Skip to main content

Erasmus+

Ich liebe Berlin

7 December 2014
Berliner Dom yn ystod y 'Gŵyl golau’
Berliner Dom yn ystod y 'Gŵyl golau’
Y Reichstag

 

Fy enw i ydi Elin Jones, a dwi’n astudio Almaeneg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel rhan o fy nghwrs mae hi’n orfodol i fi dreulio blwyddyn yn yr Almaen yn gwella fy iaith.

Mae hi’n fis Rhagfyr! Sy’n golygu fy mod i’n byw yn Prenzlauer Berg, yn Nwyrain Berlin ers dros 2 fis bellach! Doeddwn i ddim wir wedi bwriadu ‘sgwennu blog, ond mae amser yn gwibio yma a dwi’n teimlo fel mae blog ydi’r ffordd gorau i gofnodi fy mhrofiadau!

 

Schloss Charlottenburg
Schloss Charlottenburg

 

 

Dwi’n siwr eich bod chi gyd yn ymwybodol o’r ffaith bod Berlin yn brifddinas llawn hanes. Dwi wedi dechrau taclo amrywiaeth eang Berlin o amgueddfeydd, hyd yn hyn fuaswn i’n bendant yn argymell amgueddfa’r DDR  (yr hen ddwyrain), Schloss Charlottenburg (hen blasdy y teulu Hohenzollern) ac yr amgueddfa offerynnau cerdd.

Y ‘Lichtgrenze’ ar hyd Bernauer Strasse

 

 

Roeddwn i hefyd ddigon ffodus i fod yma pan oedd dathliadau 25 mlynedd ers dymchwel wal Berlin. O’r 7fed i’r 9fed o Dachwedd cafodd Berlin ei rhannu gan 8,000 o falwnau gwyn disglair ar hyd 15km yn creu Lichtgrenze (neu ffin o olau). Roedd yna nifer o bethau gwahanol ymlaen yn ystod y penwythnos gan gynnwys teithiau tywys, ras redeg o un pen o’r Lichtgrenze i’r llall, a Trabiparade. Un o’r pethau y gwnes i fwynhau fwyaf oedd cyngerdd gan aelodau llinynnol Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd yn Mauerpark.

 

Rhyddhau y balwns wrth y Reichstag

Ar y bore Sul fe es i draw at gofeb y wal i weld amgueddfa newydd am y wal yn cael ei agor gan Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel – profiad anhygoel yn ei hun. Roedd y cyhoedd yn sefyll tu ôl i ffensiau metel ac wedi i Merkel adael cafodd y ffensiau eu hagor wrth i swyddog o’r heddlu ddweud “Mae’r ffin wedi’i hagor” ac wedyn chwerthin gan sylwi eironi ei eiriau ei hun.

Yn y cyfamser roedd gŵyl mawr awyr agored yn cael ei chynnal wrth y Brandenburger Tor ers dau o’r gloch yn y prynhawn, gan gynnwysPeter Gabriel yn perfformio ‘Heroes’ gan David Bowie sydd yn cael ei gysylltu gyda’r wal yn cael ei dymchwel. Fues i’n ddigon ffodus i gael lle gwych i weld y balwnau yn cael eu rhyddhau wrth ymyl yr afon Spree wrth y Reichstag.Cafodd y balwnau cyntaf eu gollwng ychydig wedi saith o’r gloch wrth i gerddorfa’r dref chwarae’r ‘Ode to Joy’ gan Beethoven. Roedd y teimlad o fod yn rhan o’r dorf yn gwylio’r balwnau’n codi i’r awyr yn rhyfeddol.

 

Mae’n anodd meddwl mai dim ond 25 mlynedd sydd wedi bod ers i wal Berlin gael ei dymchwel. Anodd dychmygu peidio byth gweld aelod o fy nheulu neu ffrindiau eto oherwydd ein bod ni’n byw mewn gwahanol rannau o’r un ddinas. Ond alla’i wir ddim credu bod pethau erchyll fel hyn yn dal i ddigwydd heddiw. Dwi’n gobeithio bod pobl ledled y byd wedi bod yn cymryd sylw o ddathliadau Berlin, a’r Almaen. Yn ei haraith ynglŷn â’r wal fe gyfeiriodd Merkel at yr Wcráin, Syria ac Irac gan ddweud “Wir können die Dinge zum Guten wenden, das ist die Botschaft des Mauerfalls” – gallwn bob amser newid pethau er gwell, dyna yw gwir neges y wal yn dod i lawr.

Dwi wedi dewis 3 uchafbwynt o fy amser yn Berlin (heb gynnwys y Lichtgrenze). Y cyntaf yw ‘Gŵyl golau’ Berlin oedd ymlaen am wythnos ar ddechrau mis Hydref. Hwn oedd y 10fed ers i’r Ŵyl gael ei sefydlu, ac roedd hi’n anhygoel gweld adeiladau enwog fel Egwlys Gadeiriol Berlin wedi’w goleuo gan weithiau celf. Wnes i hefyd wirioneddol fwynhau mynd i fyny ‘Tŵr Teledu’ Berlin gyda’r nos ar ddechrau mis Tachwedd. Roedd hi’n brofiad gwych gweld Berlin o’r awyr gan sipian ambell ‘Berlini’ yn mar y Tŵr. Uchafbwynt arall oedd ymweld â’r Reichstag gyda trip hanes Ysgol David Hughes (fy hen ysgol uwchradd). Roedd hi’n hyfryd gweld yr athrawon hanes a’r disgyblion ac roedd brecwast Käfer (sef bwyty y Reichstag) yn rhagorol!

 

Cerflun Bach tu allan i’r Thomaskirche yn Leipzig

 

Yn ogystal â’r holl brofiadau gwych dwi’n cael yn fy amser hamdden, dwi’n astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol adnabyddus yr Humboldt. Mae Berlin yn le hynod gyffroes i fod fel myfyrwraig Cerddoriaeth. Mae gymaint o bethau ymlaen pob amser, a dwi wedi cael cyfle i brofi bob math o gerddoriaeth, o gyngerdd yn Neuadd Ffilarmonig Berlin i noson ‘Electro Swing’ yn barod. Hefyd wnes i ymweld a Leipzig ‘chydig wythnosau yn ôl lle wnes i wirioneddol fwynhau amgueddfa Bach, a gweld y Thomaskirche ble wnaeth o weithio o 1723 tan ei farwolaeth yn 1750. Dwi’n gobeithio mynd i weld un o gwmniau Opra Berlin yn perfformio yn fuan ac hefyd yn edrych ymlaen at ymweld â Göttingen penwythnos yma. Edrychwch allan am y blog nesaf, lle fyddai’n siwr o fod yn ‘sgwennu am y marchnadoedd nadolig!

Bis bald (tan yn fuan),

Elin