Cymunedau a Diwylliant, Economi a Masnach

Polisi Rhanbarthol i Gymru ar ôl Brexit – o’r brig i lawr neu o’r gwaelod i fyny?

Yma mae’r Athro Andrew Henley yn cyfrannu at y drafodaeth ynghylch polisi rhanbarthol. Mae’n dadlau er bod Brexit yn cynnig cyfle i symud i ffwrdd oddi wrth raglenni cymorth rhanbarthol traddodiadol sy’n amodol ar amser, bydd rhaid i fodel newydd barhau i gynnal a datblygu’r egwyddorion sybsidiaredd a weithredir gan yr UE os yw’r olynydd i weithio er budd y rheiny sydd â’r angen mwyaf – hynny yw y dylai materion cymdeithasol ac economaidd gael sylw ar y lefel isaf bosibl sy’n gyson â’u datrys. 

Yn ddiweddar cefais gyfle, fel ymwthiwr academaidd, i ymuno â thrafodaeth grŵp ar effaith diweithdra a chaledi ar fywydau pobl yn y Rhondda.

Roedden ni’n cwrdd yn y man lle mae’r Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach yn dod ynghyd, un o’r ardaloedd awdurdod lleol tlotaf yng Nghymru, os nad y Deyrnas Unedig gyfan, er nad yw ond 30 munud o Gaerdydd mewn car.

Roedd yn gyfarfod rhwng actifyddion datblygu cymunedol lleol, rheolwyr tai cymdeithasol, entrepreneuriaid cymdeithasol ac arweinwyr ffydd oedd yn gweithio i hyrwyddo datblygiad economaidd a busnes yn yr ardal. Cafwyd trafodaeth oedd ar yr un pryd yn ddigalon ac yn ddig, ond hefyd yn llawn gobaith ynghylch yr holl botensial heb ei gyflawni oedd gan bobl leol.

Un o bosau refferendwm mis Mehefin 2016 oedd bod ardaloedd yn y Cymoedd fel y Rhondda, sydd wedi elwa o dair rhaglen Cronfeydd Strwythurol Ewrop ers 2000, wedi pleidleisio, a hynny’n eitha pendant, dros adael yr UE (61.2% o blaid ymadael yn achos etholaeth y Rhondda).

Fodd bynnag, mae’n amlwg i unrhyw un sy’n treulio amser yn gwrando ar y rhai sy’n agos at fywydau pobl yn yr ardal, bod cryn rwystredigaeth, a hynny wedi’i wreiddio’n ddwfn, ynghylch eu canfyddiad o ddiffyg rheolaeth ar y sefydliadau a’r polisïau sy’n effeithio ar fywydau pob dydd. Mae hefyd yn cysylltu ag ymdeimlad cryf o anghyfiawnder ynghylch dosbarthiad adnoddau a chyfleoedd economaidd rhwng ardaloedd ffyniannus Cymru a’r Deyrnas Unedig ehangach a’r ardaloedd lleol lle maent yn byw a lle maent am aros, mewn llawer achos.

Unigoliaeth y Cymoedd

Mae cymoedd de Cymru yn eithaf gwahanol i ardaloedd eraill sydd o dan anfantais economaidd ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn gyntaf, ganed cyfran uchel iawn, o gymharu, o’r boblogaeth yn ne Cymru.  Yn wir, ar draws bron pob un o ardaloedd cymoedd de Cymru, ganed llai na 15% o’r boblogaeth y tu allan i Gymru (Cyfrifiad 2011), tra bod y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn 27%.

Yn ail, mae gan gymoedd de Cymru gyfraddau uchel o dai perchen-feddiannaeth. Yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd cyfradd perchen-feddiannaeth (yn llwyr neu gyda morgais) dros 71%, tra’i fod ychydig o dan 60% yng Nghaerdydd.  Ar draws ardaloedd tebyg yng ngogledd Lloegr mae’r ffigur tua 65%, ac yn ardaloedd difreintiedig canol Llundain mae’n nodweddiadol gryn dipyn o dan 50%. Mae’r boblogaeth yn y Cymoedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn, a hynny o ran ymdeimlad o berthyn, ond hefyd oherwydd y lefelau isel o symudedd a ddaw yn sgîl cyfraddau uchel o berchnogaeth ar gartrefi gwerth isel.

Nodwedd arall o economi cymoedd y de yw cyrhaeddiad isel o ran sgiliau, neu â bod yn fanwl gywir, lefelau isel o gymwysterau academaidd ffurfiol – nad yw o reidrwydd yn golygu’r un peth.

Er enghraifft, yn 2016 roedd cyfran yr oedolion â chymwysterau lefel 4 neu uwch y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf addysg uwch) yn awdurdodau lleol y Cymoedd yn amrywio rhwng 26% (Merthyr Tudful) a 35% (Rhondda Cynon Taf) tra bod y gyfran honno yng Nghaerdydd ac ym Mro Morgannwg bron yn 50%.

Mae data o Brosiect Seren yn dangos, ar draws pum awdurdod y Cymoedd, sef Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili a Thor-faen, bod cyfanswm cyfunol o 868 o ddisgyblion wedi sicrhau tair gradd A mewn safon uwch, sy’n ddigon i warantu lle mewn prifysgol Grŵp Russell flaenllaw.  Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y cyfanswm cyfunol oedd 1,874. Hyd yn oed o ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau yn y boblogaeth o bobl ifanc 18 oed, mae hyn yn datgelu bod pobl ifanc yng Nghaerdydd a’r Fro bron tair gwaith mor debygol o gael graddau safon uwch sydd ar y brig.

Mewn blog cynharach,fe wnes i sylwadau hefyd ar ddata hunan-gyflogaeth ledled Cymru, gan nodi bod cyfraddau hunangyflogaeth yn llawer is yn ardaloedd y cymoedd nag mewn rhannau mwy llewyrchus o Gymru a’r Deyrnas Unedig. O gymryd hyn fel dangosydd bras o lefelau canfyddedig cyfleoedd entrepreneuraidd, mae hyn yn codi mater pellach ynghylch i ba raddau mae eu poblogaethau lleol yn methu â gweld ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru fel  tir ffrwythlon ar gyfer busnes newydd.

Mae hyn yn bwydo ymhellach i broblem dyheadau isel a chyflawniad isel.  Ac eto bydd y rhai “ar lawr gwlad” yn y Cymoedd yn cyfeirio at lefelau sylweddol o ddyfeisgarwch a sgiliau ymarferol y boblogaeth – meddylfryd hunangymorth sydd, mewn amgylchiadau economaidd mwy ffodus, â’r  potensial i gefnogi gweithgarwch ar ffurf menter gynhenid a chreadigol.

Polisi rhanbarthol a theori sefydliadol

Felly pa fath o bolisi rhanbarthol sydd ei angen arnom ni yng Nghymru i fynd i’r afael â’r lefelau ystyfnig hyn o anfantais, ar ôl i ni adael yr UE ac i’r cyfleoedd am ragor o Gyllid Strwythurol Ewrop ddiflannu?

Mae’r Athro Kevin Morgan eisoes wedi ysgrifennu am hyn, gan wneud sylwadau pwysig ar yr hyn sydd wedi gweithio yn y gorffennol, pwysigrwydd yr economi “sylfaenol”, a rôl y bartneriaeth rhwng cyrff cyhoeddus cenedlaethol a lleol a’r sector preifat.

Byddwn innau’n ategu pob un o’r pwyntiau hyn. Ond byddwn i’n hoffi rhoi ein syniadu ynghylch polisi rhanbarthol yng nghyd-destun theori sefydliadol.

Tuedd economegwyr yw gweld rôl sefydliadau mewn modd cyfyngedig iawn – rheoleiddio a llesteirio gweithgaredd annymunol, megis ymddygiad gwrth-gystadleuol, a chyflawni trosglwyddiadau ariannol sy’n ysgogi gweithgarwch economaidd preifat mewn mannau lle mae eisiau mwy.

Fodd bynnag, mae sefydliadau, o’u diffinio’n fras, yn gwneud llawer mwy na hynny.  Mae’r cymdeithasegydd Dick Scott yn nodi tair swyddogaeth, neu “biler” i sefydliadau: rheoliadol, normadol a gwybyddol.  Mae’r ddwy olaf yn canolbwyntio ar y trefniadau anffurfiol mewn cymdeithasau sy’n darparu’r “glud” er mwyn i bobl gytuno ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw ac atgyfnerthu’r gwerthoedd hynny trwy ragdybiaethau “cymryd yn ganiataol” ynghylch beth sy’n gweithio, sut mae ymddwyn, a sut mae meithrin a chyd-drafod perthnasoedd ag eraill.  Ni all unrhyw economi weithio’n dda heb y pethau hyn.

Os na fydd polisi rhanbarthol ond yn symud arian o gwmpas, ac yn methu cydnabod a chefnogi datblygiad sefydliadol ehangach, mae’n sicr o fethu.

Sut bydd polisi rhanbarthol yn gweithio

Felly, beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? Mae angen inni roi sylw gofalus i “sut” lawn cymaint â “pha” bolisi rhanbarthol.

Mae sut caiff polisi ei ddylunio, ei gytuno a’i weithredu yn bwysig, oherwydd mae angen iddo gydweddu â gwerthoedd lleol, cynnwys actorion a rhwydweithiau cymdeithasol ac economaidd lleol, a chael ei greu mewn modd sy’n cefnogi meithrin ymddiriedaeth yn hytrach na’i danseilio.

I gymryd enghraifft ddiriaethol, os yw pobl lleol yn gosod gwerth ar ynni cartref sy’n cael ei gyflenwi’n gynaliadwy, gellid ei gynhyrchu mewn modd sy’n defnyddio pobl leol er mwyn lleihau tlodi tanwydd lleol, yn hytrach na dim ond bwydo trydan gwyrdd i’r grid ar dariff cenedlaethol.

Os caiff y seilwaith ei wella, bydd angen gofyn cwestiynau ynghylch sut bydd pobl yn ceisio defnyddio’r adnoddau hynny.  Ni fydd buddsoddiadau cenedlaethol i wella band eang, ochr yn ochr â rhaglenni hyfforddi pobl i gael mynediad i wasanaethau’r llywodraeth yn electronig, ond yn ychwanegu at yr ymdeimlad o “golli rheolaeth”, os bydd polisïau caledi ar lefel leol yn arwain at lyfrgelloedd yn cau, gan amddifadu pobl o fynediad at gyfarpar TG a chymorth i’w ddefnyddio.

Mae hyn oll yn awgrymu ystyriaeth ofalus i strwythurau llywodraethu yng nghyswllt polisi rhanbarthol, pwynt y mae gwyddonwyr rhanbarthol yn dod i’w ddeall fwyfwy. Gall haenau cymhleth o fiwrocratiaeth gymryd gafael, lle gwneir rhai penderfyniadau (er enghraifft ynghylch hawl i les cymdeithasol) ar lefel y Deyrnas Unedig, gwneir eraill (er enghraifft polisi addysg) ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ac eraill wedyn (er enghraifft polisïau prisio cludiant cyhoeddus) ar lefel awdurdod lleol.

Mae egwyddor sybsidiaredd yn sylfaen ar gyfer llawer o waith yr Undeb Ewropeaidd – hynny yw y dylid ymdrin â materion cymdeithasol ac economaidd ar y lefel isaf bosibl sy’n gyson â’u datrys.  Mae’r egwyddor hon yn rhywbeth y dylai’r Deyrnas Unedig ei chadw a’i datblygu ymhellach ar ôl Brexit.

Er mwyn gwneud hyn, mae rhaid inni symud i ffwrdd oddi wrth raglenni cymorth rhanbarthol sy’n amodol ar amser, sy’n creu ymdeimlad o ddibyniaeth ar gyllido ar gyfer asiantaethau lleol.

Gall rhwydweithiau cymdeithasol a’r ymddiriedaeth a’r gwerthoedd sy’n eu hatgyfnerthu gymryd amser hir i’w sefydlu, ac ar ôl eu sefydlu, gallant fod wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae hyn yn gryfder ac yn wendid, ond mae yn awgrymu bod rhaid i bolisi rhanbarthol gael ei lunio ar gyfer yr hirdymor yn ogystal.

Byddai’n gamgymeriad aruthrol i Gymru fethu â sefydlu ymagwedd newydd at bolisi rhanbarthol sy’n dysgu gwersi o’r paradocs mai’r rhai y bwriadwyd i bolisi sicrhau’r budd mwyaf iddynt, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, oedd y rhai oedd â chanfyddiad eu bod wedi elwa leiaf ohono.

Mae Andrew Henley yn Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltiad ac Effaith Ymchwil yn Ysgol Fusnes Caerdydd.

Barn yr awdur a gynrychiolir yn y postiad hwn, ac nid barn blog Brexit Cymru, na Phrifysgol Caerdydd.

Sylwadau

No comments.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *