Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Brexit ac ugain mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith

Y mis hwn, mae’n ugain mlynedd ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (Belfast) a lwyddodd i ddod â dros pum mlynedd ar hugain o wrthdaro yng Ngogledd Iwerddon i ben.

Er bod Cytundeb Dydd Gwener y Groglith ar waith o hyd, mae Brexit a chytundeb y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd (DUP) gyda llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi pwysau cynyddol ar brif egwyddorion cydsyniad a hawl pobl i benderfynu drostynt eu hunain.

Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith – a lofnodwyd ym 1998 – wedi rhoi heddwch i raddau helaeth yng Ngogledd Iwerddon. Yn ôl Lost Lives, llyfr sy’n manylu ar farwolaethau yn sgîl gwrthdaro, lladdwyd 436 o bobl rhwng 1990 a 1994. Mewn cyferbyniad, lladdwyd 36 o bobl yn sgîl gweithredoedd parafilwrol neu lu diogelu’r DU (UK security force) rhwng 2002 a 2006 (McKittrick et al. 2007, p.1552).

At hynny, cafodd Byddin Weriniaethol Iwerddon (yr IRA) eu hargyhoeddi gan Gytundeb Belfast i ddod â’i hymgyrch arfog i ben yn 2005, ac argyhoeddwyd ei hadain wleidyddol, Sinn Féin, i gofleidio rhannu grym yn llawn yng Ngogledd Iwerddon. Ar yr ochr unoliaethol, yn y pen draw, derbyniodd plaid yr Ulster Unionists a’r DUP y broses o rannu grym gyda chenedlaetholwyr Gwyddelig a sefydliadau trawsffiniol, rhywbeth â wrthodwyd ganddynt yn wreiddiol, ym 1974.

Yn y bôn, roedd cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn ymwneud ag egwyddorion cydsyniad a hunanbenderfyniad. Roedd yn nodi y bydd dyfodol cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn cael ei bennu gan fwyafrif pobl Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn pleidleisio ar wahân – ond ar y run pryd – naill ai dros gadw’r Gogledd yn y DU, neu uno ag Iwerddon. Yn y cyfamser, roedd Cytundeb Belfast yn addo cydraddoldeb, parch tuag at wahaniaethau diwylliannol a dyfodol ar y cyd i holl bobl Gogledd Iwerddon. Mae wedi cyflawni rhai o’r addewidion hyn. Er enghraifft, gall y rheini a aned yng Ngogledd Iwerddon ddal pasbort Prydeinig, Gwyddelig neu’r ddau.

Er mwyn amddiffyn Pabyddion, sy’n cynrychioli 45 y cant o’r boblogaeth ar hyn o bryd, rhag dioddef gwahaniaethu ym meysydd diwylliannol, cyflogaeth gyhoeddus, gweithdrefnau pleidleisio neu gyfraith a threfn, fel oedd yn digwydd o dan reolaeth y mwyafrif Unoliaethol cyn 1969 (gweler Whyte 1983), mae’r cytundeb yn cynnwys elfennau gwrth-wahaniaethu. Mae’n rhaid i aelodau etholedig Cynulliad Gogledd Iwerddon ddynodi a ydynt yn Unoliaethwyr, yn Genedlaetholwyr neu Arall. Diben hynny yw sicrhau pan mae materion dadleuol – megis plismona neu faneri – yn cael eu trafod wrth lunio deddfwriaeth, bod pleidlais trawsgymunedol yn cael ei chynnal. Rhaid i fwyafrif y rheini sydd wedi’u dynodi’n genedlaetholwyr neu’n unoliaethwyr dynodedig ill dau dderbyn deddfwriaeth benodol cyn y gellir ei phasio. Mae cytundeb Dydd Gwener y Groglith wedi rhoi’r rhyddid i Unoliaethwyr a Chenedlaetholwyr Gwyddelig bennu eu dyfodol cyfansoddiadol a’u materion o ddydd i ddydd.

Er gwaethaf y ffaith na fu’r llywodraeth rhannu grym yn gweithredu ers mis Ionawr 2017 yn sgîl anghytuno dros Ddeddf yr Iaith Wyddelig, rhoi mecanweithiau gwrthdaro hanesyddol ar waith a chynllun ynni llwgr, mae Cytundeb Gwener y Groglith yn parhau i fod yn sail i heddwch a chynnydd gwleidyddol. Ochr yn ochr â gostyngiad sylweddol mewn trais gwleidyddol, mae wedi annog y DUP a Sinn Féin – gelynion pennaf cyn 1998 – i rannu grym rhwng 2007 a 2017. Yn ogystal, mae’n werth cofio bod y naill blaid a’r llall yn dal i gefnogi Cytundeb Belfast.

Er y gall y Cynulliad syrthio, nid yw Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn gwneud hynny. Yn hytrach, mae rheolaeth uniongyrchol o Lundain gyda chymorth Dulyn. Pan ddychwelodd rheolaeth uniongyrchol rhwng 2002 a 2007, ni wnaeth y y gwrthdaro ailddechrau. Er nad yw’n ddelfrydol, gall rheolaeth uniongyrchol roi’r amser sydd ei angen ar gyfer adfer rhannu grym os oes trafodaethau’n cael eu hwyluso yn y cyfamser gan y lywodraethau Prydain ac Iwerddon (Coakley 2008).

Ond mae tair her allweddol i egwyddorion sylfaenol cytundeb Gwener y Groglith wedi codi yn sgil Brexit.

Yn gyntaf, pleidleisiodd Gogledd Iwerddon dros aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Pleidleisiodd 55.8 y cant dros aros o’i gymharu â 44.2 y cant a bleidleisiodd dros adael. Gellir cyfiawnhau ymadawiad Gogledd Iwerddon o’r UE ar sail canlyniad y DU yn gyffredinol. Fodd bynnag, roedd cytundeb Gwener y Groglith yn diogelu egwyddorion cydsyniad a hawl pobl Gogledd Iwerddon i benderfynu drostynt eu hunain. Er enghraifft, pe byddai Gogledd Iwerddon am aros yn rhan o’r DU neu am uno â’r Weriniaeth yn y dyfodol, ni all gweddill y DU atal Gogledd Iwerddon rhag gwneud hynny os hynny yw eu dymuniad. Mae Brexit wedi mynd yn groes i’r egwyddor hon. Mae gweriniaethwyr a chenedlaetholwyr Gwyddelig (yn ogystal â rhai unoliaethwyr, o bosibl, a bleidleisiodd o blaid aros) yn teimlo bod eu barn yn cael ei hanwybyddu. Mae hyn yn esbonio’n rhannol pam mae Sinn Féin am gael statws arbennig ar gyfer Gogledd Iwerddon o fewn yr UE.

Yr ail broblem bosibl yw anfodlonrwydd gydag unrhyw ffin. Mae map etholiadol Gogledd Iwerddon yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mawrth 2017 ac etholiadau Senedd y DU ym mis Mehefin 2017 yn dangos bod yr etholaethau ar y ffin yn cael eu dominyddu gan Sinn Féin. Gydag arwyddion o brotest a gorymdeithiau yn erbyn ffin caled neu safleoedd tollau mewn llawer o etholaethau Sinn Féin ger y ffin, mae’n amlwg bod cenedlaetholwyr yn teimlo bod eu cydsyniad wedi ei anwybyddu.

Y trydydd anhawster mae Brexit yn ei fygwth i gytundeb Gwener y Groglith yw y bydd yn rhaid i delerau terfynol Brexit fynd gerbron Senedd y DU. Sinn Féin yw’r unig blaid o genedlaetholwyr Gwyddelig ag unrhyw seddi yn San Steffan, ond am eu bod yn gwrthwynebu rheolaeth Brydeinig, yn hanesyddol, nid ydynt wedi cymryd eu seddi. Mae’r DUP yn cefnogi Llywodraeth Geidwadol y DU ar hyn o bryd. Mae’r sefyllfa hon yn golygu y caiff cydsyniad y rhan fwyaf o bobl Gogledd Iwerddon, o bosibl, ei anwybyddu. Mae rhifyddeg Seneddol yn golygu nad yw o bwys a yw Sinn Féin yn cymryd eu seddi, am fod gan y Llywodraeth Geidwadol a’r DUP, mewn theori, y niferoedd ar gyfer pasio telerau terfynol Brexit.

Serch hynny, bu cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn wydn. Nid oes unrhyw awydd i ddychwelyd i drais, a dim ond canran isel o’r bleidlais a gafwyd gan deyrngarwyr anghydffurfiol a pharamilwyr gweriniaethol ers 1998. Yn ogystal, mae’r DUP a Sinn Féin yn parhau i gefnogi rhannu grym a’r egwyddor o gydsyniad i benderfynu dyfodol cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon. Gyda lwc, bydd modd datrys unrhyw anghytundeb ynghylch Brexit drwy drafodaethau democrataidd. Efallai bydd yr angen am gysylltiadau masnachu newydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a mannau eraill yn golygu bydd Cynulliad o genedlaetholwyr ac unoliaethwyr yn cydweithio’n agosach er lles buddiannau economaidd Gogledd Iwerddon yn y dyfodol. Ac eto, mae cydweithio ynghylch Brexit yn dibynnu ar gadw at egwyddorion allweddol Cytundeb Dydd Gwener y Groglith: hunanbenderfyniad a chydsyniad. Gallai unrhyw ymgais i osgoi’r egwyddorion hyn effeithio ar gysylltiadau rhwng cymunedau am flynyddoedd i ddod.

Mae Dr Thomas Leahy yn ddarlithydd mewn hanes cyfoes a gwleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon yn Adran Gwleidyddiaeth a Cysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd. Mae ei arbenigeddau ymchwil yn cynnwys y gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon, gweriniaetholdeb yn Iwerddon ers 1969, gwleidyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon ac Iwerddon ers 1998, ac ymdrin â’r gorffennol ar ynys Iwerddon.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *