Cymunedau a Diwylliant, Darllen hir, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Brexit, cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Yr wythnos hon, mae Bil (Ymadael) yr Undeb Ewropeaidd yn symud i’r Cam Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin, a chaiff y Bil, yn anarferol, ei drafod ar lawr y tŷ. Mae gwleidyddion ar draws pleidiau yn gosod ystod eang o welliannau gyda’r nod o sicrhau darn diffiniol o ddeddfwriaeth ar gyfer ein hoes.

Mae gennym ni – y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – ran i’w chwarae i sicrhau fod cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i’r drafodaeth ar y Bil. Mae gan benderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd oblygiadau posib i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â chyfreithiau eraill sydd yn ymwneud â meysydd megis mamolaeth a hawliau rhieni, hygyrchedd i bobl anabl, a mewnfudo. Mae’r Comisiwn yn cynghori pob plaid wleidyddol ar welliannau y gellir eu gwneud i’r Bil a fydd yn sicrhau na fydd, ar ôl i ni adael yr UE, unrhyw atchweliad i’r amddiffynfeydd cydraddoldeb a hawliau dynol sydd gennym yma ym Mhrydain.

Mae enw da gan y DU fel arweinydd byd eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r Bil yn gyfle i Lywodraeth y DU osod gweledigaeth bositif i’r math o wlad yr ydym ei heisiau ar ôl i ni adael yr UE.

Mae’r Comisiwn yn annog pob plaid wleidyddol i ddilyn pum blaenoriaeth o ran y Bil a Brexit yn eu cyfanrwydd. Mae’r rhain i

  1. Ddiogelu rhan y Senedd wrth graffu fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU, mae hwn yn cynnwys sicrhau y gellir gwella unrhyw newidiadau i’r ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol yn y dyfodol dim ond ar ôl craffu seneddol cadarn
  2. Cadw fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol y DU wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, dylai pob cyfraith cydraddoldeb a hawliau dynol sydd yn cael ei thanategu’n gyfredol gan gyfraith yr UE aros (gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol).
  3. Sicrhau bod y DU yn arweinydd byd eang ar gydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys cryfhau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a rhoi argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol ar waith
  4. Diogelu isadeiledd cydraddoldeb a hawliau dynol y DU. Dylai pob llywodraeth sicrhau na fydd colli arian y UE yn tanseilio isadeiledd cydraddoldeb a hawliau dynol y DU. Mae hyn yn cynnwys ymchwil academaidd, er enghraifft ar drais yn erbyn menywod a sut i gadw trefn arno, a gwasanaethau sector gwirfoddol, er enghraifft y rheini sydd yn cefnogi pobl hŷn a phobl anabl ym maes cyflogaeth.
  5. Hybu’r DU fel lle agored a theg i fyw ynddo ac i wneud busnes
  • Dylai pob cytundeb masnachu yn y dyfodol gynnwys cymalau hawliau dynol a democratiaeth sydd o leiaf yn bodloni safonau cyfredol yr UE.
  • Dylai Llywodraeth y DU gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb a hawliau dynol cadarn ar newidiadau arfaethedig i reolau mewnfudo, a chymryd camau i sicrhau’r effeithiau negyddol lleiaf.

Pam fo Bil Ymadael yr UE o bwys i Gymru?

Nid yw cydraddoldeb na hawliau dynol, gyda rhai eithriadau, yn bynciau sydd wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd Bil (Ymadael) yr UE Llywodraeth y DU felly’n effeithio’n uniongyrchol ar Gymru o ran cydraddoldeb a hawliau dynol.

Rydym yn meddwl y dylai’r Bil yn benodol ddiystyru defnyddio pwerau datganoledig i newid cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol. Golyga hyn y byddai rhaid defnyddio deddfwriaeth sylfaenol i wneud newidiadau a byddai’n destun i graffu llawn gan y Senedd.

Argymhellwn y dylid gwneud darpariaeth gyfatebol o ran unrhyw newidiadau i gyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol ym meysydd datganoledig a ddygwyd ymlaen gan Lywodraeth Cymru o dan bwerau datganoledig yn y Bil.

Mae’r Comisiwn wedi amlinellu’n barn y dylid cadw Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE (y Siarter). Ar hyn o bryd mae’r Siarter yn darparu amddiffynfeydd pwysig sydd yn perthyn i gyfraith yr UE, megis hawliau nad ydyn nhw’n gwahaniaethu ym myd cyflogaeth.

Er mwyn sicrhau na chaiff cyfreithiau gwrth-wahaniaethu eu gwanhau ar ôl Brexit rydym yn cynghori’r Llywodraeth i gynnwys hawl gyfansoddiadol newydd i gydraddoldeb ym maes statud Prydeinig

Byddai’r hawl hon i gydraddoldeb yn diogelu a hyrwyddo hawliau cydraddoldeb domestig ar adael yr UE a sicrhau bod Prydain yn parhau’n arweinydd byd eang o ran amddiffyn yr hawl i driniaeth gyfartal a theg.

Beth mae hyn yn ei olygu yng Nghymru?

O dan yr hawl gyfansoddiadol i gydraddoldeb, cynigir y byddai rhaid i lywodraethau yn y DU, yr Alban a Chymru ddarparu datganiad i’w seneddau bod deddfwriaeth yn cydymffurfio â’r ‘hawl i gydraddoldeb’ yn ogystal â’r hawl i hawliau dynol. Byddai hyn yn gofyn am welliannau i statudau datganoledig.

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE, gallai Llywodraeth Cymru gymryd cyfleoedd pellach i symud cydraddoldeb a hawliau dynol ymlaen, gan sicrhau rhai amddiffynfeydd. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru adeiladu cytuniadau hawliau dynol y CU i ddeddfwriaeth Cymru a pholisi. Mae wedi gwneud hyn i ryw raddau, yn fwyaf nodedig o ran Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn. Gallai Llywodraeth Cymru ystyried ymgorffori egwyddorion hawliau dynol wrth i swyddogaethau datganoledig gyflenwi gwasanaeth, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol. Rydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amlinellu sut y byddan nhw’n sicrhau na fydd colli arian yr UE yn effeithio ar waith ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

Wrth i ddyddiau cynnar 2018 nesáu, mae gennym gyfle i uno’r rhaniadau a ddatgelwyd yn ystod ac ers y refferendwm i ddod â’r genedl at ei gilydd eto. Bydd y Comisiwn yn parhau i gynghori’n harweinwyr ar y newidiadau yr ydym o’r farn bod eu hangen, ac i fod yn llais cryf, annibynnol a chadarn wrth amddiffyn ein holl hawliau yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

 

Catherine May yw Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.

Mae’r postiad hwn yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

 

Ȏl nodyn

  1. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’n gweithredu’n annibynnol i annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon a diogelu a hybu hawliau dynol. Ein swydd yw helpu gwneud Prydain yn decach. Gwnawn hyn trwy ddiogelu a gorfodi’r cyfreithiau sydd yn diogelu hawliau pobl i degwch, urddas a pharch.
  2. Rydym wedi ymrwymo i’n gweledigaeth o Brydain fodern lle caiff pawb ei drin ag urddas a pharch, a bod cyfle cyfartal gennym oll i lwyddo. Mae’r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n annog cydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998 a chaiff ei achredu gan y Cenhedloedd Unedig fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol ‘statws A’ wrth gydnabod ei annibyniaeth, pwerau a pherfformiad.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *