Datganoli a'r Cyfansoddiad

Hawliau dinasyddion ar ôl Brexit: atebion unochrog neu gydgyfnewidiaeth (reciprocity)?

Nawr bod llywodraeth y DU a’r UE wedi amlinellu eu cynigion ar gyfer hawliau dinasyddion ar ôl Brexit, mae’n amlwg bod y ddwy ochr yn ystyried bod y cysyniad o gydgyfnewidiaeth yn fan cychwyn. Ond mae gan yr UE a’r DU ddealltwriaeth hollol wahanol o beth mae cydgyfnewidiaeth yn ei olygu. Tra bo’r UE yn ystyried cydgyfnewidiaeth fel egwyddor foesol a sicrwydd cyfreithiol yn ei gynnig, mae’r DU yn ei ddefnyddio fel techneg i ohirio gwneud ymrwymiadau ac i wneud bygythiadau bod ei chynnig yn ddibynnol ar yr UE yn gwneud yr un peth. Yma, mae’r Athro Stijn Smismans yn dadlau bod cynigion y DU dros hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw ym Mhrydain yn sbarduno ras i’r gwaelod ar draul dinasyddion yr UE yn y DU yn ogystal â’i dinasyddion ei hun yn yr UE, ond bod yr UE yn annhebygol o ddisgyn i’r trap hwnnw.

Nid yw cynigion unochrog yn ddigonol

Mae rhesymau da dros ddadlau nad gwarantu hawliau dinasyddion yn unochrog yw’r ateb mwyaf addas i drafodaethau Brexit.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiweddar y DU, cynigiodd Llafur i warantu hawliau dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU yn unochrog. Ymddengys hyn fel y peth cywir i’w wneud yn foesol gan y byddai’n osgoi rhoi dyfodol y dinasyddion hyn yn y fantol mewn trafodaethau Brexit. Ond ar yr un pryd, byddai’n gwneud dinasyddion y DU sy’n byw mewn mannau eraill o’r UE yn fwy agored i gyfaddawdu rhwng eu hawliau a phwyntiau eraill sy’n cael eu trafod.

Mae atebion unochrog hefyd yn methu ag adnabod dimensiwn traws-ffiniol bywydau’r unigolion dan sylw, yn ddinasyddion yr UE a Phrydain fel ei gilydd. Mae dinasyddiaeth yr UE yn darparu set gynhwysfawr o hawliau, fel cydnabyddiaeth o gymwysterau, cydgysylltu gofal iechyd rhwng aelod-wladwriaethau a rheolau i drosglwyddo hawliau, megis cyfraniadau pensiwn, i wlad arall. Mae rheolau o’r fath yn gofyn am atebion rhyngwladol ac ni ellir eu datrys dim ond drwy weithredu unochrog gan un blaid yn y trafodaethau.

Nid yw hyd yn oed cynnig dinasyddiaeth Brydeinig i holl ddinasyddion yr UE yn y DU, fel yr awgrymodd cyn weinidog cyllid Groeg, Yanis Varoufakis, yn ateb priodol gan na fyddai’n ystyried materion traws-ffiniol o’r fath. Nid yw pob un o wledydd yr UE yn caniatáu dinasyddiaeth ddeuol ac efallai y bydd yn rhaid i rai pobl ildio eu dinasyddiaeth darddiad os ydynt am gymryd dinasyddiaeth Brydeinig.  Fe allai hyn arwain at ganlyniadau dramatig.  Er enghraifft, yn wahanol i ddinasyddiaeth yr UE, mae’n bosibl nad yw cenedligrwydd Prydeinig yn caniatáu iddynt ddod â’u mam oedrannus sydd angen gofal draw o ‘dramor’ ac ar ôl iddynt ildio eu cenedligrwydd genedigol efallai na fyddant mwyach yn gallu dychwelyd i ofalu am eu mam yn eu gwlad enedigol.

Dull yr UE o gydgyfnewidiaeth: egwyddor foesol a sicrwydd cyfreithiol

Felly, mae’r cysyniad o gydgyfnewidiaeth yn ganllaw fwy priodol i ddelio â hawliau’r 3.3 miliwn o ddinasyddion yr EU yn y DU a’r 1.2 miliwn o ddinasyddion Prydeinig yn yr UE ar ôl Brexit.

Ceir dadl foesol gref ar gyfer cydgyfnewidiaeth. Mae dinasyddion Prydeinig yn yr UE a dinasyddion yr UE yn y DU wedi adeiladu eu bywydau mewn gwlad dramor gyda’r disgwyliad dilys y byddai dinasyddiaeth yr UE yn eu diogelu. Ni ofynnwyd iddynt erioed gael fisâu, ni ddywedwyd wrthynt erioed mai dros dro y byddant yn aros, ac roeddent yn cael eu trin fwy neu lai yr un peth â’r gwladolion (ac eithrio hawliau pleidleisio cenedlaethol). Maent yn haeddu cael eu trin yn gyfartal o ran y cyfle i gadw’r bywydau a’r hawliau y maent wedi’u caffael yn gyfreithlon.

Mae’r UE wedi cymryd cydgyfnewidiaeth o ddifrif fel man cychwyn moesol. Mae wedi cynnig bod holl hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a Phrydeinwyr yng ngweddill yr UE yn cael eu diogelu am byth. Er mwyn sicrhau hynny, mae’r UE hefyd yn ystyried cydgyfnewidiaeth fel sicrwydd cyfreithiol. Mae’r UE am ddiogelu hawliau dinasyddion ar ôl Brexit drwy gytundeb rhyngwladol rhwng y DU a’r UE sy’n amlinellu’n fanwl hawliau dinasyddion am byth, i gael eu hamddiffyn gan reolaeth farnwrol Llys Cyfiawnder yr UE.

O dan gytundeb rhyngwladol o’r fath, a all fod yn rhan o gytundeb Erthygl 50, sef cytundeb tynnu’r DU yn ôl o’r UE, neu gytundeb dinasyddion ar wahân, mae pob set o ddinasyddion yn gweithredu fel mesur diogelu ar gyfer hawliau’r llall. Heb gytundeb rhyngwladol o’r fath, mae’r dinasyddion hyn yn colli ei gilydd fel mesurau diogelwch a byddant ar fympwy llywodraethau cenedlaethol, a fydd yn ddi-os yn tanseilio’r hawliau y maent wedi adeiladu eu bywydau arnynt yn gyfreithlon.

Gallai’r UE fod yn barod i gyfaddawdu drwy dderbyn llys rhyngwladol ar wahân i’r Llys Cyfiawnder i reoli’r cytundeb hwn, ond mae diogelu cydgyfnewidiaeth yn gyfreithiol ar lefel ryngwladol yn amod caeth ar gyfer yr UE yn ei safbwynt negodi Brexit. Fel y dywedodd Antonio Tajani, Llywydd Senedd Ewrop, ar daith ddiweddar i’r DU: “I ni, y cytundeb yw [cael yr un hawliau] a heddiw [a] ddoe, yfory… I ni, mae’n flaenoriaeth ac yn llinell goch.”

Ymagwedd y DU tuag at gydgyfnewidiaeth: esgus a bygythiad wrth negodi

Yn wahanol i’r UE, mae dull gweithredu llywodraeth y DU yn methu â chydnabod cydgyfnewidiaeth fel egwyddor foesol a chyfreithiol. I ddechrau, defnyddiwyd rhethreg y llywodraeth ar gydgyfnewidiaeth fel esgus i beidio â gwneud unrhyw ymrwymiadau unochrog i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE yn y DU.   Nawr bod y trafodaethau a’r UE wedi cychwyn, mae’r DU yn defnyddio cydgyfnewidiaeth fel bygythiad yn y trafodaethau; yn bennaf ‘Ni all dinasyddion yr UE yn y DU gael mwy o hawliau na dinasyddion Prydain yn yr UE’.   Fodd bynnag, mae’r dull hwn yn wrthgynhyrchiol fel ateb cyfreithiol ac fel strategaeth negodi i ddiogelu’r hawliau hyn.

Mewn gwirionedd, er gwaethaf rhethreg rad y llywodraeth ar gydgyfnewidiaeth, mae ei chynnig ar hawliau dinasyddion yn bennaf seiliedig ar unochroldeb yn hytrach na dwyochredd. Mae’n anwybyddu natur y bywydau traws-ffiniol mae’r 4.5 miliwn o bobl hyn wedi’i adeiladu dros y blynyddoedd, a’r cymhlethdodau cyfreithiol sydd ynghlwm a hyn.   Mae’r DU yn bwriadu gweithredu yn unochrog ar statws preswylio dinasyddion yr UE drwy eu gwneud yn fewnfudwyr o dan gyfraith mewnfudo cyffredinol y DU.   Byddai dinasyddion yr UE yn colli hawliau a oedd yn benodol iddyn nhw, megis yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol a hawliau penodol ar aduniadau teuluol.  At hynny, bydd eu tynged yn y dyfodol yn dibynnu ar agweddau newidiol llywodraethau’r dyfodol tuag at bolisi mewnfudo.   Felly, mae’r DU yn methu â chydnabod yr egwyddor foesol bod dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion Prydeinig yn yr UE wedi adeiladu eu bywydau yn y disgwyliad dilys bod hawliau dinasyddiaeth yr UE yn eu diogelu.  Yn yr un modd, mae’n methu â deall yr angen am gytundeb rhyngwladol fel yr unig ffordd gyfreithiol o warantu’r hawliau hynny ar gyfer y dyfodol.

Fel strategaeth negodi, mae bygythiad y DU yn gwbl ddiwerth, ac os rhywbeth, fe allai arwain at ras i’r gwaelod ar hawliau dinasyddion. Mae cynnig yr UE ar hawliau dinasyddion yn cynnig y mesurau diogelu mwyaf ac felly yn llawer mwy hael na chynnig y DU.  Os bydd y DU yn gofyn am gydgyfnewidiaeth, byddai hynny ond yn awgrymu gofyn am yr un hawliau gostyngol ar gyfer dinasyddion Prydeinig yn yr UE ag y mae’n eu cynnig i ddinasyddion yr UE yn y DU.

Os byddai’r UE wir yn ‘cydgyfnewid’ ar gynnig y DU, byddai’n gadael i’r 27 o Aelod-wladwriaethau unigol ymdrin â’r gofynion preswylio ar gyfer Prydeinwyr sy’n byw yn eu gwlad, gan adael Prydeinwyr yn yr UE ar drugaredd 27 o gyfreithiau gwahanol a newidiol ar fewnfudo na fyddai gan y DU unrhyw ddylanwad arno.

Felly, yn hytrach na derbyn cydgyfnewidiaeth fel egwyddor foesol a sicrwydd cyfreithiol, mae’r DU yn ei droi’n ras i’r gwaelod ar draul dinasyddion yr UE yn y DU a’i dinasyddion ei hun yn yr UE. Fodd bynnag, yn hytrach na mynd i mewn i’r ras hwnnw ar y gwaelod, mae’r UE yn debygol o sefyll yn gadarn ar ei fesurau diogelu mwyaf o hawliau dinasyddion, a heb y rhain byddai unrhyw negodi pellach ar Brexit yn disgyn yn ddarnau.

Mae Stijn Smismans yn Athro Cyfraith Ewropeaidd, a Chyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Cyfraith a Llywodraethiant Ewropeaidd

Barn yr awdur a gynrychiolir yn y postiad hwn, ac nid barn blog Brexit Cymru, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *