Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Tri rheswm dros gefnogi Cytundeb Gadael yr UE

Yn y darn hwn, hoffwn drafod rhinweddau Cytundeb Gadael yr UE (CGUE), y cytunwyd arno gan Lywodraeth May a’r UE.

Ni fyddaf yn crynhoi cynnwys y Cytundeb yma – mae sawl crynodeb yn bodoli – ond eto i gyd, hoffwn amlinellu’r tri rheswm pam y byddwn yn ei chael yn anodd gwrthwynebu’r cytundeb. Rwy’n derbyn nifer o’r dadleuon a gynigir o blaid y Cytundeb – yn fy narn diwethaf, fy nadl oedd y dylid rhoi canlyniad refferendwm 2016 ar waith – ond yn y darn hwn, byddaf yn cynnig tair rhesymeg sydd, yn fy marn i, yn arbennig o berthnasol i’r sefyllfa bresennol ac wedi mynd â’m bryd ers tro.

Nid yw bod yn eiriolwr dros y Cytundeb yn diddymu’r cynnig am refferendwm ‘Norwy’ v ‘Canada’, a amlinellais yn fy narn diwethaf. Mae’r Cytundeb yn ymwneud â’r telerau y bydd y DU yn gadael yr UE arnynt, yn hytrach na natur y berthynas yn y dyfodol; byddai’r berthynas honno’n cael ei thrafod yn ystod y cyfnod pontio, sydd wedi’i amlinellu yn y Cytundeb.

1/ Gellir dehongli gwrthwynebiad i’r Cytundeb fel bod yn wrth-Ewropeaidd

Mae’r ffeithiau’n glir; mae’r awdurdodau cyhoeddus Ewropeaidd a’r 27 o lywodraethau’r aelod-wladwriaethau yn cydsynio i’r Cytundeb (neu ar fin gwneud hynny). O ystyried mai dyma’r achos, mae ymwrthod â’r Cytundeb yn golygu gwrthwynebu safle pob un sy’n chwarae rhan yng ngwleidyddiaeth Ewrop, mwy neu lai. Gellir dadlau bod hynny’n gyfystyr â bod yn glasurol wrth-Ewropeaidd. Er tegwch i wrthwynebwyr rhyddfrydol y Cytundeb, mae’r amgylchiadau presennol yn rhai unigryw. Mae safbwynt y rheini sydd o blaid aros yn debyg i gyfyng-gyngor a wynebwyd gan Deyrngarwyr Gogledd Iwerddon ers tro; pan fo’r endid rydych yn deyrngar iddo’n ymddwyn mewn modd sy’n groes i’ch buddiannau tybiedig, a ydych chi’n parhau i fod yn deyrngar o dan amgylchiadau o’r fath?

Er nad oes ffordd hawdd o ateb cwestiynau o’r fath, mae’r mater hwn yn fy ngwneud yn gyndyn i wrthwynebu’r Cytundeb. Dichon yr hoffai’r rheini sy’n gadarn o blaid aros fyfyrio ar eu hagwedd tuag at gefnogwyr Ewropeaidd y Cytundeb, megis Guy Verhofstadt. A ydynt yn cystwyo rhyddfrydwyr Ewropeaidd fel Verhofstadt? Os nad ydynt, dylent ddangos yr un cwrteisi tuag at ryddfrydwyr o Brydain sydd o blaid y Cytundeb.

2 / Mae gwrthwynebu’r Cytundeb yn golygu mentro anrhefn, nodwedd sy’n groes i draddodiadau gwleidyddol cymedrol

Cryfder allweddol traddodiadau gwleidyddol cymedrol yw osgoi anrhefn. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos Prydain; mae’r rhan fwyaf o garfanau o fewn y prif bleidiau yn rhoi gwerth ar barhad sefydliadol. Mae’n anodd gweld sut mae gwrthod y Cytundeb yn mynd law yn llaw â’r traddodiad hwnnw. Yn aml, mae dadleuon dros y Cytundeb yn cofleidio anrhefn. Yn achos cefnogwyr Jeremy Corbyn neu UKIP, nid oes syndod am hynny. Mae’r naill safbwynt a’r llall yn seiliedig ar newid yn sgîl disodli sefydliadau; mae eiriolaeth cyflogwyr Corbyn dros wrthwynebu’r cytundeb er mwyn sbarduno Etholiad Cyffredinol, a chefnogaeth UKIP i ‘ddim cytundeb’ yn adlewyrchu’r traddodiad hwn.

Mae safle’r rhai rhyddfrydol sydd o blaid aros yn llai cyson. Er gwaethaf perthynas hanesyddol rhwng rhyddfrydiaeth a pharhad/trefn, mae dadleuon rhyddfrydol dros wrthod y Cytundeb yn golygu mentro anrhefn. Gadewch i ni ystyried rhesymeg y rheini sydd o blaid aros. Os gwrthodir y cytundeb, gellir dod i’r casgliad (hael) mai’r tebygolrwydd o gael ail refferendwm, sy’n cynnwys y dewis i aros, yw 50%. Gellir cyfrifo buddugoliaeth yn sgîl hynny i’r rheini sydd o blaid aros (efallai’n hael, eto) fel bod yn 50%. O dybio, felly, bod y tebygolrwydd o aros yn yr UE oddeutu 25%, gyda senarios sy’n gysylltiedig â 75% o debygolrwydd o ddifrod difrifol i’r wlad, gellir dod i’r casgliad bod gwrthwynebiad rhyddfrydol i’r cytundeb yn golygu mentro anrhefn i raddau helaeth, yn groes i egwyddorion cymedroldeb. Fel rhywun sy’n uniaethu â’r traddodiad cymedrol, rwy’n anghyffyrddus â hynny.

3/ Ni ddylai gwleidyddiaeth bleidiol fod yn sail i safbwyntiau ar y Cytundeb

Mae’n debygol iawn y bydd y Blaid Lafur yn gwrthod y Cytundeb. O ystyried bod Llafur yn cefnogi gadael yr UE, gan gynnwys yr Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl, mae pob dadansoddwr rhesymol yn cytuno mai gwleidyddiaeth bleidiol sy’n sail i’r safbwynt hwn; amwys yw chwe phrawf y Blaid Lafur, ac maent yn cael eu defnyddio mewn modd twyllodrus.

Mae yna seiliau rhesymegol gwahanol rhwng y garfan sy’n gefnogol o Jeremy Corbyn, a charfan gymedrol y blaid. Fel yn ôl fy honiad uchod, mae’r ffordd y mae cefnogwyr Corbyn yn edrych ar y byd yn gydnaws â gwrthwynebu’r Cytundeb; prif nod cefnogwyr Corbyn yw newid sefydliadol cynhwysfawr, sosialaidd, a chyflawni hynny, os oes rhaid, drwy dorri’n rhydd o’r sefydliadau presennol. Byddai llawer yn dal nad yw gambl o’r fath yn fuddiol i’r wlad, eto nid yw cefnogwyr Corbyn yn credu mewn budd cenedlaethol cydlynol. Eu cred yw mai dyfais yw hon a grëwyd i amddiffyn buddiannau’r cyfoethog; mae Owen Jones wedi bod yn eiriolwr arbennig o glir dros y safbwynt hwn. Go brin y galla i gymeradwyo safbwynt o’r fath, sy’n rhannol fanteisgar, ac eto’n ddiamheuol yn adlewyrchu egwyddorion cefnogwyr Corbyn.

Ychydig iawn o aelodau seneddol Llafur, wrth gwrs, sy’n gefnogwyr Corbyn; mae mwyafrif helaeth y Blaid Lafur Seneddol yn gymedrol. Er bod rhai aelodau cymedrol penodol, fel Chuka Umunna, yn frwd o blaid aros, gan ddychwelyd i bwynt dau, mae’n deg honni bod y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol cymedrol Llafur wedi ymrwymo i roi Brexit ar waith; awydd i barchu pleidlais 2016 sydd wrth wraidd hyn. Mae’r Brexit y byddai’r Aelodau Seneddol hynny’n ei weithredu hefyd yn debyg iawn i’r hyn a amlinellir yn y Cytundeb/yng nghynlluniau eraill Llywodraeth May. O ystyried nad yw’r ffactorau sy’n sail i (ac yn lliniaru, i raddau) safbwynt cefnogwyr Corbyn yn berthnasol i aelodau cymedrol, rwy’n ystyried safbwynt yr Aelodau Seneddol hyn yn arbennig o gywilyddus; maent yn gweithredu’n gyfan gwbl ar sail gwleidyddiaeth bleidiol, ac mae fawr ddim y gellid ei ddweud i’w hamddiffyn. Ar ben hynny yw’r ffaith y byddai’r Cytundeb yn llwyddo i gael cymeradwyaeth Tŷ’r Cyffredin, pe bai nifer sylweddol o Aelodau Seneddol cymedrol Llafur yn cefnogi’r Llywodraeth.

Beth nesaf?

Yn 2016, roeddwn i’n un o’r ymgyrchwyr mwyaf gweithgar yng Nghymru dros aros. I raddau helaeth, y rhesymeg oedd yn sail i fy ymgysylltiad oedd y pwyntiau a godais uchod; cefnogaeth i safbwynt awdurdodau cyhoeddus yr UE, gwrthwynebu anrhefn, a’r gred y dylai’r budd cenedlaethol fod uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol. Am y rhesymau hynny’n union, ni fyddwn yn gallu gwrthwynebu’r Cytundeb. Yn amlwg, cymharol fach yw fy mhwyntiau fel rhan o ddadl genedlaethol lawer yn fwy o faint, ond fy ngobaith yw y caiff ystyriaeth ei rhoi i safbwyntiau o’r fath dros yr wythnosau sydd i ddod.

Mae Dr Thomas Prosser yn Ddarllenydd Polisi Cymdeithasol Ewropeaidd yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *