Ni’n Dau

Ni’n Dau

Ceri Elen

Dyddiad cyhoeddi: 2014

Gwasg: Y Lolfa

Sgor: 5/5

http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781847718426/?session_timeout=1

Mae hon yn nofel wych sy’n dod i’r afael â themau hynod ddwys. Mae gweld ymdriniaeth aeddfed o themau o’r fath mewn llenyddiaeth i blant yn chwa o awyr iach. O’m rhan i, mae’r nofel hon yn cynrychioli llawer mwy na dim ond nofel. Ymddengys, o’r diwedd, bod awduron wedi stopio’r arfer o ysgrifennu deunydd nawddoglyd ar gyfer plant ac wedi dechrau ysgrifennu deunydd sy’n ymdrin â themau mwy tywyll. Serch hynny, arddull ysgafn sydd iddi, sy’n ei gwneud hi’n nofel ddarllenadwy dros ben. Yr hyn sy’n drawiadol, ag sy’n dangos ôl nofel dda, yw ei bod hi’n apelio at ddarllenwyr o bob oedran er ei bod hi wedi ei hysgrifennu yn neulltiol ar gyfer plant.

Rwy’n dwli ar y disgrifiad fer sydd ar glawr y llyfr, ‘Stori emosiynol am fachgen a merch’, gan ei bod hi’n crynhoi’r nofel yn berffaith. Mae hi’n sicr yn emosiynol iawn i’w darllen, ac yn fynegiant personol iawn o deimladau dwys y cymeriadau, sy’n ein caniatau ni i uniaethu’n fawr â nhw fel darllenwyr. Mae’n arbennig fod yr awdur wedi rhoi cydnabyddiaeth i bobl ifainc sy’n dioddef o iselder hefyd. Mae Ceri Elen fel petai yn torri tabŵ wrth sôn am y pethau hyn mewn llenyddiaeth i blant.

Er ei bod hi’n stori syml iawn, mae ‘Ni’n dau’ yn un sy’n ein cadw ni i ddarllen hyd ei diwedd gan ei bod hi’n llawn tensiwn a chymhlethdodau meddyliol. Mae’r berthynas rhwng Hawys a Ben yn un arbennig iawn, sydd yn y pen draw yn eu hachub nhw rhag eu hunigrwydd. Erbyn diwedd y nofel, mae’r awdur wedi llwyddo i’n hysbrydoli ni i ymddiheurio i bobl ac i fod yn fwy ystyriol o bobl heb ein bod ni’n teimlo moeswers nawddoglyd, amlwg yn y stori.

Byddai’n dda iawn gen i pe bai mwy o nofelau fel ‘Ni’n Dau’ yn cael eu cyhoeddi yn y blynyddoedd nesaf. Mae’n marcio newid yn y ffordd mae awduron yn mynd ati i bortreadu pobl yn eu harddegau. Nid ydynt bellach yn rai di-glem, anghwrtais, diog, ond yn hytrach yn rai sy’n dioddef problemau ac anhwylusterau go iawn ar adegau. Mae hi’n gamp o nofel, ac am hynny rwy’n rhoi 5/5 iddi.

 

Twm a Mati Tat yn Twtio’r tŷ

twm a mati tat

Twm a Mati Tat yn Twtio’r tŷ

Martin Morgan

Dyddiad cyhoeddi: 1999

Gwasg y Dref Wen

Dim dolen i’r llyfr yn uniongyrchol – linc i lyfrau eraill yn y gyfres http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781855965317&tsid=4

 

4 allan o 5

Dewisais y llyfr hwn wrth dyrchu drwy fy hen lyfrau adref a chofio yn iawn am ddarllen y llyfr hwn o glawr i glawr nifer o weithiau! Ie, ‘Twm a Mati Tat yn twtio’r tŷ’ – yn sicr, un o fy ffefrynnau! Er mai i’r grŵp oedran 7-9 oed mae’r llyfr wedi anelu tuag ato, dwi’n siŵr y byddai llawer o blant hyd at ddiwedd eu blynyddoedd ysgol gynradd yn cael hwyl yn darllen y gyfres hon – yn sicr, mi gefais i flas ar y llyfr wrth ei ail-ddarllen nawr yn y coleg!!

 

Mae’r llyfr yn dilyn trywydd bywyd Twm a Mati Tat, dau gymeriad hollol anarferol, yn byw mewn twlc o dŷ, Tŷ Drewi! Mae’r nofel yn egluro eu troeon trwstan a’r drwg deimlad sydd rhwng y ddau â pherchennog y tŷ, Misus Prosser-Pritchard. Un diwrnod, mae’r ddau yn taro lwc ac yn serennu o flaen camerâu’r teledu o achos y tŷ ‘anhygoel’ hwn!

 

Am mai llyfr wedi anelu i blant iau yw ‘Twm a Mati Tat yn twtio’r tŷ’, does dim themâu dwys na chymhleth yn y llyfr. Yn sicr, os mai llyfr gyda thipyn o hiwmor sydd ar eich meddyliau, hwn yw’r llyfr i chi, oherwydd daw Twm a Mati Tat â llawer o hwyl a sbri ichi!

 

Elfen gref i’r nofel hon hefyd yw’r defnydd o ddarluniau gwych ar y clawr a thrwy gydol y llyfr. Mae’r delweddau o gymorth mawr i ddarllenwyr ifanc i fedru llunio’r cymeriadau hyn yn fyw yn eu meddyliau. Am fod y stori yn llawn bwrlwm, mae’r lluniau yn ychwanegu fwy fyth at lif y stori.

 

Hwn oedd y llyfr cyntaf o’r gyfres i’w chyhoeddi, ac er mai nôl yn 1999 y cyhoeddwyd, credaf fod cyfle i ddarllenwyr ifanc heddiw gael llawer o sbort yn darllen y llyfr a’r gyfres hon. Ceir dilyniant o ryw 3 neu 4 llyfr arall yn dilyn helyntion Twm a Mati Tat, felly cymerwch gip ar y gyfres hon os mai hiwmor sydd at eich dant!

Al- Manon Steffan Ros

9781847717467

Teitl y Llyfr: Al

Enw’r Awdur: Manon Steffan Ros

Dyddiad Cyhoeddi: 2014

Gwasg: y Lolfa

Sgor: 5/5

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781847717467&tsid=3#top

Rhaid i mi gyfaddef yn gyntaf mai fy rheswm dros ddewis y llyfr ‘Al’ oedd oherwydd ei fod mor fyr! Yn aml, rwy’n darllen ychydig o benodau ac yna’n anghofio darllen y gweddill, neu’n colli diddordeb. Ond hoeliodd y nofel hon fy sylw o’r dechrau i’r diwedd, roeddwn i eisiau darllen mwy!

Nofel yn dilyn cymeriad o’r enw Cai, bachgen yn ei arddegau hwyr, ydyw. Cawn deithio meddwl Cai, wrth iddo orfod dod i delerau gyda digwyddiad erchyll, sef effaith difrifol gweithred ei ffrind gorau, Al.

Mae’r themâu a drafodir yn rhai dwys iawn- felly os yw eich bryd ar ddarllen llyfr ysgafn a hwyliog- peidiwch â dewis Al!

Ar y clawr, y mae disgrifiad o’r nofel fel: ‘Nofel ysgytwol am gyfeillgarwch’. Does dim cwestiwn ynglŷn â bod y nofel yn un ysgytwol, ond wrth drafod cyfeillgarwch, nid trafod cryfderau cyfeillgarwch a wna Manon Steffan Ros, ond yn hytrach cwestiynu dilysrwydd perthynas pobl gydag eraill. Roedd hyn yn hollol groes i beth yr oeddwn i’n ei ddisgwyl o’r nofel, ond yn sicr, yn well.

Wrth edrych ar glawr y nofel, ro’n i wedi cymryd mai nofel i fechgyn yn unig ydoedd, oherwydd y teitl a gan taw llun o fachgen sydd ar y clawr. Ond mewn gwirionedd, mae’n lyfr sydd â photensial i apelio tuag at bawb.

Efallai bod y themâu megis cyfeillgarwch, marwolaeth a thyfu i fyny  yn rhai sy’n amlwg mewn nifer o lyfrau, ond roedd negeseuon yr awdur a’i ffordd o ysgrifennu yn chwa o awyr iach. Mae’n nofel seicolegol iawn, sy’n gwneud i chi feddwl am amser hir wedi ei darllen. Byddwn i’n argymell i unrhyw un ddarllen y nofel newydd a ffres hon.

Llinyn Trôns

Teitl y Llyfr: Llinyn Trôns

 

Enw’r Awdur: Bethan Gwanas

Dyddiad Cyhoeddi: 2000

Gwasg: y Lolfa

Sgor: 4/5

 

Nofel sy’n sôn am holl broblemau plant yr arddegau yw Llinyn Trôns. O boeni am ganlyniadau TGAU i hynt a helynt o ddarganfod cariad, llwydda Bethan Gwanas i bortreadu’r cyfnod cymysglyd hwn mewn bywyd person ifanc mewn ffordd ddoniol a difyrrus.

Dilyn trywydd Llion, a elwir yn Llinyn Trôns, a wna’r nofel hon. Âi ar gwrs i ganolfan awyr agored am dridiau gyda’r ysgol, ac fel y datganai ar ddechrau’r nofel, nid Llion yw eisiau mynd mwy na chic yn ei dîn. Gwelwn sut mae Llion, bachgen tawel, amhoblogaidd yn ymdopi ar y trip wrth i ddau o fechgyn poblogaidd yr ysgol bigo arno, sef Nobi a Gags, ac wrth iddo serchu am gariad un ohonynt, sef Gwenan.

Portreada Bethan Gwanas lu o gymeriadau gwahanol a diddorol yn y nofel. Mae Llion yn dawel a swil, ac mae’n dechrau cyfeillgarwch â Dei sydd yn fachgen mawr ac yn hoff o’i fwyd. Mae’r ddau’n amhoblogaidd ac yn sicr nid ydynt yn cael eu hystyried yn rhan o’r criw ‘cŵl’. Ar y llaw arall mae Nobi a Gags, maent yn chwaraewyr rygbi ac yn fwy o ‘rebels’. Cant hwy i gyd, yn ogystal a Gwenan â’i ffrind, eu rhoi mewn tîm ar gyfer y cwrs ac o ganlyniad i hyn gwelwn ffraeo, llawer o densiwn a chymodi. Yn sicr mae digon o ddigwyddiadau diddorol yn digwydd yn y cwrs antur hwn i ddiddanu’r darllenwyr!

Credaf fod yr ieithwedd a ddefnyddia Bethan Gwanas yn hynod apelgar i bobl ifanc ac yn sicr fe wnaeth ychwanegu at fy mwynhad o’r nofel. Defnyddia gymariaethau doniol, iaith liwgar a disgrifiadau anarferol. Adroddir y stori o safbwynt Llion, sy’n caniatáu i ni ddarllen ei feddyliau gonest a dod i adnabod ei gymeriad.

Er mai stori ddoniol yw hon sy’n edrych ar Llion yn mentro allan o’i gragen, diweddglo digon annisgwyl ag ysgytwol sydd i’r nofel. Mae yna is-stori bendant yn llifo drwy’r nofel ac nid ydych yn sylwi arni tan y diweddglo. Dengys hyn glyfrwch Bethan Gwanas fel awdures wrth iddi blethu storiâu yn grefftus i gael sawl haen i stori.

Dyma felly nofel ddoniol, afaelgar a difyrrus, ac ar ôl ei darllen gallaf ddeall pam ei bod mor haeddiannol o wobr Tir na n’Og a enillodd nol yn 2001.

 

Rhaffu Celwyddau

Nofel afaelgar, sensitif a chyfoes yw ‘Rhaffu Celwyddau’ a fyddai’n apelio at nifer o ferched yn eu harddegau cynnar heddiw, y tybiwn i. Mae’n ben-blwydd ar Non yn un ar bymtheg ar ddechrau’r nofel a’r teulu wrthi’n paratoi parti bach i ddathlu o’i herwydd. Mae pawb mewn hwyliau da ac wedi ymgolli yn hwyl y parti – yn chwerthin ac yn dawnsio i gerddoriaeth Y Bandana hyd nes iddynt glywed ‘sgrech iasoer’ yn dod o’r tŷ. Torra’r sgrech hon ar fwrlwm y parti a chwalu’r sbri yn llwyr, a dyma yw sbardun gweddill y nofel, mewn gwirionedd.

Cydymdeimlwn yn fawr â Non wrth i’w byd chwalu o’i chwmpas pan ddarganfydda newyddion tyngedfennol amdani hi a’i ei theulu yn sgil y ddamwain adeg y parti. Newyddion nad oes unrhyw blentyn eisiau ei glywed a newyddion sy’n rhoi tro ar fyd Non am byth. Cadwyd y newyddion yn gyfrinach rhag Non gan ei rhieni a rhaffwyd celwyddau wrthi ers blynyddoedd sy’n golygu i Non brofi cyfnodau digon diflas yn ei bywyd yn ystod y nofel gan deimlo ei bod ar wahân i bob aelod arall o’i theulu a theimla nad yw’n perthyn. Llwydda Gwenno Hughes i ennyn ein tosturi yn llwyr yn sgil y cyfrinachau a gadwyd rhag Non, a ddengys cystal awdures yw hi.

Llwydda Gwenno Hughes i fynd o dan groen cymeriad merch ifanc un ar bymtheg oed. Mae Non yn gymeriad credadwy dros ben wrth inni ddod i’w hadnabod fel rhywun sy’n nodweddiadol o ferch yn ei harddegau – yn oriog ac yn anodd ei thrin ar adegau. Y mae’r awdures wedi taro’r hoelen ar ei phen o ran deall yr hyn sy’n poeni merched neu’r hyn sy’n chwarae rhan amlwg yn eu bywydau yn un ar bymtheg oed, megis alcohol, gwrthdaro â rhieni, cariadon a rhyw, a phletha’r rhain oll i’r stori, sy’n ei gwneud hi’n nofel hynod o apelgar i mi.

Daw dawn lenyddol yr awdures i’r amlwg wrth iddi lunio nofel yn llawn troeon yn y gynffon sy’n taro’r darllenydd yn annisgwyl. Mae’n nofel glyfar yn y ffaith bod yr holl ddigwyddiadau’n plethu i’w gilydd er mwyn creu stori sy’n hoelio sylw’r darllenydd ac yn peri iddo geisio dyfalu’r hyn sy’n mynd i ddigwydd nesaf. Nofel am deulu a pherthynas ydyw yn y bôn a nofel sy’n egluro nad yw bywyd yn ddi-rwystr ac yn hawdd ar bob adeg. Ond eglura bod modd goresgyn y cyfnodau anoddaf un er mor amhosib yr ymddengys hynny ar y pryd ac felly gorffenna’r nofel ar nodyn cadarnhaol.

 

Sgôr: 4/5

 

Gwenno Hughes. 2013. Cyfres Mellt. Y Lolfa.

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781847718006&tsid=3

 

 

 

 

Dirgelwch yr Ogof

Sgor: 4/5

T Llew Jones 1977.

Gwasg Gomer.

Dyma un o glasuron nofelau antur T Llew Jones sy’n sicr o’ch cadw ar bigau’r drain tan ei diwedd.

Er fy mod wedi darllen y nofel hon o’r blaen roedd cael y cyfle i’w darllen eto wedi gwneud i mi ei gwerthfawrogi a’i mwynhau hyd yn oed yn fwy.

Mae’r nofel wedi ei seilio ar ddigwyddiadau smyglo go iawn a ddigwyddodd ym mhentref Cwmtydu, sydd ar arfordir Ceredigion, ddim yn bell o Gei Newydd, gannoedd o flynyddoedd yn ol.  Ardal T. Llew Jones ei hun, wrth gwrs.

Er mai antur yw’r brif thema yma, gwelwn elfennau o themâu amrywiol eraill megis rhamant, etifedd, hiwmor ac eiddigedd. 

Yn sicr, drwy’r nofel, cawn flas o hanes y cyfnod, e.e. ffyrdd o deithio, caledi’r cyfnod, cymdeithas, cymdeithasu, crefydd a.y.b.   

Yn fras, nofel am Gymro sy’n berchen ar blas yw hon.  Watcyn Parri yw ei enw a phortreadir ef yn ddyn caredig a chyfeillgar dros ben.  Yn anffodus, o ganlyniad i’w long suddo, mae mewn dyled i Saes o ddyn, sef Daniel Coleby.  Anfonodd ei fab, Harri, I Lundain er mwyn ceisio ennill arian i oroesi’r broblem hon.  Yn rhyfedd, wedi penodau cyntaf y nofel, ni chlywn mwy am Harri … tan y diwedd.  Trwy gydol y nofel, gwelwn ddigwyddiadau anghyfreithlon, megis y smyglo, yn digwydd yng Nghwmytdu a’r pentrefi cyfagos.  Er eu bod yn anghyfreithlon, mae’r ymdeimlad gymunedol, cyfeillgar a chynorthwyol yn esgusodi hyn.  Cyflwynir cymeriad dirgel, newydd i ni, sef Siôn Cwilt ac er bod yr isymwybod yn dweud wrthym mai Harri’r Glasgoed, yn wir, yw’r cymeriad dirgel hwn, mae digwyddiadau eraill y nofel yn ddigon i gadw’n diddordeb drwy’r holl ddigwyddiadau eraill, megis lleisiau’r ogof, ymyrraeth y Saeson a chymuned Gymraeg Cwmtydy, her Wil a’i gariad tuag at y Llydawes ifanc, a llawer mwy.  Ennyn diddordeb yn y modd hwn yw un o brif gampau T Llew Jones ar draws ei holl nofelau. 

Mae’r penodau yn ddigon byr ond yn er hyn llawn cyffro.  Ar ddiwedd pob pennod mae “cliff hanger” annisgwyl sydd yn ei gwneud yn amhosib, bron, i stopio darllen.

Mae defnydd technegau arddull T Llew Jones yn arbennig yma.  Gwelwn ei fod yn ysgrifennu yn ei dafodiaith ei hun wrth bortreadu cymeriadau Cwmytdu a’r cylch.  Mae ei gymariaethau yn gyfoethog dros ben sydd yn dod a’r nofel yn fyw o flaen eich llygaid, e.e. “cychod mawr a mân … fel crwbanod yn ymgeisio swatio’n isel rhag y gwynt a’r tonnau.”  Cyflëir y tyndra rhwng y smyglo â’r gyfraith, y dihirod â’r arwyr a dyma, yn y pendraw, sy’n gwneud y nofel yn un mor dda – yr arwyr, ar ddiwedd y dydd, sy’n ennill ac oherwydd eu nodweddion Cymreig, teimlaf agosatrwydd a chydymdeimlad tuag atynt sy’n cyfoethogi’r nofel hyd ei eithaf. 

Leisa Fflur Davies

Gwales

Ffêc tan, Rissole a tships gan Caryl Lewis

Gwasg Gomer, cyfres Whap!, Argraffwyd yn 2006,

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781843236863&tsid=3

Sgôr – 4/5

Mae’r nofel Ffêc tan, rissole a tships yn berffaith i ferched! Mae’r llyfr yn rhan o gyfres Whap! ac yn  un o lyfrau i arddegau gan Caryl Lewis. Mwynheais y llyfr pan oeddwn yn yr ysgol a gwnes i fwynhau ei hail ddarllen eto. Nofel yn dilyn hanesion Mari a’i ffrind Gloria wrth iddynt fynychu’r ysgol, gweithio a cheisio delio gyda bechgyn. Mae’n nofel afaelgar iawn, un na allwn roi i lawr.

Digwyddiadau bywyd Mari a Gloria sy’n creu hiwmor yn y nofel wrth iddynt geisio ‘ffec-tanio’ gyda chanlyniadau trychinebus. Cawn hiwmor gydag obsesiwn ei thad gyda ffrio a chreu syniadau ar gyfer y Salt and Battery , perthynas Cara, ei chwaer a Tony (Townie yn ôl Mari) ac anturiaethau Rissole y ci.

Defnyddia Caryl Lewis dafodiaith wrth ysgrifennu a defnydd o fratiaith sy’n addas ar gyfer nofel i’r arddegau. Llwydda’r awdur i greu disgrifiadau diddorol a hwylus, ‘Roedd Mari yr un lliw yn union â salami’ a ‘gan geisio peidio â chwerthin wrth weld ei ffrind yn sefyll yn borcyn mor streipïog â chachgi-bwm o’i blaen’. Defnyddia’r awdur nifer o ddigwyddiadau i gadw diddordeb fel Mari yn mynd i siopa gyda’i mam a Gloria a’r stori o Mari yn mynd a Rissole am dro. Mae yna hefyd nifer o ddigwyddiadau annisgwyl yn y nofel.

Cymeriad hoffus yw Mari sy’n adlewyrchu bywyd merch yn eu harddegau wrth iddi drafod gwaith ysgol, bechgyn, gweithio a theulu. Gwelwn ei chymeriad yn aeddfedu yn y nofel wrth iddi sylweddoli pwysigrwydd teulu a ffrindiau. Mae’r ddelwedd o deulu yn un amlwg iawn yn y nofel ac yn adlewyrchu sefyllfaoedd o fewn nifer o deuluoedd. Gwelir debygrwydd i nifer o nofelau Saesneg sy’n trafod anturiaethau merched yn eu harddegau. Cyflëir themâu o ramant, yn y nofel wrth i Mari a Gloria geisio dal sylw Gari a Graham.

Hwylus, difyr a doniol yw’r geiriau i ddisgrifio’r nofel yma. Efallai fyddai’r nofel ddim yn cael ei gwerthfawrogi na’i hoffi gan fechgyn ond yn sicr mi fyddai’r nofel yn boblogaidd gan ferched. Yn wir mae’n nofel sydd werth ei ddarllen!

ffec tan

Dirgelwch Gwersyll Caerdydd

 

getimg

Mae’r pedwar drygionus yn ôl, yn ddilyniant i’r nofel gyntaf Dirgelwch Gwersyll Glan-llyn, cawn ymuno gyda Glyn, Jac , Deian a Rhodri a gweddill ei dosbarth ar drip ysgol i’r brifddinas! Mae Glyn druan dro ar ôl tro yn cael bai ar gam, ac yn destun sbort i’r merched a’r athrawon, ond nid yw hyn yn effeithio antur, dirgelwch a hwyl y nofel.

Yn hawdd i’w darllen, a’i phenodau yn fyr a hwyliog, mae’r trip ysgol ar y dechrau yn ymddangos fel unrhyw drip ysgol arall, gyda phenodau megis ‘Ciwio i ginio’ a ‘Swper am saith’, does dim gormod o ddwyster yn perthyn i’r tudalennau.

Ond, un min nos, mae’r pedwar drygionus yn llwyddo tynnu nyth cacwn yw pennau- ac yng nghrombil gwersyll yr Urdd mae dirgelwch yn trigo. Yn nofel gyffrous, wedi eu hanelu ar gyfer bechgyn 9-12 oed, mae themâu addas yn cael ei gweu mewn i’r naratif; megis Bwlio, Cyfeillgarwch, Cenfigen a Drygioni.

Os am fwynhau nofel anturus ddiniwed, sydd yn hawdd yw darllen, yn llawn drygioni a dirgelwch a ddim yn rhy ddifrifol, mae’r nofel hon yn ticio pob bocs.

 

Mari Huws

3/5

Gareth Lloyd James. 2009. Cyfres Cadwel: Gwasg Gomer. 

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781848511385

Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion

Rose Impey, Addasiad Siân Lewis, 2000, Gwasg Gomer. http://www.gwales.com/intro/

Cyfres y Clwb Cysgu Cwl oedd un o fy hoff gyfresi llyfrau pan oeddwn yn iau, ac roedd cael y cyfle i ail-ymweld â’r llyfrau flynyddoedd yn ddiweddarach yn brofiad braf. Maent yn lyfrau gwych ar gyfer diwedd yr ysgol gynradd, pan rydych yn crefu ar eich rhieni i gael aros draw yn nhŷ eich ffrind, i aros yn effro tan oriau man y bore yn bwyta creision a fferins, tra’n chwerthin ar yr hyn ddigwyddodd yn yr ysgol y diwrnod cynt.

Cefais yr un mwynhâd yn darllen ‘Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion’ ag a gefais yn ei ddarllen y tro cyntaf! Mae’r modd mae’r llyfr yn dechrau gyda gwahoddiad i’r Clwb Cysgu Cŵl yn nhŷ Ffion yn eich cynnwys yn yr anturiaethau o’r cychwyn cyntaf. Hanes pump o ferched, eu bywydau yn yr ysgol, a’u hanturiaethau fel rhan o’r Clwb Cysgu Cŵl a gawn. Y direidi a’r llanast maent yn ei achosi tra’n aros draw yn nhŷ Ffion un noson sydd i’w gael yn y llyfr hwn, a cawn ein cludo yn nghanol yr hwyl a’r helbul ar daith i fyd y sachau cysgu a’r gwleddoedd ganol nos. Mae’r stori yn ymdrin â themâu megis cyfeillgarwch ffrindiau, teulu, gwrthdaro â merched cas yr ysgol, a’r dymuniad i fod yn fwy annibynnol. Mae’r Clwb Cysgu Cŵl yn benderfynol i gael hwyl, ac er eu bod yn aml yn darganfod eu hunain ar ben stori direidus, maent yn gwybod sut i ddysgu gwers!

Drwy ei ail-ddarllen, cefais unwaith eto fy nghludo i fyd Ali, Sam, Sara, Ffion a Meleri, wrth i Ali rannu cyfrinachau a hanesion eu cyfarfod diwethaf drwy sgwrsio’n uniongyrchol gyda’r darllenwr, nes ein bod yn ysu erbyn diwedd y llyfr i gael cyfarfod gweddill ei ffrindiau, a chael darllen am fwy o’u hanturiaethau yn y Clwb Cysgu Cŵl.

Mae’r llyfr hwn yn lyfr direidus a doniol. Mae’n lyfr i’w fwynhau ac hefyd yn llwyddo i ddysgu sawl gwers i’w darllenwyr am fywyd ac am ffrindiau. Mae’r llyfr hwn yn flas ardderchog o’r hyn sydd ar gael yng nghweddill y gyfres, a drwy ei ddarllen rydw i yn edrych ymlaen i ail-ymweld ag anturiaethau pellach y ffrindiau. Rydw i’n sicr y byddwch chwithau hefyd yn ysu i gael bod yn ran o’r criw ar ôl darllen ‘Y Clwb Cysgu Cŵl yn Nhŷ Ffion’. Wrth ail-ddarllen y llyfr yma rwyf wedi sylweddoli nad ydych chi byth yn rhy hen i fod yn aelod o’r Clwb Cysgu Cŵl!

DIFFODD Y SÊR

Gydag eleni’n ganmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, rhaid disgwyl llu o gyfrolau o bob math am y cyfnod du hwn yn ein hanes, a llawer ohonynt yn gyfrolau trist yn cofio am y rheiny a gollodd eu bywydau yn ymladd. Ond nid yw Diffodd y Sêr gan Haf Llewelyn yn un o’r rhain. Mae’r awdures dalentog hon wedi llwyddo i wneud stori am erchyllderau’r Rhyfel Mawr yn llyfr y gellir ei fwynhau’n arw. Wrth gwrs, mae yna ddarluniau dychrynllyd o effeithiau rhyfel yma, ond mae’r nofel yn llwyddo i osod y rhain ochr yn ochr â digwyddiadau bob dydd bywyd merch yn ei harddegau. Mae hyn yn wir dyst i ddawn yr awdures ei bod hi’n medru rhoi golwg hollol newydd ar stori a chyfnod yr ydym ni fel Cymry’n eu hadnabod yn dda.

Stori yw hon sy’n adrodd hanes chwaer fach Hedd Wyn, Anni, yn y cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl i’w brawd fynd i ryfela yn Ffrainc. Mae’n llawn cymeriadau lliwgar fel ffrind gorau Anni, Lora, a’i theulu, Wil Ffurat – y “snichyn” yn ei blwyddyn ysgol, a Gwen Jones – menyw sydd â’i thrwyn ym musnes pawb yn y pentref.

Mae Hedd Wyn yn gymeriad mor gyfarwydd i Gymry fel chi a fi, hyd yn oed i’r plant sy’n gynulleidfa darged i’r llyfr hwn, ond eto, mae Haf Llewelyn yn cyflwyno agwedd hollol newydd o’r bardd – Ellis neu Elsyn y brawd a’r mab annwyl. Mae’r portread o’i berthynas a’i chwiorydd iau yn un tyner iawn a dyma ble mae’r nofel yn disgleirio yn fy ngolwg i.

Ond yr hyn sy’n arbennig am y nofel hon yw ei hapêl at bob math o gynulleidfa. Er ei bod hi’n rhan o gyfres yr Onnen Y Lolfa, cyfres sydd fel rheol i’r rheiny yn eu harddegau, fy marn yw y gall rhywun o unrhyw oedran ei mwynhau. Mae ei phwnc yn un y mae pawb yn gyfarwydd â hi, ond mae’r ymdriniaeth yn hollol ffres – efallai mai’r unig beth sy’n ei gwneud yn ‘nofel i blant’ yw mai merch dair ar ddeg oed sy’n adrodd y stori.

Er bod cymaint o nofelau gwych yn cael eu cyhoeddi i’r arddegau heddiw, mae hon yn un sy’n sefyll allan yn fy marn i, ac yn llyfr sy’n siŵr o ymddangos ar restr gwobr Tir na nÓg nes ymlaen yn y flwyddyn.

Sgôr: 4 allan o 5.

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781847716972&tsid=3