Economi a Masnach

Brexit a chwmnïau Cymru

Mae’r tonfeddi wedi bod yn llawn o drafodaethau ynghylch y broses Brexit a’r hyn allai’r canlyniad ‘terfynol’ ei olygu ar gyfer defnyddwyr, diwydiannau a’r amgylchedd yng Nghymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad, sef ‘Polisi Masnach: Y Materion sy’n Effeithio ar Gymru’, er mwyn ystyried y mater hwn. Helpodd Ysgol Busnes Caerdydd i lunio’r rhai o gasgliadau’r adroddiad drwy archwilio sut y gallai’r broses a’r materion ymarferol sy’n gysylltiedig â gadael yr UE effeithio ar gwmnïau mwy o faint yng Nghymru.

Cwmpas ein harchwiliad

Yn bennaf, nod ein hymchwil oedd ceisio ffurfio peryglon presennol – a rhai posibl yn y dyfodol – sy’n effeithio ar gwmnïau yng Nghymru. Gwnaethom archwilio’r peryglon o wneud cwmnïau’n destun tariffau mewnforio ac allforio, yn ogystal â gwahanol fathau o rhwystrau di-dariff,y perygl o golli cyfleoedd ymchwil a rhwydweithio, yn ogystal â pheryglon posibl llai o fynediad at lafur o wahanol feysydd o’r UE.

Yn ogystal, gwnaethom archwilio’r tebygolrwydd o adleoli gweithgaredd cwmnïau lleol i leoliadau eraill yn yr UE a thu hwnt, a’r modd y gallai newidiadau i hyd a lled y gweithgaredd hwn effeithio ar agweddau eraill o’r economi rhanbarthol drwy gyfrwng sgil-effeithiau’r gadwyn gyflenwi.

Is-gwmnïau amlwladol mwyaf agored i niwed

Dangoswyd mai’r gweithgaredd gan gwmnïau mwy o faint sydd fwyaf agored i niwed Brexit ‘caled’, yn nodweddiadol, yw is-gwmnïau amlwladol sydd ag opsiynau cynhyrchu eraill yn Ewrop neu tu hwnt.  Yn yr achosion hyn, fel arfer, mae buddsoddiadau o fewn y cwmni yn destun ystodau o gystadleuaeth mewnol.

Rydym wedi nodi rhai sectorau o economi Cymru sy’n wynebu risgiau arbennig o uchel, gan gynnwys awyrofod, gweithgynhyrchu uwch, modurol a pheirianneg electronig; Mae’r sectorau hyn yn cwmpasu rhai o gyflogwyr sector preifat mwyaf, a mwyaf cynhyrchiol Cymru.

Mater arall oedd bod cwmnïau gwahanol, hyd yn oed o fewn yr un diwydiant, yn nodi risgiau gwahanol yn ôl eu safle yn y gadwyn gyflenwi fyd-eang, union strwythur eu masnach mewnforio ac allforio a natur wahanol rhwystrau di-dariff fel cynnyrch safonau neu reolau a rheoliadau. Mae darlun cymhleth hwn yn golygu bod cyffredinoli ynghylch effeithiau’r broses Brexit yn anodd, fel ag y bydd datblygu ymatebion polisi priodol ac ymyriadau i’w cynorthwyo.

Data ac ansicrwydd

Yr hyn a oedd hefyd yn glir o’r ymchwil oedd mai prin iawn yw’r diwydiannau Cymreig sy’n gwbl ddiogel rhag yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r newidiadau yn sgil Brexit, hyd yn oed y rheini sy’n fwy dibynnol ar ofynion cartref – yn hytrach na tramor – ar gyfer eu nwyddau a’u gwasanaethau.

Mewn rhai achosion, roedd ansicrwydd eisoes yn cael ei ystyried pan fyddai penderfyniadau ynghylch buddsoddi cyfalafol yn cael ei wneud, yn enwedig mewn cwmnïau â’u cynhyrchion yn dod i ddiwedd eu cylch gwaith neu pan oedd rhiant-gwmnïau’n ystyried lleoliadau ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau newydd.

Yn anochel, nododd y gwaith rhai bylchau pwysig o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithgaredd cwmnïau yng Nghymru. Er enghraifft, tra bod gennym ystadegau defnyddio ynghylch allforion tramor o gwmnïau Cymru, mae llawer iawn llai’n wybyddus am hyd a lled masnach Cymreig â chwmnïau yng ngweddill y DU, sy’n masnachu wedyn â marchnadoedd tramor. Yn ogystal, mae gwybodaeth gyfyngedig iawn i’w chael ynghylch sut y mae cwmnïau Cymru’n defnyddio mewnforion o ffynonellau daearyddol gwahanol.

Mae datblygu setiau data manwl ar lifoedd masnach o fewn economi’r DU yn ymarferiad dwys o ran o adnoddau, ond mae’n hollbwysig ar gyfer deall sut y mae ergydion economaidd yn effeithio ar ein heconomi.

Mae’n parhau i fod yn anodd iawn rhagweld sut yn union y caiff economi Cymru ei heffeithio gan broses Brexit. Yn wir, yr union ansicrwydd hwn oedd prif bryder llawer o’r cwmnïau yr ymgynghorwyd â hwy yn ystod y gwaith. Fodd bynnag, mae datblygu fframwaith ar gyfer deall y risgiau sy’n wynebu ein cwmnïau rhanbarthol mwy o faint yn hollbwysig ar gyfer ffurfio ymateb polisi priodol, ac ar gyfer yr achos a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU.

Mae’r Athro Max Munday yn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil yn economi Cymru, dadansoddiad economaidd rhanbarthol a pholisi rhanbarthol.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awduresau ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *