Uncategorized

Enillwyr Gwobrau Tir na n’Og

Posted on 8 Mawrth 2017 by Siwan Rosser

Dyfernir gwobrau blynyddol i’r llyfrau gorau o Gymru i blant a phobl ifanc, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r wobr bellach yn ddeugain oed. Tybed faint o’r llyfrau sy’n gyfarwydd i chi? Mae modd gweld pa lyfrau sy’n parhau mewn print a’u prynu drwy wefan Gwales, ac mae rhestr lawn o’r enillwyr ar Wicipedia.
Read more


Al- Manon Steffan Ros

Posted on 12 Mawrth 2014 by Megan Morgans

Teitl y Llyfr: Al Enw’r Awdur: Manon Steffan Ros Dyddiad Cyhoeddi: 2014 Gwasg: y Lolfa Sgor: 5/5 http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781847717467&tsid=3#top Rhaid i mi gyfaddef yn gyntaf mai fy rheswm dros ddewis y llyfr ‘Al’ oedd oherwydd ei fod mor fyr! Yn aml, rwy’n darllen ychydig o benodau ac yna’n anghofio darllen y gweddill, neu’n colli diddordeb. Ond
Read more


Dirgelwch yr Ogof

Posted on 7 Mawrth 2014 by Leisa Davies

Sgor: 4/5 T Llew Jones 1977. Gwasg Gomer. Dyma un o glasuron nofelau antur T Llew Jones sy’n sicr o’ch cadw ar bigau’r drain tan ei diwedd. Er fy mod wedi darllen y nofel hon o’r blaen roedd cael y cyfle i’w darllen eto wedi gwneud i mi ei gwerthfawrogi a’i mwynhau hyd yn oed
Read more


DIFFODD Y SÊR

Posted on 6 Mawrth 2014 by Efa Edwards

Gydag eleni’n ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, rhaid disgwyl llu o gyfrolau o bob math am y cyfnod du hwn yn ein hanes, a llawer ohonynt yn gyfrolau trist yn cofio am y rheiny a gollodd eu bywydau yn ymladd. Ond nid yw Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn yn un o’r rhain. Mae’r awdures
Read more


‘Pam fi Duw, Pam fi?’ John Owen

Posted on 5 Mawrth 2014 by Rhiannon Hincks

Adrodd hynt a helynt bachgen pymtheg oed mae ‘Pam fi Duw, Pam fi?’, y cyntaf mewn cyfres o dri nofel sydd wedi eu hysgrifennu ar ffurf dyddiadur. Nid syndod oedd iddynt fod yn lwyddiant ysgubol yn y 90au ag iddynt gael eu gwneud yn rhaglen deledu yn ddiweddarach. Mae’n nofel hynod afaelgar o’i dechrau hyd
Read more