Cymunedau a Diwylliant, Datganoli a'r Cyfansoddiad

Polisi gwastraff y Deyrnas Unedig a Chymru ar ôl Brexit

Er ei bod yn bosibl y bydd polisi’r Deyrnas Unedig (DU) yn parhau i dracio’r cynnydd a wnaed gan bolisïau ar lefel yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar gyfer economi gylchol, gallai cyfuniad o wrthdynnu gan lywodraeth San Steffan, capasiti cyfyngedig ac ethos dadreoleiddio arwain at berfformiad yn gwastatáu, lle nad yw ailgylchu yn llwyddo i gynyddu ac mae llosgi yn gorfod cymryd y slac. Bydd p’un a all llywodraethau datganoledig fel Cymru, gyda’i huchelgeisiau ‘dim gwastraff’, yrru cynnydd ar draws y DU yn dibynnu fwyfwy ar ryngweithio â San Steffan. Mae’r Athro Richard Cowell yn archwilio tynged bosibl polisi gwastraff yn y DU wrth i ni ymadael â’r UE.

Mae rhagweld beth allai ddigwydd i bolisi amgylcheddol y DU wrth i ni ymadael â’r UE fel jig-so Rumsfeldian o bethau anhysbys sy’n hysbys a ffactorau anhysbys sy’n anhysbys, ac mae’r Etholiad Cyffredinol diweddar wedi llwyddo i ychwanegu at yr ansicrwydd hwn. Serch hynny, mae natur hirdymor y dasg o hyrwyddo cynaliadwyedd yn ei gwneud yn hanfodol i feddwl am lwybrau posibl ar gyfer polisi amgylcheddol y dyfodol.

Un o’r ofnau mawr ymhlith sefydliadau amgylcheddol yw y gall Brexit arwain at wanhau polisi amgylcheddol y DU er mwyn hwyluso twf a natur gystadleuol. Ond yw hyn yn debygol a thrwy pa gyfuniad o ffactorau allai hyn ddigwydd?

Gellir mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn drwy archwilio polisi gwastraff.

Mae rheoli gwastraff yn y DU, sy’n sector pwysig yn ei rinwedd ei hun, yn ymgorffori trawsnewidiad y DU o fod yn ‘ddyn brwnt Ewrop’ i fod yn rhywbeth mwy gwyrdd a pharchus. Mae deddfwriaeth yr UE wedi bod yn ffactor allweddol, gan helpu yrru gwastraff oddi wrth safleoedd tirlenwi tuag at gynnydd mewn ailgylchu a mesurau llymach i ddiogelu’r amgylchedd.

Rydym ni wedi bod yn ystyried pa lwybrau polisi a allai ddod i’r amlwg ar gyfer gwastraff ôl-Brexit, ond hefyd, pa ffactorau a allai gynhyrchu neu atgyfnerthu’r llwybrau hyn a beth allai weithio yn eu herbyn.

Nifer o ddimensiynau newid, nifer o actorion

I ddeall sut y gallai Brexit effeithio ar bolisi gwastraff, i ddechrau mae’n ddefnyddiol adnabod bod gan newid nifer o ddimensiynau croestoriadol.

Gan ddechrau gyda deddfwriaeth, mae gwastraff yn ddarostyngedig i oddeutu 600 darn o ddeddfwriaeth yr UE. Mae rhai yn berthnasol i bennu targedau ar gyfer opsiynau gwaredu, megis ar gyfer tirlenwi neu ailgylchu. Mae rhai yn darparu rheolau ar gyfer trin mathau penodol o wastraff, ac mae rhai yn berthnasol i ddeunydd pecynnu a chynhyrchion. Er bod Bil Diddymu’r llywodraeth yn addo y bydd holl gyfraith yr UE yn cael ei throsi i gyfraith y DU ar ddiwedd y trafodaethau Brexit, wedi hynny mae’n bosibl y gall y gwahanol feysydd deddfwriaethol fod yn destun gwahanol bwysau o ran newid neu barhad. Efallai y bydd rhai agweddau ar wastraff yn dal i gael eu rheoli gan reolau ar gyfer masnach ryngwladol, ac eraill na fyddant.

Yna ceir dimensiwn tiriogaethol y newid: pwy sy’n penderfynu ar y nodau polisi, ac ar gyfer pa ardal diriogaethol? Mae’r ongl ddatganoli yn hanfodol fan hyn: mae llawer o bolisi gwastraff a’r amgylchedd wedi’i ddatganoli ac, wrth i gyfyngiadau’r UE lacio, bydd cwestiynau newydd yn codi o ran p’un a ddylid cydgysylltu polisi ar draws y DU yn ogystal â gydag Ewrop a’r byd ehangach, a sut dylid gwneud hyn.

Fodd bynnag, yr hyn sy’n cael ei golli yn y cweryla cyfreithiol a chyfansoddiadol yw’r cwestiynau sylweddol: beth ddylai lywio nodau’r polisi gwastraff? A ddylai adlewyrchu delfrydau seiliedig ar gynaliadwyedd ‘dim gwastraff’? A ddylai adlewyrchu cydbwysedd cost-effeithiol rhwng ystyriaethau amgylcheddol ac economaidd, neu a yw ceisio ffyrdd cynaliadwy o ddelio â gwastraff yn ‘faich’ ar natur gystadleuol y dylid ei leihau?

Wrth feddwl am wleidyddiaeth beth sy’n digwydd nesaf, mae hefyd angen inni ddeall pwy yw’r prif actorion. Mae’r rhai sy’n ymwneud â gwastraff yn cynnwys y llywodraeth ar bob lefel, y cyhoedd a busnesau, er bod yr olaf yn perthyn i ddwy garfan.

Mae’r sector rheoli gwastraff ac adnoddau, sy’n ennill refeniw o ymdrin â gwastraff (tirlenwi, deunyddiau wedi’u hailgylchu, llosgi ac adennill ynni) ac mae eu cyfleoedd economaidd wedi’u diffinio gan fesurau rheoli gwastraff.

Ond hefyd, mae set o fusnesau mwy o faint a mwy gwasgaredig – gweithgynhyrchwyr, manwerthwyr – y gellir eu hannog i gymryd cyfrifoldeb dros y problemau gwastraff a achosir gan eu cynhyrchion ac i’w cadw allan o’r ffrydiau gwastraff, neu a allai ystyried camau o’r fath yn feichus. Bydd y rhyngweithio rhwng yr actorion hyn a’r llywodraeth yn hollbwysig wrth ddiffinio model rheoli gwastraff newydd ar ôl Brexit.

Senarios ar gyfer y dyfodol?

Yn ein hadroddiad rydym ni’n grwpio llwybrau polisi posibl y dyfodol yn dair set:

  • tracio’r UE;
  • gwastatáu, darnio ac atchweliad; ac
  • egin gwyrdd arywiol.

Tracio’r UE

Yma, cymerir bod polisi gwastraff y DU yn parhau i dracio polisi’r UE, sy’n golygu yn bennaf ‘Pecyn Economi Gylchol’ Ewrop o ddeddfwriaeth newydd, gyda’i thargedau ar gyfer lleihau gwastraff mewn safleoedd tirlenwi a chynyddu ailgylchu i 70% erbyn 2030. Gal y ddeddfwriaeth hon gael ei throsi’n gyfraith y DU tra bo trafodaethau Brexit yn mynd rhagddynt, neu fe ellir gweld alinio fel rhywbeth dymunol i alluogi cynhyrchion gwastraff a chynhyrchion sy’n deillio o wastraff i barhau i gael eu masnachu i’r UE (mae’r DU yn allforio llawer o danwydd sy’n deillio o sbwriel).

Yn gweithio yn erbyn y senario hwn mae’r ffaith y bydd y DU, unwaith y mae hi allan o’r UE, yn colli’r sgôp i ddylanwadu ar sut mae polisi’r UE yn datblygu. At hynny, yn y DU mae lleisiau yn y diwydiant, y llywodraeth a’r melinau trafod sy’n ystyried bod y Pecyn Economi Gylchol yn gostus, bod ei dargedau ailgylchu yn anghyraeddadwy ac, yn ehangach, bod polisi yr UE wedi gor-bwysleisio agendâu amgylcheddol dros natur gystadleuol economaidd.

Gwastatáu, darnio ac atchweliad

Yn y senario hwn, caiff polisi gwastraff ar ôl Brexit ei lywio gan ethos llywodraethol dadreoleiddio ac nid yw perfformiad amgylcheddol yn gwella. Gall hyn fod yn arbennig o amlwg ym maes cyfrifoldeb y cynhyrchydd, gyda llywodraethau yn amharod i fynnu bod cwmnïau yn cymryd cyfrifoldeb dros eu gwastraff, gan adael y canlyniadau i serendipedd hunan fudd busnesau, a phwysau’r cyhoedd a chyrff anllywodraethol.

Gall rheoleiddio wanhau fwy yn ddiofyn na drwy ddyluniad. Mae’r cyfuniad o ddiffyg diddordeb gan lywodraeth mewn gwastraff, gallu ac adnoddau cyfyngedig llywodraeth a cholli mecanweithiau’r UE ar gyfer atebolrwydd gyda’i gilydd arwain at berfformiad yn gwastatau. Mae cyfraddau ailgylchu gwastraff yn Lloegr eisoes yn dechrau aros yn eu hunfan ac mae cynildeb yn effeithio ar ddewisiadau awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, gallai amryw ffactorau weithio yn erbyn dirywiad o’r fath. Mae dymunoldeb masnachu mewn cynhyrchion sy’n deillio o wastraff yn golygu’r angen i fodloni safonau, p’un a yw hynny gyda’r UE neu du hwnt. Er enghraifft, ym marchnadoedd Tsieina, lle maent yn galw am ddeunyddiau ailgylchu o ansawdd gynyddol uwch.

Cred ychydig yn y sector gwastraff y bydd Brexit yn golygu dychwelyd at arferion tirlenwi amhoblogaidd, ond gallai mwy o losgi ac ynni o wastraff ffitio’n dwt mewn Prydain ôl-Brexit sy’n chwilio am atebion cyfleus.

Egin gwyrdd amrywiol

Mae optimistiaid Brexit yn ei gyflwyno fel cyfle i ail-feddwl polisi’r DU a gwneud rhywbeth gwell, ond a fydd y sector gwastraff yn elwa yn amgylcheddol?

Mae hyn yn ansicr. Mae’r rhan fwyaf o’r feirniadaeth am bolisi’r UE wedi bod yn economaidd yn hytrach nag yn amgylcheddol, ar wahân i’r feirniadaeth o ddefnyddio targedau seiliedig ar bwysau. Serch hynny, dylid disgwyl i ymgyrchoedd proffil uchel gan gyrff anllywodraethol yn targedu mathau penodol o wastraff barhau, fel yn achos gwastraff plastig mewn amgylcheddau morol.

Hefyd, ceir cynnydd mewn naratif newydd, yn aml gan leisiau yn y diwydiant gwastraff, y dylai’r DU, ar ôl Brexit, dalu mwy o sylw i ‘ddiogelwch yr adnoddau cenedaethol’, a chymryd camau felly i adeiladu economi gylchol sy’n sicrhau mwy o werth o wastraff sy’n codi o fewn ein ffiniau.

Uchelgeisiau gwastraff Cymru

Gallai camau gweithredu gan y llywodraethau datganoledig gynnig mewnwelediad diddorol o sut y gal dimensiynau deddfwriaethol, tiriogaethol a sylweddol newid ryngweithio. Yng Nghymru er enghraifft, mae ei phwerau datganoledig sylweddol wedi’u defnyddio i sbarduno cyfraddau ailgylchu llawer uwch a chenhadaeth ‘dim gwastraff’, wedi’i fframio gan ddeddfwriaeth a strategaeth Gymreig glir. Er bod hyn yn insiwleiddio polisi gwastraff Cymru ychydig rhag ansicrwydd deddfwriaethol uniongyrchol Brexit, mae rhyngweithio â Lloegr yn dod yn hynod bwysig. Er mwyn i Gymru gyrraedd ei nodau ar gyfer gwastraff, mae angen gweithredu’n gadarn ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr (o ran deunydd pecynnu, safonau cynhyrchion ac ati), ond nid yw’r ddeddfwriaeth yn y meysydd hyn wedi’i datganoli. Gan ei bod yn fach o ran graddfa, gall Cymru ei chael hi’n anodd ennill dadleuon dros bolisi gwastraff uchelgeisiol yn y meysydd hyn, yn enwedig os yw San Steffan yn parhau i gymryd dull dadreoleiddio yn bennaf. Drwy ddeinameg cymhleth o’r fath, gallai Brexit rwystro uchelgais Cymru.

Gwersi o wastraff

Er nad yw’r senarios hyn yn rhagfynegiadau, mae edrych yn agosach ar y sector gwastraff yn tynnu ein sylw at faterion o berthnasedd ehangach i esblygiad polisi amgylcheddol y DU y tu hwnt i Brexit yn y dyfodol.

Efallai y bydd canlyniadau gwahaniaethol yn codi rhwng elfennau o bolisi sydd wedi’u selio mewn tiriogaeth genedlaethol a’r rheiny ar gyfer cynhyrchion a fasnachir, ond bydd hyn yn effeithio ar ddeinameg polisi rhyng-DU o gwmpas y llywodraethau datganoledig yn ogystal â’r rheiny sy’n llywodraethu cysylltiadau rhwng y DU, yr UE a’r byd ehangach.

Beth sy’n amlwg hefyd, wrth wehyddu drwy fanylion dirgel a gwleidyddiaeth tymor-byr y broses Brexit, yw bod cwestiynau mwy sylfaenol y mae angen eu hwynebu. Beth yw gwerth cyhoeddus rheoleiddio? Yw gweithredu gwirfoddol gan fusnesau yn arwain at gynaliadwyedd? Sut mae cydgysylltu camau gweithredu gan wahanol rannau o’r DU?

Gallwn geisio atebion i’r cwestiynau hyn drwy gymryd golwg mwy trylwyr ar ddeall dimensiynau cymhleth newid, yr actorion sy’n cymryd rhan, a’r dadleuon y gallant eu defnyddio i bwyso am newid.

Mae’r Athro Richard Cowell yn ymchwilydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd

Mae’r darn hwn yn deillio o adroddiad ymchwil manylach Assessing the Impact of Brexit on the UK Waste Resource Management Sector.  

Barn yr awdur a gynrychiolir yn y postiad hwn, ac nid barn blog Brexit Cymru, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *