Datganoli a'r Cyfansoddiad

Dod Ynghyd? Cymru, yr Alban, a llywodraethu ôl-Brexit yn y DU

Dod Ynghyd? Cymru, yr Alban, a llywodraethu ôl-Brexit yn y DU

Amseru yw popeth mewn gwleidyddiaeth. Mae’n bosib bod amser Cymru wedi dod o’r diwedd i wthio’r drafodaeth ynghylch llywodraethu yn y DU wedi Brexit yn ei blaen, pwnc sydd heb gael rhyw lawer o sylw i tu hwnt i Gymru, yn ôl Jo Hunt a Rachel Minto.

Fe wnaeth Etholiad Cyffredinol 2017 ail-lunio tirlun gwleidyddol y DU. Yng nghyd-destun Brexit, mae trefniant newydd y pleidiau wedi gwanhau sefyllfa rhai a chryfhau sefyllfa eraill. Yn achos y gwledydd datganoledig, gall fod goblygiadau pell-gyrhaeddol i hyn. Yn wir, mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol wedi codi’r posibiliad o ymagwedd draws-wladol fwy cydweithredol, o ran trafodaethau Brexit yn ogystal â sut bydd y DU yn gweithredu ar ôl Brexit, fel undod o bedair gwlad.

O ran yr olaf o’r rhain, roedd Cymru, tan yn ddiweddar, yn torri cwys unig. A hithau yr unig wlad ddatganoledig â llywodraeth o blaid datganoli a’r Undeb fel ei gilydd, doedd fawr o gyfle am drafodaeth gyfanian â’i chyd-lywodraethau datganoledig.  Wrth ymorol am annibyniaeth, nid oedd gan yr Alban achos dros gymryd rhan mewn dadl o blaid yr Undeb ynghylch naill ai ‘Brexit ar gyfer y DU gyfan’ neu natur undod ôl-Brexit y DU; ac ni allai Swyddog Gweithredol Gogledd Iwerddon ond bod wedi cymryd rhan anghyflawn yn y fath ddadleuon oherwydd rhaniad y prif bleidiau.

Heddiw, mae’n stori wahanol.

Wedi’r Etholiad Cyffredinol, a’r Blaid Genedlaethol Albanaidd wedi cael ambell glais i’r gogledd o’r ffin, mae’r Llywodraeth Albanaidd bellach wedi gwasgaru ei grymoedd y tu hwnt i annibyniaeth.
Mae wedi ail-gyfeirio ei chwrs, wrth gwrs, gan amcanu, yn yr achos cyntaf, i ‘atgyfnerthu ei hymdrechion a rhoi ei hysgwydd dan y baich wrth geisio dylanwadu ar drafodaethau Brexit mewn ffordd sy’n gwarchod buddiannau yr Alban’.  Canlyniad hyn yw bod Llywodraeth yr Alan a Llywodraeth Cymru yn mynd at Brexit o sefyllfaoedd tebyg, gan ddwysáu’r tebygolrwydd y bydd partneriaeth ddyfnach yn ffurfio rhyngddynt ar faterion o fewn y DU a materion rhwng y DU a’r UE.

Yn erbyn y gefnlen adnewyddedig hon, wythnos wedi’r Etholiad Cyffredinol, lansiodd Llywodraeth Cymru ei phapur polisi ar Brexit a datganoli.  Roedd y papur hwn yn ymwneud â llywodraethu’r DU wedi Brexit, yn seiliedig ar yr honiad bod peirianwaith presennol y DU i gefnogi cydweithrediad y pedair llywodraeth yn methu â gwrthsefyll set newydd o ofynion wedi Brexit.

Mae un o’r materion allweddol yn ymwneud â fframweithiau.  Fel y mae, ceir rhai meysydd polisi lle mae pwerau wedi eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond sydd hefyd yn ddarostyngedig i reoliadau helaeth yr UE a gofynion ei marchnad fewnol. Golyga hyn fod deddfu datganoledig domestig – ar faterion amaethyddol neu amgylcheddol, er enghraifft – yn digwydd o fewn fframwaith Ewropeaidd.  Mae’r fframwaith hwn yn gweithredu dros lunio a chyfyngu penderfyniadau, a lleihau’r tebygolrwydd bod polisi yn gwyro ar draws y pedair gwlad. Mae hyn wedi gwarchod ‘marchnad fewnol’ y DU ei hun.

Mae’r cynigion yn y Bil Ymadael dadleuol yn dadosod cymhwysedd datganoledig – gan gyfnewid cyfyngiadau’r EU am rai ar lefel y DU. Yn hytrach na chael pwerau deddfwriaethol di-gyfyngiad yn y meysydd sydd wedi eu datganoli iddynt yn ffurfiol dan y setliadau datganoli, bydd y cynulliadau a’r seneddau datganoledig yn gallu gweithredu yn ôl cyfraith gyfredol yn deillio o’r UE yn unig Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld creu fframweithiau cyffredin ar gyfer y DU gyfan, yn dilyn trafodaethau gyda’r gweinyddiaethau datganoledig.

Yn ei phapur polisi, roedd Llywodraeth Cymru yn mynnu bod rhaid cael cytundeb y pedair llywodraeth i unrhyw fframweithiau newydd ar lefel y DU (yn benodol ym meysydd amaethyddiaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd), nid eu gorfodi yn unochrog gan y DU. Yn bwysicach na hynny, mae’n ceisio dechrau trafodaeth ynghylch sut y gellid rhoi hyn ar waith oddi yma.

Ar hyn o bryd, mae cyd-weithio traws-wladol yn digwydd ar Gyd-Bwyllgorau Gweinidogol, sy’n dod â gweinidogion o’r pedair gwlad ynghyd mewn gwahanol ffurfiau.  Caiff ei diystyru’n fynych a’i hystyried yn ffurf wan ar gydweithredu rhynglywodraethol, gyda llywodraeth y DU yn dal yn dynn yn yr awenau a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ceisio dylanwadu, gyda gwahanol raddau o lwyddiant.

Yn eu papur, mae Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai’r Cyngor Gweinidogion ddisodli’r Cyd-Bwyllgorau Gweinidogol.  Byddai’n cael ei fodelu ar sefydliadau rhyng-lywodraethol yr Undeb Ewropeaidd.  Byddai Cyngor y Gweinidogion ar lefel y DU yn gorff penderfynu, yn wahanol i Gyd-Bwyllgorau Gweinidogol mwy ymgynghorol.  Byddai ganddo ysgrifenyddiaeth sefydlog annibynnol a mecanwaith dyfarnu annibynnol.  Byddai’r cyngor yn cyfarfod mewn ffurfiadau gweinidogol amrywiol, gyda phwyslais ar wneud penderfyniadau drwy gonsensws; ac mewn achosion lle na cheir consensws, byddai penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail ‘y DU + un’.   Mae’r papur yn mynd yn ei flaen i fynnu mai dyma’r un ysbryd a ddylai lywio cytundebau masnach rhyngwladol, fel bod buddiannau economaidd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynrychioli a’u gwarchod yn ddigonol fel rhan o’r cytundebau hyn. Mae hyn i ochel rhag dull unochrog o du San Steffan, a ffefrir yn ôl y sôn gan Liam Fox.

Mae papur polisi Llywodraeth Cymru yn cynnig ergyd agoriadol werthfawr yn y trafodaethau ynghylch ‘beth’ a ‘sut’ fframweithiau cyffredin ôl-Brexit a cwestiynau llywodraethol ehangach.  A’r tro hwn, efallai bydd pleidiau eraill yn barod i chwarae’r gêm.

Yn wir, mae’r tirlun ôl-etholiadol newydd wedi bod yn safle ar gyfer rhagor o gyd-weithio traws-wladol. Mae enghreifftiau o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn dod ynghyd i gytuno ar safleoedd cydlynol a chyflwyno achos cyffredin yn cynnwys cyfarfodydd dros yr haf rhwng Gweinidogion yr Amgylchedd, Gweinidogion Brexit a Phrif Weinidogion; llythyr ar y cyd gan y Prif Weinidogion at Brif Weinidog y DU ynghylch cydweithredu rhynglywodraethol; a datganiad ar y cyd ar Fil Ymadael yr UE. Ni ellir rhagweld a fydd Llywodraeth y DU a San Steffan yn dewis mabwysiadu’r gweithgaredd hwn – ffaith sy’n tynnu sylw ar yr hyn byddai llawer yn ei weld fel gwendid allweddol yn system lywodraethu’r DU, sy’n sicr o fod yn barod i’w newid.

Gan Dr Jo Hunt, Uwch-Gymrawd yn The UK in a Changing Europe, a Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Dr Rachel Minto, Cydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf ar The UK in a Changing Europe.

Mae’r erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur ac nid barn blog Brexit Cymru, nac ychwaith Brifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *