Brexit, Cymunedau a Diwylliant, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Partneriaid er budd cydraddoldeb? Yr UE a datganoli

Er na ellid ymestyn unrhyw ddiffiniad credadwy o’r UE fel endid ‘ffeministaidd’, mae’n wir dweud iddo fod yn weithgar ym maes hawliau menywod a chydraddoldeb ers dyddiau cynnar integreiddio Ewropeaidd.

Mae ymdrech gyson dros y blynyddoedd gan ymgyrchwyr a llunwyr polisi sympathetig wedi creu casgliad trawiadol (er anghyflawn) o ddeddfwriaeth, mesurau polisi meddal, cronfeydd, sefydliadau a rhwydweithiau er mwyn hybu cydraddoldeb sylweddol rhwng dynion a menywod yn Ewrop.

Yn y DU ôl-ddatganoledig sydd ohoni – lle mae rhai pwerau deddfu wedi’u trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd, Caeredin a Belfast, a gweinyddiaethau datganoledig unigryw wedi’u sefydlu – mae Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ymgysylltu â’r gweithgarwch hwn ar lefel yr UE mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac wedi cael eu heffeithio ganddo hefyd.

Ar draws pedair gwlad y DU, ac o fewn terfynau cymwyseddau datganoledig, mynegwyd gwahaniaethau clir mewn agweddau tuag at gynyddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, wrth i’r broses ddatganoli fynd rhagddi ers diwedd y 1990au.

Dewch i ni ystyried Cymru.

Er mai San Steffan sy’n meddu ar y grym i lunio prif ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb, mae gweinidogion Cymru wedi cyflwyno cyfres ar wahân o ddyletswyddau penodol yn y sector cyhoeddus sy’n ymwneud â chydraddoldeb, ac wedi cynnwys nod cenedlaethol o greu Cymru fwy cyfartal o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’n ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus roi dull ‘Gofyn a Gweithredu’ ar waith o ran trais yn y cartref (er mwyn nodi a chefnogi defnyddwyr gwasanaethau sy’n ddioddefwyr neu mewn perygl); mae’n ofynnol i awdurdodau lleol asesu anghenion cymorth gofalwyr mewn perthynas ag, er enghraifft, trosglwyddiadau lles a seibiannau; ac yn ogystal, mae cynnig estynedig o ran gofal plant.

Yn ogystal, mewn ymyrraeth drawiadol ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni (8 Mawrth 2018), cafwyd ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i gael llywodraeth ffeministaidd yng Nghymru, a galw am osod cydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth wraidd llunio polisi.

O ran y Cynulliad Cenedlaethol, mae wedi bod ar flaen y gad yn rhyngwladol o ran cynrychiolaeth gan fenywod, gan sicrhau cynrychiolaeth 50:50 o fenywod a dynion yn etholiadau 2003. Yn wir, roedd mwy o fenywod na dynion yn y Cynulliad yn 2007 yn dilyn is-etholiad, a mwy o fenywod yn y cabinet (er bod y nifer wedi lleihau ers hynny).  O amgylch yr isadeiledd gwleidyddol hwn, mae cymdeithas sifil Gymreig fywiogwedi datblygu, gan gynnwys sefydliadau cydraddoldeb rhwng y rhywiau sy’n lobio llywodraethau Cymru a’r DU, gan ddibynnu ar y mater o dan sylw.

Er bod y dull Cymreig hwn yn flaengar, i ryw raddau, nid rhagflaenu dadansoddiad cymharol rhwng cenhedloedd y DU yw diben amlygu’r gwahaniaeth hwn – yn enwedig o gofio mai dechrau (ac nid diwedd) y daith yw ymrwymiadau rhethregol a pholisi cydraddoldeb wrth gyflawni cydraddoldeb sylweddol rhwng menywod a dynion.

Yn hytrach, cydnabyddir bod y cyd-destun gwleidyddol a’r bensaernïaeth sefydliadol sydd wedi’u gosod er mwyn mynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn amrywio ar draws y DU.

Mae’n werth nodi y bu dimensiwn Ewropeaidd gweladwy i waith cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.  Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr yng Nghymru wedi gallu tynnu ar ystod cymharol gyfoethog o bolisïau, prosiectau, cronfeydd a rhwydweithiau ar lefel Ewropeaidd i hybu eu hagenda cydraddoldeb Cymreig eu hunain.

Cynorthwywyd hyn i raddau gan y cyd-ddigwyddiad ffodus rhwng lansio datganoli a rhai datblygiadau sylweddol ar lefel Ewropeaidd ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Roedd hyn yn cynnwys mabwysiadu ‘prif ffrydio rhywedd’ (sy’n galw am roi ystyriaeth i gydraddoldeb rhwng y rhywiau wrth bob cam o’r broses llunio polisïau).

Mae’r dimensiwn Ewropeaidd hwn wedi’i gynnal mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys Cymru’n mewnosod egwyddor cydraddoldeb yn neddfwriaeth datganoli; pwysleisio’r ymrwymiad i brif-ffrydio rhywedd mewn prosiectau sydd wedi’u hariannu gan Gronfeydd Strwythurol Ewrop yng Nghymru; ac ymgysylltiad Cymru â’r polisïau oedd (ar adegau) yn fwy cymdeithasol eu meddylfryd oedd yn deillio ar lefel Ewropeaidd.

Ar ben hynny, mae sefydliadau cymdeithas sifil o Gymru wedi ‘ymgysylltu’ yn weithredol ag Ewrop drwy gyfrwng rhwydweithiau Ewropeaidd, fel Lobi Menywod Ewrop a’r Platfform Cymdeithasol.

Mae ymgyrchwyr o Gymru wedi defnyddio mynediad i’r rhwydweithiau hyn i wthio eu hagenda domestig, rhannu gwybodaeth am syniadau a chyfleoedd o ran polisi, dysgu gan bartneriaid Ewropeaidd ac ymgysylltu mewn prosiectau ar y cyd.

Yr hyn sy’n arbennig o arwyddocaol yw’r ffaith fod llawer o’r rhwydweithiau hyn yn cynnig mynediad i weithredwyr, presenoldeb a llais Cymreig, sy’n wahanol i rai o wledydd eraill y DU.  O ganlyniad, mae’r lle Ewropeaidd hwn wedi’i ddefnyddio gan eiriolwyr cydraddoldeb i hybu eu hagenda personol yng Nghymru.

Ar ôl Brexit, ni fydd gan y rheini sy’n gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru yr un mynediad i’r isadeiledd Ewropeaidd hwn. Bydd yr amgylchedd deddfwriaethol a pholisi ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn newid. Ni fydd cronfeydd Ewropeaidd ar gael a bydd mynediad i rwydweithiau a sefydliadau Ewropeaidd yn cael eu hailstrwythuro, o leiaf.

Mae Brexit yn prysur agosáu i weithredwyr cydraddoldeb ar draws y DU sydd wedi defnyddio gofynion yr UE ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau i hyrwyddo eu hagenda domestig.  Er nad yw hyn yn unigryw i’r cenhedloedd datganoledig, bydd Brexit yn sicr yn esgor ar newidiadau gwahanol ar draws y DU.

Rhaid i ymchwil, trafodaethau ac ymgyrchoedd gydnabod y dimensiwn tirweddol o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y DU fel elfen hanfodol o wneud cynnydd tuag at gyfiawnder cymdeithasol ar draws y DU ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol gan UK in a Changing Europe (Y DU mewn Ewrop sy’n Newid).

Hoffai’r awdur ddiolch i Dr Alison Parken (Uwch-gymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd) am ei chyfraniad gwerthfawr i’r darn hwn.

Mae Dr Rachel Minto yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *