yr Adran Addysg. Cynhaliwyd ail gyfarfod yn yr IfG, a fynychwyd hefyd gan David Halpern, cyfarwyddwr ymchwil yr IfG. O ganlyniad, trefnodd yr IfG gynhadledd bord gron a gadeiriwyd gan David Willetts, y gweinidog gwyddoniaeth ar y pryd.

Yn y gynhadledd hon, y cefais y fraint o’i hagor, cafodd yr argymhellion hyn eu ffafrio. Fel yn achos y bwrdd atal trais, cymerodd amser a llawer mwy o gyfarfodydd cyn i ffurf a swyddogaeth yr hyn a ddaeth yn Ganolfannau Beth sy’n Gweithio y Deyrnas Unedig gael eu setlo. Erbyn hyn mae wyth ganolfan o’r fath, pob un â chyfrifoldeb am synthesis tystiolaeth a chynhyrchu canllawiau mewn sector penodol. Roedd cysyniad y bwrdd cenedlaethol newydd yn crisialu’r hyn a oedd yn awr yn Gyngor Beth sy’n Gweithio, a weinyddir gan Swyddfa Gabinet y DU. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, Syr Jeremy Heywood, yn gefnogwr brwd.  Mae Canolfan polisi cyhoeddus Cymru, a gyfarwyddwyd yn fedrus gan yr Athro Steve Martin o’r brifysgol, sy’n aelod cyswllt o’r Cyngor.

Y seren arweiniol

I gymryd un enghraifft, mae’r Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF), y Ganolfan Beth sy’n Gweithio ar gyfer Addysg a ddynodwyd, bellach wedi ariannu dros 100 o dreialon polisi ar hap, gan gynnwys ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i wella llythrennedd ac i wneud y defnydd gorau o gynorthwywyr addysgu. Mae EEF yn ymgorffori’r dystiolaeth hon, sydd mor bwysig yng nghyd-destun y newyddbeth a’r ffasiwn sydd wedi bod yn broblem ym maes addysg dros y blynyddoedd, yn ei harweiniad awdurdodol a hygyrch i athrawon, rhieni a threthdalwyr. Yn yr un modd ag y mae NICE yn rhoi arweiniad i weithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a’r GIG, yn yr un modd y mae’r EEF wedi dod yn seren arweiniol mewn addysg.

Yr Athro Jonathan Shepherd yw aelod annibynnol y Cyngor Beth sy’n Gweithio ac mae’n cynrychioli’r Academi Gwyddorau Meddygol ar Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth y Swyddfa Gartref. Mae wedi ei leoli yn Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol a gydsefydlodd yn 2015. Cadeiriodd Fwrdd Atal Trais Caerdydd o 1997 i 2017.