Brexit, Cymunedau a Diwylliant, Darllen hir, Economi a Masnach

Model ffermio ar ôl Brexit

Rhaid i Gymru ddatblygu model newydd ‘ffermio a mwy’ i sicrhau polisi amaethyddol cynaliadwy ar ôl Brexit.

Mae Brexit yn cynrychioli her ddifrifol a chyfle i ailgynllunio polisi bwyd-amaeth, datblygu rhanbarthol a gwledig yng Nghymru,

Er mai cyllid sector cyhoeddus y Deyrnas Unedig fu’r maes cyllido mwyaf o bell ffordd (drwy fformiwla Barnett) i effeithio ar y meysydd hyn yn ystod cyfnod y byddwn o bosib bellach yn ei ystyried fel cyfnod cyntaf (20-mlynedd) llywodraethu datganoledig yng Nghymru, mae’r meysydd polisi hyn hefyd wedi dibynnu’n drwm ar raglenni Undeb Ewropeaidd neilltuedig sy’n gysylltiedig â chyllid Datblygu Rhanbarthol a chyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP).

Seiliwyd y rhaglenni hyn ar set o flaenoriaethau ar sail angen a luniwyd yn sgîl cenhadaeth yr EU o leihau gwahaniaethau economaidd rhanbarthol, adeiladu capasiti rhanbarthol a chefnogi teuluoedd ffermio i ddarparu cyfuniad o nwyddau cyhoeddus a marchnad.

Nawr ein bod yn wynebu bwgan Brexit a realiti ymddatod oddi wrth y fframweithiau polisi cymhleth hyn, mae’n hanfodol bod Cymru yn datblygu gweledigaeth newydd ar y cyd o’i datblygiad gwledig a rhanbarthol cynaliadwy ei hun, sydd bellach yn cyfateb yn llwyr i’r egwyddorion a’r gwerthoedd a geir yn ei Deddfau ynghylch Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Amgylchedd a’i rhwymedigaethau statudol.

Mae hynny’n golygu – er ein bod yn cydnabod yn llawn y cysylltiadau economaidd hynod integredig â gweddill y Deyrnas Unedig a’r angen mewn llawer o feysydd rheoleiddio (e.e. masnach a safonau bwyd) am gyfranogi a dylanwadu’n rhagweithiol ar fframweithiau’r Deyrnas Unedig gyfan yn ystod ac ar ôl proses Brexit – mai cam arall hanfodol yw bod Cymru’n datblygu ei gweledigaeth a’i strategaeth unigryw ei hun ar gyfer yr economi bwyd-amaeth, gwledig a rhanbarthol, a hynny ar sail dull gweithredu ecolegol-economaidd (eco-economaidd) cadarn.

Y cynnig sydd dan sylw yw bod strategaeth a gweledigaeth yn cael eu llunio i feithrin y pontio sydd eisoes ar waith at fodel ôl-garbon a mwy cynhwysol o ddatblygu economaidd cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar dwf, ac yn sgîl hynny yn ychwanegu at unigrywiaeth a phosibiliadau Cymru o ran datblygu economi werdd arloesol sy’n arwain y byd.

Bydd angen i’r economi a’r weledigaeth sicrhau bod ardaloedd gwledig a’u natur a reolir (h.y. cyfuniadau amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys tirddeiliaid, coedwigwyr a thirweddau dynodedig) yn ganolog i gyflawni agenda Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod gweddill y ganrif hon.

Un o oblygiadau creu a datblygu’r weledigaeth a’r strategaeth hon yw pwysigrwydd edrych ar sut gallwn ni greu proses fwy integredig o lunio a chyflawni polisi sydd nid yn unig yn lliniaru anghydraddoldebau gofodol a chymdeithasol ledled Cymru, ond hefyd yn dathlu a chydnabod amrywiaeth yr economi ecolegol yng Nghymru; yn anad dim drwy ddatblygu dulliau gweithredu mwy pwrpasol, seiliedig ar le.

Mae hwn yn gyfle i integreiddio polisi rhanbarthol, gwledig ac amaethyddol gan greu polisi datblygu gwledig cynaliadwy – yr hyn rwyf fi’n ei alw’n ddull gweithredu “ffermio a mwy”.

Mae ffermio yn dod yn gyfrwng canolog ar gyfer cyflawni datblygu gwledig cynaliadwy, ynghyd ag amrywiaeth ehangach o weithgareddau economaidd gwledig aml-swyddogaeth – ynni adnewyddadwy, twristiaeth gynaliadwy a mentrau gwledig.

Mae hyn yn rhan annatod o weledigaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) o’r “patrwm datblygu gwledig newydd” sydd bellach yn cael ei ddatblygu mewn llawer rhanbarth yn Ewrop.

O ganlyniad, mae’n amserol dychwelyd amaethyddiaeth a ffermio i’w lle amlwg yn yr economi wledig, a datblygu mecanweithiau cymorth sy’n hybu economïau lleol busnesau aml-swyddogaeth.

Nid oes unrhyw reswm pam na allai gweledigaeth a strategaeth a rennir gan Gymru ategu ymagwedd esblygol ehangach y Deyrnas Unedig, ond gan fod ar yr un pryd yn unigryw ac “yn eiddo” i ffurflywodraeth Cymru, er mwyn cadw rheolaeth ar fecanweithiau dyrannu seiliedig ar Gymru (gweler yn ddiweddarach yn yr erthygl hon).

Ffynonellau a chyfryngau cyllid

Yn amlwg, mae’r ddau brif faes o gymorth posibl ar gyfer y dull gweithredu uchod yn gysylltiedig ag amcanion datblygu rhanbarthol y Deyrnas Unedig yn ei Chronfa Ffyniant a Rennir (amhenodedig hyd yma); a chefnogaeth y Deyrnas Unedig i’r byd amaethyddol wrth “bontio” ac yn y pen draw yn y cyfnod ôl-Brexit.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gael trafodaethau rhagweithiol gyda Whitehall ar frys ynghylch y ddau fater hyn, er mwyn i ni fedru mynegi a hyrwyddo ein gweledigaeth a’n strategaeth, a chyfiawnhau cyllid hollbwysig ar gyfer Cymru yn y ddau faes hyn.

Bydd angen ennill y ddadl, faint bynnag o gyllid sydd ar gael i Gymru o dan y cynlluniau hyn, bod angen i’r cyllid hwnnw fod: (a) yn seiliedig ar leihau anghysondebau CMC ledled Cymru; (b) yn seiliedig ar asesiad ar sail anghenion; ac (c) yn caniatáu i gymorth barhau, o leiaf ar sail model sy’n lleihau, ar gyfer cymorth cynhyrchu fferm sy’n dilyn y dull aml-swyddogaeth ehangach a ddarluniwyd uchod.

Mae perygl gwirioneddol yma y bydd pa gyllid bynnag sy’n cael ei ddarparu ac sy’n cael ei ddyrannu yn y pen draw o dan y cynlluniau hyn, yn: (a) hynod gystadleuol, yn enwedig â rhanbarthau eraill yn Lloegr; (b) yn gysylltiedig â chysyniad confensiynol o gynhyrchiant a thwf, sy’n gwahaniaethu yn erbyn ardaloedd gwledig a rhai â phoblogaeth ddarniog, gan ffafrio yn eu lle economïau trefol, sydd wedi’u crynhoi; ac (c) mae’n canolbwyntio gormod ar nwyddau cyhoeddus sydd heb fynd i’r farchnad yn hytrach na chyfuniad o gynhyrchu a gwasanaethau.

Dyna pam mae’n hanfodol bwysig, yn fy marn i, peidio â chael ein llethu gan brosesau “pontio” ôl-Brexit, ond datgan gweledigaeth i Gymru y tu hwnt i’r cyfnod pontio.  Ar ben hynny, byddwn i’n argymell rhoi sylw difrifol i gynnig bod pa gyllid bynnag o San Steffan sy’n cymryd lle’r cyllid CAP a Datblygu Rhanbarthol (Cydgyfeiriant) yn cael ei yrru gan fformiwla, a hynny ar fodel “Barnett a mwy” yr ychwanegir ato.

Gallai hyn ddigwydd dros gyfnodau cynllunio o 5-7 mlynedd er mwyn rhoi peth sicrwydd ac adolygu buddsoddiadau dros amser.

Systemau dyrannu datganoledig: cymryd rheolaeth

Mae’r cynnig uchod yn awgrymu bod angen sefydlu Asiantaeth neu Fwrdd Datblygu Rhanbarthol a Gwledig strategol yng Nghymru, gyda datblygu rhanbarthol, bwyd-amaeth a datblygiad economi wledig Cymru gyfan yn rhan o’i gylch gorchwyl, gan adrodd i’r cabinet a’r Cynulliad Cenedlaethol. Dylai hyn gyfateb i gyflawni gweledigaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ymdrin ag adfer bioamrywiaeth, ffermio teuluol a’r economi wledig leol yng Nghymru, a thrafod gyda Whitehall ynghylch dyraniadau cyllido a phrosesau Barnett a mwy.

Bydd y corff, felly, yn rheoli dyraniadau datganoledig ledled Cymru, gan gynnwys cefnogi asiantaethau darparu (rhanddeiliaid gwledig). Yn fy marn i, bydd y dull gweithredu hwn yn lleihau’r cynnydd posibl yng nghostau trafodion sy’n gysylltiedig â’r hyn a allai fod yn gyllid “a drosglwyddir i lawr am resymau gwleidyddol” a chyllid cystadleuol mwyfwy dethol gan Whitehall.   A bydd yn rhoi llais cryfach ar y cyd i Gymru ar draws y gwledydd datganoledig, ac yn parhau i greu cysylltiadau cadarnhaol, wedi’u rhwydweithio gyda’r Undeb Ewropeaidd (nid lleiaf ynghylch cyllideb Ymchwil a Datblygu FP9), yn ogystal â’r trafodaethau ynghylch polisïau gwledig a bwyd sy’n datblygu ar hyn o bryd.

Systemau targedu a darparu

Dylai targedu a darparu cymorth ariannol yng Nghymru yn ystod ac ar ôl y cyfnod pontio roi pwyslais ar systemau cymorth datganoledig ar gyfer partneriaethau sy’n seiliedig ar le ar amrywiaeth o raddfeydd gofodol gwahanol.

Gallai’r rhain gyfateb i is-ranbarthau datganiad ardal Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i gynllunio dalgylchoedd a phartneriaethau. Gallai ffermwyr barhau i fod yn brif dderbynwyr y cronfeydd hyn cyhyd â’u bod yn gweithio mewn partneriaeth ac yn cydweithio â’r ystod ehangach o randdeiliaid seiliedig ar le, ac yn dangos sut roeddent yn cysoni cynhyrchu bwydydd ansawdd uchel yn gynaliadwy, ynghyd â nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol eraill (gan gynnwys coetir, rheoli dŵr, ynni adnewyddadwy ac amwynder cynaliadwy a thwristiaeth).

Mae hyn yn ganolog i’r dull gweithredu “ffermio a mwy”.  Gall Tirweddau Dynodedig Cymru (dros 25% o wyneb y tir), er enghraifft, ddod yn enghreifftiau disglair o arloesi er mwyn meithrin y dulliau gweithredu hyn mewn partneriaeth. Yng Nghymru ceir llawer o arbrofion rhagorol ac arloesol o weithio mewn partneriaeth yn seiliedig ar le. Mae angen yn awr i’r rhain symud yn fwy i’r brif ffrwd, os yw ein gweledigaethau i gael eu gwireddu.

Ffermio ar gyfer y dyfodol: creu a chynhyrchu ar gyfer y cyhoedd a’r farchnad

O safbwynt Cymru, felly, mae ymgynghoriad presennol Defra ar Iechyd a Chytgord yn cyflwyno diffiniad o nwyddau cyhoeddus a phreifat sy’n llawer rhy gul a di-liw.  Nid yw’n cymryd i ystyriaeth yr angen i ddatblygu pontio i systemau cynhyrchu bwyd cynaliadwy lleol a rhanbarthol a mathau lleol o ddatblygu economaidd gwledig.

Rhaid i ddull Cymru fod yn fwy integredig ac wedi’i dargedu at greu modd i ni gynnal yr economi wledig a thirddeiliaid bach a ffermwyr mewn ffyrdd sy’n adeiladu eu capasiti i fod yn asiantau cyflenwi mawr ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ni ddylem dderbyn, felly, bod parhau i grynhoi ffermio a gweld teuluoedd ffermio yn diflannu yn ganlyniad anochel.  O dan y weledigaeth a’r strategaeth a amlinellir yma, byddant yn hytrach yn dod yn fusnesau hanfodol ar gyfer cyflawni economi a natur wledig cynaliadwy.

O ganlyniad mae datblygu strategaeth bwyd-amaeth o ansawdd, wedi’i brandio a’i hadfywio, ar sail set fwy amrywiol o arferion ffermio, yn dod yn elfen hanfodol o’r dull gweithredu ôl-Brexit yng Nghymru.

Yr Athro Terry Marsden yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *