Brexit, Darllen hir, Economi a Masnach

Datblygu gwledig: ar ôl Brexit

Wrth i broses araf a hynod ansicr Brexit fynd rhagddi, a’r holl sôn am fod ar ‘ymyl y dibyn’ ddod yn fwyfwy cyffredin, mae’n fwy hanfodol fyth ein bod yn datblygu gweledigaeth ar y cyd a chyfres o egwyddorion polisi ar gyfer ardaloedd gwledig yn y DU, yn enwedig yng Nghymru.

Mae siarad â llawer o randdeiliaid allweddol, busnesau a thrigolion cefn gwlad dros y misoedd diweddar wedi fy argyhoeddi bod angen i ni, rywsut, ddatblygu cynllun ar gyfer y Gymru wledig ar ôl Brexit, fydd yn harneisio ac yn datblygu ei botensial dynol ac ecolegol fel cadarnle ar gyfer datblygu economaidd (ôl-carbon). Mae angen i randdeiliaid gwledig yng Nghymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, o bosibl, fynd ati ar unwaith i ddatblygu polisi gwledig newydd fydd yn gosod seiliau ar gyfer datblygu Cymru wledig mwy gwydn a chynaliadwy ar ôl Brexit.

Hyd yn hyn, dim ond dadansoddiadau cyfyng o sefyllfaoedd sydd wedi’u cynnal, heb unrhyw ddatganiadau nac arweiniad ystyrlon gan weinidogion.  Mae meddylfryd amddiffynnol ym Mharc Cathays; yn aros neu’n ymbaratoi ar gyfer trafod telerau’r broses o adael, a’r goblygiadau tebygol ar gyfer y setliad datganoli yn y dyfodol. Mae’r dull hwn yn tueddu, ar y gorau, i ganolbwyntio’n ormodol ar yr amodau amaethyddol tebygol wedi i ni adael yr UE. Mae’r sefyllfaoedd yn y fan hon yn ddigon drwgargoelus, â’r problemau deublyg yn sgîl Brexit o ostyngiad sylweddol mewn mynediad i farchnad yr UE ar gyfer ei gynnyrch amaethyddol, ar yr un pryd â cholli mynediad wedi’i glustnodi i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, ac ariannu datblygiad rhanbarthol.  Fodd bynnag, os byddwn, o reidrwydd yn edrych yn fwy eang ar gefn gwlad Cymru, rhaid i ni sylweddoli mai dim ond rhan o’r stori yw Brexit.

Y broblem driphlyg

Am gyfnod rhy hir, ac yn gynyddol anghydnaws â llawer o ranbarthau gwledig ac arloesol eraill yn Ewrop, mae fy ymchwil ddiweddar yn dangos y gwnaed ardaloedd gwledig y DU llawer mwy agored i niwed, yn enwedig ers yr argyfwng ariannol a chyllidol yn 2007-8, o ganlyniad i gyfuno dwy resymeg macro-economaidd a gwleidyddol eraill.[1] Yn y lle cyntaf, y toriadau mewn rhaglenni polisi cyhoeddus a elwir yn fesurau ‘cyni’ yn gyffredinol.  Yn ail, ac wedi’i gyfuno â hynny, yw’r rhesymeg economeg fywiog ond gul sy’n blaenoriaethu a chanoli buddsoddiad a thwf cyhoeddus yn ogystal â phreifat, mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Mae’r rhesymeg hon ynghylch dod ag adnoddau ynghyd yn un ffals; mae’n dadlau pe byddech yn canolbwyntio cyfleusterau ac adnoddau mewn nodau a lleoliadau canolog, bydd manteision bod yn agos i rywle yn datblygu yno, cyn gorlifo mewn modd ‘diferu am i lawr’ i ardaloedd cyfagos a llai breintiedig. Nid yw hyn yn digwydd dan amodau cyni cyhoeddus. Yn hytrach, mae’n arwain at fwy o wthio i’r ymylon.

Canlyniad y ddwy resymeg ar y cyd – cynni a chanoli – yw eu bod, gyda’i gilydd, wedi ‘gwacáu’ gwasanaethau ac adnoddau gwledig cyhoeddus a phreifat, a rhai mwy gwasgaredig, megis ysgolion, ysbytai, llyfrgelloedd, tafarndai, swyddfeydd y post, banciau a gwasanaethau cyfreithiol ac ariannol. Mae hyn yn golygu bod y gwasanaethau a’r marchnadoedd a ddarperir ac a ddefnyddir gan fusnesau ac aelwydydd gwledig bellach hyd yn oed yn fwy canoledig (fel manwerthu, darpariaeth ynni, adnoddau gofal, arlwyo a phrosesu bwyd). Yn wir, mae’r diffyg enbyd o isadeiledd band-eang digidol, a buddsoddiad yn rhannau mwyaf anghysbell cefn gwlad Cymru wedi gwaethygu’r prosesau hyn.

Strategaeth ddosbarthu newydd ar gyfer y Gymru wledig: platfform newydd

Felly, mae angen mynd i’r afael nawr â’r tri ffactor negyddol strwythurol cyffredinol ac yn wir, eu gwrthdroi gyda golwg ar ddatblygiad gwledig: effeithiau cyni, canoli darpariaethau ac isadeileddau yn gynyddol a bellach, yn rhan o’r cymysgedd, y posibilrwydd o ymwahanu rheoleiddiol ansicr yn dilyn Brexit. Mae’n wir dweud bod hwn yn fyd gwahanol iawn i’r hyn ydoedd ugain mlynedd nôl, pan gafwyd proses ffres ac arloesol datganoli Cymreig yr un pryd â llywodraeth Lafur gefnogol Tony Blair, ynghyd ag ariannu sylweddol gan Frwsel ar gyfer datblygu gwledig a rhanbarthol (Amcanion 1 a 2).

Mae’n bwysig cydnabod y realiti macro-economaidd a gwleidyddol hyn ar hyn o bryd, er mwyn i ni allu creu platfform newydd ac yn wir, model datblygu newydd ar gyfer y Gymru wledig. Mae angen adeiladu hwn yn ôl sawl egwyddor sylfaenol y byddaf yn eu hamlinellu yma, ac maent yn amserol dros ben.

Bydd y cyfnod newid ôl-garbon yng Nghymru, yn ogystal â mewn mannau eraill, yn golygu y bydd angen i ni gaffael nid yn unig ein bwyd, ond ein hynni, deunyddiau, coed, dŵr a ffeibr o ardaloedd gwledig a’u biosffer. Mae llawer o wledydd, bellach, yn cydnabod hynny (Canada, Sweden, y Ffindir, yr Almaen) i’r fath raddau fel eu bod wrthi’n gwneud cynlluniau strategol ar gyfer eu ‘bio-economïau’ dosbarthol, fel fframweithiau macro-economaidd a pholisi canolog a chenedlaethol.

Felly, mae gan ardaloedd gwledig rôl ganolog yn natblygiad y bio-economïau – a dylent hyrwyddo eu hunain felly – o ystyried y bydd yn rhaid i ni greu mwy o werth o adnoddau bio-seiliedig a defnyddio’r rhain mewn modd dipyn y fwy effeithlon, gan roi egwyddorion economaidd cylchol ar waith.

Bydd hyn yn golygu bod angen i ni baratoi ar gyfer system fwy dosbarthol o ddarpariaethau a marchnadoedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac yn y berthynas rhwng ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol. Mae systemau dosbarthol yn golygu mwy na datganoli adnoddau neu’r broses o wneud penderfyniadau. Mae’n golygu cynnal gweithgareddau’n lleol eto fel eich bod yn cynnal synergedd ac effeithlonrwydd ecolegol rhwng cyfnewid a thrawsnewid adnoddau ynni, deunydd, bwyd a dŵr. Mae hwn yn ddull mwy rhwydweithiol sy’n seiliedig ar leoedd penodol i ddatblygu economïau lleol unwaith eto. Dylent fod yn gysylltiedig â’i gilydd, a’u cymdogion trefol mwy o faint a mwy casgledig, drwy gyfrwng cyfathrebu a chysylltiadau trafnidiaeth effeithlon. Mae hyn yn cynnwys – a dylai ysgogi – micro-ddulliau ynni adnewyddadwy, telefeddygaeth, a gweithgareddau cydweithredol a chymunedol mewn ardaloedd gwledig.

Nawr yw’r amser i gefnogi a datblygu’r economi wledig wasgaredig o ddifrif. Gallai economi o’r fath ffynnu yng Nghymru o fewn y fframwaith statudol arloesol yr ydym wedi’i greu. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd ill dau yn rhoi’r fframwaith cyfreithiol ar sefydlu’r polisïau gwledig hyn. Ar hyn o bryd, mae’r holl gyrff cyhoeddus yn ymgodymu â ‘sut i reoli’ dyfodiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus, cynlluniau lles, datganiadau ardal, mentrau cynllunio cymunedol. Mae pob un o’r rhain yn deillio o’r fframwaith statudol newydd hwn ac i fod i arddel egwyddorion rheoli adnoddau mewn modd cynaliadwy. Mae’r cyfle amserol, presennol yn rhoi arweiniad ac arweinyddiaeth real, ar y cyd a chydlynol o ran polisi, i’r fframwaith sefydliadol hwn – un sy’n cydnabod ac yn cynnwys yr holl randdeiliaid gwledig – diddordebau preifat a chyhoeddus, tirfeddiannol a chymunedol.

Yr Athro Terry Marsden yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymddangosodd y blog hwn yn gyntaf ar flog y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli cyflwyniad a roddwyd i Coed Cadw yn ei gyfarfod ‘Gosod gwreiddiau newydd: coedwigoedd, coed a’r tirwedd ôl-CAP, ym Mae Caerdydd, 27 Chwefror, 2018.

Ysgrifennwyd y gwaith ymchwil hwn yn ddiweddar yn fy llyfr diweddaraf: Agri-food and rural development: sustainable place-making (Bloomsbury: Llundain, 2017).

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *