Mae’r DU yn wladwriaeth unedol sy’n cynnwys Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae cysylltiad diwylliannol a hanesyddol cynhenid rhwng pob un o’r gwledydd hyn yn yr oes fodern, drwy gyfrwng profiadau diwydiannol, gwleidyddol a rhyngwladol ar y cyd.
Nod datganoli oedd mynd i’r afael â dadrithiad ynghylch sut yr oedd y drefn lywodraethu wedi’i chanoli’n ormodol, ochr yn ochr â chadw sofraniaeth yn nwylo senedd San Steffan.
Mae’r graddau y mae’r DU wedi ymwahanu i’w weld yn y gwahaniaeth yng ngwleidyddiaeth y gwledydd hyn, eu pryderon ynghylch trafodaethau Brexit, ansicrwydd ynghylch ffin Gogledd Iwerddon ar ôl gadael yr UE, y posibilrwydd o gael ail refferendwm ynghylch rhoi annibyniaeth i’r Alban, a’r anesmwythder cyffredinol ynghylch Deddf Cymru 2017. Yn ôl Mae adroddiad Datganoli a Dyfodol yr Undeb (Uned Gyfansoddiadol: 2015): ‘nid yw’r DU yn unigryw, o bell ffordd yn wynebu heriau i’w strwythur a’i huniondeb…serch hynny, mae’n unigryw yn y modd y mae’n ceisio gwneud hynny heb gyfansoddiad ffurfiol ysgrifenedig.’ Mae’r adroddiad yn trin a thrafod tri ateb posibl ar sail cynyddu datganoli.
Yn ddiweddar, mae llawer o academyddion a gwleidyddion yn mynnu y dylai’r DU: ‘ddefnyddio’r broses o ailwladoli pwerau gan yr UE i sefydlu gwladwriaeth ffederal newydd o wledydd cyfartal.’ Mae’r Arglwydd David Owen o blaid strwythur ffederal sy’n seiliedig ar fodel yr Almaen, tra bod adroddiad ‘UK’s Changing Union’ (Canolfan Llywodraethiant Cymru: 2015) yn cynnig gwladwriaeth undeb yn hytrach na gwladwriaeth undebol sy’n: ‘cynnwys pedwar endid cenedlaethol yn rhannu sofraniaeth…ac sy’n cydsynio i gydweithio o fewn undeb, er eu lles cyffredin.” Mae hyn yn dynodi diwedd y daith i ddatganoli a symud tuag at fframwaith mwy agored-ffederal neu led-ffederal.
Mae’r Athro Jim Gallagher yn mynd ymhellach: ‘ Mae pobl yn sôn yn aml am ffederaliaeth fel petai’n ateb. Mewn gwirionedd, mae’r DU eisoes yn symud y tu hwnt i hynny, i sefyllfa fwy gydffederal.’ Wrth fyfyrio ar ei adroddiad Britain after Brexit (2016), mae Gallagher yn rhagweld: ‘cydffederasiwn o wledydd – gwahanol iawn o ran eu maint – yn rhannu pethau sydd o bwys aruthrol, fel rheoli economaidd, gwasanaethau lles ac amddiffyn.’
Efallai y bydd modelau cyfansoddiadol mwy cynnil o ddiddordeb hefyd. Yn ei erthygl, Confederal Federalism (Western European Politics, 1999), mae’r Athro John Kincaid yn esbonio: ‘ymddengys mai’r hyn sydd wedi datblygu yn yr UE … yw trefn lywodraethol gydffederal sy’n gweithredu mewn modd sylweddol ffederal o fewn meysydd ei chymhwysedd.’ Mewn gwirionedd, mae aelod-wladwriaethau wedi dirprwyo rhan o’u sofraniaeth dros amser i gyrff canolog sy’n cytuno ar ddeddfau ar eu rhan.
Mae proses barhaus Brexit, wrth ei natur, yn mynd rhagddi mewn modd fydd yn canoli pwerau, â hynny o blaid San Steffan. Mae hynny yn sgil rôl ddeuol y Senedd wrth hwyluso Llywodraeth y DU, a Lloegr, gan hynny. Mewn amser, bydd yn rhaid disodli rheoliadau EU-ganolog a welir ar hyn o bryd i hyrwyddo’r broses o ddatblygu fframwaith ynys gyfan. Bydd rhaid iddo fod wedi’i strwythuro i hwyluso marchnad sengl, cydymffurfio â rheolau rhyngwladol, trafod cytundebau masnachol, defnyddio adnoddau ar y cyd a diogelu hawliau. Fodd bynnag, fel y pwysleisiodd yr Athro Richard Rawlings yn ei adroddiad Brexit and Territorial Constitutions (Constitution Society, October 2017): ‘rhaid gwrthsefyll yn gadarn y duedd i ddilyniannu — y demtasiwn i drin agweddau datganoli fel pe baent yn rhyw fath o ail haen sy’n gweithio orau pan maent yn gwneud dim wrth i’r trafodaethau uwchgenedlaethol fynd rhagddynt, yn hytrach na’u datblygu ar y cyd mewn ysbryd o gydweithredu.
Mae trefniadau datganoli amrywiol wedi symud ymlaen mewn ffyrdd cynyddrannol ac anghymesur ers 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r UE wedi bod yn rhan o’r edafedd sy’n dal y DU ynghyd. Mae goruchafiaeth cyfraith yr UE, a’r dehongliad ohono gan Lys Cyfiawnder yr UE, wedi diogelu cysondeb normau cyfreithiol a rheoleiddiol ar draws meysydd helaeth, gan gynnwys meysydd datganoledig. Confensiynau marchnad fewnol yr UE sydd wedi cynnal marchnad fewnol y DU. Felly, mae Brexit yn cyflwyno’r perygl y gallai’r cymwyseddau cydberthynol hyn ddod yn fwyfwy ansicr os na fydd fframwaith cyfansoddiadol newydd yn mynd i’r afael â hwy.
Gyda llawer o bwerau yn dychwelyd o Frwsel, dylai rhai fynd yn syth i’r gwledydd datganoledig. Dylai cyfrifoldebau eraill gael eu hystyried ochr yn ochr â newidiadau eraill y mae galw mawr amdanynt. Gallai agwedd gyfansoddiadol oleuedig arwain at roi grym ychwanegol yn uniongyrchol i’r union sefydliadau hyn sydd â’r pŵer i gydweithio â chyrff Ewropeaidd ar faterion megis iechyd, cyllid ymchwil, prifysgolion, cyfiawnder a phlismona.
I aralleirio Bernard Chartres, ‘Rydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri.’ Gadewch inni wneud yn siŵr y gall cenedlaethau o bobl yn y dyfodol ddweud yr un peth o ran ein hymdrechion i greu Undeb fodern sy’n addas at y diben yn yr 21ain ganrif.’
Daw’r darn hwn o’r pamffled sydd newydd ei lansio ‘Brexit, Devolution and the Changing Union: 2018’ gan yr Arglwydd David Owen, Gwynoro Jones, yr Arglwydd Elystan Morgan a Glyndwr Cennydd Jones, gyda diweddglo gan Martin Shipton. Mae’r pamffled hwn yn trin a thrafod yr angen am Gonfensiwn Cyfansoddiadol ledled y DU — sy’n cynnwys holl bleidiau gwleidyddol ac elfennau o Gymdeithas Prydain — i drafod dyfodol yr Undeb, yn enwedig yng nghyd-destun Brexit.
Mae Glyndwr Cennydd Jones yn swyddog gweithredol mewn elusen sy’n gweithredu ledled y DU. Mae‘n annog mwy o gonsensws trawsbleidiol yng Nghymru.
Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.
Sylwadau
No comments.