Brexit, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad, Economi a Masnach

Ail bleidlais rhwng Canada a Norwy: ffordd allan o’r sefyllfa ddisymud?

O ystyried yr orymdaith yr wythnos ddiweddaf a’r ffaith bod cyfnod tyngedfennol ar y gorwel, mae’n adeg dda i ysgrifennu am ffyrdd posibl o ddianc rhag sefyllfa ddisymud Brexit.

Yn benodol, hoffwn i drafod rhinweddau ail refferendwm, sy’n cynnig dewis syml rhwng Brexit yn null ‘Canada’ a dull ‘Norwy’, heb gynnwys opsiwn ‘Aros’. Gallai pleidlais o’r fath fod yn ffordd dda allan o’r sefyllfa bresennol, er na fyddai’n ddelfrydol. Alla i ddim honni mai fy syniad gwreiddiol i yw hyn. Fe’i gwelais gyntaf ar Twitter, ond rwy’n ofni mod i wedi anghofio pwy gynigiodd y syniad! Rwy’n credu ei fod yn un o’r syniadau hynny sydd wedi dod i’r amlwg mewn cylchoedd polisi, ond efallai fod dim modd dweud mai un person sy’n gyfrifol amdano.

Cyn trafod hyn yn fanylach, mae’n bwysig diffinio beth rwy’n ei olygu wrth Brexit yn null Canada a Norwy. Mae model Canada yn golygu perthynas gyda’r UE sy’n fwy o hirbell; ni fyddai model o’r fath yn cynnwys aelodaeth o’r undeb cyllid a thollau a’r farchnad sengl, na rhyddid i symud, ond byddai yn cynnwys llunio cytundeb masnach rydd. Mae’r opsiwn hwn, felly, yn wahanol i anhrefn ‘dim cytundeb’. Byddai model Norwy yn golygu perthynas agosach gyda’r UE; byddai model o’r fath yn cynnwys aelodaeth o’r farchnad sengl a rhyddid i symud. Er nad yw Norwy yn aelodau o’r undeb cyllid a thollau, a’u bod felly yn rhydd i gael polisi masnach annibynnol, mae eu haelodaeth o Ardal Economaidd Ewrop/EFTA yn golygu bod eu polisi cyllid a thollau yn cyweddu’n eithaf da ag eiddo’r UE. O ran eu perthnasedd i Brydain, byddai’n rhaid i’r trefniadau hyn gael eu teilwra’n arbennig. Rwyf felly’n trafod y modelau hyn mewn modd eitha penagored.

Dyma rai meddyliau ynghylch manteision pleidlais o’r fath:

1) Un o brif fanteision ateb fel hyn fyddai ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm cyntaf. Y prif reswm dros wneud hynny yw er mwyn cynnal hyder yn y system wleidyddol. Er bod pobl yn aml yn dweud nad yw etholiadau’n darparu canlyniadau unwaith ac am byth, mae’r weithrediaeth bob amser yn newid wedi etholiad; mae’r newid hwnnw wedyn yn weithredol nes bod y gyfraith yn pennu ei bod hi’n bryd cynnal etholiad arall.

Gellid dadlau bod refferendwm Mehefin 2016 yn llawer mwy arwyddocaol nag etholiad arferol. Nid yn unig roedd y ddwy ochr wedi cytuno y byddai’r canlyniad yn rhwymol, ond roedd yr ymgyrch yn un uwch ei phroffil, gyda mwy yn troi allan i bleidleisio nag mewn etholiad arferol; a hefyd bu elfen ddemograffig nad ydynt fel arfer yn pleidleisio yn cymryd rhan. O ystyried yr arwyddocâd ychwanegol hwn, byddai’n rhyfedd iawn pe na bai’r refferendwm yn arwain at adael yr UE, yn union fel mae etholiadau’n achosi newid yn y weithrediaeth. Pe na bai hynny’n digwydd, byddem ni’n poeni y gallai hyder yn ein system wleidyddol ddioddef niwed aruthrol, gan roi hwb na welwyd ei gyffelyb i’r aden dde bellaf.

2) Serch hynny, mae’r rhai sydd o blaid aros yn gywir yn eu honiad nad oedd ffurf Brexit ar y papur pleidleisio. O ystyried hynny a’r sefyllfa ddisymud ar hyn o bryd, mae’n ymddangos i mi y byddai ail bleidlais ar ffurf Brexit yn syniad call. Serch hynny, byddai’n rhaid i’r ddau opsiwn a gynigir uchod gael eu cytuno gydag awdurdodau cyhoeddus Ewrop, er mwyn sicrhau eu bod yn ddichonadwy. Ar wahân i wrthwynebiad cyffredinol i gynnwys ‘Aros’ ar y papur pleidleisio, byddai pleidlais ddwy ffordd hefyd yn ddeniadol o syml. Petai ‘Aros’ yn cael ei gynnwys mewn pleidlais STV sawl opsiwn, byddai hynny’n arwain at gwestiynau pellach ynghylch cyfreithlondeb democrataidd aros.

3) O ran dichonoldeb y ddau opsiwn, y brif broblem o hyd fyddai ffin Iwerddon; byddai’n rhaid sicrhau cytundeb ar hynny cyn ail bleidlais. Er nad yw model tebyg i Norwy yn datrys problem ffin Iwerddon – nid yw Norwy yn aelod o’r undeb cyllid a thollau – fy nealltwriaeth i yw y byddai model o’r fath yn golygu bod datrys cwestiwn ffin Iwerddon yn haws; mae polisïau mewnfudo a chyllid a thollau Norwy a’r UE yn eitha integredig. Petaem ni’n mynd ar ôl Brexit tebyg i sefyllfa Canada, byddai cwestiwn y ffin yn dal i achosi trafferthion. Byddai’n rhaid datrys y mater hwn cyn ail bleidlais; does fawr ddim pwynt mewn cynnwys opsiynau na fydd modd eu rhoi ar waith.

4) Prif anfantais opsiwn Norwy fyddai’r anallu wedi hynny i ddylanwadu ar reoliadau’r UE. Mae Norwy yn aelod o’r farchnad sengl, ond nid oes ganddi bleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion/seddau yn Senedd Ewrop ac ati. Nid yw hynny’n ddelfrydol ar gyfer gwlad fach fel Norwy, ond byddai’n sylweddol fwy trafferthus i wlad fwy fel y Deyrnas Unedig. Felly, er mwyn rhoi sylw i’r mater hwn, efallai byddai’n rhaid i opsiwn tebyg i Norwy gynnwys cynigion ar gyfer fforwm ddeialog barhaol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, fel bod y Deyrnas Unedig yn cael cyfle i fynegi barn ynghylch cyfeiriad rheoliadau’r UE. Mae hyn yn codi rhagor o gwestiynau am geisio cael y gorau o ddau fyd.

5) Gallem ni sôn llawer am wahanol oblygiadau’r ddau opsiwn mewnfudo. Byddai opsiwn Canada yn golygu bod modd i’r Deyrnas Unedig bennu polisi mewnfudo annibynnol. Byddai’n rhaid i opsiwn Norwy gynnwys rhyddid i symud, gan nad oes modd gwahanu amrywiol elfennau rhyddid y farchnad sengl. Ond mae diffiniad AEE o ryddid i symud, a ddefnyddir gan Norwy, yn fwy cyfyngol na diffiniad yr UE; mae’n caniatáu rhyddid i weithwyr symud, yn hytrach na phob dinesydd. Serch hynny, nid oedd refferendwm 2016 yn ymwneud yn uniongyrchol â mewnfudo; ac o ganlyniad gellid caniatáu mwy o hyblygrwydd ar y mater hwn.

Beth nesaf?

Fel y byddwch wedi deall, nid ateb delfrydol yw hwn o bell ffordd; mae problemau’n gysylltiedig ag opsiynau Canada a Norwy. Hefyd, ni fydd cyfaddawd yn plesio llawer, yn arbennig yn hinsawdd pegynol ein dyddiau ni. Serch hynny, mae’r wlad yn dal mewn sefyllfa ddisymud sy’n beryglus, heb opsiynau delfrydol, a gallai’r ateb hwn fod yn ddewis gorau o blith nifer o rai gwael. Fel bydden nhw’n dweud ym Mrwsel, o bosib, on verra bien!

Mae Dr Thomas Prosser yn Ddarllenydd Polisi Cymdeithasol Ewropeaidd yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *